- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Mehefin 2001.
2. Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Amrywiol bwyd 1995 (1) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â Rheoliadau 3 i 5 isod.
3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Directive 96/77/EC” ychwanegir y geiriau “and Commission Directive 2000/63/EC”(2) ar y diwedd.
4. Yn rheoliad 11 (darpariaeth drosiannol ac esemptiadau) mewnosodir ar ôl paragraff (1B) y paragraff canlynol—
“(1C) In any proceedings for an offence under these Regulations in respect of any food additive or food, it shall be a defence to prove
that—
the food additive or food concerned was put on the market or labelled before 1st June 2001; and
the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulations 3 and 5 of the Miscellaneous Food Additives (Amendment) (Wales) Regulations 2001 had not been made when that matter occurred.”.
5. Yn Atodlen 5 (meini prawf purdeb) hepgorir y cofnodion sy'n ymwneud â'r ychwanegion amrywiol a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
6.—(1) I'r graddau y mae unrhyw offeryn a restrir yn rheoliad 14(1) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999(3) yn gymwys i Gymru, bydd effaith y ddarpariaeth honno yn dod i ben mewn perthynas â'r offeryn hwnnw.
(2) Yn yr offerynnau canlynol, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dehonglir cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 fel petaent yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd (Diwygio) 1997(4)), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999 a'r Rheoliadau hyn:
Rheoliadau Hydrocarbonau Mwnol mewn Bwyd 1966(5))
Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976(6))
Rheoliadau Coco a Chynhyrchion Siocled 1976(7))
Rheoliadau Suddau Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau 1977 (8)
Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych 1977 (9))
Rheoliadau Jam a Chynnyrch Tebyg 1981(10))
Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984(11)d)
Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992(12))
Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (13)
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(14)).
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Mai 2001
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: