- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynghylch symiau bach o borthiant a gynhwysir yn ail baragraff Erthygl 16.6 o'r Gyfarwyddeb Ychwanegion (y mae'n rhaid cadw ati, lle bo'n gymwys), ac i Erthygl 5.2 o'r Gyfarwyddeb Porthiant Cyfansawdd a pharagraff (2) isod, bydd y gosodiad statudol —
(a)yn achos unrhyw ddeunydd rhagnodedig a gludir mewn pecyn neu gynhwysydd arall —
(i)yn label wedi'i gysylltu â'r pecyn neu'r cynhwysydd hwnnw; neu
(ii)wedi'i farcio'n eglur yn uniongyrchol arno, a
(b)yn achos unrhyw ddeunydd rhagnodedig a gludir mewn swmp, ar ffurf dogfen sy'n ymwneud â phob llwyth ac a anfonir ynghyd â phob llwyth.
(2) Yn achos unrhyw ddeunydd porthiant a werthir mewn swm sydd heb fod yn fwy na 10 kg, ac a gyflenwir yn uniongyrchol i'r defnyddiwr terfynol, gall y gosodiad statudol gael ei roi ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig.
(3) Rhaid i'r manylion, yr wybodaeth a'r cyfarwyddiadau y mae'n ofynnol eu cynnwys neu y caniateir eu cynnwys yn y gosodiad statudol —
(a)bod ar wahân yn glir i unrhyw wybodaeth arall;
(b)bod yn Saesneg neu yn Gymraeg, yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6) isod; ac
(c)bod yn ddarllenadwy ac yn annileadwy.
(4) At ddibenion adran 69 (marcio deunydd wedi'i baratoi i'w werthu), rhaid i ddeunydd rhagnodedig a gynhwysir mewn pecyn neu gynhwysydd arall gael ei labelu neu ei farcio yn y dull sydd wedi'i ragnodi mewn perthynas â deunydd o'r fath ym mharagraff (1) neu, os yw'n gymwys, (2), uchod, a rhaid i'r deunydd hwnnw mewn swmp gael ei farcio drwy arddangos dogfen sy'n ymwneud ag ef mor agos at y deunydd ag y bo'n ymarferol.
(5) Yn achos unrhyw borthiant cyfansawdd neu ddeunydd porthiant y bwriedir eu hallforio i Aelod-wladwriaeth, rhaid i'r gosodiad statudol fod mewn un neu fwy o ieithoedd swyddogol y Gymuned, yn ôl penderfyniad yr Aelod-wladwriaeth honno.
(6) Yn achos unrhyw borthiant, nad yw'n borthiant söotechnegol, y bwriedir ei allforio i un o Wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop nad yw'n Aelod-wladwriaeth, rhaid i'r gosodiad statudol gydymffurfio â gofynion Erthygl 18 o'r Gyfarwyddeb Ychwanegion fel pe bai'r Wladwriaeth Ardal Economaidd Ewrop yn Aelod-wladwriaeth.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: