- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001, a deuant I rym as 1 Ebrill 2001.
(2) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “anabledd wedi'i dderbyn” (“accepted disablement”) yw anaf neu glefyd corfforol neu feddyliol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn eu bod i'w priodoli i wasanaeth yn lluoedd arfog y Goron neu unrhyw wasanaeth arall a benderfynir gan y Cynulliad, neu eu bod wedi'u gwaethygu gan wasanaeth o'r fath;
ystyr “Canolfan cerdded i mewn” (“Walk-in centre”) yw canolfan lle y mae gwybodaeth a thriniaeth am fân anhwylderau yn cael eu darparu ar gyfer y cyhoedd o dan drefniadau a wneir gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol;
ystyr “claf” (“patient”) yw—
unrhyw berson y mae meddyg yn gyfrifol am ei driniaeth o dan ei delerau gwasanaeth neu mewn cysylltiad â chynllun peilot;
unrhyw berson sy'n gwneud cais i fferyllydd am ddarparu gwasanaethau fferyllol ac at ddibenion y Rheoliadau hyn mae'n cynnwys person sy'n gweithredu ar ran person o'r fath;
unrhyw berson sy'n gofyn am wybodaeth neu driniaeth gan Ganolfan cerdded i mewn;
unrhyw berson sy'n gwneud cais am gael cyffur wedi'i gyflenwi yn unol â Chyfarwyddyd Grwp Cleifion;
ystyr “cyfarpar” (“appliance”) yw cyfarpar rhestredig o fewn ystyr adran 41 o'r Ddeddf ond nid yw'n cynnwys cyfarpar atal cenhedlu;
mae “Cyfarwyddyd Grwp Cleifion” (“Patient Group Direction”) i'w ddehongli yn unol â rheoliad 7(6);
mae “cyffuriau” (“drugs”) yn cynnwys meddyginiaethau, ond nid yw'n cynnwys sylweddau atal cenhedlu;
dehonglir “cynllun peilot” (“pilot scheme”) yn unol ag adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997(1);
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;
ystyr “esemptiad” (“exemption”) yw unrhyw ollyngiad a ganiateir o dan y rheoliadau hyn rhag talu ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliadau hyn;
mae “fferyllydd” (“chemist”) yn cynnwys unrhyw berson, heblaw meddyg, sy'n darparu gwasanaethau fferyllol;
ystyr “ffurflen bresgripsiwn” (“prescription form”) yw ffurflen a ddarperir gan Awdurdod Iechyd, ymddiriedolaeth NHS ac a roddir gan feddyg, deintydd neu nyrs sy'n rhagnodi er mwyn galluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac mae'n cynnwys ffurflen bresgripsiwn a ddarperir ac a roddir gan o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban, neu Ogledd Iwerddon;
ystyr “hosan elastig” (“elastic hosiery”) yw hosan i'r pigwrn, i'r goes, i'r ben-glin, i'r goes o dan y ben-glin neu i'r glun;
ystyr “meddyg” (“doctor”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig;
ystyr “nyrs sy'n rhagnodi” (“nurse prescriber”) yw nyrs neu ymwelydd iechyd o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff (2);
ystyr “y Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl” (“the Travelling Expenses and Remission of Charges Regulations”) yw Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988(2);
ystyr “rhestr feddygol” (“medical list”) yw'r rhestr, a baratoir o dan adran 29 o'r Ddeddf, o ymarferwyr meddygol sydd wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol;
ystyr “telerau gwasanaeth” (“terms of service”) yw'r telerau y mae gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwasanaethau deintyddol cyffredinol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol a gwasanaethau fferyllol yn cael eu darparu odanynt o dan y Ddeddf;
mae “triniaeth” (“treatment”) yn cynnwys archwilio a diagnosio;
mae i “tystysgrif esemptio” (“exemption certificate” ) yr ystyr a briodolir iddo gan reoliad 9(1);
mae i “tystysgrif ragdalu” (“pre-payment certificate”) yr ystyr a briodolir iddo gan reoliad 10(1).
(2) Dyma'r disgrifiad penodedig o nyrs neu ymwelydd iechyd a grybwyllir yn y diffiniad o “nyrs sy'n rhagnodi” ym mharagraff (1)—
(a)person sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 1 neu 12 o'r gofrestr a gedwir o dan Ddeddf Nyrsys, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd 1997(3) (y cyfeirir ati yn y paragraff hwn fel “y gofrestr broffesiynol”), sydd â chymhwyster nyrsio ardal wedi'i gofnodi yn ychwanegol yn y gofrestr broffesiynol a gedwir o dan reol 11 o Reolau Nyrsys, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd 1983(4), ac sydd, adeg archebu'r cyffur neu'r moddion rhestredig neu'r cyfarpar rhestredig—
(i)yn cael ei gyflogi fel nyrs ardal gan Awdurdod Iechyd, ymddiriedolaeth NHS neu gan awdurdod lleol mewn cysylltiad â threfniadau o dan adran 31(2)(c) o Ddeddf Iechyd 1999(5);
(ii)yn cael ei gyflogi fel nyrs gan feddyg y mae ei enw wedi'i gynnwys mewn rhestr feddygol neu sydd, ar yr adeg honno, yn helpu i gyflawni gwasanaethau meddygol personol o dan gynllun peilot; neu
(iii)yn helpu, yn rhinwedd swydd nyrs, i ddarparu gwasanaethau canolfan cerdded i mewn;
(b)person sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 11 o'r gofrestr broffesiynol fel ymwelydd iechyd ac sydd, adeg archebu'r cyffur neu'r moddion rhestredig neu'r cyfarpar rhestredig—
(i)yn cael ei gyflogi fel nyrs gan Awdurdod Iechyd, ymddiriedolaeth NHS neu gan awdurdod lleol mewn cysylltiad â threfniadau o dan adran 31(2)(c) o Ddeddf Iechyd 1999;
(ii)yn cael ei gyflogi fel nyrs gan feddyg y mae ei enw wedi'i gynnwys mewn rhestr feddygol neu sydd, ar yr adeg honno, yn helpu i gyflawni gwasanaethau meddygol personol o dan gynllun peilot; neu
(iii)yn helpu, yn rhinwedd swydd nyrs, i ddarparu gwasanaethau canolfan cerdded i mewn;
y mae nodyn wedi'i gofnodi yn erbyn ei enw (ym mhob achos) yn y gofrestr broffesiynol yn dynodi ei fod wedi ennill cymhwyster i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar ar gyfer cleifion.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn fe fydd—
(a)cyflenwi symiau o'r un cyffur yn erbyn archeb ar un ffurflen bresgripsiwn mewn mwy nag un cynhwysydd yn cael ei drin fel cyflenwi un swm yn unig o gyffur;
(b)cyflenwi mwy nag un cyfarpar o'r un math, ac eithrio yn achos hosanau elastig a theits, neu gyflenwi dwy neu fwy o gydrannau'r un cyfarpar, yn erbyn archeb ar un ffurflen bresgripsiwn yn cael ei drin fel cyflenwi un cyfarpar yn unig.
(4) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw, ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol ar gyfer claf godi a chasglu oddi wrth y claf hwnnw—
(a)ffi o £6.00 mewn perthynas â hosan elastig, hynny yw ffi o £12.00 y pâr;
(b)ffi o £6.00 mewn perthynas â chyflenwi pob cyfarpar arall a phob swm o gyffur.
(2) Os oes ffi yn cael ei thalu o dan baragraff (1), wrth wneud y taliad rhaid i'r person sy'n talu lofnodi datganiad ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn fod y ffi berthnasol wedi'i thalu.
(3) Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan baragraff (1)—
(a)os oes yna esemptiad o dan reoliad 8 a bod datganiad o hawl i gael esemptiad ar y ffurflen bresgripswn wedi'i gwblhau'n briodol gan y claf neu ar ei ran;
(b)os oes yna hawl i beidio â thalu'r ffi o dan reoliad 3 o Reoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl a bod datganiad o hawl i beidio â thalu ar y ffurflen bresgripswn wedi'i gwblhaui'n briodol gan y claf neu ar ei ran;
(c)os yw'r claf yn preswylio mewn ysgol neu sefydliad y mae eu henw wedi'i fewnosod ar y ffurflen bresgripsiwn gan feddyg o dan ei delerau gwasanaeth mewn cysylltiad â chynllun peilot.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, os oes cyffur a archebir ar un ffurflen bresgripsiwn yn cael ei gyflenwi fesul rhan, bydd y ffi o £6.00 sy'n daladwy am y cyffur hwnnw yn daladwy pan gaiff y rhan gyntaf ei chyflenwi.
(5) Er gwaethaf darpariaethau ei delerau gwasanaeth, ni fydd fferyllydd o dan unrhyw rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol mewn perthynas ag archeb ar ffurflen bresgripsiwn onid yw'r claf yn gyntaf yn talu unrhyw ffi iddo y mae'n ofynnol ei thalu a'i chasglu o dan baragraff (1) mewn perthynas â'r archeb honno.
(6) Os yw'r claf yn gofyn felly, rhaid i fferyllydd sy'n codi ac yn casglu ffi o dan baragraff (1) roi derbynneb i'r claf am y swm a gafwyd ar y ffurflen a ddarperir at y diben sef ffurflen y mae'n rhaid iddi gynnwys ffurf datganiad i ategu cais am ad-daliad a gwybodaeth ynghylch i bwy y dylai cais am ad-daliad gael ei wneud.
(7) Caiff unrhyw swm a fyddai fel arall yn daladwy gan Awdurdod Iechyd i fferyllydd mewn perthynas â darparu gwasanaethau fferyllol ei leihau yn ôl swm unrhyw ffioedd y mae'n ofynnol eu codi a'u casglu o dan y darpariaethau blaenorol yn y rheoliad hwn.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i feddyg sy'n darparu gwasanaethau fferyllol ar gyfer claf godi a chasglu oddi wrth y claf hwnnw—
(a)ffi o £6.00 mewn perthynas â hosan elastig, hynny yw ffi o £12.00 y pâr;
(b)ffi o £6.00 mewn perthynas â chyflenwi pob cyfarpar arall a phob swm o gyffur.
(2) Os oes ffi yn cael ei thalu o dan baragraff (1), wrth wneud y taliad rhaid i'r person sy'n talu lofnodi datganiad ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn fod y ffi berthnasol wedi'i thalu.
(3) Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan baragraff (1)—
(a)os oes yna esemptiad o dan reoliad 8 a bod datganiad o hawl i gael esemptiad ar y ffurflen bresgripswn wedi'i gwblhau'n briodol gan y claf neu ar ei ran;
(b)os oes yna hawl i beidio â thalu'r ffi o dan reoliad 3 o Reoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl a bod datganiad o hawl i beidio â thalu ar y ffurflen bresgripswn wedi'i gwblhau'n briodol gan y claf neu ar ei ran;
(c)os yw'r cyffuriau neu'r cyfarpar yn cael eu cyflenwi mewn perthynas â dau neu fwy o bersonau mewn ysgol neu sefydliad lle y mae o leiaf 20 person fel rheol yn preswylio ac o leiaf 10 ohonynt yn gleifion i'r meddyg.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, os oes cyffur a archebir ar un ffurflen bresgripsiwn yn cael ei gyflenwi fesul rhan, bydd y ffi o £6.00 sy'n daladwy am y cyffur hwnnw yn daladwy pan gaiff y rhan gyntaf ei chyflenwi.
(5) Ni fydd meddyg o dan unrhyw rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol y mae'n ofynnol codi a chasglu ffi mewn perthynas â hwy o dan baragraff (1) onid yw'r claf yn gyntaf yn talu swm y ffi honno iddo.
(6) Os yw'r claf yn gofyn felly, rhaid i feddyg sy'n codi ac yn casglu ffi o dan baragraff (1) roi derbynneb i'r claf am y swm a gafwyd ar y ffurflen a ddarperir at y diben sef ffurflen y mae'n rhaid iddi gynnwys ffurf datganiad i ategu cais am ad-daliad a gwybodaeth ynghylch i bwy y dylai cais am ad-daliad gael ei wneud.
(7) Caiff unrhyw swm a fyddai fel arall yn daladwy gan Awdurdod Iechyd i feddyg mewn perthynas â darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol neu wasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot ei leihau yn ôl swm y ffioedd y mae'n ofynnol eu codi a'u casglu o dan baragraff (1).
(8) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi talu ffi os yw'r cyffur neu'r cyfarpar a gyflenwir naill ai—
(a)yn angenrheidiol ar gyfer triniaeth ar unwaith ac nad oes archeb ar gyfer y cyffur neu'r cyfarpar wedi'i gwneud ar ffurflen bresgripsiwn; neu
(b)yn cael eu rhoi i'r claf, neu eu rhoi ar y claf, gan y meddyg yn bersonol.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid i Awdurdod Iechyd neu ymddiriedolaeth NHS sy'n cyflenwi cyffuriau i glaf at ddibenion ei driniaeth, i'w rhoi heblaw mewn ysbyty, neu gyfarpar, godi a chasglu oddi wrth y claf—
(a)ffi o £6.00 mewn perthynas â hosan elastig, hynny yw ffi o £12.00 y pâr;
(b)mewn perthynas â chyfarpar a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1, y ffi a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno;
(c)ffi o £12.00 mewn perthynas â theits;
(ch)ffi o £6.00 mewn perthynas â chyflenwi pob cyfarpar arall a phob swm o gyffur.
(2) Os oes ffi yn cael ei thalu o dan baragraff (1), wrth wneud y taliad rhaid i'r person sy'n talu lofnodi datganiad ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn fod y ffi berthnasol wedi'i thalu.
(3) Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan y rheoliad hwn oddi wrth glaf sy'n esempt—
(a)o dan baragraff 1(1)(a) i (d) o Atodlen 12 i'r Ddeddf.
(b)o dan reoliad 8, neu
(c)am fod gan y claf hawl i beidio â thalu ffi o dan reoliad 3 o Reoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl,
ac sydd, yn yr achos a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(c) o Atodlen 12 i'r Ddeddf ac yn yr achosion a ddisgrifir yn is-baragraffau (b) ac (c), yn cwblhau datganiad o hawl i gael esemptiad o'r fath neu i beidio â thalu ffi ac yn darparu unrhyw dystiolaeth o'r hawl y mae'r Awdurdod Iechyd neu'r ymddiriedolaeth NHS yn gofyn yn rhesymol amdani.
(4) O dan y rheoliad hwn, caiff rhan o ffi ei chodi a'i chasglu oddi wrth glaf y mae ganddo hawl i beidio â thalu rhan o'r ffi o dan reoliad 8(4) os caiff datganiad ysgrifenedig ei ddarparu bod y rhan berthnasol o'r ffi wedi'i thalu ynghyd â datganiad o'r hawl ac unrhyw dystiolaeth arall o'r hawl i beidio â thalu rhan o'r ffi y gofynnir amdani.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, os oes cyffur a archebir ar un cyfarwyddyd ysgrifenedig yn cael ei gyflenwi fesul rhan, bydd y ffi o £6.00 sy'n daladwy am y cyffur hwnnw yn daladwy pan gaiff y rhan gyntaf ei chyflenwi.
(6) Os yw'r claf yn gofyn felly, rhaid i Awdurdod Iechyd neu ymddiriedolaeth NHS sy'n codi ac yn casglu ffi o dan y rheoliad hwn roi derbynneb i'r claf am y swm a gafwyd ar ffurflen y mae'n rhaid iddi gynnwys ffurf datganiad i ategu cais am ad-daliad a gwybodaeth ynghylch i bwy y dylai cais am ad-daliad gael ei wneud.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), os oes cyffuriau neu gyfarpar yn cael eu cyflenwi i glaf at ddibenion ei driniaeth gan feddyg neu gan nyrs sy'n rhagnodi mewn Canolfan cerdded i mewn, rhaid i'r Awdurdod Iechyd neu'r ymddiriedolaeth NHS neu berson arall sy'n gyfrifol am reoli'r Ganolfan, ac eithrio yn achos cyffuriau sy'n cael eu rhoi neu gyfarpar sy'n cael ei ffitio yn y Ganolfan godi a chasglu oddi wrth y claf—
(a)ffi o £6.00 mewn perthynas â hosan elastig, hynny yw ffi o £12.00 y pâr;
(b)ffi o £6.00 mewn perthynas â chyflenwi pob cyfarpar arall a phob swm o gyffur.
(2) Os oes ffi yn cael ei thalu o dan baragraff (1), wrth wneud y taliad rhaid i'r person sy'n talu lofnodi datganiad ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn fod y ffi berthnasol wedi'i thalu.
(3) Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan y rheoliad hwn oddi wrth glaf sy'n esempt—
(a)o dan baragraff 1(1)(a) i (d) o Atodlen 12 i'r Ddeddf.
(b)o dan reoliad 8, neu
(c)am fod gan y claf hawl i beidio â thalu ffi o dan reoliad 3 o Reoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chosi Tâl,
ac sydd, yn yr achos a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(c) o Adodlen 12 I'r Ddeddf ac yn yr achosion a ddisgrifir yn is-baragraffau (b) ac (c),yn cwblhau datganiad o hawl i gael esemptiad o'r fath neu i beidio â thalu ffi ac yn darparu unrhyw dystiolaeth o'r hawl y mae'r Awdurdod Iechyd neu'r ymddiriedolaeth NHS neu berson arau sy'n darparu'r cyffur neu'r cyffarpar yn gofyn yn rhesymol amdani.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, os oes cyffur a archebir ar un cyfarwyddyd ysgrifenedig yn cael ei gyflenwi fesul rhan, bydd y ffi o £6.00 sy'n daladwy am y cyffur hwnnw yn daladwy pan gaiff y rhan gyntaf ei chyflenwi.
(6) Os yw'r claf yn gofyn felly, rhaid i Awdurdod Iechyd neu ymddiriedolaeth NHS neu'r person arall sy'n codi ac yn casglu ffi o dan y rheoliad hwn roi derbynneb i'r claf am y swm a gafwyd ar ffurflen y mae'n rhaid iddi gynnwys ffurf datganiad i ategu cais am ad-daliad a gwybodaeth ynghylch i bwy y dylai cais am ad-daliad gael ei wneud.
7.—(1) Os oes cyffuriau'n cael eu cyflewni i glaf yn unol â Chyfarwyddyd Grwp Cleifion, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid i'r person sy'n cyflenwi'r cyffuriau godi a chasglu ffi o £6.00 oddi wrth y claf mewn perthynas â chyflenwi pob swm.
(2) Os oes ffi yn cael ei thalu o dan baragraff (1), wrth wneud y taliad rhaid i'r person sy'n talu lofnodi datganiad ysgrifenedig fod y ffi berthnasol wedi'i thalu.
(3) Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan y rheoliad hwn oddi wrth glaf sy'n esempt—
(a)o dan baragraff 1(1)(a) i (d) o Atodlen 12 i'r Ddeddf.
(b)o dan reoliad 8, neu
(c)am fod gan y claf hawl i beidio â thalu ffi o dan reoliad 3 o Reoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl,
ac sydd, yn yr achos a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(c) o Atodlen 12 i'r Ddeddf ac yn yr achosion a ddisgrifir yn is-baragraffau (b) ac (c), yn cwblhau datganiad o hawl i gael esemptiad o'r fath neu i beidio â thalu ffi ac yn darparu unrhyw dystiolaeth o'r hawl y mae'r person sy'n cyflenwi'r cyffur yn gofyn yn rhesymol amdani.
(4) Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan y rheoliad hwn os yw'r cyffur yn cael ei gyflenwi i gael ei roi'n bersonol gan y person sy'n ei gyflenwi yn unol â'r Cyfarwyddyd Grwp Cleifion.
(5) Os yw'r claf yn gofyn felly, rhaid i berson sy'n codi ac yn casglu ffi o dan y rheoliad hwn roi derbynneb i'r claf am y swm a gafwyd ar ffurflen y mae'n rhaid iddi gynnwys ffurf datganiad i ategu cais am ad-daliad a gwybodaeth ynghylch i bwy y dylai cais am ad-daliad gael ei wneud.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r cyfeiriad at gyflenwi cyffur yn unol â Chyfarwyddyd Grwp Cleifion yn gyfeiriad at gyflenwi cyffur at y diben hwnnw y darperir ar ei gyfer yng Ngorchymyn Meddyginiaethau (Gwerthu gan Fferyllfeydd ac yn Gyffredinol – Esemptiad) 1980(6) neu yng Ngorchymyn Meddyginiaethau Presgripsiwn yn Unig (Defnydd Dynol) 1997(7).
8.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni fydd unrhyw ffi yn daladwy o dan reoliadau 3, 4, 6 neu 7—
(a)gan berson sydd o dan 25 mlwydd oed;
(b)gan berson sydd wedi cyrraedd 60 mlwydd oed;
(c)gan fenyw a chanddi dystysgrif esemptio ddilys wedi'i rhoi gan Awdurdod Iechyd ar y sail ei bod yn disgwyl baban neu ei bod wedi esgor yn ystod y deuddeng mis diwethaf ar blentyn byw neu blentyn a oedd yn gofrestradwy fel plentyn marwanedig o dan Ddeddf Cofrestru Genediaethau a Marwolaethau 1953(8) neu a chanddi dystysgrif esemptio ddilys wedi'i rhoi o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
(ch)gan berson a chanddo dystysgrif esemptio ddilys wedi'i rhoi gan Awdurdod Iechyd ar y sail ei fod yn dioddedf un neu ragor o'r anhwylderau canlynol—
(i)ffistwla parhaol (gan gynnwys caecostomi, colostomi, laryngostomi neu ileostomi) y mae angen rhwymyn llawfeddygol parhaus neu gyfarpar ar ei gyfer;
(ii)yr anhwylderau canlynol—
mathau o hypoadrenalinedd (gan gynnwys clefyd Addison) y mae'n hanfodol cael therapi amnewid penodol ar eu cyfer
diabetes insipidus a mathau eraill o hypobit?idedd
diabetes mellitus – ac eithrio os yw'n cael ei drin drwy'r deiet yn unig
hypoparathyroidedd
myasthenia gravis
myxoedema
(iii)epilepsi y mae angen triniaeth barhaus ar ei gyfer i atal confylsiynau;
(iv)anabledd corfforol parhaus sy'n atal y claf rhag ymadael â'i breswylfa heb gymorth person arall;
na chan berson a chanddo dystysgrif esemptio ddilys wedi'i rhoi o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
(d)gan berson a chanddo dystysgrif esemptio ddilys wedi'i rhoi gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â chyflenwi cyffuriau a chyfarpar i drin anabledd wedi'i dderbyn, ond yn y naill achos neu'r llall, dim ond mewn perthynas â'r cyflenwadau y mae'r dystysgrif yn ymwneud â hwy;
(dd)gan berson a chanddo dystysgrif rhagdalu ddilys neu dystysgrif ragdalu ddilys wedi'i rhoi o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni fydd unrhyw ffi yn daladwy o dan reoliad 5—
(a)mewn perthynas â chyflenwi cyfarpar a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 gan berson o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff (1)(d);
(b)mewn perthynas â chyflenwi cyfarpar nad yw wedi'i bennu felly neu gyflenwi teits neu gyffuriau, gan berson o ddisgrifiad a bennir yn unrhyw o is-baragraffau (b) i (dd) o baragraff (1).
(3) Rhaid i berson sy'n dymuno gwneud cais am yr hawl i esemptiad o dan baragraff (1) neu (2) ddarparu unrhyw ddatganiad o hawl sy'n angenrheidiol o dan reoliad 3(3) neu 4(3) ac unrhyw ddatganiad neu dystiolaeth o hawl sy'n angenrheidiol o dan reoliadau 5(3), 6(3) neu 7(3).
(4) Yn achos person y cyfeirir ato yn rheoliad 5 o'r Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl, rhaid peidio â chodi ffi y cyfeirir ati yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r graddau a bennir yn y rheoliad hwnnw.
(5) Pan beidir â chodi ffi yn rhannol o dan baragraff (4) rhaid i'r person sy'n gwneud y taliad rhannol lofnodi datganiad ysgrifenedig wrth wneud hynny fod y rhan berthnasol o'r ffi wedi'i thalu a chwblhau datganiad o hawl, a darparu unrhyw dystiolaeth arall o'r hawl i beidio â thalu rhan o'r ffi y gofynnir amdani.
(6) Caiff esemptiad drwy gyfeirio at oedran neu ddilysrwydd tystysgrif esemptio eu penderfynu drwy gyfeirio at yr oedran neu'r dilysrwydd ar y diwrnod—
(a)y cyflwynir yr archeb am gyffuriau neu gyfarpar i'w pharatoi, yn achos gwasanaethau fferyllol a ddarperir gan fferyllydd;
(b)y caiff y cyffuriau neu'r cyfarpar eu cyflenwi, mewn unrhyw achos arall.
(7) Os oes hawliad am esemptiad wedi'i wneud ond heb ei gadarnhau ac nad oes ffi wedi'i chasglu yn sgil yr hawliad, rhaid i'r Awdurdod Iechyd neu, os yw'r cyffuriau neu'r cyfarpar wedi'u cyflenwi gan ymddiriedolaeth NHS, rhaid i'r ymddiriedolaeth NHS honno gasglu'r ffi honno oddi wrth y person o dan sylw.
9.—(1) Rhaid i berson sy'n dymuno gwneud hawliad am esemptiad o dan ddarpariaethau rheoliad 8(1)(c), (ch) neu (d) wneud cais am dystysgrif sy'n rhoi'r esemptiad (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel “tystysgrif esemptio”) i'r Awdurdod Iechyd yn achos esemptiad o dan is-baragraff (c) neu (ch) ar ffurflen a roddir at y diben hwnnw ac yn achos esemptiad o dan is-baragraff (d) i un o swyddfeydd yr Adran Nawdd Cymdeithasol ar ffurflen a roddir at y diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Pan gaiff Awdurdod Iechyd ei fodloni fod gan geisydd hawl i gael esemptiad o dan baragraff (1)(c), rhaid iddo roi tystysgrif esemptio a fydd yn ddilys—
(a)yn achos mam sy'n disgwyl baban tan ddiwedd ei beichiogrwydd ac, os yw'n esgor ar blentyn byw neu ar blentyn sy'n gofrestradwy fel un marwanedig o dan Ddeddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953, tan ddiwedd y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau gyda'r dyddiad y disgwylir iddi esgor;
(b)yn achos mam sydd wedi esgor ar blentyn, tan ddiwedd y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar ddyddiad geni'r plentyn hwnnw.
(3) Pan gaiff Awdurdod Iechyd ei fodloni bod gan geisydd nad yw'n berson sydd â hawl i gael esemptiad o dan ddarpariaethau rheoliad 8(1)(a) neu (b) hawl i gael esemptiad o dan reoliad 8(1)(ch), rhaid iddo roi tystysgrif esemptio i'r ceisydd a fydd yn ddilys am unrhyw gyfnod y bydd yr Awdurdod Iechyd yn penderfynu arno.
(4) Os caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei fodloni bod gan geisydd hawl i gael esemptiad o dan reoliad 8(1)(d), rhaid iddo roi tystysgrif esemptio i'r ceisydd a fydd yn ddilys am unrhyw gyfnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno.
10.—(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, pan delir y swm perthnasol a ragnodir gan baragraff (5), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol rhaid i Awdurdod Iechyd roi tystysgrif (y cyfeirir ati yn y rheoliadau hyn fel “tystysgrif ragdalu”) i unrhyw berson sy'n cwblhau'n briodol ac yn cyflwyno cais am y dystysgrif ar ffurflen a ddarperir at y diben hwnnw.
(2) Bydd tystysgrif ragdalu yn ddilys am gyfnod o naill ai pedwar mis neu ddeuddeng mis a rhaid i gais am dystysgrif o'r fath nodi am ba gyfnod y gofynnir iddi fod yn ddilys.
(3) Mae tystysgrif ragdalu, o'i rhoi, yn rhoi esemptiad i'r person y'i rhoddir iddo fel y darperir ar ei gyfer gan reoliad 8(1)(dd) mewn perthynas â chyffuriau a chyfarpar a gyflenwir yn ystod y cyfnod y bydd yn ddilys.
(4) Rhaid peidio â rhoi unrhyw dystysgrif ragdalu oni bai bod y cais a wneir amdani yn dod i law lai nag un mis cyn y dyddiad y mae ei chyfnod dilysrwydd i ddechrau.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, y swm rhagnodedig yw £31.40 am dystysgrif ragdalu sy'n ddilys am bedwar mis ac £86.20 am dystysgrif ragdalu sy'n ddilys am ddeuddeng mis.
(6) Os oes swm rhagnodedig wedi'i dalu o dan y rheoliad hwn a bod y person y talwyd mewn perthynas ag ef, heb fod yn fwy na mis ar ôl y dyddiad y daeth ei dystysgrif ragdalu yn ddilys—
(a)yn dod yn berson y mae unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 8(1)(b) i (d) yn gymwys iddo;
(b)neu'n dod yn berson sydd â hawl i beidio â thalu o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl; neu
(c)yn marw; neu
(ch)yn dod yn breswylydd mewn ysbyty ac wedyn naill ai—
(i)yn marw tra bo'n preswylio yn yr ysbyty cyn i'r dystysgrif ragdalu ddod i ben; neu
(ii)yn aros yn yr ysbyty nes i'r dystysgrif ragdalu ddod i ben;
gall cais am ad-dalu'r swm hwnnw gael ei wneud, gan neu ar ran y person hwnnw neu ei ystâd, yn unol â pharagraffau (7) ac (8).
(7) Rhaid i gais o dan baragraff (6) gael ei wneud i'r Awdurdod Iechyd a roddodd y dystysgrif a chydag ef rhaid cynnwys y dystysgrif (os cafodd un ei rhoi) a datganiad i ategu'r cais, a rhaid i'r cais ac unrhyw ad-daliad gael ei wneud mewn unrhyw fodd, ac o dan unrhyw amodau, y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(8) Rhaid i gais o dan baragraff (6) gael ei wneud—
(a)mewn achos sy'n dod o fewn paragraff (6)(a), (b) neu (c), heb fod yn fwy na phedwar mis ar ôl y dyddiad y daeth y dystysgrif ragdalu yn ddilys;
(b)mewn achos sy'n dod o fewn paragraff (6)(ch)(i), heb fod yn fwy na thri mis ar ôl dyddiad y marwolaeth; neu
(c)mewn achos sy'n dod o fewn paragraff (6)(ch)(ii), heb fod yn fwy na thri mis ar ôl y dyddiad y daeth y dystysgrif ragdalu i ben.
11.—(1) Os oes ffi wedi'i thalu o dan y Rheoliadau hyn gan neu ar ran person a oedd adeg y taliad yn esempt rhag y gofyniad i dalu'r ffi, gall cais am ad-dalu'r ffi gael ei wneud yn unol â pharagraff (2) gan neu ar ran y person hwnnw.
(2) Rhaid i'r cais am ad-daliad—
(a)cael ei wneud i'r person neu'r corff a bennir yn y dderbynneb a roddir o dan reoliad 3(6), 4(6), 5(6), 6(5), neu 7(5) fel y person neu'r corff y mae'n rhaid gwneud cais am ad-dalu ffioedd iddo;
(b)cael ei wneud mewn unrhyw ffurf a modd y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt ar gyfer y ceiswyr, unrhyw ddosbarth o geisydd neu geiswyr yn gyffredinol;
(c)cael ei wneud o fewn tri mis o'r dyddiad y cafodd y cyffur neu'r cyfarpar eu cyflenwi i'r ceisydd neu o fewn unrhyw gyfnod y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei ganiatáu am reswm da;
(ch)cael ei gyflwyno ynghyd â'r dderbynneb am y ffi a dalwyd a datganiad o'r seiliau dros yr esemptiad.
(3) Yn achos ffi o dan reoliad 5 mewn perthynas â chyfarpar a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1, rhaid cyflwyno'r cais ynghyd â'r dystysgrif esemptio y cyfeirir ati yn rheoliad 8(1)(d) ac, os cafodd y claf ei atgyfeirio gan feddyg at yr Awdurdod Iechyd neu'r ymddiriedolaeth NHS i gael ei drin, naill ai—
(a)tystysgrif gan y meddyg yn ardystio bod y driniaeth yn driniaeth ar gyfer anabledd wedi'i dderbyn; neu
(b)datganiad bod tystysgrif o'r fath wedi'i hildio i'r Awdurdod Iechyd neu'r ymddiriedolaeth NHS cyn i'r cyfarpar gael ei gyflenwi.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd o dan y Rheoliadau hyn gan berson y mae ganddo hawl i gael esemptiad.
12. Ni fydd unrhyw drefniadau a wneir yn rhinwedd adran 31(2)(c) o Ddeddf Iechyd 1999 (trefniadau rhwng cyrff yr NHS ac awdurdodau lleol) i awdurdod lleol arfer unrhyw swyddogaethau sy'n perthyn i Awdurdod Iechyd neu ymddiriedolaeth NHS neu mewn cysylltiad â hynny, yn effeithio ar unrhyw bwer neu ddyletswydd i gasglu ffioedd mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir wrth arfer y swyddogaethau hynny a bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai'r swyddogaethau wedi'u harfer gan yr Awdurdod Iechyd neu'r ymddiriedolaeth NHS y gwnaed y trefniadau gyda hwy.
13. Mae'r Rheoliadau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 2 drwy hyn yn cael eu diddymu mewn perthynas â Chymru i'r graddau a bennir yng ngolofn (3) o'r Atodlen honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2001
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: