- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
COMISIYNYDD PLANT, CYMRU
Wedi'i wneud
25 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn -ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.
2.—(1) 26 Awst 2001 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (2) i rym mewn perthynas â Chymru.
(2) Dyma'r darpariaethau—
(a)Adran 72A (prif nod y Comisiynydd);
(b)Adran 72B (adolygu arfer swyddogaethau gan y Cynulliad a chan bersonau eraill);
(c)Adran 73 (adolygu a monitro trefniadau);
(ch)Adran 74 (archwilio achosion);
(d)Adran 75 (rhwystro etc.);
(dd)Adran 75A (pŵer ychwanegol i ystyried a chynrychioli);
(e)Adran 76 (swyddogaethau pellach);
(f)Adran 77 (cyfyngiadau);
(ff)Adran 78 (dehongli);
(g)Atodlen 2A (personau sy'n destun adolygiad gan y Comisiynydd o dan Adran 72B);
(ng)Atodlen 2B (personau y mae eu trefniadau'n destun adolygiad gan y Comisiynydd o dan Adran 73)
(h)Paragraff 3 o Atodlen 5 (darpariaethau trosiannol ac eithriadau) ac adran 117(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
Rhodri Morgan
Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Gorffennaf 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi diwrnod i ddarpariaethau penodol yn Neddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”) ddod i rym ynghylch Comisiynydd Plant Cymru (“y Comisiynydd”). Mewnosodir rhai o'r darpariaethau gan Ddeddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (“Deddf 2001”) y mae Gorchymyn Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (Cychwyn) yn gymwys iddi.
26 Awst 2001 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym:
(a)Adran 72A, a fewnosodwyd gan Ddeddf 2001, sy'n darparu mai diogelu a hybu hawliau a lles plant y mae Rhan V o Ddeddf 2000 yn gymwys iddynt yw prif nod y Comisiynydd wrth arfer ei swyddogaethau;
(b)Adran 72B, a fewnosodwyd gan Ddeddf 2001, sy'n galluogi'r Comisiynydd i adolygu yr effaith ar blant a gâi arfer unrhyw swyddogaeth sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) neu sydd gan unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 2A i Ddeddf 2000, fel y'i mewnosodwyd gan Ddeddf 2001;
(c)Adran 73, fel y'i diwygir gan Ddeddf 2001, sy'n galluogi'r Comisiynydd i adolygu a monitro sut mae trefniadau ar gyfer cŵ ynion, eiriolaeth a chwythu'r chwiban yn cael eu gweithredu gan ddarparwyr gwasanaethau plant a reoleiddir o dan Ddeddf 2000, y Cynulliad, personau a grybwyllir yn Atodlen 2B i Ddeddf 2000, fel y'i mewnosodwyd gan Ddeddf 2001, a phersonau penodol eraill, ac i asesu effaith methiant i wneud trefniadau o'r fath;
(ch)Adran 74, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2001, sy'n galluogi'r Cynulliad i wneud rheoliadau ac sy'n gwneud darpariaeth arall am archwilio achosion penodol gan y Comisiynydd;
(d)Adran 75, sy'n galluogi'r Comisiynydd i ardystio tramgwydd i'r Uchel Lys yn achos ymddygiad rhwystrol penodol;
(dd)Adran 75A, fel y'i mewnosodwyd gan Ddeddf 2001, sy'n ymwneud â phŵ er y Comisiynydd i ystyried unrhyw fater sy'n effeithio ar hawliau neu les plant yng Nghymru, a chyflwyno sylw i'r Cynulliad yn eu cylch;
(e)Adran 76, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2001, sy'n galluogi'r Cynulliad i wneud rheoliadau ynghylch cymorth ariannol a chymorth arall y gall y Comisiynydd ei roi mewn achosion penodol, ac ynghylch adroddiadau a phwerau a dyletswyddau eraill y gall y Cynulliad eu rhoi o dan Ran V o Ddeddf 2000. Mae adran 76 hefyd yn galluogi'r Comisiynydd i roi cyngor a gwybodaeth i unrhyw un mewn cysylltiad â'i swyddogaethau, ac yn ymdrin ag enwi unigolion mewn adroddiadau ac yn rhoi braint absoliwt ar gynnwys adroddiadau'r Comisiynydd;
(f)Adran 77, sy'n darparu ar gyfer cyfyngu ar swyddogaethau'r Comisiynydd mewn perthynas ag achosion penodol ac mewn perthynas â swyddogaethau personau a ragnodir gan reoliadau a wneir gan y Cynulliad;
(ff)Adran 78, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2001, sy'n cynnwys darpariaethau dehongli ac sy'n galluogi'r Cynulliad i wneud rheoliadau sy'n estyn ychydig ar awdurdodaeth y Comisiynydd mewn perthynas â phlant penodol;
(g)Atodlenni 2A a 2B a grybwyllir uchod, fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf 2001; ac
(h)Paragraff 3 o Atodlen 5 sy'n gwneud darpariaeth drosiannol sy'n ymdrin â chyfeiriadau at ddarparwyr a gwasanaethau fel cyfeiriadau at ddarparwyr a gwasanaethau a fyddai'n cael eu rheoleiddio yn unol â Deddf 2000, pe bai rhai o ddarpariaethau eraill Deddf 2000 mewn grym.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym neu i'w dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod drwy orchmynion cychwyn sydd wedi'u gwneud cyn dyddiad y Gorchymyn hwn. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir eu cofnod ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir â '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); cafodd y rhai a ddilynir ag '(c)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70); cafodd y rhai a ddilynir ag '(ch)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2354(Cy.192) (C.80); cafodd y rhai a ddilynir â '(d)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/ 2504(Cy.205) (C.82); a chafodd y rhai a ddilynir â '(dd)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2538(Cy.213) (C.83).
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn |
---|---|
Adrannau 1—5 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 7(7) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 8 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 9(3)—(5) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 11—12 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 14—15 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 16 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 22—23 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 25 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 33—35 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 36 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 38 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 39 (yn rhannol) (d) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 39 (y gweddill) (d) | 31 Awst 2001 |
Adran 40 (yn rhannol) (b) | 1 Chwefror 2001 |
Adran 40 (y gweddill) (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adran 41 (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adrannau 42—43 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 48—52 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 54(1), (3)—(7) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 55 ac Atodlen 1 (a) | 13 Tachwedd 2001 |
Adran 63 (dd) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 66 (dd) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 67 (dd) | 1 Hydref 2001 |
Adran 70(1) (dd) | 1 Hydref 2001 |
Adran 71 (dd) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 72 ac Atodlen 2 (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 79(1) (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 79(3),(4) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 98 (ch) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 107—108 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 112 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 113 (2)—(4) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (yn rhannol) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (y gweddill) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 115 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Mae darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72) mewn perthynas â Chymru, yn ogystal ag mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod.
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn |
---|---|
Adran 80(8) | 2 Hydref 2001 |
Adran 94 | 2 Hydref 2001 |
Adran 96 (yn rhannol) | 15 Medi 2001 |
Adran 96 (y gweddill) | 2 Hydref 2001 |
Adran 99 | 15 Medi 2001 |
Adran 100 | 2 Hydref 2001 |
Adran 101 | 2 Hydref 2001 |
Adran 103 | 2 Hydref 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) | 2 Hydref 2001 |
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) | 2 Hydref 2001 |
Yn ychwanegol, mae amryw o ddarpariaethau eraill y Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); a O.S 2001/2041 (C.68).
2000 p.14. Mae'r pŵer yn arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir y Gweinidog priodol yn adran 121(1). Mewn perthynas â Chymru mae'n golygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mewnosodwyd adrannau 72A, 72B, 75A ac Atodlenni 2A a 2B a diwygiwyd adrannau 73, 74, 76 a 78 gan Ddeddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (p.18).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: