- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Mawrth 2000
Yn dod i rym
1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 126(4) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:–
1. –
(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2).
(3) Mae'r Rheoliadu hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
2. Ym mharagraff (2) o reoliad 1 o'r prif Reoliadau (dehongli) yn y diffiniad o “NHS sight test fee”, yn lle'r swm “£40.33” amnewidier “£41.54” ac yn lle'r swm “£14.57” amnewidier “£15.01”.
3. Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 15 o'r prif Reoliadau (cymhwyster – ailosod neu drwsio), ar ôl “regulation 8(2)” mewnosoder “(b)”.
4. Yn rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)–
(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “£42.00” amnewidier “£42.80”; a
(b)ym mharagraff (3), yn lle “£10.80”, amnewidier “£11.00”.
5. –
(1) Yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (codau llythrennau taleb a gwerthoedd ar yr wyneb – cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) (gwerth taleb ar yr wyneb), am bob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod amnewidier y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw
(1) | (2) |
---|---|
Hen swm | Swm newydd |
£ 28.70 | £ 29.30 |
£ 43.60 | £ 44.50 |
£ 59.40 | £ 60.60 |
£ 134.20 | £ 136.90 |
£ 49.50 | £ 50.50 |
£ 63.00 | £ 64.30 |
£ 75.80 | £ 77.30 |
£ 147.50 (yn y ddau fan lle mae'n ymddangos) | £ 150.50 |
£ 42.00 | £ 42.80 |
(2) Yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol bach ac arbennig a theclynnau cymhleth)–
(a)ym mharagraff 1(1)(a) (prism – lens golwg unigol), yn lle “£6.00” amnewidier “£6.10”;
(b)ym mharagraff 1(1)(b) (prism – lens arall), yn lle “£6.90” amnewidier “£7.00”;
(c)ym mharagraff 1(1)(c) (lens arlliw golwg unigol), yn lle “£3.00” amnewidier “£3.10”;
(ch)ym mharagraff 1(1)(d) (lens arlliw arall), yn lle “£3.50” amnewidier “£3.60”;
(d)ym mharagraff 1(1)(e) (sbectol bach), yn lle “£47.30” amnewidier “£48.20”, yn lle “£42.00” amnewidier “£42.80”, ac yn lle “£22.70” amnewidier “£23.20”;
(dd)ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau a weithgynhyrchwyd yn arbennig), yn lle “£47.30” amnewidier “£48.20”;
(e)ym mharagraff 2 (a) (isafswm taliad am declyn cymhleth-lensys golwg unigol), yn lle “£10.00” amnewidier “£10.20”;
(f)ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad am declyn cymhleth-lensys eraill), yn lle “£25.40” amnewidier “£25.90”.
(3) Yn lle Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (gwerthoedd talebau – trwsio), amnewidier yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
6. Dim ond mewn perthynas â thaleb a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r prif Reoliadau ar 1 Ebrill 2000 neu wedyn y mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaetho
27 Mawrth 2000
Rheoliad 5(3)
Rheoliadau 19(2) a (3)
Natur y Trwsio | Codau'r Llythrennau – Gwerthoedd | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(1) | (2) | |||||||
A | B | C | D | E | F | G | H & I | |
£ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | |
Trwsio neu ailosod un lens | 9.10 | 16.70 | 24.80 | 63.00 | 19.80 | 26.50 | 33.20 | 69.80 |
Trwsio neu ailosod dwy lens | 18.40 | 33.60 | 49.70 | 125.90 | 39.60 | 53.10 | 66.40 | 139.50 |
Trwsio neu ailosod: | ||||||||
blaen ffrâm | 9.40 | 9.40 | 9.40 | 9.40 | 9.40 | 9.40 | 9.40 | 9.40 |
ochr ffrâm | 5.60 | 5.60 | 5.60 | 5.60 | 5.60 | 5.60 | 5.60 | 5.60 |
ffrâm gyfan | 11.00 | 11.00 | 11.00 | 11.00 | 11.00 | 11.00 | 11.00 | 11.00” |
(Nid yw'r nodyn hwn yn ffurfio rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y prif Reoliadau”), sy'n darparu cynllun ar gyfer taliadau i'w gwneud gan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth lechyd Gwladol, drwy system dalebau, tuag at y costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o bobl mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.
Mae Rheoliad 2 yn diwygio'r diffiniad o “NHS sight test fee” yn rheoliad 1(2) o'r prif Reoliadau i adlewyrchu gwerthoedd y ddwy lefel o ffioedd am brofioon golwg y Gwasanaeth lechyd Gwladol sy'n daladwy i ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr pan ddaw'r rheoliadau hyn i rym. Mae'r symiau hyn yn berthnasol i benderfynu cymhwyster i gael taleb at gostau prawf golwg, a phenderfynu ei gwerth adbrynu.
Mae Rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 15 o'r prif Reoliadau i gynnwys pobl ifanc 16 i 18 oed, sy'n cael addysg amser-llawn, yng nghategorïau cleifion a all fod yn gymwys i gael taliadau ar gyfer trwsio neu ailosod teclynnau optegol.
Mae Rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) i gynyddu gwerth taleb optegol a roddir tuag at y gost o ailosod lens gyffwrdd unigol, ac i gynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol.
Mae Rheoliad 5(1) yn diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau i gynyddu gwerth y talebau a roddir tuag at y gost o gyflenwi ac ailosod sbectol a lensys cyffwrdd.
Mae Rheoliad 5(2) yn diwygio Atodlen 2 i'r prif Reoliadau i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a theclynnau mewn categorïau arbennig.
Mae Rheoliad 5(3) a'r Atodlen yn amnewid Atodlen 3 newydd i'r prif Reoliadau i gynyddu gwerth y talebau a roddir tuag at y gost o drwsio ac ailosod teclynnau optegol.
Tua 2.0%, ar gyfartaledd, yw graddfa'r cynnydd.
1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i), am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2). Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48), Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 13(2) a (3). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1997/818. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/2488, 1998/499 a 1999/609.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: