Search Legislation

Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi diwrnod i ddarpariaethau penodol yn Neddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”) ddod i rym ynghylch Comisiynydd Plant Cymru (“y Comisiynydd”). Mewnosodir rhai o'r darpariaethau gan Ddeddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (“Deddf 2001”) y mae Gorchymyn Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (Cychwyn) yn gymwys iddi.

26 Awst 2001 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym:

(a)Adran 72A, a fewnosodwyd gan Ddeddf 2001, sy'n darparu mai diogelu a hybu hawliau a lles plant y mae Rhan V o Ddeddf 2000 yn gymwys iddynt yw prif nod y Comisiynydd wrth arfer ei swyddogaethau;

(b)Adran 72B, a fewnosodwyd gan Ddeddf 2001, sy'n galluogi'r Comisiynydd i adolygu yr effaith ar blant a gâi arfer unrhyw swyddogaeth sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) neu sydd gan unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 2A i Ddeddf 2000, fel y'i mewnosodwyd gan Ddeddf 2001;

(c)Adran 73, fel y'i diwygir gan Ddeddf 2001, sy'n galluogi'r Comisiynydd i adolygu a monitro sut mae trefniadau ar gyfer cŵ ynion, eiriolaeth a chwythu'r chwiban yn cael eu gweithredu gan ddarparwyr gwasanaethau plant a reoleiddir o dan Ddeddf 2000, y Cynulliad, personau a grybwyllir yn Atodlen 2B i Ddeddf 2000, fel y'i mewnosodwyd gan Ddeddf 2001, a phersonau penodol eraill, ac i asesu effaith methiant i wneud trefniadau o'r fath;

(ch)Adran 74, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2001, sy'n galluogi'r Cynulliad i wneud rheoliadau ac sy'n gwneud darpariaeth arall am archwilio achosion penodol gan y Comisiynydd;

(d)Adran 75, sy'n galluogi'r Comisiynydd i ardystio tramgwydd i'r Uchel Lys yn achos ymddygiad rhwystrol penodol;

(dd)Adran 75A, fel y'i mewnosodwyd gan Ddeddf 2001, sy'n ymwneud â phŵ er y Comisiynydd i ystyried unrhyw fater sy'n effeithio ar hawliau neu les plant yng Nghymru, a chyflwyno sylw i'r Cynulliad yn eu cylch;

(e)Adran 76, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2001, sy'n galluogi'r Cynulliad i wneud rheoliadau ynghylch cymorth ariannol a chymorth arall y gall y Comisiynydd ei roi mewn achosion penodol, ac ynghylch adroddiadau a phwerau a dyletswyddau eraill y gall y Cynulliad eu rhoi o dan Ran V o Ddeddf 2000. Mae adran 76 hefyd yn galluogi'r Comisiynydd i roi cyngor a gwybodaeth i unrhyw un mewn cysylltiad â'i swyddogaethau, ac yn ymdrin ag enwi unigolion mewn adroddiadau ac yn rhoi braint absoliwt ar gynnwys adroddiadau'r Comisiynydd;

(f)Adran 77, sy'n darparu ar gyfer cyfyngu ar swyddogaethau'r Comisiynydd mewn perthynas ag achosion penodol ac mewn perthynas â swyddogaethau personau a ragnodir gan reoliadau a wneir gan y Cynulliad;

(ff)Adran 78, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2001, sy'n cynnwys darpariaethau dehongli ac sy'n galluogi'r Cynulliad i wneud rheoliadau sy'n estyn ychydig ar awdurdodaeth y Comisiynydd mewn perthynas â phlant penodol;

(g)Atodlenni 2A a 2B a grybwyllir uchod, fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf 2001; ac

(h)Paragraff 3 o Atodlen 5 sy'n gwneud darpariaeth drosiannol sy'n ymdrin â chyfeiriadau at ddarparwyr a gwasanaethau fel cyfeiriadau at ddarparwyr a gwasanaethau a fyddai'n cael eu rheoleiddio yn unol â Deddf 2000, pe bai rhai o ddarpariaethau eraill Deddf 2000 mewn grym.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources