Search Legislation

Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN ITEITL, CYCHWYN, DEHONGLI A DIDDYMU

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Awst 2001.

Dehongli a diddymu

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • mae i “archwilio” yr un ystyr ag “examination” yn adran 28(2) o'r Ddeddf Diogelwch Bwyd(1);

  • ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw—

    (a)

    y Comisiynwyr neu'r Bwrdd Safonau Gwin;

    (b)

    y Cynulliad Cenedlaethol;

    (c)

    mewn perthynas ag ardal awdurdod lleol, yr awdurdod lleol;

  • ystyr “awdurdod gorfodi priodol” (“appropriate enforcement authority”), mewn perthynas ag unrhyw ran o Gymru, yw awdurdod gorfodi mewn perthynas â'r rhan honno;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;

  • ystyr “y Bwrdd Safonau Gwin” (“the Wine Standards Board”) yw Bwrdd Safonau Gwin Cwmni'r Gwinyddion;

  • ystyr “y Comisiynwyr” (“the Commissioners” ) yw Comisiynwyr y Tollau Tramor a Chartref;

  • ystyr “cynnyrch sector gwin a reolir” (“controlled wine-sector product”) yw unrhyw gynnyrch o'r sector gwin y gwaharddwyd ei symud am y tro yn unol â rheoliad 8;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • mae i “Cytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“the European Economic Area Agreement”) yr un ystyr ag sydd i “the Agreement” yn adran 6(1) o Ddeddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993(2);

  • mae “dadansoddi” (“analysis”) yn cynnwys profion microbiolegol ac unrhyw dechneg ar gyfer darganfod cyfansoddiad bwyd;

  • ystyr “dadansoddydd bwyd” (“food analyst”) ac “archwilydd bwyd” (“food examiner”), mewn perthynas â Chymru, yw person sy'n ddadansoddydd bwyd ac yn archwilydd bwyd, yn ôl fel y digwydd, at ddibenion adran 30 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “darpariaeth Gymunedol” (“Community provision”) yw unrhyw un o ddarpariaethau unrhyw un o Reoliadau, Penderfyniadau neu Ddeddfau'r Cymunedau Ewropeaidd y cyfeirir ati yn Atodlen 1, neu o'r Cytuniadau sy'n ymwneud â derbyn i'r Cymunedau Ewropeaidd, yn eu tro, Weriniaeth Groeg a lofnodwyd yn Athen ar 28 Mai 1979(3), Teyrnas Sbaen a Gweriniaeth Portiwgal a lofnodwyd, yn eu tro, ym Madrid a Lisbon ar 12 Mehefin 1985(4), a Theyrnas Sweden, Gweriniaeth Awstria a Gweriniaeth y Ffindir a lofnodwyd yn eu tro yn Stockholm, Vienna a Helsinki ar 24 Mehefin 1994(5)), ac os oes unrhyw ddarpariaeth o'r fath wedi'i haddasu gan Gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, mae'n cynnwys yr addasiad iddi a weithredwyd drwy hynny;

  • ystyr “darpariaeth Gymunedol berthnasol” (“relevant Community provision”) yw unrhyw ddarpariaeth Gymunedol y cyfeirir ati yng ngholofn 1 neu golofn 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, y disgrifir ei phwnc yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno;

  • ystyr “gweithgynhyrchu” (“manufacturing”) yw defnyddio gwin neu gynhyrchion eraill y sector gwin at ddibenion masnach neu fusnes (heblaw busnes arlwyo), i gyfansoddi, gweithgynhyrchu neu baratoi unrhyw gynnyrch;

  • mae i “gwinoedd o safon psr” yr ystyr a roddir i “quality wines psr” gan Erthygl 54 o Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin(6);

  • ystyr “manwerthu” (“retail sale”) yw unrhyw werthu i berson sy'n prynu heblaw er mwyn ailwerthu ond nid yw'n cynnwys gwerthu i arlwywr yng nghwrs ei fusnes arlwyo nac i weithgynhyrchydd yng nghwrs ei fusnes gweithgynhyrchu;

  • ystyr “rhanbarthau penodedig” (“specified regions”) yw'r rhanbarthau a ddiffinnir yn rheoliad 13;

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw urhyw berson (p'un a yw'n swyddog i'r awdurdod hwnnw neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi at ddibenion y Rheoliadau hyn gan awdurdod gorfodi priodol neu mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth benodol yn y Rheoliadau hyn, unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan awdurdod gorfodi priodol at ddibenion y ddarpariaeth honno;

  • ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth nad yw'n ffurfio rhan o'r Deyrnas Unigol.

(2I'r graddau y mae'r cyd-destun yn caniatáu hynny, mae i'r ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyron ag yn Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ac, mewn perthynas â gwinoedd wedi'u persawru, yn Rheoliad y Cyngor (EEC) 1601/91, fel y'i diwygiwyd, sy'n nodi rheolau cyffredinol ar ddisgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd sydd wedi'u seilio ar winoedd wedi'u persawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru(7).

(3Yn y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at reoliad neu Atodlen â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

(4Mae Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1996(8), Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Diwygio) 1997(9)), Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Diwygio) 1998(10), a Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Diwygio) 1999(11)) drwy hyn yn cael eu diddymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

(5Wrth gymhwyso Rhan III o'r Rheoliadau hyn, rhaid darllen Atodlen 3 (i'r graddau y mae'n ymwneud ag amrywogaethau o winwydd ar gyfer darparu gwinoedd o safon psr), ac Atodlenni 4 a 5, y Rhan honno a'r Atodlenni hynny mewn perthynas ag unrhyw win a gynhyrchwyd—

(a)o rawnwin a gynaeafwyd cyn 1 Medi 1993, fel pe bai eu cynnwys yr un fath yn union â'r Rhan gyfatebol o Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1993(12) a'r Atodlenni cyfatebol iddynt;

(b)o rawnwin a gynaeafwyd ar neu ar ôl 1 Medi 1993 a chyn 1 Medi 1994, fel pe bai eu cynnwys yr un fath yn union â'r Rhan gyfatebol o Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1994(13) a'r Atodlenni cyfatebol iddynt;

(c)o rawnwin a gynaeafwyd ar neu ar ôl 1 Medi 1994 a chyn 1 Medi 1995, fel pe bai eu cynnwys yr un fath yn union â'r Rhan gyfatebol o Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1995(14) a'r Atodlenni cyfatebol iddynt;

(ch)o rawnwin a gynaeafwyd ar neu ar ôl 1 Medi 1995 a chyn 1 Medi 1999, fel pe bai eu cynnwys yr un fath yn union â'r Rhan gyfatebol o Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1996 a'r Atodlenni cyfatebol iddynt.

RHAN IIDARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Swyddogaethau swyddogol a gorfodi

3.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, mae'r awdurdodau lleol, y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr a'r Bwrdd Safonau Gwin drwy hyn yn cael eu dynodi fel yr awdurdodau sy'n gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â'r darpariaethau Cymunedol.

(2Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau bod y darpariaethau Cymunedol perthnasol yn cael eu gorfodi a'u gweithredu i'r graddau y maent yn ymwneud â manwerthu cynhyrchion yn ei ardal.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr a'r Bwrdd Safonau Gwin sicrhau bod y darpariaethau Cymunedol perthnasol yn cael eu gorfodi a'u gweithredu i'r graddau y maent yn ymwneud â mewnforio unrhyw un o gynhyrchion y sector gwin i Gymru o drydedd wlad neu ei allforio o Gymru i drydedd wlad.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Bwrdd Safonau Gwin sicrhau bod y darpariaethau Cymunedol perthnasol yn cael eu gorfodi a'u gweithredu i'r graddau y maent yn ymwneud ag unrhyw fater sydd heb ei grybwyll ym mharagraffau (2) neu (3) uchod.

(5Rhaid peidio â chymryd dim yn y rheoliad hwn fel pe bai'n awdurdodi'r Bwrdd Safonau Gwin neu'r Comisiynwyr i ddwyn achos ynglŷn â thramgwydd.

Diffinio “medium dry”

4.  At ddibenion Erthygl 14(7)(b) o Reoliad y Comisiwn (EEC) 3201/90, fel y'i diwygiwyd, sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer disgrifio a chyflwyno gwinoedd a mystau grawnwin(15), gall gwin gael ei labelu a'i ddisgrifio fel “medium dry ” os oes iddo gynnwys siwgr gweddilliol nad yw'n fwy na 18 gram am bob litr pan nad yw cyfanswm cynnwys asidedd y gwin hwnnw, o'i fynegi fel gramau o asid tartarig am bob litr, yn fwy na 10 gram am bob litr islaw ei gynnwys siwgr gweddilliol.

Amrywogaethau o winwydd

5.  At ddibenion Erthygl 19(1) a (2) o Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ac Erthygl 20 o Reoliad y Comisiwn (EC) 1227/2000 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, o ran y potensial ar gyfer cynhyrchu(16), yr amrywogaethau o winwydd sydd wedi'u dosbarthu ar gyfer cynhyrchu gwin yng Nghymru yw'r rhai a bennir yn Atodlen 3, ac ymhlith y rheiny mae'r rhai na chaniateir mohonynt ar gyfer cynhyrchu gwin o safon psr yn y rhanbarthau penodedig wedi'u dynodi â seren.

Mynegiadau daearyddol ar gyfer gwin i'r bwrdd

6.—(1Yn unol ag Erthygl 51(3) o Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999, mae defnyddio mynegiad daearyddol i ddynodi gwin i'r bwrdd sydd wedi'i gynhyrchu mewn unrhyw ran o Gymru wedi'i wahardd oni bai bod y gwin bwrdd hwnnw wedi'i gynhyrchu—

(a)yn gyfan gwbl o un neu ragor o'r amrywogaethau o winwydd a bennir yn Atodlen 3, a

(b)o rawnwin sydd wedi'u cynaeafu yn yr uned ddaearyddol y defnyddir ei henw i ddynodi'r gwin bwrdd hwnnw yn unig.

(2Er gwaethaf paragraff (1)(b) uchod, gall mynegiad daearyddol gael ei ddefnyddio i ddynodi gwin bwrdd a geir drwy gyfuno gwinoedd fel y'i caniateir gan Erthygl 51(2) o Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 a enwyd.

(3Ym mharagraff (1)(b) uchod ystyr “uned ddaearyddol” yw ardal y mae ei ffiniau wedi'u nodi'n fanwl gywir sydd—

(a)yn rhan o Gymru; a

(b)yn dod o fewn y diffiniad o “geographical unit which is smaller than the Member State” yn Erthygl 51(1) o Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 a enwyd.

(4Yn ddarostyngedig i Bwynt A, paragraff 2 o Atodiad VII i Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999, rhaid peidio â defnyddio unrhyw fynegiad daearyddol heblaw enw uned ddaearyddol fel y'i pennir yn y rheoliad hwn wrth labelu neu wrth hysbysebu gwin i'r bwrdd a gynhyrchir mewn unrhyw ran o Gymru.

Pwerau swyddogion awdurdodedig

7.—(1Ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, caiff swyddog awdurdodedig fynd ar unrhyw adeg resymol i unrhyw dir neu gerbyd (heblaw unrhyw dir neu gerbyd sy'n cael eu defnyddio yn annedd yn unig), er mwyn darganfod a oes unrhyw dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael neu wedi cael ei gyflawni neu a oes unrhyw dramgwydd o dan Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1993, 1994, 1995 neu 1996 wedi'i gyflawni.

(2Caiff swyddog awdurdodedig sydd wedi mynd i unrhyw dir neu gerbyd yn unol â pharagraff (1) uchod, at y diben a bennir yn y paragraff hwnnw neu er mwyn sicrhau tystiolaeth o unrhyw dramgwydd o'r fath y mae ganddo reswm dros gredu ei fod yn cael ei gyflawni, y gall fod yn cael ei gyflawni, neu ei fod wedi'i gyflawni neu y gall fod wedi'i gyflawni—

(a)archwilio unrhyw ddeunyddiau neu eitemau y deuir o hyd iddynt yn y tir neu'r cerbyd hwnnw neu arnynt;

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (5) isod, archwilio unrhyw gofrestr, cofnod neu ddogfen briodol—

(i)y mae'n ofynnol i unrhyw berson eu cadw o dan unrhyw ddarpariaeth Gymunedol berthnasol, neu

(ii)sydd ym meddiant neu o dan reolaeth unrhyw berson,

a chaiff gymryd copïau o unrhyw gofrestr, cofnod neu ddogfen o'r fath, neu o unrhyw eitem mewn unrhyw gofrestr, cofnod neu ddogfen o'r fath ac os oes unrhyw gofrestr, cofnod neu ddogfen o'r fath yn cael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r gofrestr honno, y cofnod hwnnw neu'r ddogfen honno, a'u harchwilio ac edrych i weld sut y maent yn gweithio, a'i gwneud yn ofynnol i gofrestr, cofnod, dogfen neu eitem o'r fath gael eu cyflwyno mewn ffurf a all gael ei chymryd i ffwrdd;

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (5) isod, cipio a chadw unrhyw gofrestr, cofnod, dogfen neu eitem o'r fath y mae ganddo reswm dros gredu y gall fod eu hangen fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn;

(ch)llunio rhestr o gynhyrchion ac o unrhyw beth a all gael ei ddefnyddio i baratoi cynhyrchion; a

(d)prynu unrhyw gynnyrch ac unrhyw beth a all gael eu defnyddio i baratoi unrhyw gynnyrch neu gymryd samplau ohonynt.

(3Caiff swyddog awdurdodedig sydd wedi sicrhau sampl o unrhyw gynnyrch ddadansoddi neu archwilio'r sampl honno neu drefnu ei dadansoddi neu ei harchwilio.

(4Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i unrhyw dir neu gerbyd yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd ag unrhyw bersonau eraill gydag ef y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol.

(5Ni fydd gan swyddog awdurdodedig hawl o dan baragraff (2)(b) neu (c) uchod i archwilio, copïo, cipio neu gadw unrhyw gofnod neu ddogfen i'r graddau y mae'r cofnod neu'r ddogfen—

(a)yn eitem sy'n destun braint gyfreithiol o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (17),

(b)yn ddeunydd eithriedig o fewn ystyr adran 11 o'r Ddeddf honno, neu

(c)yn ddeunydd gweithdrefn arbennig o fewn ystyr adran 14 o'r Ddeddf honno.

Rheoli symud

8.—(1Pan fydd swyddog awdurdodedig yn archwilio unrhyw gynnyrch sector gwin, caiff wahardd ei symud os oes ganddo reswm dros gredu bod tramgwydd wedi'i gyflawni, wrthi'n cael ei gyflawni neu'n debyg o gael ei gyflawni mewn perthynas ag ef drwy dorri unrhyw ddarpariaeth Gymunedol berthnasol y cyfeirir ati yng ngholofnau 1 neu 2 o Ran I, II, III, V neu IX o Atodlen 2, neu drwy fethu â chydymffurfio â hi, a bod yna risg neu ei bod yn debyg y bydd yna risg i iechyd y cyhoedd mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw neu fod y cynnyrch hwnnw wedi'i drin yn dwyllodrus neu'n debyg o gael ei drin yn dwyllodrus.

(2Rhaid i swyddog sy'n arfer y pŵ er a roddir gan baragraff (1) uchod, heb oedi, roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal y cynnyrch sector gwin o dan sylw—

(a)yn pennu'r cynnyrch sector gwin y mae'r pŵ er wedi'i arfer mewn perthynas ag ef;

(b)yn datgan na ellir symud y cynnyrch sector gwin heb gydsyniad ysgrifenedig swyddog awdurdodedig;

(c)yn pennu'r ddarpariaeth Gymunedol y mae ganddo reswm dros gredu bod tramgwydd wedi'i gyflawni, wrthi'n cael ei gyflawni neu'n debyg o gael ei gyflawni mewn perthynas â hi; ac

(ch)yn pennu a yw o'r farn y byddai'n ymarferol cymryd camau i'w berswadio nad oes ganddo reswm dros y gred honno mwyach ac, os felly, beth ddylai'r camau hynny fod.

(3Pan fydd hysbysiad a ddisgrifir ym mharagraff (2) uchod yn cael ei roi gan swyddog awdurdodedig o'r Bwrdd Safonau Gwin, rhaid i'r hysbysiad hwnnw gynnwys gwybodaeth hefyd am hawl y derbynnydd, a roddir gan reoliad 10, i gael adolygu rhoi'r hysbysiad hwnnw, ac ynghylch sut y gellir arfer yr hawl honno, ac effaith arfer yr hawl honno.

(4Os nad yw'n ymddangos i'r swyddog mai'r person y mae'n rhoi'r hysbysiad iddo yw perchennog y cynnyrch sector gwin o dan sylw nac ychwaith ei fod yn asiant, yn gontractiwr neu'n gyflogai i'r perchennog, rhaid i'r swyddog wneud ei orau glas i dynnu sylw person o'r fath at gynnwys yr hysbysiad hefyd cyn gynted â phosibl.

(5Caiff swyddog awdurdodedig osod labeli sy'n rhybuddio bod y pŵ er wedi'i arfer ar unrhyw gynnyrch sector gwin y mae'r pŵ er a roddir gan baragraff(1) uchod wedi'i arfer mewn perthynas ag ef, neu ar unrhyw gynhwysydd y mae'r cynnyrch sector gwin wedi'i bacio ynddo.

(6Rhaid i swyddog awdurdodedig sydd wedi'i fodloni bod y camau a bennir yn yr hysbysiad o dan baragraff 2(ch) uchod wedi'u cymryd ddileu'r gwaharddiad ar symud a roddwyd yn unol â pharagraff (1) uchod ar unwaith.

Cydsyniad ar gyfer symud

9.—(1Caiff swyddog awdurdodedig roi cydsyniad ysgrifenedig, ar unrhyw adeg, i symud cynnyrch sector gwin a reolir.

(2Pan wneir cais, rhaid i swyddog awdurdodedig roi cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer symud cynnyrch sector gwin a reolir os yw ef, neu swyddog awdurdodedig arall, wedi cael ymrwymiad ysgrifenedig i'r perwyl—

(a)y caiff y cynnyrch sector gwin ei symud i le a gymeradwywyd gan swyddog awdurdodedig; a

(b)na chaiff y cynnyrch sector gwin ei symud o'r lle hwnnw heb gydsyniad ysgrifenedig swyddog awdurdodedig.

(3Rhaid i gydsyniad a roddir gan swyddog awdurdodedig o dan y rheoliad hwn—

(a)pennu'r cynnyrch sector gwin y mae'n ymwneud ag ef; a

(b)datgan bod y cynnyrch sector gwin yn parhau i fod o dan reolaeth.

(4Rhaid i swyddog awdurdodedig o'r Bwrdd Safonau Gwin y gofynnwyd iddo roi cydsyniad o dan y rheoliad hwn, ac sy'n gwrthod gwneud hynny, gyfleu'r gwrthodiad hwnnw yn ysgrifenedig ynghyd â hysbysiad ysgrifenedig o'r hawl, a roddir gan reoliad 10, i gael adolygu'r gwrthodiad hwnnw, ac esboniad ynghylch sut y gellir arfer yr hawl honno ac effaith arfer yr hawl honno.

Adolygu hysbysiadau a gwrthodiadau ar symud cynhyrchion sector gwin

10.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os oes swyddog awdurdodedig o'r Bwrdd Safonau Gwin—

(a)wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 8(2) i berson y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal cynnyrch sector gwin; neu

(b)wedi gwrthod rhoi cydsyniad o dan reoliad 9 ar gyfer symud cynnyrch sector gwin a reolir.

(2Caiff person y mae'r hysbysiad neu'r gwrthodiad wedi'i roi iddo wneud cais ysgrifenedig i Brif Weithredwr y Bwrdd Safonau Gwin iddo yntau adolygu rhoi'r hysbysiad neu'r gwrthodiad.

(3Pan gaiff Prif Weithredwr y Bwrdd Safonau Gwin gais am adolygu hysbysiad neu wrthodiad, rhaid iddo adolygu'r hysbysiad neu'r gwrthodiad a chyfleu ei benderfyniad ar yr adolygiad o fewn 14 diwrnod ar ôl cael y cais.

(4Os bydd person yn anfodlon ar benderfyniad Prif Weithredwr y Bwrdd Safonau Gwin ar adolygiad caiff wneud cais ysgrifenedig i Gadeirydd y Bwrdd Safonau Gwin am adolygiad pellach gan y Bwrdd Safonau Gwin o roi'r hysbysiad neu o'r gwrthodiad.

(5Pan gaiff gais o'r fath, os yw wedi'i fodloni nad oes modd cyfiawnhau penderfyniad y swyddog awdurdodedig i roi'r hysbysiad neu i wrthod y cydsyniad, rhaid i'r Bwrdd Safonau Gwin beri tynnu'r hysbysiad yn ôl neu, yn ôl fel y digwydd, roi cydsyniad ar gyfer symud y cynnyrch sector gwin a reolir o dan sylw.

(6Bydd y weithdrefn a'r cworwm ar gyfer cyfarfod o'r Bwrdd Safonau Gwin sy'n ystyried cais o dan y rheoliad hwn yn gyfryw ag y bydd yn penderfynu arnynt.

Swyddog awdurdodedig yn gweithredu'n ddidwyll

11.—(1Ni fydd swyddog awdurdodedig yn atebol yn bersonol mewn perthynas ag unrhyw weithred a gyflawnir wrth arfer neu drwy arfer honedig o'r Rheoliadau hyn ac o fewn cwmpas ei gyflogaeth—

(a)os bu iddo, mewn perthynas â gweithred a gyflawnwyd ganddo, gyflawni'r weithred honno gan gredu'n onest fod y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo ei chyflawni neu'n rhoi pŵ er iddo ei chyflawni, a

(b)os oedd yn credu'n onest, mewn perthynas â gweithred gan berson a oedd yn cyd-fynd ag ef ac yn gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau, fod y Rheoliadau hyn yn rhoi pŵ er iddo gyfarwyddo'r person hwnnw i'w chyflawni.

(2Ni fydd person sy'n cyd-fynd â swyddog awdurdodedig yn atebol yn bersonol mewn perthynas ag unrhyw weithred a gyflawnir ganddo wrth arfer neu drwy arfer honedig i'r Rheoliadau hyn—

(a)os cyflawnodd y weithred honno ar gyfarwyddiadau'r swyddog awdurdodedig, a

(b)os oedd yn credu'n onest fod y Rheoliadau hyn yn rhoi pŵ er i'r swyddog awdurdodedig roi'r cyfarwyddiadau hynny iddo.

(3Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1) uchod fel pe bai'n rhyddhau awdurdod gorfodi rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion awdurdodedig.

(4Os oes achos wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog awdurdodedig mewn perthynas â gweithred a gyflawnwyd ganddo wrth arfer neu drwy arfer honedig o'r Rheoliadau hyn a bod yr amgylchiadau'n golygu nad oes ganddo hawl gyfreithiol i'w gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gorfodi ei indemnio, er hynny, fe gaiff yr awdurdod ei indemnio yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal a chostau, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni ei fod yn credu'n onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth a bod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo ei chyflawni neu'n rhoi hawl iddo ei chyflawni.

Y pŵ er i fynnu dadansoddiad neu archwiliad

12.—(1Os yw'n credu bod hynny'n addas at ddibenion yr achos, caiff y llys y dygir unrhyw achos ger ei fron ynglyn â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn beri i unrhyw eitem sy'n destun yr achos, ac sydd, os yw eisoes wedi'i dadansoddi neu wedi'i harchwilio, yn gallu cael ei dadansoddi neu ei harchwilio ymhellach, gael ei hanfon at ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd, a fydd yn gwneud unrhyw ddadansoddi neu archwilio sy'n briodol gan drosglwyddo i'r llys dystysgrif o ganlyniad y dadansoddi neu'r archwilio, a chaiff costau'r dadansoddi neu'r archwilio eu talu gan yr erlynydd neu gan y person a gyhuddir yn unol â gorchymyn y llys.

(2Mewn achos y dygir apêl ynddo, os nad oes camau wedi'u cymryd o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwn mewn perthynas ag eitem benodol, bydd darpariaethau paragraff (1) yn gymwys ynglŷn â'r eitem honno mewn perthynas â'r llys sy'n gwrando'r apêl.

(3Rhaid i unrhyw dystysgrif o ganlyniadau dadansoddiad neu archwiliad sydd, yng nghwrs achos, yn cael ei throsglwyddo gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan y rheoliad hwn, gael ei llofnodi gan y dadansoddydd bwyd hwnnw neu'r archwilydd bwyd hwnnw, ond gall y dadansoddi neu'r archwilio gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan gyfarwyddwyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif.

(4Mewn unrhyw achos o dan y Rheoliadau hyn, bydd trosglwyddo—

(a)dogfen sy'n ymhonni bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd; neu

(b)dogfen a roddwyd i un o'r partïon gan y parti arall fel pe bai'n gopi o dystysgrif o'r fath, i'r llys o dan y rheoliad hwn, neu ei chyflwyno gan un o'r partïon yn dystiolaeth ddigonol o'r ffeithiau a ddatgenir ynddi oni bai bod unrhyw barti i'r achos yn ei gwneud yn ofynnol i'r person a lofnododd y dystysgrif gael ei alw yn dyst.

RHAN IIIGWINOEDD O SAFON A GYNHYRCHIR MEWN RHANBARTHAU PENODEDIG

Y rhanbarthau penodedig

13.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, y rhanbarthau a ddisgrifir yn Atodlen 4, yw'r rhanbarthau penodedig yng Nghymru at ddibenion Pwynt A o Atodiad VI i Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999.

(2Hepgorir o'r ardaloedd a ddisgrifir yn Atodlen 4 unrhyw dir sydd wedi'i leoli ar uchder o fwy na 220 metr uwchlaw lefel y môr.

Cryfder alcoholaidd naturiol gofynnol

14.  Chwech y cant fydd cryfder alcoholaidd naturiol gofynnol gwinoedd o safon psr a gynhyrchir yn y rhanbarthau penodedig.

Awdurdodiad o dan Bwynt D, paragraff 3, o Atodiad VI i Reoliad 1493/1999

15.  Er gwaethaf darpariaethau Pwynt D, paragraff 1(b), o Atodiad VI i Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999, sy'n ei gwneud yn ofynnol bod grawnwin yn cael eu prosesu'n fwst a bod y mwst hwnnw'n cael ei brosesu'n win yn ogystal â bod y gwin hwnnw'n cael ei gynhyrchu o fewn y rhanbarth penodedig lle cafodd y grawnwin a ddefnyddiwyd eu cynaeafu, gall gwin o safon psr gael ei gynhyrchu mewn ardal sydd yn union gyfagos at ranbarth penodedig.

Uchafswm cynnyrch

16.  At ddibenion Pwynt I, paragraff 1, o Atodiad VI i Reoliad 1493/1999, 100 hectolitr fydd yr uchafswm cynnyrch am bob hectar o dir y tyfir gwinwydd arno i gynhyrchu gwinoedd o safon psr yn y rhanbarthau penodedig.

Prawf dadansoddol

17.  At ddibenion Pwynt J, paragraff 1(a), o Atodiad VI i Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999

(a)mesuriad o bob un o'r ffactorau a bennir yn Atodlen 5 mewn perthynas â'r gwin hwnnw fydd y prawf dadansoddol i ddarganfod a yw unrhyw win yn gymwys i'w ddynodi yn win o safon psr; a

(b)dim ond os yw'n bodloni pob safon a bennir yn yr Atodlen honno y bydd gwin yn gymwys fel hyn.

Dynodi corff cymwys

18.  At ddibenion Erthygl 56 o Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999, fel y'i darllenir gydag Erthyglau 10 a 12 o Reoliad y Comisiwn (EC) 1607/2000 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd -drefniadaeth y farchnad mewn gwin, yn benodol y Teitl sy'n ymwneud â gwin o safon a gynhyrchir mewn rhanbarthau penodedig(18), mae'r Bwrdd Safonau Gwin drwy hyn yn cael ei ddynodi fel y corff cymwys y cyfeirir ato yn yr Erthyglau hynny.

RHAN IVTRAMGWYDDO A CHOSBI

Tramgwyddo a chosbi

19.—(1Os bydd unrhyw berson yn torri rheoliad 6 neu unrhyw rwymedigaeth a gynhwysir mewn unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol perthnasol y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 neu 2 o Rannau I, II, III, V neu IX o Atodlen 2, neu'n methu â chydymffurfio â hwy, bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(2Os bydd unrhyw berson—

(a)yn torri unrhyw rwymedigaeth neu amod a gynhwysir mewn unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol perthnasol y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 neu 2 o Rannau IV, VI, VII neu VIII o Atodlen 2, neu'n methu â chydymffurfio â hwy, neu

(b)yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth a gafwyd ganddo yn unol â'i ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn, oni bai bod y datgelu'n cael ei wneud wrth iddo ef neu unrhyw berson arall gyflawni unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, at ddibenion hynny, neu yn unol â rhwymedigaeth Gymunedol,bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

Symud cynnyrch sector gwin a reolir

20.—(1Bydd unrhyw berson sydd, gan wybod bod cynnyrch sector gwin yn gynnyrch sector gwin a reolir—

(a)yn ei symud, neu

(b)yn peri ei symud, heb gydsyniad ysgrifenedig swyddog awdurdodedig, yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sydd, gan wybod bod cynnyrch sector gwin yn gynnyrch sector gwin a reolir—

(a)yn tynnu label oddi arno, neu

(b)yn peri tynnu label oddi arno, a hwnnw'n label sydd wedi'i osod o dan reoliad 8(5), yn euog o dramgwydd.

(3Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag ymrwymiad a roddwyd ganddo at ddibenion rheoliad 9(2) yn euog o dramgwydd.

(4Bydd yn amddiffyniad i berson a gyhuddir o unrhyw dramgwydd o dan y rheoliad hwn brofi—

(a)nad oedd dim tramgwydd wedi'i gyflawni, wrthi'n cael ei gyflawni neu'n debyg o gael ei gyflawni mewn perthynas â'r cynnyrch sector gwin o dan sylw pan arferwyd y pŵ er a roddir gan reoliad 8(1); a

(b)bod yna esgus rhesymol dros y weithred neu'r diffyg gweithred y mae'r person wedi'i gyhuddo mewn perthynas â hwy.

(5Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Rhwystro

21.  Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro swyddog awdurdodedig sy'n gweithredu i arfer y Rheoliadau hyn; neu

(b)yn methu â rhoi unrhyw gymorth neu wybodaeth i unrhyw swyddog o'r fath neu â darparu unrhyw gyfleusterau y mae'n rhesymol i'r swyddog hwnnw ofyn iddo eu darparu at ddibenion ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Tramgwyddau gan swyddogion cyrff corfforaethol

22.—(1Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu unhryw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(2Pan fydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn gymwys i weithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n gyfarwyddwr i'r corff corfforaethol.

Amddiffyniad diwydrwydd dyladwy

23.  Mewn unrhyw achos ynglyn â thramgwydd o dan reoliad 19 neu 21(b), bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ganddo ef ei hun neu gan berson o dan ei reolaeth.

Tramgwyddau o dan Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1993, 1994, 1995 neu 1996

24.  Os oes tramgwydd o dan unrhyw un o Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1993, 1994, 1995 neu 1996 wedi'i gyflawni, er bod y Rheoliadau hynny wedi'u diddymu, bydd modd ei gosbi yn unol â thelerau'r Rheoliadau hynny.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(19).

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Mehefin 2001

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources