- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
27 Mawrth 2000
Yn dod i rym
1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) wedi cael cynnig gan Gyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru, wedi'i wneud yn unol ag adran 51 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1) (“y Ddeddf”), i ddiddymu'r gorfforaeth addysg bellach a adwaenir fel Coleg Pencoed(2) (“y Trosglwyddwr”) o dan adran 27 o'r Ddeddf;
Drwy arfer y pŵ er a roddwyd i'r Ysgrifenydd Gwladol gan adran 27 o'r Ddeddf ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol(3), mae'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi ymgynghori â'r Trosglwyddwr, a chyda chydsyniad y gorfforaeth addysg bellach a adwaenir fel Coleg Technoleg Pen-y-bont ar Ogwr(4) (“y Trosglwyddai”) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Pencoed (Diddymu) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
2. Ar 1 Ebrill 2000 diddymir y Trosglwyddwr a throsglwyddir ei holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i'r Trosglwyddai, sydd yn gorfforaeth gorfforedig a sefydlwyd at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysg.
3. Bydd adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogid gan y Trosglwyddwr yn union cyn 1 Ebrill 2000 fel petai'r cyfeiriadau yn yr adran honno —
(a)at berson y mae'r adran honno'n gymwys iddo yn gyfeiriad at berson a gyflogid felly;
(b)at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriad at 1 Ebrill 2000;
(c)at y trosglwyddwr yn gyfeiriad at y Trosglwyddwr; ac
(ch)at y gorfforaeth yn gyfeiriad at y Trosglwyddai.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
T Middlehurst
Ysgrifennydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-16, y Cynulliad
27 Mawrth 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i redeg Coleg Pencoed. Mae'n darparu ar gyfer trosglwyddo ei heiddo, ei hawliau a'i rhwymedigaethau i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Technoleg Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae'n sicrhau hawliau ei gweithwyr trwy gymhwyso adran 26(2) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
1992 p.13. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 51 i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Sefydlwyd gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 (O.S.1992/2097).
Gweler O.S.1999/672.
Sefydlwyd gan O.S. 1992/2097 hefyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: