Search Legislation

Gorchymyn y Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1RHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “blwyddyn” (“year” ) yw blwyddyn ariannol daladwy ;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

  • ystyr “gallu cynhyrchu net a ddatgenir” (“declared net capacity”), mewn perthynas â pheiriannau cynhyrchu yw'r cynhyrchiad uchaf o drydan (wrth y terfynellau cynhyrchu) y gellir ei gynnal am gyfnod amhenodol, o dan yr amodau perthnasol, heb achosi niwed i'r peiriannau, gan dynnu o'r gallu cynhyrchu hwnnw yr hyn a ddefnyddir gan y peiriannau, ac a fynegir mewn megawatiau hyd at y ganfed ran agosaf o fegawat;

  • (At ddibenion y diffiniad hwn ar gyfer y peiriannau cynhyrchu hynny a'u hunig neu eu prif ffynhonnell ynni yw drwy losgi olew neu lo, yr amodau perthnasol yw bod y dŵ r sy'n mynd i'r system oeri yn un deg naw gradd Celsius os caiff y dŵ r oeri ei gylchredeg ar yr hereditament i'w ailddefnyddio yn y system oeri, neu ym mhob achos arall deg gradd Celsius.

  • Ar gyfer peiriannau cynhyrchu a'u hunig neu eu prif ffynhonnell ynni yw gwynt, mae cyflymder y gwynt yn ddigon i yrru'r peiriannau cynhyrchu ar eu cynhyrchiad uchaf o drydan.

  • Ar gyfer peiriannau cynhyrchu a'u hunig neu eu prif ffynhonnell ynni yw dŵ r, mae llif y dŵ r yn ddigon i yrru'r peiriannau cynhyrchu ar eu cynhyrchiad uchaf o drydan.

  • Ar gyfer pob math arall ar beiriannau cynhyrchu yr amodau perthnasol yw, bod tymheredd yr awyr yn lleoliad yr hereditament yn ddeg gradd Celsius ac mae gwasgedd yr aer yn 1013mbar); ac

  • ystyr “peiriannau cynhyrchu” (“generating plant”), mewn perthynas â hereditament, yw peiriannau yn yr hereditament neu arno a ddefnyddir neu sydd ar gael ar gyfer eu defnyddio i'r diben o gynhyrchu trydan.

Talgrynnu Rhifau

3.  Pan (ar wahân i'r erthygl hon) fydd unrhyw werth ardrethol y penderfynir arno o dan y Gorchymyn hwn yn cynnwys ffracsiwn o bunt—

(a)rhaid talgrynnu'r ffracsiwn i un bunt os bydd yn fwy na 50c, a

(b)rhaid anwybyddu'r ffracsiwn os bydd yn 50c neu'n llai.

Diddymiadau ac Eithriadau

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymir drwy hyn y canlynol gydag effaith o 1 Ebrill 2000 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru:

(a)Gorchymyn Cynhyrchwyr Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) 1994(1);

(b)Gorchymyn Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) (Diwygio) 1995(2);

(c)erthygl 2 o Orchymyn Diwydiant Cyflenwi Trydan ac Ymgymerwyr Dŵ r (Gwerthoedd Ardrethol) (Diwygio) 1996(3) a'r gyfran honno o erthygl 1 sy'n cael effaith i ddibenion erthygl 2.

(2Bydd y Gorchmynion a grybwyllir ym mharagraff 1 yn parhau i gael effaith ar 1 Ebrill 1995 neu wedyn at ddibenion y canlynol neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r canlynol—

(a)unrhyw newid i restr a luniwyd cyn 1 Ebrill 2000; neu

(b)unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau a wnaed o dan adran 58 o'r Ddeddf(4) (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ac ymlaen) ynglŷn â'r swm taladwy o ran hereditament am gyfnod perthnasol fel y'i diffinnir yn yr adran honno.

RHAN IICYNHYRCHU TRYDAN

Gwerth Ardrethol

5.—(1Mae erthygl 6 yn gymwys i ddosbarth ar hereditamentau y mae'r amodau ym mharagraff (2) wedi'u cyflawni yn eu cylch.

(2Yr amodau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw bod —

(a)yr hereditament yn cynnwys tir, peiriannau neu adeiladau a ddefnyddir at gynhyrchu trydan, neu sydd ar gael i gynhyrchu trydan a bod y defnydd hwnnw yn unig neu'n brif swyddogaeth yr hereditament a

(b)y peiriannau cynhyrchu naill ai —

(i)yn defnyddio pŵ er gwynt, llanw, neu ddŵ r fel eu prif ffynhonnell ynni; neu

(ii)a chanddynt allu cynhyrchu net a ddatgenir o 500 cilowat neu ragor.

(3Wrth benderfynu ai cynhyrchu trydan yw prif swyddogaeth hereditament, rhaid peidio â chymryd sylw o hyn o wres a gynhyrchir yn yr hereditament neu arno ac a gynhyrchir at ddibenion nad ydynt yn ddibenion cynhyrchu trydan.

6.—(1Yn achos hereditament sy'n dod o fewn y dosbarth a bennir yn erthygl 5, ni fydd paragraffau 2 i 2B o Atodlen 6 i'r Ddeddf(5) yn gymwys, a bydd ei werth ardrethol, yn ystod unrhyw flwyddyn, pan fydd effaith i'r rhestr berthnasol, yn swm cyfartal â'r swm cymwysadwy.

(2Y “swm cymwysadwy” at ddibenion paragraff (1) yw'r swm fesul megawat o allu cynhyrchu net a ddatgenir o'r peiriannau cynhyrchu yn yr hereditament neu arno (wedi'i fynegi i'r ganfed ran agosaf o fegawat) wedi'i nodi yng ngholofn (2) o'r Tabl canlynol mewn perthynas â'r unig ffynhonnell ynni, neu'r brif ffynhonnell ynni, a ddefnyddir gan y peiriannau llywodraethu hynny a nodir yng ngholofn (1):

TABL

(1)(2)
Unig neu brif ffynhonnell ynni£ fesul megawat

i)Llosgi glo

9,500

ii)Llosgi olew

5,000

iii)Llosgi nwy naturiol pan ddefnyddir tyrbin ager

9,500

iv)Llosgi nwy naturiol pan na ddefnyddir tyrbin ager

5,000

v)Ymhollti Niwclear a gynhyrchir gan adweithydd Magnox

6,000

vi)Ymhollti Niwclear na chynhyrchir gan adweithydd Magnox.

14,000

vii)Pŵ er Gwynt

2,000

viii)Llosgi nwy o safleoedd tirlenwi

5,000

ix)Llosgi cnydau a gwasarn anifeiliaid

2,000

x)Dwr wedi'i gronni a'i bwmpio

12,800

xi)Trydan dŵ r

9,500

xii)Unrhyw ffynhonnell o ynni nas rhestrir uchod.

2,000

(3Yn yr erthygl hon ystyr “y rhestr berthnasol” yw'r rhestr ardrethu annomestig leol a luniwyd ar 1 Ebrill 2000.

RHAN IIICYNHYRCHU TRYDAN, TROSGLWYDDO A CHYFLENWI: RHESTRI CANOLOG

Dehongli

7.—(1Yn y Rhan hon —

  • ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw unrhyw flwyddyn y mae gwerth ardrethol i'w phenderfynu yn unol â'r Gorchymyn hwn ac

  • ystyr “blwyddyn berthnasol flaenorol” (“relevant preceding year”) yw'r flwyddyn sy'n rhagflaenu blwyddyn berthnasol;

  • ystyr “dosbarth ar hereditamentau” (“class of hereditaments”) yw hyn o hereditamentau sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu ganolog i Gymru yn rhinwedd rheoliad 3(1) o'r Atodlen i Reoliadau'r Rhestr Ganolog a Rhan 2 ohoni ac a feddiennir gan unrhyw berson dynodedig a enwir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;

  • ystyr “ffactor ailgyfrifo” (“recalculation factor”) mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yw'r ffactor y penderfynir arno mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw yn unol ag erthygl 9 neu 10, fel y bo'r achos;

  • ystyr “fformwla safonol” (“standard formula”) mewn perthynas â dosbarth o hereditamentau yw'r fformwla

    T + U

    lle —

    • T yw'r swm a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw; a

    • U yw'r ffactor ailgyfrifo cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn berthnasol.

  • ystyr “person dynodedig” (“designated person”) yw person a ddynodir gan reoliad 3(1) o Ran 2 o'r Atodlen i Reoliadau'r Rhestri Canolog ac a enwir ynddi;

  • ystyr “Rheoliadau'r Rhestr Ganolog” (“Central List Regulations”) yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999(6); ac

  • ystyr “y rhestr ganolog” (“the central list”) yw'r rhestr ardrethu annomestig ganolog i Gymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at hereditamentau a feddiennir gan berson yn cynnwys cyfeiriad, yn achos hereditamentau nas meddiennir, at hereditamentau a berchnogir gan y person hwnnw, a dehonglir cyfeiriadau at feddiannu yn unol â hynny.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon neu yn yr Atodlen at berson dynodedig wrth ei enw yn gyfeiriad at y cwmni sy'n dwyn yr enw hwnnw ar y dyddiad y cofnodwyd yr enw ar y rhestr ganolog.

Gwerthoedd Ardrethol

8.  Yn achos pob dosbarth ar hereditament, ni fydd paragraffau 2 i 2B o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn pan fydd y rhestr ganolog mewn grym ac

(a)yn y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 y swm a bennir ar ei gyfer yn yr Atodlen fydd y gwerth ardrethol; ac

(b)mewn unrhyw flwyddyn arall sy'n dechrau ar neu cyn 1 Ebrill 2004 y swm a geir drwy ddefnyddio'r fformwla safonol ar gyfer y dosbarth hwnnw fydd y gwerth ardrethol.

Hereditamentau Trosglwyddo: Y Ffactor Ailgyfrifo

9.  Ar gyfer pob dosbarth ar hereditament a restrir yn Rhan A o'r Atodlen, y ffigur a geir ar gyfer y dosbarth hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla ganlynol fydd y ffactor ailgyfrifo mewn perthynas â blwyddyn berthnasol –

lle—

  • T yw'r swm a bennir ar gyfer y dosbarth hwnnw yn yr Atodlen;

  • k yw nifer amcangyfrifedig y cilometrau mewn cylched o brif linellau trosglwyddo a feddiannwyd gan y person dynodedig yn achos y dosbarth hwnnw ar 31 Mawrth yn y flwyddyn flaenorol berthnasol; a

  • K yw nifer amcangyfrifedig y cilometrau mewn cylched o brif linellau trosglwyddo a feddiennir gan y person hwnnw ar 31 Mawrth 2000.

Hereditamentau Dosbarthu: Y Ffactor Ailgyfrifo

10.  Ar gyfer pob dosbarth ar hereditament a restrir yn Rhan B o'r Atodlen, y ffigur a geir ar gyfer y dosbarth hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla ganlynol yw'r ffactor ailgyfrifo mewn perthynas â blwyddyn berthnasol —

lle —

  • T yw'r swm a bennir ar gyfer y dosbarth hwnnw yn yr Atodlen;

  • v yw'r amcangyfrif o allu'r newidydd gosodedig i gynhyrchu (wedi'i fesur mewn cilofolt-amperau) o'r holl beiriannau newid trydan a feddiannwyd gan y person dynodedig yn achos y dosbarth hwnnw ar 31 Mawrth yn y flwyddyn flaenorol berthnasol; a

  • V yw'r amcangyfrif o allu'r newidydd gosodedig i gynhyrchu (wedi'i fesur mewn cilofolt-amperau) o'r peiriannau hynny ar 31 Mawrth 2000.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7);

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Mawrth 2000

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources