Search Legislation

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1441 (Cy.145)

YR IAITH GYMRAEG

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002

Wedi'i wneud

28 Mai 2002

Yn dod i rym

25 Mehefin 2002

Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;

Yn awr felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(1), ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol(2), a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 a daw i rym ar 25 Mehefin 2002.

Pennu Cyrff Cyhoeddus

2.  Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mai 2002

Yr AtodlenENW CYMRAEG NEU GYFIEITHIAD O'R ENW

  • Yr Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector

  • Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

  • Awdurdod Strategol y Rheilffyrdd

  • Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu

  • Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu Peiriannol

  • Comisiynydd Plant Cymru

  • Cyngor Deintyddol Cyffredinol

  • Cyngor Defnyddwyr Gwasanaethau Post

  • Cyngor Defnyddwyr Nwy a Thrydan

  • Cyngor Gofal Cymru

  • Cyngor Gweithwyr Iechyd Proffesiynol

  • Cyngor Meddygol Cyffredinol

  • Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

  • Cyngor Teithwyr Rheilffyrdd

  • Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yng Nghymru a Lloegr

  • Pwyllgor Teithwyr Rheilffyrdd - Cymru

  • Tribiwnlysoedd Prisio Cymru a sefydlwyd o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (“y Ddeddf”) gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol (y Cynulliad Cenedlaethol bellach) yn cael pennu cyrff cyhoeddus pellach at y dibenion hynny.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu cyrff cyhoeddus pellach at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.

Mae tri Gorchymyn blaenorol wedi'u gwneud o dan adran 6 o'r Ddeddf:

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (1996/1898);

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (1999/1100); a

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 (2001/2550 (Cy.215)).

(2)

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources