Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 717 (Cy. 24 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

28 Chwefror 2000

Yn dod i rym

29 Chwefror 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 32(9)(1), 33(4)(2), 43(7) a 113 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 sydd bellach wedi'u breinio ynddo i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru(3).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 29 Chwefror 2000.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.

(3Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at adran â rhif yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth (awdurdodau bilio)

2.  Yn adran 33, hepgorer isadrannau (3C) a (3D)(4).

Cyfrifo anghenion cyllidebol (awdurdodau praeseptio pennaf)

3.—(1Diwygir adran 43(5) fel a ganlyn.

(2Yn lle isadran (6C), gosoder -

(6C) In relation to a major precepting authority in Wales in this section and section 44 below “police grant” means the total amount of grant payable to that authority in accordance with the relevant police grant report..

(3Yn lle isadran (6D) gosoder -

(6D) In subsection (6C) above “the relevant police grant report” means for a financial year commencing on or after 1st April 2000 the police grant report for that year approved by a resolution of the House of Commons pursuant to section 46 of the Police Act 1996(6).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Chwefror 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Awdurdodau praeseptio yw'r rhai hynny sydd yn derbyn cyllid drwy'r dreth gyngor ond sydd ddim yn ei gasglu eu hunain. Mae awdurdod praeseptio yn pennu praesept ar gyfer y swm sydd ei angen i ariannu y rhan hwnnw o'i wariant sydd ddim yn cael ei gyllido gan grantiau llywodraeth ganol, adrethu annomestig wedi'i ail-ddosbarthu ac incwm arall. Mae hwn yn cael ei gasglu drwy'r dreth gyngor gan awdrudodau bilio sef y cynghorau sir a'r cynghorau bwrdeistrefi sirol yng Nghymru. Yng Nghymru, yr awdurdodau heddlu yw'r unig brif awdurdodau praeseptio.

Mae adrannau 32 a 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn nodi yn eu trefn sut mae awdurdod bilio ac awdurdod praeseptio yn eu trefn i gyfrifo'u hanghenion cyllidebol am flwyddyn ariannol ac mae adrannau 33 a 44 o Ddeddf 1992 yn nodi yn eu trefn sut mae'r awdurdodau hyn i gyfrifo swm sylfaenol eu treth gyngor.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i'r cyfrifiadau sy'n angenrheidiol o dan adran 33 o Ddeddf 1992 fel y maent yn gymwys i'r awdurdodau bilio yng Nghymru. Effaith y Rheoliadau yw dileu'r gofyniad (a ragnodwyd yn adran 33(3C)) y byddai'n ofynnol, pan fyddai cyllideb awdurdod o'r fath yn fwy na swm rhagnodedig, i'r awdurdod gynyddu swm sylfaenol ei dreth gyngor er mwyn cymryd i ystyriaeth ostyngiad dilynol yn y cymhorthdal ar gyfer budd-dâl y dreth gyngor a gâi ei dalu iddo.

Darparodd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 1999 na ddylai'r “police grant” fel y'i diffinnir yn adran 43(6A) o Ddeddf 1992 fod yn gymwys i'r awdurdodau praeseptio pennaf yng Nghymru, gan osod yn ei le ddiffiniad amgen a oedd yn gymwys i adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i'r diffiniad amgen drwy amnewid diffiniadau newydd yn adran 43(6C) a (6D). Mae i'r newidiadau hyn effaith ar 29 Chwefror 2000.

(1)

1992 p.14; diwygiwyd adran 32(9) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19)

(2)

Diwygiwyd Adran 33 gan baragraff 5 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru)1994, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1994 (O.S. 1994/246), Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) (O.S. 1999/296).

(3)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

Mewnosodwyd Adrannau 33(3C) a 33(3D) gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/296).

(5)

Diwygiwyd Adran 43 gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/296).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources