- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
21 Mehefin 2001
Yn dod i rym
28 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 82(8) a (9) a 105(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “athro neu athrawes” (“teacher”) yw person a gyflogir fel athro neu athrawes gan Awdurdod Addysg Lleol;
ystyr “awdurdod tân” (“fire authority”) yw awdurdod sydd am y tro wedi'i gyfansoddi'n awdurdod tân o dan y Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(2) neu unrhyw gynllun cyfuno a wnaed odani;
ystyr “diffoddwr tân” (“firefighter”) yw person sy'n aelod o frigâd dân a gynhelir gan awdurdod tân ac sydd â thelerau gwaith sy'n cynnwys rhwymedigaeth i fynd i'r afael ag ymladd tanau o fewn ystyr adran 38(1) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;
3. Mae'r disgrifiadau canlynol o gyflogeion yn cael eu pennu at dibenion adran 82(8) o'r Ddeddf —
(a)diffoddwr tân, a
(b)athro neu athrawes.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) yn sefydlu fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.
Mae adran 82(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn, gyhoeddi cod ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr cyflogedig penodol mewn awdurdodau perthnasol yng Nghymru (“y cod ymddygiad”). Awdurdodau perthnasol yw cynghorau cymuned, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac awdurdodau Parc Cenedlaethol ond nid awdurdodau'r heddlu.
O dan adran 82(8) o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau sy'n pennu'r disgrifiadau o weithwyr cyflogedig nad yw'r cod ymddygiad yn gymwys iddynt.
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r disgrifiadau hynny o weithwyr cyflogedig, sef athrawon a diffoddwyr tân sy'n weithwyr cyflogedig i awdurdodau perthnasol yng Nghymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: