- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diddymu Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) 1994 (“Gorchymyn 1994”) a Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Diwygio) 1996, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Sefydlwyd y gyfundrefn reoli ar gyfer y polisi pysgodfeydd cyffredinol gan Reoliad y Cyngor (CEE) Rhif 2847/93 (“Y Rheoliad Rheoli”). Ceir manylion o dan y cyfeirnod (O.J. Rhif L261, 20.10.93, t.1).
Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad y Cyngor (CE) 2846/98. (Gweler O.J. Rhif L192, 8.7.98, t.4).
Er mwyn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Cyngor, mae'r Gorchymyn hwn yn bennaf yn ail-ddeddfu darpariaethau Rheoliad 1994 gan gyflwyno rhai darpariaethau newydd yn ogystal.
Mae'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau mewn cysylltiad â thoriadau o'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 (ac a ddisgrifir yn gryno yng ngholofn 3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ac yn Erthygl 3 ohono.
Mae'r diwygiadau i'r Rheoliad Rheoli sydd wedi'u gwneud gan Reoliad y Cyngor (CE) rhif 2846/98 yn cynnwys yn arbennig —
1. y gofyn i gadw coflyfr yn gysylltiedig â llwythi o bysgod dros 50kg;
2. y gofyn i gychod sydd am ddadlwytho dalfeydd i Aelod-Wladwriaeth gwahanol i Aelod-Wladwriaeth eu baner gydymffurfio â gofynion cynllun porthladdoedd dynodedig (os oes un) neu roi 4 awr o rybudd i awdurdodau cymwys yr Aelod-Wladwriaeth dadlwytho o'u bwriad i ddadlwytho;
3. rheolau newydd ynglŷn â chyflwyno nodiadau gwerthu, datganiadau trafnidiaeth a datganiadau cymryd trosodd; a
4. estyn nifer o ofynion i gychod pysgota trydydd gwledydd.
Gwelir cosbau am dorri darpariaethau'r Gymuned yn Erthyglau 4 o'r Gorchymyn a'r Atodlen iddo.
At ddibenion gorfodi mesurau rheoli'r Gymuned a benodwyd yn yr Atodlen, mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi i swyddogion pysgodfeydd morol Prydain, yn gweithredu tu mewn i Gymru (sy'n cynnwys y moroedd tiriogaethol sy'n gyfochrog â Chymru), y pwerau canlynol:—
i fynd ar dir neu i mewn i adeiladau;
i fynd ar gychod pysgota;
i stopio ac archwilio cerbydau sy'n cario pysgod;
i archwilio pysgod;
i orfodi cyflwyno dogfennau;
i fynd â chwch i'r porthladd cyfleus agosaf; ac•
i atafaelu pysgod a chyfarpar pysgota.
(Erthyglau 6, 7 ac 8 o'r Gorchymyn).
Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer erlyn tramgwyddwyr a chosbi unrhyw un a geir yn euog o roi gwybodaeth anghywir neu o rwystro swyddog pysgodfeydd morol Prydeinig (Erthyglau 3 a 10 o'r Gorchymyn). Ar hyn o bryd, yr uchafswm statudol a bennir yn yr Atodlen yw £5,000.
Mae'r Gorchymyn yn darparu pwerau i gasglu dirwyon a roddir gan lysoedd ynadon (Erthygl 5 o'r Gorchymyn).
Mae Erthyglau 9, 11 a 12 yn cynnwys darpariaethau atodol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: