Search Legislation

Rheoliadau'r Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 2959 (Cy. 190 )

ARBED YNNI, CYMRU

Rheoliadau'r Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

2 Tachwedd 2000

Yn dod i rym

6 Tachwedd 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pŵ er a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990(1) , sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad mewn perthynas â Chymru (2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 6 Tachwedd 2000.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn,

  • ystyr “cais am grant rhannol” (“partial grant application”) yw cais lle nad yw'r ceisydd yn cynnig mai asiantaeth ardal fydd yn trefnu bod y gweithfeydd y gwneir cais am grant mewn perthynas â hwy yn cael eu cyflawni;

  • ystyr “cais gweithfeydd” (“works application”) yw cais lle mae'r ceisydd yn cynnig mai asiantaeth ardal fydd yn trefnu bod y gweithfeydd y gwneir cais am grant mewn perthynas â hwy yn cael eu cyflawni;

  • ystyr “cyngor ynni” (“energy advice”) yw cyngor ar leihau neu atal gwastraff ynni mewn annedd;

  • ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(3);

  • ystyr “gweithfeydd” (“works”) yw unrhyw un o'r gweithfeydd, y defnyddiau neu'r cyngor ynni a bennir yn Rheoliad 6;

  • ystyr “HEES” (“HEES”) yw'r categorïau o weithfeydd sydd ar gael o dan y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref fel y'u pennir gan y Cynulliad yn unol â pharagraff (4) o Reoliad 4;

  • ystyr “HEES a Mwy” (“HEES Plus”) yw'r categorïau o weithfeydd sydd ar gael o dan y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref a Mwy fel y'u pennir gan y Cynulliad yn unol â pharagraff (4) o Reoliad 4;

  • ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref 1997(4).

  • ystyr “Rheoliadau (Diwygio) 2000” (“the 2000 (Amendment) Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2000 (5);

Diddymu

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymir Rheoliadau 1997 a Rheoliadau (Diwygio) 2000 mewn perthynas â Chymru.

(2Bydd Rheoliadau 1997 a Rheoliadau (Diwygio) 2000 yn parhau i fod yn gymwys—

(a)mewn unrhyw achos lle gwnaed cais i osodwr cofrestredig (o fewn ystyr y Rheoliadau hynny) cyn 6 Tachwedd 2000;

(b)mewn unrhyw achos lle gwnaed cais am grant i asiantaeth ardal (o fewn ystyr y Rheoliadau hynny) cyn 6 Tachwedd 2000.

Pwerau'r Cynulliad

4.—(1Caiff y Cynulliad benodi person neu bersonau, a elwir yn asiantaeth ardal, i gyflawni, mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ardal yng Nghymru, y swyddogaethau hynny y bydd yn eu pennu at ddibenion gwneud grantiau a threfnu bod gweithfeydd yn cael eu cyflawni o dan HEES a HEES a Mwy, neu fel arall mewn cysylltiad â hynny.

(2Wrth wneud neu wrth drefnu gwneud unrhyw grant, caiff y Cynulliad osod yr amodau a wêl yn dda.

(3Pan fydd y Cynulliad wedi gwneud trefniant ar gyfer ariannu gweithfeydd, y mae grant yn daladwy mewn perthynas â hwy, gyda pherson heblaw'r ceisydd, gall dalu'r cyfan neu ran o unrhyw grant i'r person arall hwnnw.

(4Penderfynir ar y categorïau o weithfeydd y gall grant gael ei dalu ar eu cyfer o dan HEES a HEES a Mwy gan y Cynulliad o dro i dro yn unol â'r canlynol—

(a)cost a/neu argaeledd gweithfeydd a defnyddiau o'r mathau y mae eu hangen oherwydd y dibenion a nodir yn Rheoliad 6 neu mewn cysylltiad â hwy; a

(b)polisi a blaenoriaethau cyfredol y Cynulliad mewn perthynas ag arbed ynni.

Personau a all wneud cais am grant

5.—(1Gellir ystyried cais am grant o dan HEES mewn perthynas ag annedd oddi wrth berson sy'n ddeiliad yr annedd ac sy'n meddiannu'r annedd fel ei unig neu ei brif breswylfa ac sydd, adeg gwneud y cais-

(a)yn cael budd-dâl, neu yn byw gyda phriod sy'n cael budd-dâl y mae paragraff (3 (yn gymwys iddo, ac yn cael budd-dâl plant, neu yn byw gyda phriod sy'n cael budd-dâl plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) mewn perthynas â phlentyn o dan 16 mlwydd oed; neu

(b)yn cael budd-dâl, neu yn byw gyda phriod sy'n cael budd-dâl y mae paragraff (4) yn gymwys iddo.

(2Gellir ystyried cais am grant o dan HEES a Mwy mewn perthynas ag annedd oddi wrth berson sy'n ddeiliad yr annedd ac sy'n meddiannu'r annedd fel ei unig neu ei brif breswylfa ac sydd, adeg gwneud y cais,

(a)yn cael budd-dâl, neu yn byw gyda phriod sy'n cael budd-dâl y mae paragraff (5) yn gymwys iddo; neu

(b)yn cael budd-dâl, neu yn byw gyda phriod sy'n cael budd-dâl y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, ac wedi cyrraedd, neu yn byw gyda phriod sydd wedi cyrraedd, 60 mlwydd oed; neu

(c)yn rhiant unigol sy'n cael budd-dâl y mae paragraff (3) yn gymwys iddo; neu

(ch)yn cael budd-dâl plant, neu yn byw gyda phriod sy'n cael budd-dâl plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) mewn perthynas â phlentyn sydd o dan 16 mlwydd oed ac y mae budd-dâl y mae paragraff (5) yn gymwys iddo yn cael ei dalu i'r plentyn hwnnw neu mewn perthynas â'r plentyn hwnnw.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fudd-dâl y dreth gyngor, budd-dâl tai a chymhorthdal incwm (bob un fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan VII o Ddeddf 1992) a lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm (o fewn ystyr Deddf Ceisio Gwaith 1995 (6)).

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys i'r credyd treth i deuluoedd mewn gwaith (fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan VII o Ddeddf 1992)(7).

(5Mae'r paragraff hwn yn gymwys i'r canlynol—

(a)credyd treth person anabl (fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan VII o Ddeddf 1992);

(b)lwfans gweini, sef—

(i)lwfans gweini o dan adran 64 o Ddeddf 1992; neu

(ii)cynnydd mewn lwfans sy'n daladwy mewn perthynas â gweini cyson o dan gynllun o dan baragraff 4 o Ran I o Atodlen 8 i Ddeddf 1992(8) neu sydd ag effaith o dani; neu

(iii)taliad a wneir o dan erthygl 14, 15, 16, 43 neu 44 o Gynllun Anafiadau Personol (Sifilwyr) 1983(9)) neu unrhyw daliad cyfatebol; neu

(iv)unrhyw daliad sydd wedi'i seilio ar yr angen i weini sy'n cael ei dalu gyda phensiwn anabledd rhyfel; neu

(v)unrhyw daliad y bwriedir iddo dalu iawn am beidio â thalu taliad, lwfans neu bensiwn a grybwyllir yn unrhyw un o is-baragraffau (i) i (iv) yn y diffiniad hwn;

(c)lwfans byw i'r anabl (o dan adran 71 o Ddeddf 1992);

(ch)pensiwn anabledd rhyfel o fewn ystyr adran 139(11) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992(10) neu o dan erthygl 10 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaeth y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr etc (Anabledd a Marwolaeth) 1983(11)) i'r graddau y gwneir y Gorchymyn hwnnw heblaw o dan Ddeddf y Llu Awyr (Cyfansoddiad) 1917(12) ynghyd â'r canlynol—

(i)aatodiad symudedd o dan erthygl 26A o Orchymyn Pensiynau Gwasanaeth y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr etc (Anabledd a Marwolaeth) 1983(13) (gan gynnwys atodiad o'r fath sy'n daladwy drwy gymhwyso'r erthygl honno gan unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan Erthygl 25A o'r Cynllun Anafiadau Personol (Sifilwyr) 1983 (gan gynnwys yr erthygl honno fel y'i cymhwysir gan erthygl 48A o'r cynllun hwnnw)(14), neu daliad y bwriedir iddo dalu iawn am beidio â thalu atodiad o'r fath; neu

(ii)ataliad o dan reoliadau a wneir o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 8 i Ddeddf 1992 (lwfans gweini cyson);

(d)budd-dâl y dreth gyngor, budd-dâl tai a chymhorthdal incwm (ym mhob achos os yw'r taliad yn cynnwys premiwm anabledd fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliadau Budd-dâl y Dreth Gyngor (Cyffredinol) 1992(15)), Rheoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987(16) a Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(17)) yn y drefn honno) a budd-dâl anabledd anafiadau diwydiannol o dan adrannau 103 i 105 o Ddeddf 1992 (os yw'n cynnwys lwfans gweini cyson).

(6Gellir ystyried cais am grant rhannol oddi wrth berson sydd wedi cyrraedd, neu sy'n byw gyda phriod sydd wedi cyrraedd, trigain mlwydd oed ac sy'n meddiannu'r annedd fel ei unig neu ei brif breswylfa ac sydd naill ai yn berchen ar y rhydd-ddaliad arni neu y mae ganddo fuddiant prydlesol ynddi nad yw'n llai nag 21 mlynedd.

(7Yn achos anheddau mewn aml-feddiannaeth, yr asiantaeth ardal fydd yn penderfynu nifer y deiliaid cymwys yn yr annedd sy'n destun cais. Os bydd nifer y deiliaid cymwys yn fwy na 50% o gyfanswm y deiliaid yn yr annedd, gall cais mewn perthynas â'r annedd gael ei ystyried.

(8At ddibenion y rheoliad hwn—

  • ystyr “deiliad” (“householder”) yw person sydd, ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill, yn rhydd-ddeiliad neu'n denant.

  • mae “priod” (“spouse”) yn cynnwys person y mae'r ceisydd yn byw gyda hwy fel gŵ r neu wraig;

  • ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw rhiant neu berson arall sy'n cael budd-dâl plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) mewn perthynas â phlentyn o dan 16 mlwydd oed ac sy'n gyfrifol am yr un aelwyd ac yn aelod o'r un aelwyd â'r plentyn hwnnw ac sydd heb briod neu heb fod yn byw gyda'i briod.

  • mae “tenant” (“tenant”) yn cynnwys is-denant a pherson a chanddo'r canlynol—

    (a)

    meddiannaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o dan Ddeddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976(18);

    (b)

    tenantiaeth statudol o dan Ddeddf Rhenti 1977(19);

    (c)

    tenantiaeth ddiogel o dan Ran IV o Ddeddf Tai 1985(20) neu denantiaeth ragarweiniol o dan Bennod I o Ran V o Ddeddf Tai 1996 (21));

    (ch)

    trwydded i feddiannu sy'n bodloni'r amodau ym mharagraff 12(a) a (b) o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1985(22); neu

    (d)

    meddiannaeth amaethyddol sicr o dan Ran I o Ddeddf Tai 1988(23)).

Y dibenion y gellir cymeradwyo grant ar eu cyfer

6.—(1Gellir cymeradwyo cais gweithfeydd am grant at un neu ragor o'r dibenion canlynol:—

(a)darparu inswleiddiad mewn unrhyw wagle to hygyrch yn yr annedd, gan gynnwys inswleiddio unrhyw danc dŵ r oer ac unrhyw bibellau cyflenwi dŵ r, pibellau gorlifo a phibellau ehangu mewn gwagle o'r fath;

(b)darparu inswleiddiad rhwng dalennau mewnol ac allanol waliau dwbl yr annedd;

(c)darparu defnydd gwrth-ddrafft i'r annedd neu ynddi ynghyd ag unrhyw gyfrwng awyru ychwanegol ar gyfer unrhyw ystafelloedd na fyddent fel arall yn cael eu hawyru'n ddigonol ar ôl darpariaeth o'r fath;

(ch)darparu inwswleiddiad i unrhyw system gwresogi dŵ r neu ddarparu unrhyw ran o system o'r fath gan ymgorffori'r inswleiddiad ynddi;

(d)darparu gwresogyddion ystafell sy'n wresogyddion darfudol nwy â rheolaeth thermostat;

(dd)darparu stôr-wresogyddion trydan;

(e)darparu rheolyddion amseru ar gyfer gwresogyddion aer a gwresogyddion dŵ r trydan;

(f)gwella effeithlonrwydd ynni unrhyw system gwresogi aer neu ddŵr a osodwyd yn yr annedd neu amnewid unrhyw ran ohoni neu ei thrwsio;

(ff)darparu system wresogi ganolog nwy neu olew;

(g)trosi tanau tanwydd solet agored mewn ystafelloedd i danau tanwydd solet caeëdig mewn ystafeloedd;

(ng)darparu system wres ganolog sy'n gysylltiedig â'r grid gwres cymunedol lleol.

(2Pan gymeradwyir cais gweithfeydd at un neu ragor o'r dibenion a nodir ym mharagraff (1), gellir cymeradwyo grant hefyd er mwyn darparu unrhyw un o'r canlynol—

(a)cyngor ynni;

(b)lampau ynni-effeithlon.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “gwagle to” (“roof space”) yw gwagle rhwng to annedd a nenfwd unrhyw ystafell a ddefnyddir er mwyn cael lle i fyw neu sydd ar gael at y diben hwnnw, ac nad yw'r gwagle hwnnw wedi'i wahanu'n llwyr o'r to gan unrhyw ystafell arall;

(4Rhaid peidio â chymeradwyo unrhyw gais oni bai bod yr annedd a chynnwys pob categori gwaith a grybwyllir yn y cais yn bodloni'r amodau a bennir o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad y Cynulliad.

(5Rhaid i bob gwaith gydymffurfio â'r safonau a bennir o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad y Cynulliad ynglŷn â'r defnyddiau, y crefftwaith a'r perfformiad ffeithlonrwydd ynni ar gyfer cynnwys y gweithfeydd.

Uchafswm y grant

7.—(1Rhaid i asiantaeth ardal beidio â thalu cyfanswm grant mewn perthynas â chais gweithfeydd o dan HEES neu HEES a Mwy sy'n uwch na'r isaf o'r canlynol—

(a)y swm a godir yn briodol am y gweithfeydd a gyflawnir; neu

(b)uchafswm y grant o dan HEES neu HEES a Mwy fel y'i pennir o dro i dro gan y Cynulliad yn unol â'r canlynol—

(i)cost a/neu argaeledd gweithfeydd a defnyddiau o'r mathau y mae eu hangen oherwydd y dibenion a nodir yn Rheoliad 6 neu mewn cysylltiad â hwy; a

(ii)polisi a blaenoriaethau cyfredol y Cynulliad mewn perthynas ag arbed ynni.

(2Caiff y Cynulliad bennu uchafsymiau gwahanol o dan baragraff (1) ar gyfer grantiau mewn perthynas ag anheddau mewn aml-feddiannaeth.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (2) o'r rheoliad hwn, bydd gan asiantaeth ardal bŵ er, gyda chydsyniad y Cynulliad, i bennu—

(a)uchafswm y grant y gellir ei dalu; a

(b)sail ar gyfer cyfrifo'r grant, a fynegir yn nhermau symiau am bob uned fesur,

ar gyfer unrhyw gategori neu gyfuniad o gategorïau gweithfeydd a gynhwysir yn y Cynllun HEES neu'r Cynllun HEES a Mwy.

(4Yn achos cais am grant rhannol, uchafswm y grant a all gael ei dalu i geisydd yw 25% o'r uchafswm grant a bennir gan y Cynulliad mewn perthynas â HEES.

Ceisiadau am grant

8.—(1Rhaid gwneud cais am grant i'r asiantaeth ardal.

(2Rhaid i gais fod yn ysgrifenedig, wedi'i lofnodi naill ai gan y ceisydd neu gan berson a bennir neu o ddisgrifad a bennir gan yr asiantaeth ardal a rhaid iddo fod ar y ffurf a bennir gan yr asiantaeth ardal, yn ddarostyngedig i baragraff (3) o'r rheoliad hwn.

(3Rhaid i ffurflen gais gynnwys y manylion a bennir o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad y Cynulliad a rhaid iddi gynnwys—

(a)manylion yr annedd y ceisir y grant mewn perthynas â hi;

(b)datganiad ynghylch y meini prawf cymhwyster a nodir yn rheoliad 5 sy'n cael eu bodloni gan y ceisydd; ac os yw'r ceisydd yn denant, enw a chyfeiriad y landlord.

(c)datganiad y rhoddir mynediad rhesymol i'r annedd y mae cais yn cael ei wneud mewn perthynas â hi i gynrychiolydd yr asiantaeth ardal archwilio'r annedd a'r gweithfeydd;

ac

(ch)datganiad nad yw'r ceisydd na, hyd y gŵ yr y ceisydd, unrhyw berson arall wedi cael grant na chymorth o dan y Rheoliadau hyn, nac wedi gwneud cais amdanynt, mewn perthynas â'r annedd sy'n destun y cais.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru(24).

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Tachwedd 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 (fel y'i diwygiwyd gan Adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996) yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael gwneud, neu drefnu gwneud, grantiau tuag at gost gwaith neu gyngor i wella inswleiddiad thermol neu i leihau neu atal gwastraff ynni fel arall mewn anheddau.

Mae pŵ er yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon yn arferadwy bellach gan y Cynulliad mewn perthynas â Chymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r cynlluniau ar gyfer darparu grantiau at y dibenion a nodir yn Adran 15(1) o Ddeddf 1990 (fel y'i diwygiwyd) . Mae'r Rheoliadau yn ymdrin â phwy sy'n gymwys i gael grant, gallu'r Cynulliad i benderfynu ar gategorïau gweithfeydd ac uchafswm y lefelau grantiau sydd ar gael, at ba ddibenion y gellir cymeradwyo grantiau a dull gwneud cais am grant.

DS Darparodd Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2000 (“Rheoliadau (Diwygio) 2000”) uchafsymiau newydd ar gyfer dyfarnu grant o dan y Cynllun blaenorol, a nodwyd yn Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref 1997 (“Rheoliadau 1997”). Mae Rheoliadau 1997 a Rheoliadau (Diwygio) 2000 wedi'u diddymu fel y nodir yn y Rheoliadau hyn.

(1)

1990 (p.27); diwygiwyd adran 15 gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p.53).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).

(7)

Diwygiwyd Rhan VII o Ddeddf 1992 gan Ddeddf Credydau Treth 1999 (p.10).

(8)

Gweler adran 5 o Ddeddf Anafiadau a Chlefydau Diwydiannol (Hen Achosion) 1975 (p.16) a ddiddymwyd, gydag eithriadau, gan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Darpariaethau Canlyniadol) 1992 (p.6).

(10)

OS 1983/883; diwygiwyd erthygl 10 gan Ddeddf Credydau Treth 1999.

(11)

Diwygiwyd Rhian VII o Ddeddf 1992.

(12)

7 & 8 Geo. 5 (p.51).

(13)

OS 1983/833; ychwanegwyd erthygl 26A gan OS 1983/1116 a'i diwygio gan OS 1983/1521, 1986/592, 1990/1308, 1991/766, 1992/710, 1995/766 a 1997/766.

(14)

OS 1983/686; ychwanegwyd erthygl 25A gan OS 1983/1164 a'i diwygio gan OS 1983/1540, 1986/628, 1990/1300, 1991/708, 1992/702 a 1995/455.

(22)

1985 (p.68); amnewidiwyd paragraff 12 gan baragraff 12 o Atodlen 6 i Ddeddf Elusennau 1992 (p.41).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources