- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
1.—(1) (a) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) 2001 ac, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (b) — (ch), deuant i rym ar 1 Gorffennaf
(b)Daw rheoliad 5(1)(c) i rym ar y diwrnod y bydd Gorchymyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 4(4) o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Effaith adsefydlu)(1) sydd yn gymwys i aelod o'r Cyngor, neu ymgeisydd am aelodaeth o'r Cyngor, yn dod i rym(2).
(c)Bydd rheoliad 5(1)(ch)(i) yn dod i rym ar y cyntaf o'r diwrnodau canlynol:
(i)y diwrnod y bydd rheoliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 103(2)(b) o'r Ddeddf (Darpariaeth dros dro i gael gweld rhestrau) sy'n rhagnodi bod aelod o'r Cyngor, neu ymgeisydd am aelodaeth o'r Cyngor, yn unigolyn perthnasol at ddibenion adran 103(1) o'r Ddeddf yn dod i rym(3);
(ii)y diwrnod y bydd rheoliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 113(3B)(d) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (Tystysgrifau cofnodion troseddol)(4) sy'n rhagnodi bod aelod o'r Cyngor, neu ymgeisydd am aelodaeth o'r Cyngor, yn dod o fewn swydd at ddibenion adran 113(3A) o Ddeddf 1997 yn dod i rym(5).
(ch)Bydd rheoliad 5(1)(ch)(ii) yn dod i rym ar y cyntaf o'r diwrnodau canlynol:
(i)y diwrnod y bydd rheoliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 91(2)(c) o'r Ddeddf (Cael gweld rhestr cyn i adran 90 gychwyn) sy'n rhagnodi bod aelod o'r Cyngor, neu ymgeisydd am aelodaeth o'r Cyngor, yn unigolyn perthnasol at ddibenion adran 91 o'r Ddeddf yn dod i rym(6);
(ii)y diwrnod y bydd rheoliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 113(3D)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n rhagnodi bod aelod o'r Cyngor, neu ymgeisydd am aelodaeth o'r Cyngor, yn dod o fewn swydd at ddibenion adran 113(3C) o Ddeddf 1997 yn dod i rym(7)).
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
mae “aelod” (“member”), onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mewn perthynas â'r Cyngor yn cynnwys y Cadeirydd;
mae i “asiantaeth” yr un ystyr ag sydd i “agency” yn y Ddeddf;
ystyr “asiantaeth gwaith cymdeithasol” (“social work agency”) yw asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi sy'n golygu neu yn cynnwys cyflenwi, neu ddarparu gwasanaethau er mwyn cyflenwi, gweithwyr gofal cymdeithasol.
rhaid cymryd bod “cadeirydd” (“chair”) yn gyfeiriad at y swydd y cyfeirir ati yn y Ddeddf fel “chairman of the Council”;
mae i “canolfan ddydd” yr un ystyr ag sydd i “day centre” yn y Ddeddf;
ystyr “CCETSW” yw'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol y darperir ar ei gyfer yn adran 10 o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983(8);
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Gofal Cymru a sefydlwyd gan adran 54 o'r Ddeddf (Cynghorau Gofal);
ystyr “Cyngor Gogledd Iwerddon” (“Northern Irish Council”) yw corff a sefydlwyd o dan ddarpariaeth yng nghyfraith Gogledd Iwerddon sy'n cyflawni swyddogaethau tebyg i rai'r Cyngor;
ystyr “Cyngor Lloegr” (“English Council”) yw'r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol a sefydlwyd gan adran 54 o'r Ddeddf;
ystyr “Cyngor yr Alban” (“Scottish Council”) yw corff a sefydlwyd o dan ddarpariaeth yng nghyfraith yr Alban sy'n cyflawni swyddogaethau tebyg i rai'r Cyngor;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
mae i “gwaith cymdeithasol perthnasol” yr un ystyr ag sydd i “relevant social work” yn y Ddeddf;
ystyr “gweithiwr gofal cymdeithasol” (“social care worker”) yw unrhyw berson a ddisgrifir yn adran 55(2) o'r Ddeddf (Dehongli) ac unrhyw berson y mae'n rhaid ei drin fel gweithiwr gofal cymdeithasol os gwneir rheoliadau o dan adran 55(3) o'r Ddeddf gan y Cynulliad Cenedlaethol (ond os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud rheoliadau o dan adran 55(2) o'r Ddeddf yn eithrio personau o ddiffiniad y Ddeddf o weithiwr gofal cymdeithasol yna dehonglir y diffiniad o weithiwr gofal cymdeithasol yn y rheoliadau hyn yn unol â'r rheoliadau eithrio hynny);
mae i “sefydliad” yr un ystyr ag sydd i “establishment” yn y Ddeddf;
ystyr “unrhyw Gyngor” (“any Council”) yw unrhyw un o'r canlynol: y Cyngor, Cyngor Gogledd Iwerddon, Cyngor yr Alban neu Gyngor Lloegr.
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn; mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad; ac mae unrhyw gyfeiriad at is-baragraff â rhif mewn paragraff yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff.
2.—(1) Bydd y Cyngor yn cynnwys cadeirydd a dim mwy na phedwar ar hugain o aelodau eraill.
(2) Penodir yr holl aelodau gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Cyn penodi unrhyw aelod rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r personau hynny, os oes rhai, a wêl yn dda.
(4) (a) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol geisio sicrhau fod y mwyafrif o aelodau'r Cyngor ar bob adeg yn bersonau lleyg.
(b)Rhaid i'r cadeirydd fod yn berson lleyg.
(c)Mae'r cadeirydd yn aelod at ddibenion is-baragraff (a).
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (8) mae person yn berson lleyg os nad yw'n dod o fewn unrhyw un o'r categorïau a ddisgrifir ym mharagraff (6).
(6) Dyma'r categorïau:
(a)personau sy'n weithwyr gofal cymdeithasol;
(b)personau sy'n ymwneud â gwaith at ddibenion swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, neu â darparu gwasanaethau sy'n debyg i'r gwasanaethau y gall neu y mae'n rhaid i'r awdurdodau lleol eu darparu wrth arfer y swyddogaethau hynny;
(c)personau sy'n rheoli ymgymeriad, neu sy'n cael eu cyflogi mewn ymgymeriad (heblaw sefydliad neu asiantaeth) sy'n golygu neu yn cynnwys cyflenwi personau i ddarparu gofal personol;
(ch)personau a gyflogir mewn canolfan ddydd i ddarparu gofal nyrsio neu ofal personol;
(d)personau sy'n cymryd rhan mewn cwrs a gymeradwyir gan unrhyw Gyngor;
(dd)personau sy'n cymryd rhan mewn cwrs a gymeradwyir gan CCETSW;
(e)personau y mae eu henwau wedi'u cynnwys mewn cofrestr o bersonau y mae'n ofynnol i unrhyw Gyngor ei chadw;
(f)personau sy'n ymwneud â darparu cwrs hyfforddi mewn gwaith cymdeithasol perthnasol (a fydd yn cynnwys personau sy'n hwyluso hyfforddi personau sy'n cymryd rhan mewn cwrs o'r fath);
(ff)personau sy'n ymwneud â darparu cwrs hyfforddi ar gyfer personau sy'n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy'n dymuno bod yn weithwyr gofal cymdeithasol (a fydd yn cynnwys personau sy'n hwyluso hyfforddi personau sy'n cymryd rhan mewn cwrs o'r fath);
(g)personau sydd
(i)yn cael eu cyflogi gan gorff proffesiynol neu gorff arall y mae ei weithgareddau'n golygu neu yn cynnwys unrhyw un o'r canlynol neu yn dal swydd mewn corff felly: hybu buddiannau gweithwyr gofal cymdeithasol; cynrychioli buddiannau gweithwyr gofal cymdeithasol; neu hybu arferion da mewn gofal cymdeithasol; a
(ii)yn hybu neu (yn ôl fel y digwydd) cynrychioli'r buddiannau hynny yng nghwrs eu cyflogaeth neu eu swydd;
(h)personau sydd naill ai ar eu pen eu hunain neu gydag eraill yn cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol ac eithrio pan yw'r gyflogaeth yn rhan o drefniadau domestig i unrhyw berson sy'n cyflogi neu aelod o'i deulu;
(i)personau sy'n gwneud penderfyniadau cyflogi ynghylch gweithwyr gofal cymdeithasol dros eu cyflogwyr neu ar eu rhan;
(j)personau sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch gweithwyr gofal cymdeithasol, dros asiantaeth gwaith cymdeithasol neu ar ei rhan;
(l)personau sy'n cyflogi person a ddisgrifir yn (j);
(ll)personau sy'n gyfarwyddwyr cwmni sy'n asiantaeth gwaith cymdeithasol neu sy'n cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol fel rhan o'i weithgareddau busnes;
(m)(i)personau sydd â buddiant ariannol mewn cwmni sy'n asiantaeth gwaith cymdeithasol neu sy'n cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol fel rhan o'i weithgareddau busnes, onid yw paragraff (ii) o'r is- baragraff hwn yn gymwys;
(ii)mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r buddiant ariannol mor bellennig neu mor ddibwys na ellir yn rhesymol farnu ei fod yn debygol o fod ym meddwl y person hwnnw, os penodir ef, wrth ymgymryd ag unrhyw weithgaredd a all ddeillio o swydd aelod o'r Cyngor;
(o)personau sy'n aelodau o awdurdod lleol;
(p)personau sy'n aelodau o unrhyw gorff cyhoeddus, neu sy'n dal unrhyw swydd gyhoeddus, sy'n cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'i swyddogaethau; a
(ph)personau sy'n aelodau o bwyllgor (gan gynnwys is-bwyllgor) corff cyhoeddus o fath a grybwyllir ym mharagraff (p) os yw tasg y pwyllgor yn golygu neu yn cynnwys monitro neu oruchwylio gweithwyr gofal cymdeithasol neu'r gwasanaethau y maent yn eu darparu.
(7) Os gwneir rheoliadau gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 55(3) o'r Ddeddf a fydd yn darparu at ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf fod unrhyw berson sy'n dod o fewn unrhyw un o'r categorïau a ddisgrifir yn is-baragraffau (b)—(d) o baragraff (6) i gael ei drin fel gweithiwr gofal cymdeithasol yna at ddibenion y Rheoliadau hyn mae'r person hwnnw i'w drin fel un sy'n dod o fewn is-baragraff (a) o baragraff (6) ac nid unrhyw un o'r is-baragraffau sydd newydd eu crybwyll.
(8) (a) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried a ddylid penodi person yn aelod o'r Cyngor nad yw'n dod o fewn unrhyw un o'r categorïau a ddisgrifir ym mharagraff 6, ond a oedd yn flaenorol yn dod o'u mewn, rhaid iddo benderfynu, gan roi sylw i'r nod a ddisgrifir yn is-baragraff (b) isod, a yw'r person hwnnw i gael ei drin fel person lleyg neu beidio at ddibenion y rheoliadau hyn.
(b)Y nod yw na ddylai'r cyhoedd yng Nghymru gredu bod gan bersonau lleyg sy'n aelodau o'r Cyngor gysylltiad agos â'r cyrff yr effeithir ar eu gweithgareddau pan gaiff swyddogaethau'r Cyngor eu harfer o dan y Ddeddf.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 7 (terfynu deiliadaeth swydd), cyfnod swydd aelod fydd unrhyw gyfnod, nad yw'n hwy na phedair blynedd, y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei bennu wrth wneud y penodiad.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dymuno bod yn aelod o'r Cyngor ddarparu unrhyw wybodaeth y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ofyn amdani er mwyn asesu addasrwydd y person hwnnw i fod yn aelod o'r Cyngor.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff yr aelodau benodi un o'u mysg sy'n berson lleyg, ac sy'n fodlon cael ei benodi felly, heblaw'r cadeirydd, i fod yn ddirprwy gadeirydd am unrhyw gyfnod, nad yw'n hwy na gweddill ei gyfnod fel aelod, y gallant ei bennu wrth wneud y penodiad.
(2) (a) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), caiff unrhyw aelod a benodir yn y modd hwnnw ymddiswyddo ar unrhyw adeg o swydd dirprwy gadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r cadeirydd.
(b)Os yw'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (3) wedi codi, caiff yr aelod ymddiswyddo drwy roi o leiaf ddau fis o hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol, onid oes amgylchiadau eithriadol yn bod sy'n cyfiawnhau unrhyw gyfnod byrrach o hysbysiad y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei ganiatáu.
(3) Os yw'r cadeirydd wedi peidio â dal swydd, neu os nad yw'n gallu cyflawni ei ddyletswyddau fel cadeirydd oherwydd salwch neu unrhyw achos arall, rhaid cymryd bod y cyfeiriadau at y cadeirydd yn yr Atodlen i'r rheoliadau hyn, cyhyd ag nad oes cadeirydd ar gael i gyflawni ei ddyletswyddau ac nad yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn cynnwys cyfeiriadau at y dirprwy gadeirydd.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 6 (anghymhwyster yn dod i ben) bydd person yn anghymhwys i'w benodi'n aelod—
(a)os yw wedi'i gollfarnu o dramgwydd a eithrir rhag adsefydlu o dan adran 5 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Cyfnodau adsefydlu ar gyfer dedfrydau penodol)(9);
(b)os yw'n berson y mae cyfnod adsefydlu o dan adran 5 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn codi o'i garchariad heb ddirwyn i ben mewn perthynas ag ef;
(c)os yw wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd a restrir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933(10) (gan gynnwys tramgwyddau a restrir yn Atodlen 1 yn rhinwedd diwygiadau a wneir iddi ar ôl gwneud y rheoliadau hyn);
(ch)os yw wedi'i gynnwys (heblaw dros dro) mewn unrhyw un o'r rhestrau canlynol:
(i)y rhestr a gedwir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (Dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol i gadw rhestr)(11); neu
(ii)y rhestr a gedwir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 81 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (Dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol i gadw rhestr);
(d)os oes cofnod a wnaed mewn perthynas ag ef mewn unrhyw ran o unrhyw gofrestr y mae'n ofynnol ei chadw gan y Cyngor neu gan Gyngor Lloegr o dan adran 56 o'r Ddeddf (y Gofrestr) wedi'i dynnu neu wedi'i atal am reswm neu resymau a oedd yn cynnwys dyfarniad ei fod wedi methu â pharchu'r safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol a nodwyd mewn cod ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 62 o'r Ddeddf (Codau ymarfer) gan y Cyngor neu (yn ôl fel y digwydd) gan Gyngor Lloegr;
(dd)os oes cofnod a wnaed mewn perthynas ag ef mewn unrhyw ran o unrhyw gofrestr y mae'n ofynnol ei chadw gan Gyngor Gogledd Iwerddon neu Gyngor yr Alban wedi'i dynnu neu wedi'i atal am reswm neu resymau a oedd yn cynnwys dyfarniad o fath tebyg i'r hyn a ddisgrifir ym mharagraff (ch) mewn perthynas â thynnu cofnodion o gofrestrau a gedwir gan y Cyngor neu gan Gyngor Lloegr;
(e)os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr;
(f)os yw'n gyflogai i unrhyw Gyngor;
(ff)os yw'n aelod o unrhyw Gyngor heblaw y Cyngor; neu
(g)os yw o fewn y pedair blynedd blaenorol wedi dal swydd fel aelod o'r Cyngor o dan gyfnod swydd a oedd yn rhedeg yn union ar ôl cyfnod swydd arall fel aelod o'r Cyngor.
(2) At ddibenion paragraff 1(d) bernir bod cofnod person wedi'i dynnu neu wedi'i atal o gofrestr ar y dyddiad pan fydd y cyfnod cyffredinol a ganiateir ar gyfer apelio at y Tribiwnlys a grybwyllir yn adran 68 o'r Ddeddf (Apelau i'r Tribiwnlys) yn erbyn y tynnu neu'r atal wedi dirwyn i ben neu, os oes apêl o'r fath wedi'i gwneud, y dyddiad pan yw'r apêl neu'r cais wedi'u cwblhau'n derfynol neu eu bod, ym marn resymol y Cynulliad Cenedlaethol, wedi'u gollwng.
(3) At ddibenion paragraff 1(dd) bernir bod cofnod person wedi'i dynnu neu wedi'i atal o gofrestr ar y dyddiad y mae cyfraith Gogledd Iwerddon neu (yn ôl fel y digwydd) gyfraith yr Alban yn darparu bod y cyfnod cyffredinol a ganiateir ar gyfer apelio yn erbyn y tynnu neu'r atal at dribiwnlys annibynnol neu at lys wedi dirwyn i ben neu, os oes apêl o'r fath wedi'i gwneud, y dyddiad pan yw'r apêl wedi'i chwblhau'n derfynol neu ei bod, ym marn resymol y Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i gollwng.
(4) Rhaid peidio â chymryd y rheoliad hwn fel pe bai'n rhagfarnu hyd a lled unrhyw ffactor, neu'r math o ffactorau, y caiff y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i ystyriaeth wrth ystyried a ddylid penodi person nad yw wedi'i anghymhwyso yn rhinwedd y rheoliad hwn yn aelod o'r Cyngor.
6.—(1) Os yw person wedi'i anghymhwyso o dan reoliad 5(1)(d) neu (dd) oherwydd tynnu cofnod o gofrestr a ddisgrifir yno bydd yr anghymhwysiad yn peidio os caiff cofnod ei wneud mewn perthynas â'r person yn y gofrestr y tynnwyd y cofnod ohoni.
(2) Os yw person wedi'i anghymhwyso o dan reoliad 5(1)(e) oherwydd ei fod wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr—
(a)os caiff y methdaliad ei ddiddymu ar y sail na ddylai fod wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod ei ddyledion wedi'u had-dalu'n llawn, bydd yr anghymhwysiad yn peidio â bod ar ddyddiad y diddymu; neu
(b)os caiff ei ryddhau, bydd yr anghymhwysiad yn peidio â bod ar ddyddiad ei ryddhau.
(3) Os yw person wedi'i anghymhwyso o dan reoliad 5(1)(e) oherwydd iddo wneud cyfansoddiad neu drefniant â'i gredydwyr—
(a)os bydd yn talu ei ddyledion yn llawn, bydd yr anghymhwysiad hwnnw'n peidio â bod ar y dyddiad y mae'r taliad hwnnw'n gyflawn; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, bydd yr anghymhwysiad hwnnw'n peidio â bod pan ddaw cyfnod o bum mlynedd i ben sy'n dechrau ar y dyddiad pan gyflawnir telerau'r weithred gyfansoddi neu'r trefniant.
(4) Ni fydd y rheoliad hwn yn cael unrhyw effaith pan derfynir unrhyw ddeiliadaeth swydd o dan reoliad 7.
7.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4(2) caiff aelod ymddiswyddo o'i swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Pan benodir aelod yn gadeirydd yn ystod cyfnod ei swydd, daw deiliadaeth ei swydd fel aelod o'r fath i ben pan fydd ei benodiad yn gadeirydd yn dod yn effeithiol.
(3) Os bydd aelod yn methu â bod yn bresennol mewn dau gyfarfod o'r Cyngor o'r bron rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol derfynu deiliadaeth swydd yr aelod hwnnw yn ddiymdroi drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo i'r perwyl hwnnw, onid yw wedi'i fodloni—
(a)bod yr absenoldeb wedi digwydd oherwydd achos rhesymol; a
(b)y bydd y person o dan sylw yn gallu mynychu cyfarfodydd y Cyngor o fewn cyfnod rhesymol.
(4) Os yw person wedi'i benodi'n aelod, ac—
(a)y caiff ei anghymhwyso rhag ei benodi o dan reoliad 5; neu
(b)y daw i sylw'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod wedi'i anghymhwyso felly adeg ei benodi ,
rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol derfynu deiliadaeth swydd yr aelod hwnnw yn ddiymdroi drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo i'r perwyl hwnnw.
(5) (a) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn resymol nad yw er lles y Cyngor bod aelod yn parhau i ddal swydd, caiff derfynu deiliadaeth swydd yr aelod hwnnw yn ddiymdroi drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo i'r perwyl hwnnw.
(b)Rhaid i unrhyw hysbysiad o dan is-baragraff (a) uchod ddatgan y rheswm neu'r rhesymau dros ei roi.
(6) Os yw'r Cynulliad o'r farn bod aelod:
(a)wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan reoliad 10 (anabledd aelodau mewn trafodion oherwydd eu buddiannau) mewn perthynas ag un o fuddiannau'r aelod hwnnw;
(b)wedi methu â chydymffurfio, mewn ystyr berthnasol, ag unrhyw ofyniad a osodir gan y Cynulliad o dan reoliad 3(4); neu
(c)yn berson lleyg pan benodwyd ef ond nad yw'n berson lleyg mwyach;
caiff derfynu deiliadaeth swydd yr aelod hwnnw yn ddiymdroi drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo i'r perwyl hwnnw, ac eithrio na chaiff deiliadaeth swydd unrhyw berson ei therfynu o dan is-baragraff (a) onid oedd canllawiau wedi'u rhoi gan y Cynulliad i'r Cyngor adeg y methiant o dan sylw ynghylch buddiannau perthnasol o dan reoliad 10.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu rhoi, fe gaiff y Cyngor, ac os cyfarwyddir ef i'r perwyl hwnnw gan y Cynulliad rhaid iddo, benodi pwyllgorau o'r Cyngor.
(2) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu rhoi, gall pwyllgor o'r Cyngor gynnwys aelodau o'r Cyngor yn gyfan gwbl neu'n rhannol neu gynnwys yn gyfan gwbl bersonau nad ydynt yn aelodau o'r Cyngor.
(3) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau y gall y Cynulliad eu rhoi, fe gaiff pwyllgor o'r Cyngor, ac os cyfarwyddir ef i'r perwyl hwnnw gan y Cynulliad rhaid iddo, benodi is-bwyllgorau.
(4) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau y gall y Cynulliad eu rhoi, gall is-bwyllgor gynnwys aelodau o'r pwyllgor yn gyfan gwbl neu'n rhannol (p'un a ydynt yn aelodau o'r Cyngor neu beidio) neu gynnwys yn gyfan gwbl bersonau nad ydynt yn aelodau o'r Cyngor na'r pwyllgor.
(5) Mae rheoliad 5 (anghymhwyso rhag penodi), heblaw paragraff 1(f), a rheoliad 6 (anghymhwyster yn dod i ben) yn gymwys i benodi aelodau o bwyllgorau ac is-bwyllgorau (“aelodau pwyllgor”) fel y maent yn gymwys i benodi aelodau o'r Cyngor.
(6) (a) Yn ddarostyngedig i'r eithriadau rhag cymhwyso a ddisgrifir yn is-baragraff (b) a'r addasiadau a ddisgrifir yn is-baragraff (c), bydd rheoliad 7 (terfynu deiliadaeth swydd) yn gymwys i aelodau pwyllgor fel y mae'n gymwys i aelodau'r Cyngor.
(b)Dyma'r eithriadau—
(i)yn achos pob aelod pwyllgor paragraff (2) o reoliad 7; a
(ii)yn achos aelodau pwyllgor sy'n aelodau o'r Cyngor paragraffau (1), (4), (5) a pharagraffau (b) ac (c) o paragraffau (6) o reoliad 7.
(c)Dyma'r addasiadau—
(i)yn achos aelod pwyllgor nad yw'n aelod o'r Cyngor ym mharagraffau (1) a (3)—(6) ymhob man lle mae “Cynulliad Cenedlaethol” yn digwydd, rhaid ei hepgor a rhoi “Cyngor” yn ei le; a
(ii)ym mharagraff (3) rhaid hepgor “gyfarfod o'r Cyngor” a “cyfarfodydd y Cyngor” a rhoi “gyfarfod pwyllgor y mae'n aelod ohono” a “cyfarfodydd pwyllgor y mae'n aelod ohono” yn eu lle.
(ch)Bydd terfynu aelodaeth aelod o'r Cyngor o bwyllgor neu is-bwyllgor gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y rheoliad hwn hefyd yn gweithredu fel terfynu deiliadaeth swydd yr aelod hwnnw fel aelod o'r Cyngor.
9.—(1) Rhaid i gyfarfodydd a thrafodion y Cyngor gael eu cynnal yn unol â'r rheolau a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ac â'r Rheolau Sefydlog a wneir o dan baragraff (2).
(2) Yn ddarostyngedig i'r rheolau hynny, i reoliad 10 (anabledd aelodau mewn trafodion oherwydd eu buddiannau) ac i unrhyw gyfarwyddiadau y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu rhoi, rhaid i'r Cyngor wneud Rheolau Sefydlog, a gall eu hamrywio neu eu diddymu, ar gyfer rheoli ei drafodion a'i fusnes (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer atal unrhyw un neu'r cyfan o'r Rheolau Sefydlog).
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 8 (penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau) a 10 ac unrhyw gyfarwyddiadau y gall y Cynulliad eu rhoi, caiff y Cyngor wneud Rheolau Sefydlog, a chaiff eu hamrywio neu eu diddymu, i reoli cworwm, trafodion a busnes unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor (“pwyllgorau”) (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer atal y cyfan neu rai o'r Rheolau Sefydlog) ond, yn ddarostyngedig i unrhyw Reolau Sefydlog o'r fath, bydd y cworwm, y trafodion a busnes y pwyllgorau yn gyfryw ag y bydd pob un o'r pwyllgorau yn penderfynu arnynt.
(4) Ni fydd trafodion y Cyngor na thrafodion unrhyw un o'i bwyllgorau neu ei is-bwyllgorau yn annilys oherwydd unrhyw le gwag yn yr aelodaeth neu oherwydd unrhyw ddiffyg wrth benodi naill ai aelod o'r Cyngor neu aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor.
10.—(1) (a) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, os oes gan aelod fuddiant perthnasol mewn unrhyw fater a'i fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o'r Cyngor lle mae'r mater yn destun ystyriaeth neu drafodaeth, rhaid iddo yn y cyfarfod a hynny cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl iddo ddechrau, ddatgelu ei fuddiant a rhaid iddo beidio â chymryd rhan wrth ystyried y mater na phleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn perthynas ag ef.
(b)Yn y rheoliad hwn, ystyr “buddiant perthnasol mewn unrhyw fater” yw buddiant mewn mater a fyddai'n arwain sylwedydd â meddwl teg i benderfynu bod gwir bosibilrwydd y byddai aelod yn bleidiol yn ei drafodaeth neu yn ei ystyriaeth ar y mater.
(2) (a) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, i'r graddau y gwêl yn dda ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a wêl yn dda, dynnu unrhyw anabledd a osodir gan y rheoliad hwn neu odano mewn unrhyw achos lle mae'n ymddangos iddo ei bod er lles y Cyngor i'r anabledd gael ei dynnu.
(b)Rhaid i'r tynnu gael ei wneud yn ysgrifenedig a gall y tynnu ymwneud ag amgylchiadau cyffredinol neu benodol.
(3) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgor neu is-bwyllgor o'r Cyngor fel y mae'n gymwys i'r Cyngor ei hun ac mae'n gymwys i aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath (p'un a yw hefyd yn aelod o'r Cyngor neu beidio) fel y mae'n gymwys i aelod o'r Cyngor.
(4) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu rhoi, gall y Rheolau Sefydlog y caiff y Cyngor eu gwneud o dan reoliad 9(2) a (3) (cyfarfodydd a thrafodion) wneud darpariaeth ar gyfer atal aelod o gyfarfod o'r Cyngor neu bwyllgor neu is-bwyllgor o'r Cyngor tra bydd unrhyw fater y mae ganddo fuddiant perthnasol ynddo o dan ystyriaeth.
(5) Rhaid peidio â thrin unrhyw dâl, iawndal neu lwfansau sy'n daladwy i aelod, neu i aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor nad yw'n aelod o'r Cyngor, yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 1 i'r Ddeddf (tâl a lwfansau) fel buddiant perthnasol at ddibenion y rheoliad hwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (12).
D.Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Mehefin 2001
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: