- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Rheoliad 4
Rhaid i'r offeryn llywodraethu sydd i'w fabwysiadu gan y corff sefydledig bennu—
(a)enw'r corff sefydledig;
(b)enwau'r ysgolion yn y grŵp;
(c)cyfansoddiad y corff sefydledig sy'n cynnwys—
(i)un llywodraethwr-aelod wedi'i benodi gan bob ysgol yn y grŵp, a
(ii)nifer o aelodau cymunedol yn hafal i un yn llai na chyfanswm y llywodraethwyr- aelodau;
(ch)darpariaethau ar gyfer cyfarfodydd (y cyntaf i'w gynnal o fewn 12 mis o'r dyddiad ffurfio a dim mwy na 13 mis rhwng pob cyfarfod dilynol); a
(d)unrhyw gymeriad, cenhadaeth neu ethos arbennig i'r grŵp sydd wedi'i dderbyn gan ei aelodau.
Rheoliad 11
1. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig ar unrhyw adeg pan yw'n debygol o gael ei gadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(1).
2. Anghymhwysir person rhag dal swydd, neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig—
(a)os dyfarnwyd ef neu hi yn fethdalwr neu os atafaelwyd ei ystâd ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi ei ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddirymu neu wedi'i ddad-wneud;
(b)os yw wedi gwneud unrhyw gyfaddawd neu drefniant gyda'i gredydwyr, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth iddynt, a heb gael ei ryddhau mewn perthynas ag ef.
3. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig ar unrhyw adeg pan yw'n destun gorchymyn anghymhwyso o dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986(2) neu orchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Ansolfedd 1986(3) (methu talu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).
4. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig—
(a)os yw'r person hwnnw wedi'i ddiswyddo o swydd ymddiriedolwr elusen neu ymddiriedolwr ar gyfer elusen gan orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusennau neu gan yr Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddwyn neu gamreoli yng ngweinyddiaeth yr elusen yr oedd yn gyfrifol amdani neu yr oedd yn gyfrannog ynddi, neu yr oedd drwy ei ymddygiad wedi cyfrannu iddo neu wedi'i hwyluso; neu
(b)os yw wedi'i symud, o dan adran 7 o Ddeddf Diwygio'r Gyfraith (Darpariaethau Amrywiol) (Yr Alban) 1990(4)) (pwerau'r Llys Sesiwn i ymdrin â rheolaeth elusennau), rhag ymwneud â rheolaeth unrhyw gorff.
5.—(1) Anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig ar unrhyw adeg pan yw wedi'i gynnwys yn y rhestr o athrawon ac athrawesau a gweithwyr gyda phlant neu bersonau ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi.
(2) Yn is-baragraff (1), ystyr “y rhestr” (“the list”) yw'r rhestr a gedwir at ddibenion rheoliadau a wnaed o dan adran 218(6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(5).
6. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig ar unrhyw adeg pan yw wedi'i anghymhwyso yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 470 neu 471 o Ddeddf Addysg 1996 rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu'n athrawes neu'n weithiwr cyflogedig arall mewn unrhyw ysgol.
7.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5) isod, anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig os yw unrhyw un o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) isod yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw ef neu hi—
(a)o fewn y cyfnod o bum mlynedd yn diweddu gyda'r dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodiad y person hwnnw fel arall wedi bod yn effeithiol; neu
(b)ers penodiad y person hwnnw,
wedi'i gollfarnu, p'un ai yn y Deyrnas Unedig neu rywle arall, o unrhyw dramgwydd a'i ddedfrydu i'r carchar (pa un ai yw'r ddedfryd wedi'i gohirio neu beidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb y dewis o ddirwy.
(3) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw'r person hwnnw o fewn y cyfnod o 20 mlynedd yn diweddu gyda'r dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodiad y person hwnnw fel arall wedi bod yn effeithiol, wedi'i gollfarnu fel y nodwyd uchod am unrhyw drosedd a'i ddedfrydu i'r carchar am gyfnod nad yw'n llai na dwy flynedd a hanner.
(4) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd ar unrhyw adeg wedi'i gollfarnu fel y nodwyd uchod o unrhyw dramgwydd a'i ddedfrydu i'r carchar am gyfnod nad yw'n llai na phum mlynedd.
(5) At ddibenion is-baragraffau (2) i (4) uchod, anwybyddir unrhyw gollfarn gan neu gerbron llys y tu allan i'r Deyrnas Unedig am dramgwydd na fyddai, pe bai'r ffeithiau sy'n arwain at y tramgwydd wedi digwydd yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, yn dramgwydd o dan y gyfraith sydd mewn grym yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig.
(6) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd—
(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd yn diweddu gyda'r dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodiad fel arall wedi bod yn effeithiol; neu
(b)ers ei benodiad,
wedi'i gollfarnu o dan adran 547 o Ddeddf Addysg 1996 (niwsans ac aflonyddwch ar safle addysg) am dramgwydd a ddigwyddodd ar safle ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol a gynhelir â grant a'i ddedfrydu i ddirwy.
8.—(1) Bydd aelod o gorff sefydledig sydd, heb gydsyniad y corff sefydledig o dan sylw, wedi methu â bod yn bresennol mewn dau gyfarfod dilynol o'r corff hwnnw, o'r diwrnod ar ôl yr ail gyfarfod, yn cael ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel aelod o'r corff sefydledig hwnnw.
(2) Pan fydd aelod o'r corff sefydledig wedi anfon ymddiheuriad i'r clerc cyn y cyfarfod nad yw'r aelod hwnnw yn bwriadu bod yn bresennol ynddo, bydd cofnodion y cyfarfod yn cofnodi cydsyniad y corff sefydledig neu fel arall i'w absenoldeb a bydd copi o'r cofnodion yn cael ei anfon i'r aelod o dan sylw yn ei breswylfa arferol.
(3) Ni fydd aelod o gorff sefydledig sydd wedi'i anghymhwyso o dan is-baragraff (1) uchod yn gymwys i gael ei enwebu neu ei benodi fel aelod o'r corff sefydledig hwnnw yn ystod y deuddeg mis yn union ar ôl ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1).
9. Os bydd aelod, yn rhinwedd unrhyw un o baragraffau 1 i 7, yn cael ei anghymhwyso rhag dal neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r clerc.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: