- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'i wneud
19 Mawrth 2001
Yn dod i rym
31 Mawrth 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 9(1) ac (8) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(1) a phob pwer arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw, ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), gyda chydsyniad y Trysorlys(3), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro) (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 31 Mawrth 2001.
(2) Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Cyfalaf cychwynnol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro fydd Cant naw deg pedwar miliwng, cant pedwar deg dau o filoedd o bunnoedd (£194,142,000).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2001
Cydsyniwn,
Greg Pope
Jim Dowd
Dau o Arglwydd Gomisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi
19 Mawrth 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Gorchymyn hwn yn penderfynu swm cyfalaf cychwynnol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990, sef cyfalaf cychwynnol y darperir ar ei gyfer yn adran 9 o'r Ddeddf honno.
1990 p.19. Diwygiwyd adran 9(1) gan adran 15 o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8.)
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 9(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (“Deddf 1990”) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672) (“y Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau”).
Gweler adran 9(8) o Ddeddf 1990. Mae'r cydsyniad y mae ei angen oddi wrth y Trysorlys wedi'i gadw yn unswydd gan Atodlen 1 i'r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: