Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diddymu Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) 1994 (“Gorchymyn 1994”) a Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Diwygio) 1996, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Sefydlwyd y gyfundrefn reoli ar gyfer y polisi pysgodfeydd cyffredinol gan Reoliad y Cyngor (CEE) Rhif 2847/93 (“Y Rheoliad Rheoli”). Ceir manylion o dan y cyfeirnod (O.J. Rhif L261, 20.10.93, t.1).

Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad y Cyngor (CE) 2846/98. (Gweler O.J. Rhif L192, 8.7.98, t.4).

Er mwyn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Cyngor, mae'r Gorchymyn hwn yn bennaf yn ail-ddeddfu darpariaethau Rheoliad 1994 gan gyflwyno rhai darpariaethau newydd yn ogystal.

Mae'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau mewn cysylltiad â thoriadau o'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 (ac a ddisgrifir yn gryno yng ngholofn 3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ac yn Erthygl 3 ohono.

Mae'r diwygiadau i'r Rheoliad Rheoli sydd wedi'u gwneud gan Reoliad y Cyngor (CE) rhif 2846/98 yn cynnwys yn arbennig —

1.  y gofyn i gadw coflyfr yn gysylltiedig â llwythi o bysgod dros 50kg;

2.  y gofyn i gychod sydd am ddadlwytho dalfeydd i Aelod-Wladwriaeth gwahanol i Aelod-Wladwriaeth eu baner gydymffurfio â gofynion cynllun porthladdoedd dynodedig (os oes un) neu roi 4 awr o rybudd i awdurdodau cymwys yr Aelod-Wladwriaeth dadlwytho o'u bwriad i ddadlwytho;

3.  rheolau newydd ynglŷn â chyflwyno nodiadau gwerthu, datganiadau trafnidiaeth a datganiadau cymryd trosodd; a

4.  estyn nifer o ofynion i gychod pysgota trydydd gwledydd.

  • Gwelir cosbau am dorri darpariaethau'r Gymuned yn Erthyglau 4 o'r Gorchymyn a'r Atodlen iddo.

  • At ddibenion gorfodi mesurau rheoli'r Gymuned a benodwyd yn yr Atodlen, mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi i swyddogion pysgodfeydd morol Prydain, yn gweithredu tu mewn i Gymru (sy'n cynnwys y moroedd tiriogaethol sy'n gyfochrog â Chymru), y pwerau canlynol:—

    • i fynd ar dir neu i mewn i adeiladau;

    • i fynd ar gychod pysgota;

    • i stopio ac archwilio cerbydau sy'n cario pysgod;

    • i archwilio pysgod;

    • i orfodi cyflwyno dogfennau;

    • i fynd â chwch i'r porthladd cyfleus agosaf; ac•

    • i atafaelu pysgod a chyfarpar pysgota.

  • (Erthyglau 6, 7 ac 8 o'r Gorchymyn).

  • Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer erlyn tramgwyddwyr a chosbi unrhyw un a geir yn euog o roi gwybodaeth anghywir neu o rwystro swyddog pysgodfeydd morol Prydeinig (Erthyglau 3 a 10 o'r Gorchymyn). Ar hyn o bryd, yr uchafswm statudol a bennir yn yr Atodlen yw £5,000.

  • Mae'r Gorchymyn yn darparu pwerau i gasglu dirwyon a roddir gan lysoedd ynadon (Erthygl 5 o'r Gorchymyn).

  • Mae Erthyglau 9, 11 a 12 yn cynnwys darpariaethau atodol.