Search Legislation

Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enw, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Mawrth 2001 a byddant yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw Aelod-wladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig;

mae i “anifail anwes” yr un ystyr â “pet animal” yn y Gyfarwyddeb Ychwanegion;

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

ystyr “awdurdodedig” (“authorised”), mewn perthynas ag unrhyw ychwanegyn, neu ag enw unrhyw ychwanegyn, ac eithrio yn yr ymadroddion “cynnyrch canolradd awdurdodedig” (“authorised intermediate product”) a “rhag-gymysgedd meddyginiaethol awdurdodedig” (“authorised medicated premix”), ac yn ddarostyngedig i baragraff 2 isod, yw wedi'i awdurdodi yn y Gyfarwyddeb Ychwanegion neu odani a dehonglir “awdurdodi” (“authorisation”) yn unol â hynny;

mae i “blawd cig ac esgyrn mamaliaid” yr ystyr a roddir i “mammalian meat and bone meal” yn Erthygl 4(1) o Orchymyn Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (Rhif 2) 1996(1);

ystyr “braster” (“fat”) yw'r rhin a geir ar ôl trin porthiant yn unol â'r weithdrefn briodol a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer olewau a brasterau a bennir yn Rhan IV o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 71/393/EEC(2);

ystyr “bwyd anifeiliaid anwes” (“pet food”) yw porthiant ar gyfer anifeiliaid anwes a dehonglir “bwyd cyfansawdd anifeiliaid anwes” (“compound pet food”) yn unol â hynny;

ystyr “coflen” (“dossier”) yw coflen a lunnir yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn y Gyfarwyddeb Goflenni ac sy'n cynnwys —

(a)

nodyn adnabod (gan gynnwys, lle bo'n gymwys, yr wybodaeth a bennir yn Erthygl 9o.1 o'r Gyfarwyddeb Ychwanegion),

(b)

unrhyw fonograff a gyflenwir yn unol ag Erthygl 9n.3 o'r Gyfarwyddeb Ychwanegion, ac

(c)

yn achos ychwanegyn y mae Erthygl 7a o'r Gyfarwyddeb Ychwanegion yn gymwys iddo, y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraffau indentiedig paragraff cyntaf yr Erthygl honno;

mae i “cyfryngwr” yr ystyr a roddir i “intermediary” gan Erthygl 1.3(c) o'r Gyfarwyddeb Sefydliadau;

mae i “cynnyrch canolradd awdurdodedig” a “rhag-gymysgedd meddyginiaethol awdurdodedig” yr ystyron a roddir i “authorised intermediate product” ac “authorised medicated premix” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Porthiant Meddyginiaethol 1998(3);

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Cytundeb Ardal Economaidd Ewrop” (“European Economic Area Agreement”) yw'r Cytundeb ar Ardal Economaidd Ewrop a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(4));

ystyr “diben maethiadol penodol” (“particular nutritional purpose”) yw diben diwallu unrhyw angen am faeth sydd ar anifeiliaid anwes neu dda byw cynhyrchiol, y gall y broses o'u cymathu neu eu hamsugno, neu eu metaboliaeth, gael ei handwyo dros dro, neu y mae wedi'i handwyo dros dro neu'n barhaol, ac y gall felly lyncu porthiant a all ateb y diben hwnnw fod o les iddo;

ystyr “deunydd porthiant” (“feed material”), yn ddarostyngedig i reoliad 12(10)(b), yw —

(a)

unrhyw gynnyrch sy'n deillio o lysiau neu o anifeiliaid, yn ei gyflwr gwreiddiol, yn ffres neu wedi'i gadw;

(b)

unrhyw gynnyrch a geir o gynnyrch o'r fath drwy gyfrwng proses ddiwydiannol; neu

(c)

unrhyw sylwedd organig neu anorganig,

a bennir yn Rhan II neu III o Atodlen 2, (p'un a yw'n cynnwys unrhyw ychwanegyn neu beidio) ac sydd i'w ddefnyddio ar gyfer bwydo anifeiliaid anwes neu greaduriaid fferm drwy'r geg, yn uniongyrchol fel y mae, neu ar ôl ei brosesu, wrth baratoi porthiant cyfansawdd neu fel cariwr rhag-gymysgedd;

ystyr “dogn dyddiol” (“daily ration”) yw cyfanswm y porthiant, wedi'i fynegi ar sail 12% o leithedd, y mae ei angen ar gyfartaledd ar anifail o fath, grŵ p oedran a lefel gynhyrchiant benodedig er mwyn bodloni ei holl anghenion am faeth;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Amaethyddiaeth 1970;

ystyr “enw” (“name”), mewn perthynas ag unrhyw ychwanegyn a bennir yn unrhyw un o Rannau I i VIII o'r Tabl i Atodlen 3, yw'r enw a bennir ar gyfer yr ychwanegyn hwnnw yn y Tabl hwnnw, a'i ystyr mewn perthynas ag unrhyw ychwanegyn arall yw ei enw awdurdodedig;

ystyr “ffeibr” (“fibre”) yw'r deunydd organig a gyfrifir ar ôl i borthiant gael ei drin yn unol â'r weithdrefn a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer ffeibr a nodir ym Mhwynt 3 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 73/46/EEC (5);

ystyr “gwerth egni” (“energy value”) yw gwerth egni porthiant wedi'i gyfrifo yn unol â'r dull perthnasol a bennir yn Atodlen 1;

ystyr “gwladwriaeth Ardal Economaidd Ewrop” (“European Economic Area State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio i Gytundeb Ardal Economaidd Ewrop;

ystyr “y Gyfarwyddeb Cynhyrchion Penodol” (“the Certain Products Directive”) yw Cyfarwyddeb 82/471/EEC ynghylch cynhyrchion penodol a ddefnyddir mewn maethiad anifeiliaid (6);

ystyr “y Gyfarwyddeb Goflenni” (“the Dossiers Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 87/153/EEC sy'n pennu canllawiau ar gyfer asesu ychwanegion mewn maethiad anifeiliaid (7);

ystyr “y Gyfarwyddeb Deunyddiau Porthiant” (“the Feed Materials Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 96/25/EC ynghylch cylchredeg deunyddiau porthiant, sy'n diwygio Cyfarwyddebau 70/524/EEC, 74/63/EEC, 82/471/EEC a 93/74/EEC ac yn diddymu Cyfarwyddeb 77/101/EEC(8);

ystyr “y Gyfarwyddeb Porthiant Cyfansawdd” (“the Compound Feeding Stuffs Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC ar farchnata porthiant cyfansawdd (9));

ystyr “y Gyfarwyddeb Porthiant Meddyginiaethol” (“the Medicated Feedingstuffs Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 90/167/EEC yn pennu'r amodau sy'n llywodraethu paratoi porthiant meddyginiaethol, ei osod ar y farchnad a'i ddefnyddio yn y Gymuned(10);

ystyr “y Gyfarwyddeb Sefydliadau” (“the Establishments Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 95/69/EC sy'n pennu'r amodau a'r trefniadau ar gyfer cymeradwyo a chofrestru sefydliadau a chyfryngwyr penodol sy'n gweithredu yn y sector bwydydd anifeiliaid ac yn diwygio Cyfarwyddebau 70/524/EEC, 74/63/EEC, 79/373/EEC ac 82/471/EEC(11));

ystyr “y Gyfarwyddeb Ychwanegion” (“the Additives Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 70/524/EEC ynghylch ychwanegion mewn porthiant (12);

ystyr “isafswm oes storio” (“minimum storage life”) mewn perthynas â phorthiant cyfansawdd, yw'r cyfnod y bydd y porthiant hwnnw, o dan amodau storio priodol, yn cadw ei briodweddau penodol;

ystyr “lleithedd” (“moisture”) yw dŵ r a deunyddiau anweddol eraill a bennir yn unol â'r weithdrefn a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer lleithedd a bennir yn Rhan I o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 71/393/EEC(13);

ystyr “lludw” (“ash”) yw'r mater sy'n deillio o drin porthiant yn unol â'r weithdrefn briodol a nodir yn y dull dadansoddi [ar gyfer lludw] a nodir ym Mhwynt 5 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 71/250/EEC(14);

mae i “micro-organedd” yr ystyr a roddir i “micro-organism” gan Erthygl 2(aa) o'r Gyfarwyddeb Ychwanegion;

mae i “milfeddyg cofrestredig” yr un ystyr â “registered veterinarian” yn y Gyfarwyddeb Porthiant Meddyginiaethol;

mae i “monograff” yr un ystyr â “monograph” yn y Gyfarwyddeb Ychwanegion;

mae i “nodyn adnabod” yr un ystyr ag sydd i “identification note” yn y Gyfarwyddeb Ychwanegion;

ystyr “olew” (“oil”) yw'r rhin a geir yn sgil trin porthiant yn unol â'r weithdrefn briodol a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer olewau a brasterau a bennir yn Rhan IV o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 71/393/EEC(15);

mae i “porthiant”, yn ddarostyngedig i reoliad 12(10)(a), yr ystyr a roddir i “feeding stuff” gan adran 66(1) fel y'i diwygiwyd gan reoliad 18(1)(a);

ystyr “porthiant a fwriedir ar gyfer diben maethiadol penodol” (“feeding stuff intended for a particular nutritional purpose”) yw porthiant cyfansawdd, y mae ei gyfansoddiad neu ddull ei weithgynhyrchu yn ei wahaniaethu oddi wrth fathau eraill o borthiant ac oddi wrth y math o gynhyrchion o fewn y Gyfarwyddeb Porthiant Meddyginiaethol, ac y rhoddir unrhyw awgrym mewn perthynas ag ef y bwriedir ef ar gyfer diben maethiadol penodol;

ystyr “porthiant cydategol” (“complementary feeding stuff”), yn ddarostyngedig i reoliad 12(10)(a), yw porthiant cyfansawdd sy'n cynnwys llawer o sylweddau penodol ac nad yw, oherwydd ei gyfansoddiad, yn ddigon ar gyfer dogn dyddiol ond os caiff ei ddefnyddio mewn cyfuniad â mathau eraill o borthiant;

ystyr “porthiant cyfansawdd” (“compound feeding stuff”), yn ddarostyngedig i reoliad 12(10)(a), yw cymysgedd o fathau o borthiant;

ystyr “porthiant cyflawn” (“complete feeding stuff”), yn ddarostyngedig i reoliad 12(10)(a), yw porthiant cyfansawdd sydd, oherwydd ei gyfansoddiad, yn ddigon i sicrhau dogn dyddiol;

ystyr “porthiant mwynol” (“mineral feeding stuff”) yw porthiant cydategol a gyfansoddir o fwynau yn bennaf ac sy'n cynnwys o leiaf 40% o ludw yn ôl ei bwysau;

ystyr “porthiant söotechnegol” (“zootechnical feeding stuff”) yw porthiant sy'n cynnwys ychwanegyn söotechnegol neu rag-gymysgedd söotechnegol;

ystyr “porthiant sy'n cymryd lle llaeth” (“milk replacer feed”) yw porthiant cyfansawdd a roddir ar ffurf sych, neu wedi'i ailgyfansoddi â swm penodedig o hylif, i fwydo anifeiliaid ifanc yn ychwanegol at laeth ar ôl llaeth y llo bach neu yn lle hwnnw neu i fwydo lloi y bwriedir eu lladd;

ystyr “porthiant triagl” (“molassed feeding stuff”) yw porthiant cydategol wedi'i baratoi ar sail triogl ac sy'n cynnwys o leiaf 14%, yn ôl cyfanswm ei bwysau, o siwgr wedi'i fynegi fel swcros;

mae i “presgripsiwn MFS” (“MFS prescription”) yr ystyr a roddir i “MFS prescription” yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Porthiant Meddyginiaethol 1998(16);

ystyr “protein” (“protein”), ac eithrio ym mharagraffau 12(2), 13, 28(2) a 29 o Ran I o Atodlen 4, ac yn ddarostynedig i baragraff (3) isod, yw'r mater a geir yn sgil trin porthiant yn unol â'r weithdrefn a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer protein a bennir ym Mhwynt 2 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 72/199/EEC(17);

ystyr “protein sy'n cyfateb i fiwret, diwreidoisobwtan, wrea neu ffosffad wrea” (“protein equivalent of biuret, diureidoisobutane, urea or urea phosphate”), mewn perthynas â swm o fiwret, diwreidoisobwtan, wrea a nitrogen ffosffad wrea, yw'r swm hwnnw wedi'i luosi â 6.25;

ystyr “rhag-gymysgedd” (“premixture”) yw cymysgedd o ychwanegion, neu gymysgedd o un neu fwy o ychwanegion gyda sylweddau a ddefnyddir fel cariwyr, y bwriedir ei ddefnyddio i weithgynhyrchu porthiant;

ystyr “rhag-gymysgedd söotechnegol” (“zootechnical premixture”) yw rhag-gymysgedd sy'n cynnwys ychwanegyn söotechnegol;

ystyr “rhestr genedlaethol” (“national list”) yw'r rhestr o sefydliadau a gyhoeddir yn Llundain gan yr Asiantaeth, at ddibenion Erthygl 6.1 o'r Gyfarwyddeb Sefydliadau;

mae i “rhoi mewn cylchrediad” yr un ystyr â “put into circulation” yn y Gyfarwyddeb Deunyddiau Porthiant, ond, yn rheoliad 12(3), (4) a (7), mae hefyd yn golygu mewnforio i Gymru o wlad nad yw'n un o Wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop nac yn rhan o un o Wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop;

mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i “establishment” gan Erthygl 1.3(b) o'r Gyfarwyddeb Sefydliadau;

ystyr “sefydliad a ganiateir gan y CE ar gyfer Erthygl 2.2(d)” (“EC permitted Article 2.2(d) establishment”) yw sefydliad a leolir mewn Aelod-wladwriaeth (heblaw sefydliad a gymeradwywyd gan y CE ar gyfer Erthygl 2.2(d) neu sefydliad y mae awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth wedi gwrthod ei gymeradwyo fel sefydliad o'r fath) —

(a)

os oedd porthiant cyfansawdd, o unrhyw fath y rheoleiddir ei weithgynhrychu gan Erthygl 2.2(d) o'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, yn cael ei weithgynhyrchu ar y sefydliad, gyda golwg ar ei roi mewn cylchrediad, ar 1 Ebrill 1998, a

(b)

y cafodd cais ei wneud mewn perthynas â'r sefydliad, cyn 1 Medi 1998, (a hwnnw heb ei benderfynu eto), i awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth, yn unol ag unrhyw ofynion yn yr Aelod-wladwriaeth ar gyfer gwneud ceisiadau o'r fath, am gymeradwyo'r sefydliad, yn unol â'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, fel sefydliad lle y gall porthiant cyfansawdd o unrhyw fath felly gael ei weithgynhyrchu gyda golwg ar ei roi mewn cylchrediad;

ystyr “sefydliad a ganiateir gan y CE ar gyfer Erthygl 2.2(f)” (“EC permitted Article 2.2(f) establishment”) yw sefydliad mewn Aelod-wladwriaeth (heblaw sefydliad a gymeradwywyd gan y CE ar gyfer Erthygl 2.2(f) neu sefydliad y mae awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth wedi gwrthod ei gymeradwyo fel sefydliad o'r fath) —

(a)

os oedd porthiant cyfansawdd, o unrhyw fath y rheoleiddir ei gynhyrchu gan Erthygl 2.2(f) o'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, yn cael ei gynhyrchu ar y sefydliad, ar gyfer anghenion daliad y cynhyrchydd yn unig, ar 1 Ebrill 1998, a

(b)

y cafodd cais ei wneud mewn perthynas â'r sefydliad, cyn 1 Medi 1998, (a hwnnw heb ei benderfynu eto), i awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth, yn unol ag unrhyw ofynion yn yr Aelod-wladwriaeth ar gyfer gwneud ceisiadau o'r fath, am gymeradwyo'r sefydliad, yn unol â'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, fel sefydliad lle y gall porthiant cyfansawdd o unrhyw fath felly gael ei gynhyrchu ar gyfer anghenion daliad y cynhyrchydd yn unig;

ystyr “sefydliad a gymeradwywyd gan y CE ar gyfer Erthygl 2.2(d)” (“EC approved Article 2.2(d) establishment”) yw sefydliad sydd wedi'i restru ar gofrestr o sefydliadau wedi'u cymeradwyo a gedwir gan awdurdod cymwys mewn Aelod-wladwriaeth, i weithredu Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, fel sefydliad lle y gall porthiant cyfansawdd, o unrhyw fath y rheoleiddir ei weithgynhyrchu gan Erthygl 2.2(d) o'r Gyfarwyddeb honno, gael ei weithgynhyrchu gyda golwg ar ei roi mewn cylchrediad;

ystyr “sefydliad a gymeradwywyd gan y CE ar gyfer Erthygl 2.2(f)” (“EC approved Article 2.2(f) establishment”) yw sefydliad sydd wedi'i restru ar gofrestr o sefydliadau wedi'u cymeradwyo a gedwir gan awdurdod cymwys mewn Aelod-wladwriaeth, i weithredu Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, fel sefydliad lle y gall porthiant cyfansawdd, o unrhyw fath y rheoleiddir ei gynhyrchu gan Erthygl 2.2(f) o'r Gyfarwyddeb honno, gael ei gynhyrchu ar gyfer anghenion daliad y cynhyrchydd yn unig;

mae i “sefydliad a gymeradwywyd gan y DU ar gyfer Erthygl 2.2(d)”, “sefydliad a gymeradwywyd gan y DU ar gyfer Erthygl 2.2(f)”, “sefydliad a ganiateir gan y DU ar gyfer Erthygl 2.2(d)” a “sefydliad a ganiateir gan y DU ar gyfer Erthygl 2.2(f)”, yn ddarostyngedig i reoliad 12(5) yr ystyron a roddir i “UK approved Article 2.2(d) establishment”, “UK approved Article 2.2(f) establishment”, “UK permitted Article 2.2(d) establishment” ac “UK permitted Article 2.2(f) establishment” gan reoliad 3 o'r Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999(18), fel y'u darllenir gyda rheoliad 2(4) o'r Rheoliadau hynny;

ystyr “starts” (“starch”) yw'r mater a geir yn sgil trin porthiant yn unol â'r weithdrefn a nodir yn yr ail ddull dadansoddi ar gyfer starts a bennir ym Mhwynt 1 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 72/199/EEC(19);

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad heblaw Aelod-wladwriaeth neu'r Deyrnas Unedig;

ystyr “ychwanegyn” (“additive”) yw sylwedd neu baratoad a ddefnyddir mewn maethiad anifeiliaid er mwyn —

(a)

effeithio'n ffafriol ar nodweddion deunyddiau porthiant, porthiant cyfansawdd neu gynhyrchion anifeiliaid,

(b)

bodloni anghenion anifeiliaid am faeth neu wella cynhyrchiant anifeiliaid (yn enwedig drwy effeithio ar y fflora gastro-berfeddol neu ar hydreuledd porthiant),

(c)

cynnwys yn y maethiad elfennau sy'n gydnaws â gwireddu amcanion maethiadol penodol neu â diwallu anghenion anifeiliaid am faeth ar adeg benodol, neu

(ch)

atal neu leihau'r effeithiau andwyol a achosir gan ysgarthiadau anifeiliaid neu wella amgylchedd anifeiliaid, ond nid yw'n cynnwys unrhyw beth sydd wedi'i hepgor o'r hyn a drafodir gan y Gyfarwyddeb Ychwanegion gan Erthygl 1.2 ac 1.3 ohoni; ac

ystyr “ychwanegyn söotechnegol” (“zootechnical additive”) yw ychwanegyn sy'n perthyn i un neu fwy o'r grwpiau o ychwanegion a bennir yn Rhan I o Atodiad C i'r Gyfarwyddeb Ychwanegion.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod yr ychwanegion a welir yn yr Adran o dan y pennawd “Radionuclide Binders”, a Rhif au 3 a 4 yn yr Adran o dan y pennawd “Micro-organisms”, yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2785/98(20) wedi'u “hawdurdodi” o fewn ystyr y term hwnnw fel y'i diffinnir ym mharagraff (1) uchod.

(3At ddibenion paragraffau 12(1) a 28(1) o Ran I o Atodlen 4, mae i “protein” yr ystyr a roddir i “protein” gan erthygl 4(1) o Orchymyn Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (Rhif 2) 1996(21).

(4Yn y Rheoliadau hyn, dehonglir “purdeb botanegol” yn unol â pharagraff 2 o Adran II o Ran A o'r Atodiad i'r Gyfarwyddeb Deunyddiau Porthiant.

(5Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â Rhif fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall.

(6Mewn unrhyw is-bennawd, darpariaeth destunol neu, yn ôl fel y digwydd, cofnod mewn tabl neu gofnod arall mewn Atodlen i'r Rheoliadau hyn, pan welir cyfeiriad â Rhif at droednodyn, mae'r troednodyn â'r Rhif hwnnw i'w drin fel pe bai'n ymhelaethu ar yr is-bennawd neu'r ddarpariaeth destunol neu fel pe bai wedi'i gynnwys yn y cofnod yn y tabl neu'r cofnod arall.

(7Onid yw'n gyfeiriad at adran o Ddeddf benodedig, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â Rhif fel cyfeiriad at yr adran sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Ddeddf.

(8Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o Gyfarwyddebau neu Reoliadau'r Gymuned Ewropeaidd fel cyfeiriad at y Gyfarwyddeb honno, neu, yn ôl fel y digwydd, y Rheoliad hwnnw, fel y maent wedi'u diwygio ar ddyddiad gwneud y Rheoliadau hyn.

Deunydd rhagnodedig

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, at ddibenion y Rheoliadau hyn, y deunydd rhagnodedig at ddibenion adrannau 68(1) a 69(1) fydd unrhyw ddeunydd y gellir ei ddefnyddio fel porthiant, ac unrhyw ddeunydd y gellir ei ddefnyddio fel deunydd porthiant, fel rhag-gymysgedd neu fel ychwanegyn mewn porthiant o'r fath.

(2At ddibenion paragraff (1) uchod, bydd adran 68(2) yn peidio â bod yn gymwys.

Materion y mae'n ofynnol eu cynnwys neu y caniateir eu cynnwys mewn gosodiad statudol neu eu datgan fel arall

4.  Bydd y manylion, yr wybodaeth a'r cyfarwyddiadau y mae'n ofynnol eu cynnwys, a'r manylion, yr wybodaeth a'r cyfarwyddiadau y caniateir eu cynnwys mewn gosodiad statudol, neu eu datgan fel arall, fel y'u pennir yn narpariaethau Atodlen 4 (ac eithrio mewn perthynas ag ychwanegion a rhag-gymysgeddau na chynhwysir mohonynt mewn porthiant) ac Atodlen 5 (mewn perthynas ag ychwanegion a rhag-gymysgeddau na chynhwysir mohonynt mewn porthiant) a rhaid iddynt gydymffurfio â'r darpariaethau hynny.

Mathau o osodiad statudol

5.—(1Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynghylch symiau bach o borthiant a gynhwysir yn ail baragraff Erthygl 16.6 o'r Gyfarwyddeb Ychwanegion (y mae'n rhaid cadw ati, lle bo'n gymwys), ac i Erthygl 5.2 o'r Gyfarwyddeb Porthiant Cyfansawdd a pharagraff (2) isod, bydd y gosodiad statudol —

(a)yn achos unrhyw ddeunydd rhagnodedig a gludir mewn pecyn neu gynhwysydd arall —

(i)yn label wedi'i gysylltu â'r pecyn neu'r cynhwysydd hwnnw; neu

(ii)wedi'i farcio'n eglur yn uniongyrchol arno, a

(b)yn achos unrhyw ddeunydd rhagnodedig a gludir mewn swmp, ar ffurf dogfen sy'n ymwneud â phob llwyth ac a anfonir ynghyd â phob llwyth.

(2Yn achos unrhyw ddeunydd porthiant a werthir mewn swm sydd heb fod yn fwy na 10 kg, ac a gyflenwir yn uniongyrchol i'r defnyddiwr terfynol, gall y gosodiad statudol gael ei roi ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig.

(3Rhaid i'r manylion, yr wybodaeth a'r cyfarwyddiadau y mae'n ofynnol eu cynnwys neu y caniateir eu cynnwys yn y gosodiad statudol —

(a)bod ar wahân yn glir i unrhyw wybodaeth arall;

(b)bod yn Saesneg neu yn Gymraeg, yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6) isod; ac

(c)bod yn ddarllenadwy ac yn annileadwy.

(4At ddibenion adran 69 (marcio deunydd wedi'i baratoi i'w werthu), rhaid i ddeunydd rhagnodedig a gynhwysir mewn pecyn neu gynhwysydd arall gael ei labelu neu ei farcio yn y dull sydd wedi'i ragnodi mewn perthynas â deunydd o'r fath ym mharagraff (1) neu, os yw'n gymwys, (2), uchod, a rhaid i'r deunydd hwnnw mewn swmp gael ei farcio drwy arddangos dogfen sy'n ymwneud ag ef mor agos at y deunydd ag y bo'n ymarferol.

(5Yn achos unrhyw borthiant cyfansawdd neu ddeunydd porthiant y bwriedir eu hallforio i Aelod-wladwriaeth, rhaid i'r gosodiad statudol fod mewn un neu fwy o ieithoedd swyddogol y Gymuned, yn ôl penderfyniad yr Aelod-wladwriaeth honno.

(6Yn achos unrhyw borthiant, nad yw'n borthiant söotechnegol, y bwriedir ei allforio i un o Wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop nad yw'n Aelod-wladwriaeth, rhaid i'r gosodiad statudol gydymffurfio â gofynion Erthygl 18 o'r Gyfarwyddeb Ychwanegion fel pe bai'r Wladwriaeth Ardal Economaidd Ewrop yn Aelod-wladwriaeth.

Cofrestr farciau

6.—(1Mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd porthiant, caiff y materion y mae'n ofynnol eu marcio ar y deunydd hwnnw o dan adran 69(1) gael eu dynodi â marc y gellir darganfod ei ystyr drwy gyfeirio at gofrestr a gedwir yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn achos unrhyw borthiant cyfansawdd, nad yw o fformwla safonol sydd ar werth yn gyffredinol gan y gwerthwr o dan sylw, sy'n cael ei weithgynhyrchu neu ei gymysgu yn unswydd ar gyfer archeb prynwr —

(a)rhaid dangos y math o borthiant, a'r enw neu'r enw masnach, a chyfeiriad neu swyddfa gofrestredig y gweithgynhyrchydd a hynny mewn dogfen, label neu hysbysiad sy'n hawdd i'w weld ac yn gysylltiedig yn ddigamsyniol â'r deunydd, a

(b)gall y materion eraill y mae'n ofynnol o dan adran 69(1) eu marcio ar y deunydd gael eu dynodi â marc y gellir darganfod ei ystyr drwy gyfeirio at gofrestr a gedwir yn unol â'r rheoliad hwn.

(3Rhaid i'r gofrestr ddangos y materion hynny y mae'r marc yn ymwneud â hwy, sef materion y mae'n ofynnol eu cynnwys mewn gosodiad statudol ynghylch y deunydd y mae'r marc yn ymwneud ag ef, a dyddiad cofnodi'r manylion hynny yn y gofrestr, a rhaid i gofnodion ynghylch deunydd o fath a grybwyllir ym mharagraff (2) uchod gynnwys enw a chyfeiriad y prynwr, dyddiad yr archeb a faint a archebwyd.

(4Rhaid i'r gofrestr gael ei chadw fel cofnod ar wahân ar ffurf llyfr, wedi'i marcio ar y tu allan â “Cofrestr marciau o dan adran 69(6) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970” ac/neu “Register of marks under section 69(6) of the Agriculture Act 1970” a rhaid ei chadw ar y safle lle mae'r deunydd yn cael ei gadw er mwyn ei werthu yng nghwrs masnach i'w ddefnyddio fel porthiant, ac eithrio, os nad yw'r deunydd ar safle'r person y mae'r deunydd ar werth ganddo, ar y safle hwnnw y mae'n rhaid i'r gofrestr gael ei chadw.

(5Chwe mis yw'r cyfnod y mae'n rhaid i'r gofrestr gael ei chadw'n ddiogel yn unol ag adran 69(7), gan gychwyn ar y diwrnod cyntaf na fydd dim o'r deunyddiau y cyfeirir atynt yn y gofrestr ar ôl ar y safle, i'w gwerthu fel y crybwyllwyd uchod.

(6Rhaid i'r gofrestr gael ei gwneud a'i chadw gan y gwerthwr o dan sylw.

Cyfyngiadau ar amrywiadau

7.—(1Bydd i adran 74(2) effaith, mewn perthynas â Chymru, fel pe bai'r geiriau “, or the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001,” wedi'u mewnosod ar ôl y geiriau “this part of this Act”.

(2At ddibenion adran 74, fel y'i diwygiwyd gan baragraff (1) uchod, bydd y cyfyngiadau ar amrywiadau mewn perthynas ag unrhyw gam-ddatgan mewn gosodiad, dogfen neu farc statudol, ynghylch natur, sylwedd neu ansawdd porthiant neu ddeunydd porthiant, pan yw'r cam-ddatgan yn ymwneud —

(a)ag unrhyw gyfansoddyn dadansoddiadol a bennir yng ngholofn gyntaf —

(i)Rhan A o Atodlen 6 (os yw'r porthiant yn borthiant cyfansawdd na fwriedir ar gyfer anifeiliaid anwes),

(ii)Rhan B o Atodlen 6 (os yw'r porthiant yn fwyd cyfansawdd i anifeiliaid anwes), neu

(iii)Rhan C o Atodlen 6 (yn achos deunydd porthiant),

(b)ag unrhyw fitamin neu elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf Rhan D o'r Atodlen honno, neu

(c)â gwerth egni unrhyw borthiant a bennir yng ngholofn gyntaf Rhan E o'r Atodlen honno,

fel y'u nodwyd mewn perthynas â'r cyfansoddyn hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, y fitamin hwnnw, yr elfen brin honno neu'r porthiant hwnnw, yn y cofnod cyfatebol yn ail golofn y Rhan berthnasol o'r Atodlen honno.

(3At ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf neu ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid peidio â thrin manylion mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd a gynhwysir mewn gosodiad statudol, neu mewn unrhyw ddogfen, neu sydd wedi'u marcio ar y deunydd, neu a ddynodir gan farc ar y deunydd, fel pe baent yn ffug oherwydd unrhyw gam-ddatganiad arnynt ynghylch natur, sylwedd neu ansawdd y deunydd —

(a)os cafodd y deunydd ei werthu gyntaf, neu ei roi mewn cylchrediad fel arall, mewn Aelod-wladwriaeth,

(b)os nad oedd y cam-ddatganiad, adeg rhoi'r deunydd mewn cylchrediad, y tu hwnt i unrhyw gyfyngiadau ar amrywiadau a ragnodwyd mewn perthynas ag ef yn yr Aelod-wladwriaeth honno, ac

(c)os oedd unrhyw gyfyngiadau o'r fath yn cyd-fynd ag unrhyw Gyfarwyddeb gan y Gymuned Ewropeaidd a oedd yn gymwys.

Priodoli ystyron

8.  At ddibenion adran 70, priodolir i'r ymadroddion “porthiant cydategol”, “porthiant cyflawn”, “porthiant cyfansawdd”, “porthiant”, “porthiant yn lle llaeth”, “porthiant mwynol” a “porthiant triagl” ym mhob achos yr ystyr a roddir i'r ymadrodd o dan sylw gan reoliad 2(1).

Dull pecynnu a selio porthiant cyfansawdd, ychwanegion a rhag-gymysgeddau

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, ni chaiff neb werthu porthiant cyfansawdd, nac unrhyw ychwanegyn neu rag-gymysgedd, oni bai ei fod mewn bag neu gynhwysydd, a'r bag neu'r cynhwysydd wedi'i selio fel bod y sêl, wrth i'r bag neu'r cynhwysydd gael ei agor, yn cael ei difrodi ac yn methu â chael ei hailddefnyddio.

(2Gall porthiant cyfansawdd gael ei werthu mewn swmp, mewn bagiau heb eu selio neu mewn cynwysyddion heb eu selio, yn achos —

(a)llwythi sy'n cael eu cludo rhwng cynhyrchwyr neu werthwyr porthiant cyfansawdd;

(b)llwythi sy'n cael eu cludo oddi wrth gynhyrchwyr porthiant cyfansawdd i fentrau pecynnu;

(c)porthiant cyfansawdd a geir drwy gymysgu grawnfwydydd neu ffrwythau cyfan;

(ch)blociau neu lyfeini;

(d)symiau bach heb fod yn fwy na 50 kg o ran pwysau, a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr terfynol ac sy'n cael eu cymryd yn uniongyrchol o fag neu gynhwysydd a oedd, yn union cyn eu hagor, yn cydymffurfio â'r ddarpariaeth ynghylch selio ym mharagraff (1) uchod.

(3Gall porthiant cyfansawdd gael ei werthu mewn swmp, neu mewn cynwysyddion sydd heb eu selio, ond nid mewn bagiau sydd heb eu selio, yn achos —

(a)llwythi sy'n cael eu cludo yn uniongyrchol oddi wrth y cynhyrchydd i'r defnyddiwr terfynol;

(b)porthiant triagl sy'n cynnwys llai na thri deunydd porthiant;

(c)porthiant ar ffurf pelenni.

Rheoli deunyddiau porthiant

10.—(1Ni chaiff neb roi mewn cylchrediad unrhyw ddeunydd porthiant o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn (3) o Ran II o Atodlen 2, o dan enw heblaw'r enw a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Rhan honno.

(2Ni chaiff neb roi mewn cylchrediad unrhyw ddeunydd porthiant o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn (1) o Ran III o Atodlen 2, ac eithrio o dan enw neu ddisgrifiad, neu enw a disgrifiad (heblaw un a bennir yn y golofn honno neu yng ngholofn (2) o Ran II o'r Atodlen honno) sy'n ddigon penodol i ddangos natur y deunydd.

(3Ni chaiff neb —

(a)rhoi mewn cylchrediad unrhyw ddeunydd porthiant o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn (3) o Ran II o Atodlen 2, a chanddo enw a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Rhan honno sy'n cynnwys enw neu derm cyffredin a bennir yng ngholofn (4) o Ran I o'r atodlen honno, na

(b)gwerthu unrhyw borthiant cyfansawdd sy'n cynnwys unrhyw ddeunydd porthiant o'r fath, na'i feddiannu gyda golwg ar ei werthu,

oni bai, yn y naill achos neu'r llall, bod y deunydd porthiant wedi'i baratoi drwy'r broses a bennir, mewn perthynas â'r enw neu'r term cyffredin, yng ngholofn (2), ac a ddisgrifir yng ngholofn (3), o Ran I o'r Atodlen honno.

(4Ni chaiff neb roi mewn cylchrediad unrhyw ddeunydd porthiant, na gwerthu unrhyw borthiant cyfansawdd sy'n cynnwys unrhyw ddeunydd porthiant, na'i feddiannu gyda golwg ar ei werthu, oni bai —

(a)yn achos unrhyw ddeunydd porthiant o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn (3) o Ran II o Atodlen 2 —

(i)nad yw purdeb botanegol y deunydd porthiant yn ôl ei bwysau yn llai na'r ganran (os oes un) a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (3) o Ran II o'r Atodlen honno neu, os nad oes canran wedi'i phennu, nad yw'n llai na 95%; a

(ii)bod y deunydd porthiant yn cydymffurfio â gofynion paragraff 1 o Adran II o Ran A o'r Atodiad i'r Gyfarwyddeb Deunyddiau Porthiant, a

(b)yn achos unrhyw ddeunydd porthiant o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn (1) o Ran III o'r Atodlen honno —

(i)nad yw purdeb botanegol y deunydd porthiant yn ôl ei bwysau yn llai na 95%; a

(ii)bod y deunydd porthiant yn cydymffurfio â gofynion paragraff 1 o Adran II fel y dywedwyd uchod.

(5Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ddeunydd porthiant i lynu deunydd porthiant arall, os yw swm y deunydd porthiant a ddefnyddir felly yn fwy na 3% o gyfanswm pwysau'r deunydd porthiant a lynir.

(6Heb ragfarnu adrannau 73 a 73A, ni chaiff neb fewnforio unrhyw ddeunydd porthiant i Gymru o unrhyw wlad nad yw'n Aelod-wladwriaeth nac yn rhan arall o'r Deyrnas Unedig, ei gyflenwi (heblaw drwy werthu) na'i feddiannu gyda golwg ar ei gyflenwi, oni bai ei fod yn iachus, ac nad yw'n andwyol nac yn beryglus i greaduriaid fferm, i anifeiliaid anwes neu, drwy yfed neu fwyta cynhyrchion unrhyw anifeiliaid a fwydwyd ar y deunydd porthiant, i fodau dynol.

(7Ni chaiff neb roi unrhyw ddeunydd porthiant mewn cylchrediad mewn modd sy'n debyg o gamarwain.

(8Ym mharagraff 4(a) uchod cymerir nad yw “disgrifiad” yn cynnwys unrhyw ofyniad ynghylch purdeb botanegol.

Rheoli ychwanegion mewn porthiant

11.—(1Ni chaiff neb ddefnyddio ychwanegyn at ddibenion maethiad anifeiliaid oni bai bod dull ei ymgorffori mewn porthiant yn cyd-fynd â pharagraffau (2) i (4) isod.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 21 a pharagraff (8) isod, ni chaiff neb gyflawni gweithgaredd perthnasol mewn perthynas ag ychwanegyn, oni bai —

(a)os nad yw'r ychwanegyn wedi'i gynnwys mewn unrhyw borthiant —

(i)bod yr ychwanegyn —

(aa)wedi'i ganiatáu i gael ei gynnwys mewn deunydd y bwriedir ei ddefnyddio fel porthiant yn unol â pharagraff 5(1) o Atodlen 3 neu,

(bb)wedi'i bennu yn unrhyw un o Rannau I i VIII o'r Tabl i Atodlen 3(22), neu

(ii)bod y gweithgaredd perthnasol yn ymwneud ag ychwanegyn a awdurdodwyd o dan unrhyw un o Reoliadau'r Gymuned Ewropeaidd a bennir yn Rhan IX o'r Tabl hwnnw,

(b)os yw'r ychwanegyn wedi'i gynnwys mewn porthiant, ei fod yn dod o dan is-baragraff (a) uchod ac, os yw'n gymwys, bod y porthiant neu, yn ôl fel y digwydd, y gweithgaredd perthnasol, yn cydymffurfio â'r gofynion perthnasol a bennir yn Atodlen 3 neu, yn ôl fel y digwydd, â'r amodau perthnasol y mae'n ofynnol eu parchu er mwyn cydymffurfio â Rheoliad perthnasol y Gymuned Ewropeaidd.

(3Ym mharagraff (2) uchod, ystyr “gweithgaredd perthnasol”, mewn perthynas ag ychwanegyn, yw unrhyw un neu fwy o'r canlynol —

(a)rhoi unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys yr ychwanegyn mewn cylchrediad i'w ddefnyddio fel porthiant,

(b)defnyddio unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys yr ychwanegyn fel porthiant,

(c)rhoi'r ychwanegyn mewn cylchrediad, i'w ymgorffori mewn porthiant,

(ch)ymgorffori'r ychwanegyn mewn porthiant.

(4Heb ragfarnu paragraff (2) uchod, ni chaiff neb ymgorffori unrhyw ychwanegyn mewn deunydd porthiant, oni bai —

(a)(os yw'r ychwanegyn wedi'i restru yn unrhyw un o Rannau I i VIII o'r Tabl i Atodlen 3) bod yr ymadrodd “all feeding stuffs” i'w weld, gyferbyn â'r ychwanegyn hwnnw, p'un a oes geiriau amodi gydag ef neu beidio, yn y golofn o dan y pennawd “Conditions” yn y Rhan o dan sylw,

(b)(os yw'r ychwanegyn wedi'i awdurdodi fel arall) y dangosir yn Rheoliad perthnasol y Gymuned Ewropeaidd y caniateir ei ymgorffori felly, neu

(c)y caniateir cynnwys yr ychwanegyn mewn deunydd yn unol â pharagraff 5(1) o'r Atodlen honno.

(5Ni fydd paragraffau (1) i (4) uchod yn gymwys i unrhyw ychwanegyn sydd —

(a)i'w ddefnyddio yn unol â phresgripsiwn MFS a roddwyd gan filfeddyg cofrestredig, yn unol â rheoliad 29 o Reoliadau Porthiant Meddyginiaethol 1998,

(b)yn rhag-gymysgedd meddyginiaethol awdurdodedig,

(c)yn gynnyrch canolradd awdurdodedig, neu

(ch)yn ychwanegyn söotechnegol.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (8) isod, ni chaiff neb roi mewn cylchrediad, i'w ddefnyddio fel porthiant, unrhyw borthiant cydategol sydd, o'i wanhau fel y'i pennir gan y gweithgynhyrchydd i'w fwydo i anifeiliaid, yn cynnwys unrhyw ychwanegyn a bennir yn unrhyw un o Rannau I i VIII o'r Tabl i Atodlen 3, neu sydd wedi'i awdurdodi gan unrhyw un o Reoliadau'r Gymuned Ewropeaidd a bennir yn Rhan IX o'r Tabl hwnnw, ar lefel sy'n uwch na'r lefel a bennir ar gyfer yr ychwanegyn hwnnw yn y Rhan o dan sylw neu yn Rheoliad y Gymuned Ewropeaidd, mewn perthynas â phorthiant cyflawn.

(7Ni chaiff neb —

(a)cymysgu mewn rhag-gymysgedd neu borthiant, gydag ychwanegyn nad yw'n ychwanegyn söotechnegol, ychwanegyn arall nad yw'n ychwanegyn söotechnegol, oni bai bod y cymysgu hwnnw yn cyd-fynd ag Erthygl 9q2 o'r Gyfarwyddeb Ychwanegion, na

(b)cymysgu micro-organedd gydag ychwanegyn söotechnegol, oni bai bod y cymysgu hwnnw wedi'i ganiatáu fel y'i pennir yn Erthygl 9q4 o'r Gyfarwyddeb Ychwanegion.

(8Ni fydd paragraff (2) uchod, i'r graddau y mae'n rheoleiddio “rhoi mewn cylchrediad”, na pharagraff (6) uchod, yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ychwanegyn sydd wedi'i hepgor o gymhwysiad y Gyfarwyddeb Ychwanegion gan Erthygl 22 ohoni.

(9Ni chaiff neb ddefnyddio fel porthiant unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys unrhyw ychwanegyn na chaniateir ei gynnwys mewn deunydd yn unol â pharagraff 5(1) o'r Tabl i Atodlen 3, neu y cyfeirir ato yn unrhyw un o Rannau I i VIII ohono, neu sydd wedi'i awdurdodi fel arall, sy'n andwyol i greaduriaid fferm, i anifeiliaid anwes, i fodau dynol neu i'r amgylchedd.

Rheoli porthiant a deunyddiau porthiant sy'n cynnwys deunyddiau annymunol

12.—(1Ni chaiff neb werthu, na meddiannu gyda golwg ar werthu, i'w ddefnyddio fel porthiant, na defnyddio fel porthiant, unrhyw ddeunydd a bennir yng ngholofn 2 o Ran I o Atodlen 7, sy'n cynnwys unrhyw sylwedd a bennir yng ngholofn 1 o'r Rhan honno uwchlaw'r lefel a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3 ohoni.

(2Ni chaiff neb werthu, na meddiannu gyda golwg ar werthu, i'w ddefnyddio fel porthiant, na defnyddio fel porthiant, unrhyw borthiant cydategol —

(a)os yw, o'i wanhau fel y'i pennir gan y gweithgynhyrchydd i'w fwydo i anifeiliaid, yn cynnwys unrhyw sylwedd a bennir yng ngholofn 1 o Ran I o Atodlen 7, uwchlaw'r lefel a bennir yng ngholofn 3 o'r Rhan honno mewn perthynas â phorthiant cyflawn, a

(b)os nad oes darpariaeth yn ymwneud ag unrhyw borthiant cydategol yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r Rhan honno.

(3Ni chaiff neb roi mewn cylchrediad unrhyw ddeunydd porthiant a bennir yng ngholofn 2 o Bennod A o Ran II o Atodlen 7, sy'n cynnwys unrhyw sylwedd a bennir yng ngholofn 1 o'r Rhan honno uwchlaw'r lefel a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3 ohoni.

(4Heb ragfarnu paragraff (3) uchod, ac yn ddarostyngedig i baragraff (5) isod, ni chaiff neb roi mewn cylchrediad unrhyw ddeunydd porthiant a bennir yng ngholofn 2 o Bennod A o Ran II o Atodlen 7, neu yng ngholofn 2 o Bennod B o'r Rhan honno, sy'n cynnwys unrhyw sylwedd a bennir mewn perthynas â'r deunydd o dan sylw yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 1 o'r Bennod o dan sylw, uwchlaw'r lefel a bennir yng ngholofn 3 o Ran I o'r Atodlen honno mewn perthynas â'r deunydd porthiant cyfatebol, oni bai bod y deunydd porthiant a roddir mewn cylchrediad —

(a)wedi'i fwriadu i'w ddefnyddio ar y canlynol yn unig —

(i)sefydliad a gymeradwywyd neu a ganiateir gan y DU ar gyfer Erthygl 2.2(d);

(ii)sefydliad a gymeradwywyd neu a ganiateir gan y DU ar gyfer Erthygl 2.2(f);

(iii)sefydliad a gymeradwywyd neu a ganiateir gan y CE ar gyfer Erthygl 2.2(d); neu

(iv)sefydliad a gymeradwywyd neu a ganiateir gan y CE ar gyfer Erthygl 2.2(f);

a

(b)yn dod ynghyd â dogfen sy'n datgan —

(i)ei fod wedi'i fwriadu i'w ddefnyddio gan sefydliadau o'r fath,

(ii)na chaiff gael ei fwydo i dda byw heb ei brosesu, a

(iii)faint o'r sylwedd penodedig a gynhwysir yn y deunydd penodedig.

(5At ddibenion paragraff (4) uchod, ni fernir bod unrhyw sefydliad yn y DU neu'r CE yn sefydliad a gymeradwywyd oni bai —

(a)yn achos sefydliad yn y DU, ei fod wedi'i gynnwys yn y rhestr genedlaethol ddiweddaraf (os oes un) sydd wedi'i chyhoeddi,

(b)yn achos sefydliad yn y CE, ei fod wedi'i gynnwys yn y rhestr ddiweddaraf (os oes un) sydd wedi'i chyhoeddi ac sy'n cyfateb yn yr Aelod-wladwriaeth o dan sylw i'r rhestr genedlaethol.

(6Ni chaiff neb gymysgu gydag unrhyw borthiant neu ddeunydd porthiant unrhyw ddeunydd porthiant a bennir yng ngholofn 2 o Bennod A o Ran II o Atodlen 7, os yw'r deunydd porthiant a bennir felly yn cynnwys unrhyw sylwedd a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 1 o'r Rhan honno uwchlaw'r lefel a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3 ohoni.

(7Ni chaiff neb roi mewn cylchrediad unrhyw ddeunydd porthiant oni bai —

(a)ei fod mewn cyflwr da ac yn ddilys, a

(b)ei fod o ansawdd werthadwy.

(8At ddibenion paragraff (7) uchod, a heb ragfarnu darpariaethau paragraff (3) uchod, nid yw deunydd porthiant mewn cyflwr da, yn ddilys ac o ansawdd werthadwy (pe bai'r deunydd yn cael ei ymgorffori mewn unrhyw borthiant cyfansawdd a bennir yng ngholofn 2 o Ran 1 o Atodlen 7) pe bai lefel unrhyw sylwedd a bennir yng ngholofn 1 o'r Rhan honno), ac a gynhwysir yn y deunydd porthiant, yn uwch na'r lefel a bennir ar gyfer y sylwedd hwnnw yng ngholofn 3 o'r Rhan honno mewn perthynas â'r porthiant cyfansawdd o dan sylw.

(9Os oes neu os oedd gan berson unrhyw borthiant neu ddeunydd porthiant yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth, at ddibenion masnach neu fusnes, ac yntau'n cael gwybod —

(a)yn achos porthiant, nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion ym mharagraffau (1) neu (2) uchod; neu

(b)yn achos deunydd porthiant, nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion ym mharagraffau (3), (4), (7) neu (8) uchod,

rhaid i'r person hwnnw roi gwybod ar unwaith i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i arolygydd a benodir o dan adran 67(3) gan yr awdurdod y mae arno ddyletswydd, yn rhinwedd adran 67(1A), i orfodi Rhan IV o'r Ddeddf mewn perthynas â'r porthiant neu'r deunydd porthiant o dan sylw.

(10At ddibenion y darpariaethau uchod yn y rheoliad hwn —

(a)ystyr “porthiant” yw —

(i)cynnyrch sy'n deillio o lysiau neu o anifeiliaid yn ei gyflwr naturiol (yn ffres neu wedi'i gadw);

(ii)cynnyrch a geir drwy brosesu cynnyrch o'r fath yn ddiwydiannol; neu

(iii)sylwedd organig neu anorganig, a ddefnyddir ar ei ben ei hun neu mewn cymysgedd,

p'un a yw'n cynnwys ychwanegion neu beidio, i'w fwydo drwy'r geg i anifeiliaid anwes, creaduriaid â ffermir neu anifeiliaid sy'n byw yn rhydd yn y gwyllt, a dehonglir “porthiant cydategol”, “porthiant cyflawn” a “porthiant cyfansawdd” yn unol â hynny; a

(b)ystyr “deunydd porthiant” yw cynnyrch neu sylwedd o fewn y diffiniad o “feed materials” yn Erthygl 2(b) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/29/EC ar sylweddau a chynhyrchion annymunol mewn maethiad anifeiliaid (23).

Rheoli porthiant cyfansawdd sy'n cynnwys deunyddiau gwaharddedig

13.—(1Ni chaiff neb werthu, na meddiannu gyda golwg ar werthu, i'w ddefnyddio fel porthiant cyfansawdd, na defnyddio fel porthiant cyfansawdd, unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys —

(a)ysgarthion, wrin neu gynhwysion y llwybr traul wedi'u gwahanu yn sgil gwacáu neu dynnu'r llwybr traul, ni waeth a oes unrhyw fath o drin neu gymysgu wedi'i ddefnyddio;

(b)croen wedi'i drin â sylweddau barcio, gan gynnwys y gwastraff sy'n dod ohono;

(c)hadau neu ddeunyddiau eraill ar gyfer lluosogi planhigion sydd, ar ôl eu cynaeafu, wedi'u trin yn benodol â chynhyrchion amddiffyn planhigion gan fwriadu eu lluosogi, neu sgil-gynhyrchion sy'n deillio ohonynt;

(ch)pren, blawd llif neu ddeunyddiau eraill sy'n deillio o bren a driniwyd â chynhyrchion amddiffyn pren;

(d)llaid o safleoedd carthion sy'n trin dyfroedd gwastraff;

(dd)gwastraff trefol solet, megis gwastraff cartrefi;

(e)gwastraff heb ei drin o fannau bwyta, ac eithrio bwydydd sy'n deillio o lysiau y bernir nad ydynt yn addas i bobl eu bwyta oherwydd ffresni; neu

(f)pecynnau a rhannau o becynnau a ddefnyddiwyd mewn amaethyddiaeth neu yn y diwydiant bwyd.

(2At ddibenion paragraff (1) uchod, ac eithrio is-baragraff (d), ystyr “gwastraff” fydd deunydd o unrhyw gategori cymwys a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC(24) ar wastraff, a deflir neu y bwriedir eu taflu neu y mae'n ofynnol ei daflu.

Rheoli ffynonellau protein penodol

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4) isod, ni chaiff neb werthu, na meddiannu gyda golwg ar werthu, i'w ddefnyddio fel porthiant neu fel ffynhonnell protein mewn porthiant, unrhyw ddeunydd sy'n perthyn i grŵ p cynhyrchion a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 8, oni bai bod y deunydd hwnnw —

(a)wedi'i enwi yn gynnyrch a ganiateir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno; a

(b)yn cydymffurfio â'r holl fanylebau a gofynion a gynhwysir yng ngholofnau 3 i 6 o'r Atodlen honno a'u gorfodi ganddynt mewn perthynas ag ef.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch a geir o furumau o'r math “Candida” a dyfir ar n-alcanau, na'i feddiannu gyda golwg ar ei werthu, i'w ddefnyddio fel porthiant, na'i ddefnyddio fel porthiant.

(3Ni fydd paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd neu gynnyrch sydd wedi'u hepgor o gymhwysiad y Gyfarwyddeb Cynhyrchion Penodol gan Erthygl 16 ohoni.

(4Ni fydd paragraff (1) uchod yn gymwys o dan yr amgylchiadau a awdurdodwyd ar gyfer rhan-ddirymiad gan Erthygl 3.2 o'r Gyfarwyddeb Cynhyrchion Penodol.

Rheoli'r haearn a gynhwysir mewn porthiant sy'n cymryd lle llaeth

15.  Ni chaiff neb werthu, na meddiannu gyda golwg ar werthu unrhyw borthiant sy'n cymryd lle llaeth a fwriedir ar gyfer lloi hyd at 70 cilogram o bwysau byw, a'r porthiant hwnnw'n cynnwys llai na 30 miligram o haearn ym mhob cilogram o'r porthiant cyflawn yn ôl cynnwys lleithedd o 12%.

Rheoli lludw sy'n annhoddadwy mewn asid hydroclorig mewn porthiant cyfansawdd

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ni chaiff neb werthu, na meddiannu gyda golwg ar werthu —

(a)unrhyw borthiant cyfansawdd a gyfansoddwyd yn bennaf o sgil-gynhyrchion reis y mae lefel y lludw sy'n anhoddadwy mewn asid hydroclorig ynddynt yn uwch na 3.3% o'i fater sych; na

(b)unrhyw borthiant cyfansawdd arall y mae lefel y lludw sy'n anhoddadwy mewn asid hydroclorig ynddo yn uwch na 2.2% o'i fater sych.

(2Ni fydd paragraff (1)(b) uchod yn gymwys ar gyfer gwerthu unrhyw borthiant cyfansawdd sydd —

(a)yn cynnwys glynwyr mwynol a ganiateir a enwir neu a ddisgrifir yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2439/1999 ynghylch yr amodau ar gyfer awdurdodi ychwanegion sy'n perthyn i'r grwp “binders, anti-caking agents and coagulants” mewn porthiant (25); neu

(b)sy'n borthiant mwynol; neu

(c)sy'n cynnwys mwy na 50% o sglodion betys siwgr neu fwydion betys siwgr; neu

(ch)a fwriedir ar gyfer pysgod a ffermir ac sy'n cynnwys mwy na 15% o flawd pysgod,

os datgenir yn y gosodiad statudol fod lefel y lludw sy'n anhoddadwy mewn asid hydroclorig fel canran o'r porthiant fel y cyfryw.

Rheoli porthiant a fwriedir at ddibenion maethiadol penodol, a darpariaethau atodol ynghylch y gosodiadau statudol

17.—(1Ni chaiff neb werthu unrhyw borthiant a fwriedir ar gyfer diben maethiadol penodol, na'i feddiannu gyda golwg ar ei werthu, oni bai —

(a)bod y diben maethiadol penodol o dan sylw wedi'i bennu yng ngholofn 1 o Bennod A o Atodlen 9;

(b)bod gan y porthiant y nodweddion maethiadol hanfodol a bennir gyferbyn â'r diben maethiadol penodol hwnnw yng ngholofn 2 o'r Bennod honno;

(c)bod y porthiant wedi'i fwriadu ar gyfer anifeiliaid a bennir gyferbyn â'r diben maethiadol penodol hwnnw yng ngholofn 3 o'r Bennod honno;

(ch)yr argymhellir defnyddio'r porthiant am gyfnod o amser sydd o fewn yr amrediad a bennir gyferbyn â'r diben maethiadol penodol hwnnw yng ngholofn 5 o'r Bennod honno;

(d)y cydymffurfir â'r gofynion a bennir ym mharagraffau 1, 2 ac 8 o Bennod B o Atodlen 9 mewn perthynas â'r porthiant; ac

(dd)bod cyfansoddiad y porthiant yn gyfryw fel bod modd iddo ateb y diben maethiadol penodol y bwriedir ef ar ei gyfer.

(2Bydd i Atodlen 10 effaith fel y'i pennir yn Atodlen 4.

Diwygio Deddf Amaethyddiaeth 1970 mewn perthynas â phob porthiant

18.—(1Bydd i is-adran (1) o adran 66 effaith yng Nghymru fel pe bai —

(a)y diffiniad canlynol wedi'i roi yn lle'r diffiniad o “feeding stuff”—

“feeding stuff” means —

(a)

a product of vegetable or animal origin in its natural state (whether fresh or preserved);

(b)

a product derived from the industrial processing of such a product; or

(c)

an organic or inorganic substance, used singly or in a mixture;

whether or not containing additives, for oral feeding to pet animals or farmed creatures;; a

(b)y diffiniad canlynol wedi'i roi yn lle'r diffiniad o “pet animal”—

“pet animal” has the same meaning as in Council Directive 70/524/EEC concerning additives in feeding stuffs as amended;; ac

(c)y diffiniad canlynol wedi'i fewnosod cyn y diffiniad o “prescribed” —

“premixture” means a mixture of additives, or a mixture of additives with substances used as carriers, intended for the manufacture of feeding stuffs;.

(2Bydd i is-adran (2) o adran 66 effaith yng Nghymru fel pe bai'r canlynol wedi'i roi yn lle paragraff (b) —

(b)material shall be treated —

(i)as imported or sold for use as a feeding stuff whether it is imported or, as the case may be, sold, to be used by itself, or as an ingredient, additive or premixture in something which is to be so used; and

(ii)as used as a feeding stuff whether it is so used by itself, or as an ingredient, additive or premixture in something which is to be so used..

(3Bydd i adrannau 73 a 73A effaith yng Nghymru fel pe bai'r geiriau “any farmed creatures” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “animals of any description prescribed for the purpose of the definition of “feeding stuff” in section 66(1) of this Act”.

(4Bydd i adran 85 effaith yng Nghymru fel pe na bai —

(a)paragraff (a) yn gymwys mwyach i'r graddau y mae'n ymwneud â chludo y tu allan i'r Deyrnas Unedig, a

(b)paragraff (b) yn gymwys mwyach.

Diwygio Deddf Amaethyddiaeth 1970 mewn perthynas â phorthiant wedi'i fewnforio

19.—(1Mewn perthynas â phorthiant sydd wedi'i fewnforio, bydd adran 69(1) yn parhau yn effeithiol yng Nghymru fel pe bai'n ddarostyngedig i'r diwygiadau y darperir ar eu cyfer yn y paragraff canlynol.

(2Mae'r geiriau “and in either case before it is removed from the premises” i'w dileu.

Esemptiadau rhag y Rheoliadau hyn

20.  I'r graddau y mae darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gweithredu'r Gyfarwyddeb Porthiant Cyfansawdd, ni fyddant yn gymwys o dan yr amgylchiadau a bennir yn Erthygl 14(c) o'r Gyfarwyddeb honno.

Esemptiadau pellach rhag y Rheoliadau hyn

21.  Ni fydd darpariaethau rheoliad 11(2) (i'r graddau y maent yn rheoleiddio rhoi ychwanegion a deunyddiau sy'n cynnwys ychwanegion mewn cylchrediad), na darpariaethau rheoliad 11(7)(a), yn gymwys o dan yr amgylchiadau a bennir yn Erthygl 9q5 o'r Gyfarwyddeb Ychwanegion.

Gorfodi darpariaethau a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972

22.  I'r graddau y gwneir unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, bydd y ddarpariaeth honno'n orfodadwy fel pe bai wedi'i gwneud o dan y darpariaethau hynny yn Rhan IV o'r Ddeddf y gwneir darpariaethau eraill y Rheoliadau hyn odanynt, a bydd darpariaethau'r Rhan honno yn gymwys yn unol â hynny.

Diddymiadau

23.  Mae Rheoliadau Porthiant 1995(26), Rheoliadau Porthiant (Diwygio) 1996(27), Rheoliadau Porthiant (Diwygio) 1998(28), Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Rhif 2) 1998(29)) a Rheoliadau Porthiant (Diwygio) 1999(30) drwy hyn wedi'u diddymu mewn perthynas â Chymru.

Diwygio adran 74A(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970

24.—(1Mewn perthynas â Chymru, at ddibenion y darpariaethau a bennir ym mharagraff (2) isod, bydd i adran 74A(3) effaith fel pe bai'r geiriau “any provision specified in regulation 24(2) of the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “regulations under subsection (1) above, or fails to comply with any other provision of the regulations,”.

(2Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw rheoliadau 10(1), (2), (3)(a), (4) (mewn perthynas â rhoi mewn cylchrediad) (6) a (7), 11(3)(a), (c) a (d), (4), (6) a (7) a 12(3), (4), (6), (7) a (9).

Diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999

25.  Yn Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999(31)) —

(a)bydd i baragraff 5(1) o Ran II o Atodlen 1 effaith yng Nghymru fel pe bai'r geiriau “section 76(1)(b) of the Act” yn darllen “section 76(7) of the Act, as that section is modified by regulation 10 of the Feeding Stuffs (Enforcement) Regulations 1999(32), a

(b)bydd i'r cyfeiriadau ym mharagraff 3(e)(ii) o Ran I o Atodlen 2, a pharagraff 11(a) o Ran II o Atodlen 3, at “the Feeding Stuffs Regulations 1995”, effaith yng Nghymru fel pe baent yn darllen “the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001”, ac

(c)bydd i'r ail gofnod ar gyfer starts (dull polarimetrig), yn Atodiad I i Ran II i Atodlen 2, effaith yng Nghymru fel pe bai'r darpariaethau canlynol wedi'i rhoi yn lle'r darpariaethau sy'n ymwneud â'r cofnod hwnnw yng ngholofnau 2 a 3:

Point 1 of Annex 1 to Directive 72/199/EEC (as replaced entirely by the Annex to Directive 1999/79/EC)(4) (4) OJ No. L123, 29.5.72, p. 6 (OJ/SE 1966-1972 supplement, p.74. OJ No. L209, 7.8.1999, p.23).

Diwygio Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999

26.—(1Bydd i ddarpariaethau Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999(33) a bennir ym mharagraff (2) isod effaith yng Nghymru fel pe bai'r geiriau “, as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and as modified by the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001,”(34) wedi'u hychwanegu ar ôl y geiriau “the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) Regulations 1999”, lle bynnag y'u gwelir.

(2Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod yw rheoliadau 98(8) a (9), 99 a 106(1)

Diwygio Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999

27.  Yn Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999(35)

(a)yn rheoliad 7(2) a (4), bydd i'r cyfeiriadau at “the Feeding Stuffs Regulations 1995”, effaith mewn perthynas â Chymru fel pe baent yn darllen “the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001”,

(b)yn rheoliad 8, bydd i'r cyfeiriad at Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 effaith mewn perthynas â Chymru fel pe bai'n gyfeiriad at y Rheoliadau hynny wedi'u diwygio gan Reoliadau Porthiant (Cynhyrchion Söotechnegol) 1999 ac fel y'u diwygir gan y Rheoliadau hyn;

(c)bydd i reoliad 9 effaith mewn perthynas â Chymru fel pe bai darpariaethau canlynol wedi'u rhoi yn lle darpariaethau'r rheoliad honno:

Modification of section 67(8) of the Agriculture Act 1970

9.  In Wales, section 67(8) of the Act shall (as specified in regulation 7) have effect as if, for the provisions of that subsection, there were substituted the following provisions:

(8) If the National Assembly for Wales is of opinion that, in any area covered by an enforcement authority, the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 or section 73 or 73A of the Act have been —

(a)insufficiently enforced or administered by the authority concerned, or

(b)enforced or administered by it without sufficient regard to the requirements of Council Directive 95/53/EC fixing the principles governing the organisation of official inspections in the field of animal nutrition, as amended by Council Directive 1999/20/EC,

it may appoint one or more inspectors to exercise the powers exercisable by inspectors appointed by the authority in question, and any expenses certified by it as having been incurred by it under this subsection shall be repaid to it on demand by that authority.

(36) (37) (38); ac

(ch)darllenir rheoliad 10, i'r graddau y mae'n diwygio adran 76 mewn perthynas â Chymru, fel pe bai, yn yr adran honno fel y'i diwygiwyd —

(i)y cyfeiriadau yn is-adrannau (8), (9) a (10) at Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 yn gyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Porthiant (Cynhyrchion Söotechnegol) 1999 ac fel y'i diwygir gan y Rheoliadau hyn, a

(ii)cyfeiriadau at y Rheoliadau hyn wedi'u rhoi yn lle'r cyfeiriadau yn is-adran 17 at Reoliadau Porthiant 1995.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(39)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Chwefror 2001

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources