Search Legislation

Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵ r (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 299 (Cy.6)

ARDRETHU, CYMRU

Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵ r (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

31 Ionawr 2000

Yn dod i rym 1 Ebrill 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraff 3(2) o Atodlen 6 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵr (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “blwyddyn” (“year”) yw blwyddyn ariannol daladwy ;

  • ystyr “blwyddyn berthnasol”(“relevant year”) yw unrhyw flwyddyn y mae gwerth ardrethol i'w benderfynu arno yn unol â'r Gorchymyn hwn ac ystyr “blwyddyn flaenorol berthnasol” yw'r flwyddyn sy'n dod cyn blwyddyn berthnasol;

  • ystyr “dosbarth ar hereditamentau”(“a class of hereditaments”) yw'r hereditamentau hynny sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru yn rhinwedd rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau Rhestr Ganolog a Rhan 6 o'r Atodlen iddynt ac a feddiennir gan unrhyw un o'r personau dynodedig a enwir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn

  • Ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ;

  • ystyr “ffactor ailgyfrif”(“recalculation factor”) mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yw'r ffactor y penderfynir arno mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw yn unol ag erthygl 7;

  • ystyr “y fformwla safonol”(“the standard formula”) yw'r fformwla T + U lle —

    (a)

    T yw'r swm a bennir mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yn yr Atodlen; a

    (b)

    U yw'r ffactor ailgyfrif cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn berthnasol;

  • ystyr “person dynodedig”(“designated person”) yw person a ddynodir gan reoliad 3(1) o'r Rheoliadau Rhestr Ganolog ac a enwir yn Rhan 6 o'r Atodlen iddynt; ac mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau, ystyr “person dynodedig perthnasol” yw'r person dynodedig sy'n meddiannu'r dosbarth hwnnw; ac

  • ystyr “Rheoliadau Rhestr Ganolog”(“Central List Regulations”) yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999(3).

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at hereditamentau a feddiennir gan berson yn cynnwys cyfeiriad, yn achos hereditamentau nas meddiennir, at hereditamentau a berchnogir gan y person hwnnw gan ddehongli cyfeiriadau at feddiannaeth yn unol â hynny.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn, neu yn yr Atodlen, at berson dynodedig wrth ei enw yn gyfeiriad at y cwmni sy'n dwyn yr enw hwnnw ar y dyddiad y cofnodir yr enw hwnnw ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru.

Talgrynnu rhifau

3.  Pan (ar wahân i'r erthygl hon) fydd unrhyw werth ardrethol y penderfynir arno o dan y Gorchymyn hwn yn cynnwys ffracsiwn o bunt—

(a)rhaid talgrynnu'r ffracsiwn i un bunt, os bydd yn fwy na 50c, a

(b)rhaid anwybyddu'r ffracsiwn os bydd yn 50c neu'n llai.

Diddymiadau ac eithriadau

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵr (Gwerthoedd Ardrethol) 1994(4) wedi'i ddiddymu gydag effaith o 1 Ebrill 2000 i'r graddau ei fod yn gymwys i Gymru.

(2Heb ragfarnu adran 16(1) o Ddeddf Ddehongli 1978(5), bydd darpariaethau'r Gorchymyn a grybwyllir ym mharagraff (1) yn parhau'n weithredol ar 1 Ebrill 2000 ac ar ôl hynny, at ddibenion y canlynol ac mewn cysylltiad â'r canlynol—

(a)unrhyw newid ar restr mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2000; neu

(b)unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau a wneir o dan adran 58(6) o'r Ddeddf (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) o ran y swm taladwy ar gyfer hereditament am gyfnod perthnasol yn ôl diffiniad yr adran honno.

Gwerthoedd ardrethol

5.  Yn achos pob dosbarth ar hereditamentau, ni fydd paragraffau 2 i 2B o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny a'i werth arderthol fydd–

(a)yn y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000, y swm a bennir mewn perthynas ag ef yn yr Atodlen ; a

(b)mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 neu ar ôl hynny (yn ddarostyngedig i erthygl 10) y swm a gynhyrchir mewn perthynas â'r flwyddyn honno drwy ddefnyddio'r fformwla safonol mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw.

Y ffactor ailgyfrif – dehongli

6.—(1Yn erthygl 7 mewn perthynas â phob dosbarth ar hereditamentau—

(a)mewn unrhyw fformwla—

  • “y” yw'r cyfaint perthnasol o ddŵr mewn perthynas â'r cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben yn union cyn y flwyddyn berthnasol flaenorol;

  • “Y”, yn ddarostyngedig i erthygl 7(3), yw'r cyfaint perthnasol o ddŵr mewn perthynas â'r cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 1999; a

  • Rhif yw “Z” ac iddo'r un gwerth ag “y” yn y flwyddyn flaenorol ddiwethaf y penderfynwyd ar y ffactor ailgyfrif cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw mewn perthynas ag ef yn unol ag erthygl 7(2); a

(b)ystyr “cyfaint perthnasol o ddŵr” mewn perthynas â pherson dynodedig perthnasol ac unrhyw gyfnod o dair blynedd yw'r cyfaint a gyfrifir yn unol â pharagraff (2).

(2Y cyfaint perthnasol o ddŵr mewn perthynas â pherson dynodedig perthnasol ac unrhyw flwyddyn yw'r cyfartaledd blynyddol, dros y tair blynedd o dan ystyriaeth, wedi'i fynegi mewn megalitrau i'r ddegfed ran agosaf o fegalitr, o'r swm a amcangyfrifir yn unol ag is-baragraff (a) wedi tynnu'r swm a amcangyfrifwyd yn unol ag is-baragraff (b); sef—

(a)y cyfaint blynyddol o ddŵr yr amcangyfrifir iddo gael ei gyflenwi gan y person hwnnw yn ystod y cyfnod o dair blynedd, sef dŵr a gyflenwyd i—

(i)unrhyw berson arall mewn swmp-gyflenwad, sef at ddibenion ffurfio'r cyflenwad sydd i'w roi gan y person hwnnw neu ychwanegu ato; a

(ii)fel arall,

a thynnu hanner y swm blynyddol cyfartalog o ddŵr anyfadwy yr amcangyfrifir ei fod wedi cael ei gyflenwi mewn dull heb fod yn swmp-gyflenwad; a thynnu

(b)hanner y swm blynyddol cyfartalog yr amcangyfrifir ei fod wedi'i gymryd neu wedi'i swmp-gyflenwi yn ystod y cyfnod hwnnw o dair blynedd.

(3Os na chyflenwodd y person dynodedig perthnasol ddŵr drwy gydol unrhyw flwyddyn mewn cyfnod o dair blynedd, bydd paragraff (2) yn gymwys fel pe rhoddid cyfeiriad at y cyfartaledd blynyddol dros y nifer o flynyddoedd y cyflenwyd y dŵr ynddynt yn lle'r cyfeiriad at y cyfartaledd blynyddol dros dair blynedd; ac at ddibenion y paragraff hwn diystyrir unrhyw doriad dros dro yn y cyflenwad.

Ffactorau ailgyfrif

7.—(1Os, mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau ac unrhyw flwyddyn, bydd y gwerth y gellir ei briodoli i “y” yn llai na'r hyn a gynhyrchir drwy gyfrif yn unol â'r fformwla—

Y102100

(“y trothwy uchaf”) ac yn fwy na'r hyn a gynhyrchir drwy gyfrif yn yn unol â'r fformwla—

Y98100

(“y trothwy isaf”), bydd y ffactor ailgyfrif cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw—

(a)yn y flwyddyn gyntaf o'r fath yn 0, a

(b)yn ystod unrhyw flwyddyn ganlynol, yn ffigur hafal i'r ffactor ailgyfrif cymwysadwy yn unol â'r erthygl hon yn y flwyddyn flaenorol berthnasol.

(2Os, mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn, bydd y gwerth y gellir ei briodoli i “y” mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yn hafal i'r trothwy uchaf neu'n fwy nag ef neu'n hafal i'r trothwy isaf neu'n is nag ef, bydd y ffactor ailgyfrif cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw yn ystod y flwyddyn honno yn ffigur a gynhyrchir drwy gyfrif yn unol â'r fformwla—

Ty - Y1.5Y

(3Mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau a blwyddyn sy'n dechrau ar ôl y blwyddyn y bydd paragraff (2) yn gymwys i'r dosbarth hwnnw yn gyntaf, bydd paragraff (1) yn gymwys fel pe rhoddid Z yn lle Y.

Achosion arbennig – dehongli

8.  Mewn perthynas ag erthyglau 9 a 10—

ystyr “cynllun Atodlen 2” (“Schedule 2 scheme”) yw cynllun o dan Atodlen 2 i Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991;

ystyr “hereditamentau Cymru” (“Welsh hereditaments”) yw'r hereditamentau cynllun ac unrhyw hereditamentau eraill a feddiennir gan drosglwyddai cynllun ac a ddangosir yn y rhestr ardrethu canolog i Gymru;

ystyr “hereditamentau cynllun” (“scheme hereditaments”) yw hereditamentau a drosglwyddir gan gynllun Atodlen 2; ac

ystyr “trosglwyddai cynllun”(“scheme transferee”) yw person dynodedig sydd, o ganlyniad i gynllun Atodlen 2, yn meddiannu dosbarth ar hereditamentau sydd, yn union cyn y diwrnod pan ddaw'r cynllun i rym, yn cael ei feddiannu gan berson dynodedig arall.

Cymhwyso

9.  Mae erthygl 10 yn gymwys at ddibenion penderfynu, mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod pan, yn unol â'r Rheoliadau Rhestr Ganolog, y dangosir hereditamentau Cymru a feddiennir gan drosglwyddai cynllun ar y rhestr ardrethu canolog, ar werth ardrethol (cyfan) hereditamentau Cymru.

Penderfynu ar Werthoedd Ardrethol

10.—(1Rhaid i werth ardrethol (cyfan) hereditamentau Cymru fod yn swm hafal i'r cyfanswm o'r symiau y penderfynasid arnynt, ond am gynllun Atodlen 2, ac yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, yn unol ag erthygl 5 fel gwerth ardrethol yr hereditamentau sy'n ffurfio hereditamentau Cymru.

(2At ddibenion penderfynu ar y ffactor ailgyfrif sy'n gymwysadwy mewn blwyddyn berthnasol, bydd erthygl 7 yn gymwys fel pe anwybyddid, wrth gyfrif y swm a neilltuir i Y neu, mewn achos pan fydd erthygl 7(3) yn gymwys, y rhif a neilltuir i Z, ddŵr a gyflenwyd gan y trosglwyddai cynllun neu iddo i barti arall i gynllun Atodlen 2 neu ganddo.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Ionawr 2000D.

ATODLENHereditamentau a feddiennir gan:

Dee Valley Water plc£1,798,244
Dŵ r Cymru Cyfyngedig£29,730,304
North West Water Limited£874,556
Severn Trent Water Limited£4,048,616

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O ran yr hereditamentau annomestig sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, o dan baragraff 3(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ddarparu, drwy orchymyn, nad yw'r rheolau prisio arferol ar gyfer ardrethu a gynhwysir ym mharagraffau 2 i 2B o'r Atodlen honno yn gymwys i'r hereditamentau hynny. Yn lle hynny, caiff ddarparu y bydd gwerthoedd ardrethol y hereditamentau hynny fel y'u pennir yn y gorchymyn neu fel y penderfynir arnynt yn unol â rheolau rhagnodedig. Breiniwyd y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 yn ei gwneud yn ofynnol i hereditamentau cyflenwi dŵ r a feddiennir (neu, os na feddiennir hwy, a berchnogir) gan ymgymerwyr dŵ r a enwir yn Rhan 6 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hynny gael eu dangos yn y rhestr ardrethu canolog i Gymru. Mae'r Gorchymyn hwn:

* yn darparu na fydd paragraffau 2 i 2B yn gymwys mewn perthynas â'r hereditamentau hynny ,

* yn rhagnodi'r gwerthoedd ar gyfer yr hereditamentau hynny am y flwyddyn ariannol 2000/01 ac

* yn rhagnodi'r rheolau y mae eu gwerthoedd ardrethol i gael eu penderfynu arnynt yn unol â hwy yn y blynyddoedd i ddod.

Mae erthygl 4(1) yn diddymu Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵr (Gwerthoedd Ardrethol) 1994, gydag effaith o 1 Ebrill 2000 ymlaen, i'r graddau ei fod yn gymwysadwy i Gymru. Ond mae'r darpariaethau hynny yn parhau i fod yn weithredol at y dibenion a grybwyllir yn erthygl 4(2).

(1)

1988 p.41; diwygiwyd 143(2) gan baragraff 72(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diwygiwyd paragraff 3(2) o Atodlen 6 gan baragraff 38(13) o Atodlen 5 i Ddeddf 1989. Gweler adran 146(6) o Ddeddf 1988 am ddiffiniad o “prescribed”.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(6)

Diwygiwyd adran 58 gan baragraff 68 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1989 (p. 14), adran 2 o Ddeddf Ardrethu Annomestig 1994 (p.3) ac adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources