Search Legislation

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a diddymu

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

(3Mae Rheoliadau Addysg (Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr) 1999(1) wedi'u diddymu.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “adroddiad llywodraethwyr” (“governors' report”) yw'r adroddiad y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei baratoi unwaith ym mhob blwyddyn o dan adran 42(1) o Ddeddf 1998;

  • ystyr “cyfarfod blynyddol i'r rhieni” (“annual parents' meeting”) yw'r cyfarfod rhieni y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei gynnal unwaith ym mhob blwyddyn ysgol o dan adran 43 o Ddeddf 1998;

  • ystyr “cyfran o'r gyllideb” (“budget share”) yw'r swm a ddyrennir i'r corff llywodraethu yn rhinwedd adran 47 o Ddeddf 1998;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y materion i ymdrin â hwy mewn adroddiad llywodraethwyr

3.  Rhaid i bob adroddiad llywodraethwyr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn yr Atodlen.

Gofynion ynghylch adroddiad llywodraethwyr

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, mater i'r corff llywodraethu benderfynu arno yw'r iaith neu'r ieithoedd y cynhyrchir yr adroddiad llywodraethwyr ynddi neu ynddynt, a ffurf neu ffurfiau ei gynhyrchu.

(2Rhaid i'r corff llywodraethu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol o ran unrhyw iaith ychwanegol sydd i'w defnyddio neu o ran unrhyw ffurf ychwanegol y mae'r adroddiad i gael ei gynhyrchu ynddi.

5.  Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau—

(a)bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol a phob person a gyflogir yn yr ysgol yn cael copi o adroddiad y llywodraethwyr (yn rhad ac am ddim);

(b)bod copïau o'r adroddiad ar gael i'w harchwilio (ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim) yn yr ysgol; ac

(c)os oes rhwymedigaeth (yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 1998) ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod blynyddol i'r rhieni, fod copïau o adroddiad y llywodraethwyr sydd i'w ystyried yn y cyfarfod hwnnw yn cael eu rhoi i'r rhieni nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.

6.—(1Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (a) o reoliad 5, i'r graddau y mae'n ymwneud â rhieni disgyblion cofrestredig, na'r gofyniad sydd ym mharagraff (c) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys—

(a)os yw'r corff llywodraethu'n cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn cael copi o'r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad yn rhinwedd paragraffau 1 i 3, 5 i 7 a 10 o'r Atodlen (yn rhad ac am ddim) ac ar yr un pryd yn hysbysu'r rhieni hynny am eu hawl i gael copi o'r adroddiad llawn yn unol â rheoliad 7; a

(b)pan fydd rhwymedigaeth (yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 1998) ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod blynyddol i'r rhieni, os yw'r wybodaeth honno a'r hysbysiad hwnnw'n cael eu rhoi i'r rhieni nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.

7.  Pan nad yw paragraffau (a) ac (c) o reoliad 5 yn gymwys (yn rhinwedd rheoliad 6), rhaid i'r corff llywodraethu roi copi o'u hadroddiad llawn i unrhyw riant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol pan ofynnir iddo (yn ysgrifenedig).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Mawrth 2001

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources