- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'i wneud
29 Mawrth 2001
Yn dod i rym
2 Ebrill 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 76(2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 2 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid yw'n effeithiol mewn perthynas â chais am grant cymorth trwsio cartref a wneir cyn y dyddiad y daw i rym.
2. Mae Gorchymyn Grantiau Cyfleusteru i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996(2) yn cael ei ddiwygio yn unol a'r erthyglau canlynol.
3. Yn erthygl 4—
(a)Dilëwch “Subject to article 5”;
(b)mharagraffau (a) a (b) (ii), yn lle “£2,000” rhowch “£5,000”.
4. Mae Erthygl 5 yn cael ei ddiddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996 (“Gorchymyn 1996”) i'r graddau y mae'n gymwys yng Nghymru.
Mae Gorchymyn 1996, ymhlith pethau eraill, yn rhagnodi uchafswm y cymorth trwsio cartrefi y caiff awdurdod tai lleol ei roi o dan Bennod III o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Mae Erthygl 4 o Orchymyn 1996, sy'n rhagnodi uchafswm y cymorth trwsio cartrefi ar gyfer un cais, yn cael ei ddiwygio i godi'r uchafswm hwnnw o £2,000 i £5,000.
Mae Erthygl 5 o Orchymyn 1996, sy'n rhagnodi uchafswm y cymorth trwsio cartrefi sy'n daladwy mewn perthynas â'r un annedd, yr un cwch preswyl neu'r un cartref symudol mewn unrhyw gyfnod o dair blynedd, yn cael ei diddymu.
1996 p. 53. Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 76(2), i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672, Erthygl 2 ac Atodlen 1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: