- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Wedi'i wneud
29 Chwefror 2000
Yn dod i rym
1 Ebrill 2000
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Railtrack plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
2. Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “amcangyfrif o hyd y trac perthnasol” (“estimated relevant track length”) yw hyd y trac, wedi'i fynegi mewn cilometrau, yr amcangyfrifir y caiff ei gynnwys yn rheilffyrdd Railtrack;
ystyr “blwyddyn” (“year”) yw blwyddyn ariannol daladwy;
ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw unrhyw flwyddyn y mae gwerth ardrethol i'w benderfynu ar ei chyfer yn unol â'r Gorchymyn hwn;
ystyr “blwyddyn flaenorol berthnasol” (“relevant preceding year”) yw'r flwyddyn sy'n dod cyn blwyddyn berthnasol;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
ystyr “hereditament perthnasol” (“relevant hereditament”) yw'r hereditament a ddisgrifir yn Rhan 4 o Atodlen y Rheoliadau Rhestr Ganolog;
ystyr “Railtrack” (“Railtrack”) yw Railtrack plc;
ystyr “y Rheoliadau Rhestr Ganolog” (“the Central List Regulations”) yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999(3);
ystyr “rhestr ganolog” (“central list”) yw rhestr ardrethu annomestig canolog Cymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny; ac
ystyr “trac” (“track”) yw'r ystyr a roddir i “track” gan adran 83 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(4).
3. Pan (ar wahân i'r erthygl hon) fydd unrhyw werth ardrethol y penderfynir arno o dan y Gorchymyn hwn yn cynnwys ffracsiwn o bunt —
(a)rhaid talgrynnu'r ffracsiwn i un bunt, os bydd yn fwy na 50c, a
(b)rhaid anwybyddu'r ffracsiwn os bydd yn 50c neu'n llai.
4. Yn achos yr hereditament perthnasol, ni fydd paragraffau 2 i 2C o Atodlen 6 i'r Ddeddf(5) yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn y bydd y rhestr ganolog mewn grym ar ei chyfer, a gwerth ardrethol yr hereditament hwnnw mewn unrhyw flwyddyn felly fydd —
(a)yn y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000, £6,240,000, a
(b)mewn unrhyw flwyddyn arall sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 neu ar ôl hynny, y swm a geir drwy gymhwyso'r rheolau a ragnodir yn Erthygl 5.
5.—(1) Mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001, neu ar ôl hynny, gwerth ardrethol yr hereditament perthnasol fydd y swm a geir drwy adio £6,240,000 a'r ffactor ailgyfrifo a gyfrifir o dan yr Erthygl hon.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion cyfrifo'r ffactor ailgyfrifo pan yw'r swm ynglŷn â blwyddyn berthnasol a geir drwy gyfrifo ynglŷn â'r hereditament perthnasol yn unol â'r fformwla —
yn 0.05, −0.05 neu unrhyw rif sydd rhwng y rhifau hyn.
(3) Y ffactor ailgyfrifo ynglŷn â blwyddyn berthnasol y mae paragraff (2) yn gymwys iddi yw 0.
(4) Ynglŷn â blwyddyn berthnasol —
(a)y mae'r swm a gyfrifir mewn perthynas â hi yn unol â pharagraff (2) yn fwy na 0.05 neu'n llai na −0.05, neu
(b)nad yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â hi mewn perthynas â'r flwyddyn flaenorol berthnasol,
y ffactor ailgyfrifo yw'r swm a geir drwy gyfrifo yn unol â'r fformwla —
Tk - KK
(5) At ddibenion yr erthygl hon —
gwerth T yw £6,240,000;
K yw'r amcangyfrif o hyd y trac perthnasol ar 31 Mawrth 2000;
k yw'r amcangyfrif o hyd y trac perthnasol ar 31 Mawrth yn y flwyddyn flaenorol berthnasol.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), drwy hyn diddymir y canlynol gydag effaith o 1 Ebrill 2000 —
(a)Gorchymyn y Rheilffyrdd (Gwerthoedd Ardrethol) 1994(6);
(b)Gorchymyn y Rheilffyrdd (Gwerthoedd Ardrethol) (Diwygio) 1999(7).
(2) Bydd darpariaethau'r Gorchmynion a grybwyllir ym mharagraff (1) yn dal i gael effaith ar 1 Ebrill 2000 ac ar ôl hynny at y dibenion canlynol a'r dibenion sy'n gysylltiedig â hwy —
(a)unrhyw newid mewn rhestr ganolog a luniwyd cyn 1 Ebrill 2000, neu
(b)unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adran 58(8) (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) o'r Ddeddf o ran y swm taladwy mewn perthynas â hereditament am gyfnod perthnasol cyn 1 Ebrill 2000 fel y'i diffinnir yn yr adran honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Chwefror 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O ran yr hereditamentau annomestig sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan baragraff 3(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ddarparu, drwy orchymyn, na ddylid eu prisio ar gyfer ardrethu annomestig ar y sail a nodir ym mharagraffau 2 i 2C o'r Atodlen honno (hynny yw, drwy gyfeirio at y rhent y byddai tenant tybiedig yn ei dalu am hereditament ar sail flynyddol), ond caiff ddarparu y bydd gwerthoedd ardrethol yr hereditamentau hynny fel y'u pennir yn y gorchymyn neu fel y penderfynir arnynt yn unol â rheolau rhagnodedig.
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi gwerth ardrethol yr hereditament a gynhwysir, yn rhinwedd Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999, yn y rhestr ganolog mewn perthynas â Railtrack plc, ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.
Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer y ffactor y mae'n rhaid cyfeirio ato wrth addasu'r gwerth hwnnw er mwyn penderfynu'r gwerth ardrethol ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 neu ar ôl hynny ynglŷn â'r hereditament yr ystyrir bod Railtrack plc yn ei feddiannu.
Mae erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn yn diddymu, yn ddarostyngedig i rai eithriadau, gydag effaith o 1 Ebrill 2000 ymlaen, Orchymyn y Rheilffyrdd (Gwerthoedd Ardrethol) 1994, a oedd (fel y'i diwygiwyd) yn gymwys mewn perthynas â'r blynyddoedd sy'n dechrau ar 1 Ebrill 1995 neu ar ôl hynny.
1988 p.41. Gweler adran 146(6) am ddiffiniad o “prescribed”. Diwygiwyd adran 143(2) gan baragraff 72(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diwygiwyd paragraff 3 o Atodlen 6 gan baragraff 38(12) a (13) o Atodlen 5 i Ddeddf 1989.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Diwygiwyd paragraff 2 gan baragraffau 38(3) i (11) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a mewnosodwyd paragraffau 2A a 2B ganddynt. Mewnosodwyd paragraff 2C gan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29).
Diwygiwyd adran 58 gan baragraff 68 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14), adran 2 o Ddeddf Ardrethu Annomestig 1994 (p.3) ac adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: