- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
8.—(1) Pan fydd swyddog awdurdodedig yn archwilio unrhyw gynnyrch sector gwin, caiff wahardd ei symud os oes ganddo reswm dros gredu bod tramgwydd wedi'i gyflawni, wrthi'n cael ei gyflawni neu'n debyg o gael ei gyflawni mewn perthynas ag ef drwy dorri unrhyw ddarpariaeth Gymunedol berthnasol y cyfeirir ati yng ngholofnau 1 neu 2 o Ran I, II, III, V neu IX o Atodlen 2, neu drwy fethu â chydymffurfio â hi, a bod yna risg neu ei bod yn debyg y bydd yna risg i iechyd y cyhoedd mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw neu fod y cynnyrch hwnnw wedi'i drin yn dwyllodrus neu'n debyg o gael ei drin yn dwyllodrus.
(2) Rhaid i swyddog sy'n arfer y pŵ er a roddir gan baragraff (1) uchod, heb oedi, roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal y cynnyrch sector gwin o dan sylw—
(a)yn pennu'r cynnyrch sector gwin y mae'r pŵ er wedi'i arfer mewn perthynas ag ef;
(b)yn datgan na ellir symud y cynnyrch sector gwin heb gydsyniad ysgrifenedig swyddog awdurdodedig;
(c)yn pennu'r ddarpariaeth Gymunedol y mae ganddo reswm dros gredu bod tramgwydd wedi'i gyflawni, wrthi'n cael ei gyflawni neu'n debyg o gael ei gyflawni mewn perthynas â hi; ac
(ch)yn pennu a yw o'r farn y byddai'n ymarferol cymryd camau i'w berswadio nad oes ganddo reswm dros y gred honno mwyach ac, os felly, beth ddylai'r camau hynny fod.
(3) Pan fydd hysbysiad a ddisgrifir ym mharagraff (2) uchod yn cael ei roi gan swyddog awdurdodedig o'r Bwrdd Safonau Gwin, rhaid i'r hysbysiad hwnnw gynnwys gwybodaeth hefyd am hawl y derbynnydd, a roddir gan reoliad 10, i gael adolygu rhoi'r hysbysiad hwnnw, ac ynghylch sut y gellir arfer yr hawl honno, ac effaith arfer yr hawl honno.
(4) Os nad yw'n ymddangos i'r swyddog mai'r person y mae'n rhoi'r hysbysiad iddo yw perchennog y cynnyrch sector gwin o dan sylw nac ychwaith ei fod yn asiant, yn gontractiwr neu'n gyflogai i'r perchennog, rhaid i'r swyddog wneud ei orau glas i dynnu sylw person o'r fath at gynnwys yr hysbysiad hefyd cyn gynted â phosibl.
(5) Caiff swyddog awdurdodedig osod labeli sy'n rhybuddio bod y pŵ er wedi'i arfer ar unrhyw gynnyrch sector gwin y mae'r pŵ er a roddir gan baragraff(1) uchod wedi'i arfer mewn perthynas ag ef, neu ar unrhyw gynhwysydd y mae'r cynnyrch sector gwin wedi'i bacio ynddo.
(6) Rhaid i swyddog awdurdodedig sydd wedi'i fodloni bod y camau a bennir yn yr hysbysiad o dan baragraff 2(ch) uchod wedi'u cymryd ddileu'r gwaharddiad ar symud a roddwyd yn unol â pharagraff (1) uchod ar unwaith.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: