Search Legislation

Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Swyddogaethau Interim) 2000

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 2539 (Cy.162)

ADDYSG, CYMRU

CYFLOGAETH A HYFFORDDIANT, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Swyddogaethau Interim) 2000

Wedi'i wneud

15 Medi 2000

Yn dod i rym

19 Medi 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraff 13 o Atodlen 10 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(1):

Enwi, cychwyn a dehongli

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Swyddogaethau Interim) 2000 a daw i rym ar 19 Medi 2000.

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000; ac

  • ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant.

Swyddogaethau Interim y Cyngor

3.—(1Hyd nes y daw adrannau 31, 32, 40(1), 40(6) a 41 o'r Ddeddf i rym gall y Cyngor (yn ychwanegol at unrhyw bwerau a roddwyd iddo o dan ddarpariaethau'r Ddeddf sydd mewn grym)—

(a)gwneud unrhyw beth y mae'n ymddangos ei fod yn angenrheidiol neu'n fanteisiol wrth baratoi i arfer y swyddogaethau a roddir gan unrhyw un o'r adrannau hynny pan ddeuant i rym; a

(b)mewn cysylltiad â'r pwerau a roddir gan is-baragraff (a), rhoi cymorth ariannol i bersonau sy'n bwriadu darparu gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau ynghylch addysg neu hyfforddiant neu faterion cysylltiedig (gan gynnwys cyflogaeth).

(2Os bydd y Cyngor yn darparu cymorth ariannol o dan y pŵer a roddir gan baragraff (1)(b) uchod gall osod amodau; a gall yr amodau—

(a)galluogi'r Cyngor i'w gwneud yn ofynnol ad-dalu (yn gyfan neu'n rhannol) symiau a delir gan y Cyngor os na chydymffurfir ag unrhyw amodau y telir y symiau'n ddarostyngedig iddynt; a

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pryd y mae swm sy'n ddyledus i'r Cyngor heb ei dalu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

Sue Essex

Ysgrifennydd Cynulliad

15 Medi 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae paragraff 13 o Atodlen 10 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy orchymyn roi pwerau i Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant os yw wedi'i sefydlu cyn iddo gael ei swyddogaethau llawn, i'w gynorthwyo i weithredu ei swyddogaethau llawn pan fydd yn eu cael.

Mae'r Gorchymyn hwn a wneir o dan y pŵer y cyfeirir ato uchod yn rhoi pwer i Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant wneud unrhyw beth sy'n angenrheidiol neu'n briodol wrth baratoi i arfer swyddogaethau o dan adrannau 31, 32, 40(1) a (6) a 41 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 pan fydd yr adrannau hynny yn dod i rym (a disgwylir y bydd hynny ar 1 Ebrill 2001) ynghyd â phŵer cysylltiedig i roi cymorth ariannol.

Y swyddogaethau perthnasol yw prif ddyletswyddau'r Cyngor mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 19 oed a hefyd ar gyfer personau dros 19 oed, pŵer y Cyngor i sicrhau cyfleusterau ar gyfer gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau mewn cysylltiad ag addysg neu hyfforddiant a'i ddyletswyddau mewn perthynas â phersonau sydd ag anawsterau dysgu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources