- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
16.—(1) Pan fydd unrhyw berson, gyda golwg ar gael taliad cymorth i'w hun neu i unrhyw berson arall, yn gwneud unrhyw ddatganiad neu'n rhoi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth sy'n daladwy i'r person hwnnw neu i'r person arall mewn perthynas â'r cynllun hwn a chaiff adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth o'r fath sydd eisoes wedi'i dalu i'r person hwnnw neu i'r person arall hwnnw.
(2) Pan fydd buddiolwr—
(a)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ymrwymiad a roddwyd, neu (yn rhinwedd rheoliad 13) sydd i'w drin fel ymrwymiad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn,
(b)yn methu â chaniatáu mynediad ac archwiliad gan berson awdurdodedig heb esgus rhesymol neu â rhoi pob cymorth rhesymol i'r person awdurdodedig hwnnw yn unol â rheoliad 15(2), neu
(c)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad arall yn y Rheoliadau hyn,
caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth sy'n daladwy i'r buddiolwr hwnnw o dan y cynllun hwn a chaiff adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth sydd eisoes wedi'i dalu a chaiff ei gwneud yn ofynnol hefyd i swm heb fod yn uwch na 10% o'r cymorth a dalwyd neu sy'n daladwy i'r buddiolwr gael ei dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1) neu (2), caiff drin unrhyw hawl sydd gan y buddiolwr i gael taliad cymorth o dan y Rheoliadau hyn fel hawl sydd wedi'i therfynu.
(4) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymdrin â hawl buddiolwr i gael cymorth fel hawl sydd wedi'i therfynu o dan baragraff (3), gall, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r buddiolwr, anghymwyso'r buddiolwr hwnnw rhag cymryd rhan mewn unrhyw gynllun amaeth-amgylcheddol am unrhyw gyfnod (heb fod yn fwy na dwy flynedd) o ddyddiad y terfyniad hwnnw a bennir yn yr hysbysiad.
(5) Cyn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1), (2), (3) neu (4), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a)rhoi esboniad ysgrifenedig i'r buddiolwr o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd a rhoi cyfle i'r buddiolwr ateb yr esboniad yn ysgrifenedig;
(b)rhoi cyfle i'r buddiolwr ymddangos gerbron person neu bersonau a benodir at y diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael gwrandawiad ganddo; ac
(c)ystyried yr adroddiad gan y person neu bersonau a benodwyd felly a darparu copi o'r adroddiad i'r buddiolwr.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: