- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Wedi'i wneud
12 Mehefin 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 8(2) a (3)(c) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000(1) :
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2. 1 Hydref 2001 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dyfodiad i rym adrannau 1 i 3, 4 (ac eithrio i'r graddau y mae is-adran (2) o adran 24C o Ddeddf Plant 1989 yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol), 5 a 7(1) i (4) o'r Ddeddf.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mehefin 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol yn Neddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (“y Ddeddf”) i rym ar 1 Hydref 2001.
Mae'n dwyn i rym adrannau 1 i 5 o'r Ddeddf sy'n mewnosod darpariaethau yn Neddf Plant 1989 sy'n darparu ar gyfer pwerau a dyletswyddau newydd i awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r darpariaethau yn ymwneud â chategorïau penodol o bobl ifanc a phlant 16 oed a throsodd sy'n derbyn gofal neu sydd wedi derbyn gofal gan yr awdurdodau hynny. Mae'r darpariaethau yn ymdrin ag asesu anghenion, paratoi cynlluniau a'u hadolygu, cadw cysylltiad a rhoi cymorth a chyngor i blant a phobl ifanc o'r fath ac ynghylch ystyried eu sylwadau (gan gynnwys eu cwynion). Maent hefyd yn gosod dyletswyddau ar gyrff eraill i hysbysu awdurdodau lleol pan fydd plant penodol wedi peidio â chael llety ganddynt. Mae cychwyn rhannau o adran 7 yn ymwneud â diwygiadau technegol i Ddeddf 1989.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: