- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
19.—(1) Rhaid i drefniadau a wneir o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 gan gorff perthnasol gael eu gwneud yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i'r trefniadau gael eu gwneud—
(a)os yw'r swyddogaethau y mae'r trefniadau yn ymwneud â hwy yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod lleol arall o dan sylw, gyda'r corff perthnasol sydd â'r pŵer i wneud y trefniadau hynny ar ran yr awdurdod hwnnw;
(b)mewn unrhyw achos arall, gyda'r awdurdod lleol arall.
(3) Os yw'r trefniadau yn darparu i swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor, rhaid i benodiadau personau sydd i gynrychioli pob awdurdod lleol ar y pwyllgor hwnnw gael eu gwneud, a rhaid i nifer y personau hynny sydd i'w penodi gael ei benderfynu, gan y corff perthnasol y mae'r trefniadau yn cael eu gwneud ganddo ar ran yr awdurdod hwnnw.
(4) Yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, ac oni bai bod y corff perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau yn destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff cyd-bwyllgor a benodir yn unol â'r rheoliad hwn drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan is-bwyllgor neu gan swyddog i un o'r awdurdodau o dan sylw, ac yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, ac oni bai bod y cyd-bwyllgor neu'r corff perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau'n destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff unrhyw is-bwyllgor o'r fath drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan swyddog o'r fath.
(5) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir yn unol â'r rheoliad hwn gan gorff perthnasol i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor i atal y corff hwnnw rhag arfer y swyddogaethau hynny.
(6) Os oes trefniadau a wneir ar ran awdurdod lleol yn unol â'r rheoliad hwn gan gorff perthnasol yn darparu ar gyfer penodi personau nad ydynt yn aelodau o Fwrdd yr awdurdod hwnnw i gyd-bwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y trefniadau, rhaid i'r corff perthnasol sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg rhesymol.
(7) Rhaid i gorff perthnasol sy'n paratoi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (6) uchod roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38 o Ddeddf 2000.
(8) Bydd rhan VA o Ddeddf 1972 (cyfle i fynd i gyfarfodydd ac i weld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol) yn gymwys i is-bwyllgor a sefydlir yn unol â'r rheoliad hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: