Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1397 (Cy.92)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

29 Mawrth 2001

Yn dod i rym,

ac eithrio rheoliad 3

1 Ebrill 2001

rheoliad 3

10 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001, ac eithrio rheoliad 3, sy'n dod i rym ar 10 Ebrill 2001.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 1988(2)

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau

2.  Yn Rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau (dehongli) yn lle'r diffiniad o “capital limit” rhoddir y diffiniad canlynol yn y lle priodol—

“capital limit” means the amount prescribed for the purposes of section 134 (1) of the Social Security Contributions and Benefits Act 1992(3) as it applies to income support except, in the case of a claimant who lives permanently in a residential care or nursing home or in accommodation provided by a local authority under sections 21 to 24 and 26 of the National Assistance Act 1948(4) (provision of accommodation), where it means the amount prescribed for the purposes of regulation 20 of The National Assistance (Assessment of Resources) Regulations 1992(5)).

Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau

3.  Ym mharagraffau (c) a (g) o reoliad 4 o'r prif Reoliadau (disgrifiad o bersonau y mae ganddynt hawl i beidio â thalu ac i gael ad-daliad) yn lle “£70” rhoddir “£71”.

Diwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau

4.—(1Diwygir rheoliad 7 o'r prif Reoliadau yn unol â'r darpariaethau canlynol.

(2Yn lle paragraff (1)(b) rhowch—

(b)provide any declaration of entitlement required under regulation 3(3) or 4(3) or any declaration or evidence of entitlement required under regulation 5(3), 6(3) or 7(3) of the National Health Service (Charges for Drugs and Appliances) (Wales) Regulations 2001(6))

Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau

5.—(1Diwygir Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (addasu darpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(7) yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

(2Yn Rhan I, Tabl A, yn lle'r cofnod sy'n addasu rheoliad 53 rhowch—

  • regulation 53 As if in paragraph (3) the reference to regulation 60 were a reference to regulation 25.

  • As if in paragraph (1A) there for “£10,000” on each occasion it appears there were substituted “£11,500” and as if for “£16,000” there were substituted “£18,500”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Mawrth 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 (“y prif Reoliadau”) sy'n darparu ar gyfer peidio â chodi taliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ar gyfer talu treuliau teithio mewn achosion penodol.

Mae Rheoliad 2 yn mewnosod diffiniad newydd o “capital limit” yn rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau sydd, drwy gyfrwng eithriad, yn darparu ar gyfer terfyn cyfalaf gwahanol ar gyfer hawliwr sy'n preswylio'n barhaol mewn cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio neu mewn llety sy'n cael ei ddarparu gan awdurdod lleol o dan ddarpariaethau Deddf Cymorth Gwladol 1948.

Mae Rheoliad 3 yn darparu ar gyfer cynnydd yn y ffigur ar gyfer swm sy'n cael ei dynnu'n ôl, o £70 i £71, ar gyfer personau sy'n cael credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio neu gredyd treth i bobl anabl.

Mae Rheoliad 4 yn gosod paragraff (1)(b) newydd yn rheoliad 7 o'r prif Reoliadau.

Mae Rheoliad 5 yn diwygio Atodlen 1 drwy osod cofnod newydd ar gyfer rheoliad 53 yn y lle perthnasol yn Rhan I, Tabl A (addasu darpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987) sy'n golygu bod y ddau ffigur y cyfeirir atynt ym mharagraff (1A) o reoliad 53 yn codi o £10,000 i £11,500 ac o £16,000 i £18,500.

(1)

1977 p.49; mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) a'i diwygio gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymdeithasol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”) a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17).

Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990 a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 37(6).

Gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990, i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 83A a 126(4) eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.

(5)

O.S. 1999/2977; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1993/964.

(7)

O.S. 1987/1967; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1988/2022, 1995/462, 1997/65 a 2197 a 2000/2545.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources