- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
28 Medi 2001
Yn dod i rym
1 Hydref 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Hydref 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall —
ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2);
ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Cymru) 1986(3).
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster - cyflenwi cyfarpar optegol), ar ôl paragraff (3)(j) ychwanegwch—
“(k)he is a relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act”.(4)
3. Ym mharagraff (5) o reoliad 16 o Reoliadau 1997 (llenwi talebau), yn lle “or (f)” rhowch “(f) or (k)”.
4. Yn rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (profion golwg - cymhwyster), ar ôl paragraff (2)(j) ychwanegwch—
“(k)he is a relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act”.
5. Yn rheoliad 13B o Reoliadau 1986 (prawf golwg a drinnir fel prawf golwg o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol) —
(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “or (f)” rhowch “(f) or (k)”; a
(b)ym mharagraff (3), yn lle “or (f)” rhowch “(f) or (k)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
J.E.Randerson
Ysgrifennydd Cynulliad
28 Medi 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”) .
Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun o daliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio cyfarpar optegol.
Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae Rheoliadau 2 a 3 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys diwygiadau sy'n rhoi hawl i bersonau sy'n ymadael â gofal awdurdod lleol ac sy'n cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan yr awdurdod hwnnw gael cyfarpar optegol (ac mewn achosion priodol), a chael amnewid a thrwsio cyfarpar optegol yn unol â Rheoliadau 1997.
Mae Rheoliadau 4 a 5 yn cynnwys diwygiadau i reoliadau 1986 fel bod gan bersonau o'r fath hawl i gael prawf ar eu golwg o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol.
1977 p. 49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) (“Deddf 1980”), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) (“Deddf 1984”), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) (“Deddf 1988”), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”), Atodlen 1, paragraff 27.
Estynnwyd adran 39 gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf 1980, adran 1 ac Atodlen 1, Rhan I, paragraff 52; gan Ddeddf 1984, adran 1(4) ac Atodlen 1, paragraff 1 ac Atodlen 8; gan O.S.1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28.
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 37(6).
Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1);
Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 a'i ddiwygio gan Ddeddf 1988, adran 13(2) a (3).
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.
O.S.1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978 a 3119, 2001/1362 (Cy.90) a 1423 (Cy. 98).
O.S.1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1988/486, 1989/395, 1989/1175, 1990/1051, 1991/583, 1992/404, 1995/558, 1996/705, 1996/2320, 1999/693 a 1999/2481 a 2001/1362 (Cy.90) a 1423 (Cy. 98).
1989 p. 41; mewnosodwyd adrannau 23A a 23B gan adran 2 o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: