- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
22.—(1) Os yw corff llywodraethu ysgol yn dymuno i'r ysgol honno ymadael â'r grŵp rhaid iddynt gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o dri mis o leiaf i gyrff llywodraethu'r holl ysgolion eraill yn y grŵp, i'r corff sefydledig ac i'r Cynulliad Cenedlaethol, a phan ddaw'r cyfnod hwnnw i ben gall y Cynulliad Cenedlaethol ddatgan yn ysgrifenedig fod yr ysgol yn ymadael â'r grŵp ar unrhyw ddyddiad a bennir ganddo.
(2) Os yw'r ysgol sy'n ymadael â'r grŵp yn gwneud hynny o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1) fydd y dyddiad y bwriedir i'r newid categori ddigwydd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ar y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1), bydd unrhyw dir sydd, yn union cyn y dyddiad hwnnw yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grŵp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol sy'n ymadael â'r grŵp yn cael ei drosglwyddo i gorff llywodraethu'r ysgol honno, ac yn rhinwedd y rheoliad hwn yn breinio ynddo.
(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas ag ysgol os yw'r ysgol, ar ôl i gynigion gael eu cymeradwyo yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori, yn ymadael â'r grŵp mewn categori gwahanol i'w chategori presennol.
(5) Os nad yw'r ysgol sy'n ymadael â'r grŵp yn gwneud hynny o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, rhaid i'r corff llywodraethu wneud cais i'r awdurdod addysg lleol i offeryn llywodraethu'r ysgol gael ei amrywio neu ei amnewid er mwyn i gyfeiriadau at y corff sefydledig gael eu dileu o'r dyddiad y bydd yr ysgol yn ymadael â'r grŵp.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: