- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
HADAU, CYMRU
Wedi'u gwneud
11 Mehefin 2002
Yn dod i rym
9 Gorffennaf 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan weithredu mewn perthynas â Chymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1) ac (1A)(e) a 36 o Ddeddf Amrywiaethau Planhigion a Hadau 1964(1), ar ôl ymgynghori yn unol â'r adran 16(1) honno â chynrychiolwyr buddiannau o'r fath y mae'n ymddangos iddo eu bod yn berthnasol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2002, maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 9 Gorffennaf 2002.
2.—(1) Caiff Rheoliadau Hadau (Ffioedd) 1985(2) eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 diwygir y diffiniad o “the Minister”—
(a)drwy fewnosod yn union ar ôl “Food” y geiriau “in relation to Wales the National Assembly for Wales”; a
(b)drwy ddileu'r geiriau “or Wales”.
(3) Ym mharagraff A (Ffioedd cychwynnol) o Atodlen 2—
(a)yn is-baragraff (ii) yn lle'r geiriau “(except field beans and field peas)” rhoddir y geiriau “(except field beans, field peas, white lupin, narrow-leaved lupin (blue lupin), yellow lupin, Hungarian vetch, common vetch, hairy vetch and lucerne)”; a
(b)ar ôl is-baragraff (iii) mewnosodir y geiriad canlynol—
“(iv)certified seed of the first generation of white lupin, narrow-leaved lupin (blue lupin), yellow lupin, Hungarian vetch, common vetch, hairy vetch and lucerne. | 9.10 (—)”. |
(4) Ym mharagraff B (Ffi archwilio cnydau) o Atodlen 2—
(a)yn lle'r geiriau “(except field beans and field peas)” rhoddir y geiriau “(except field beans, field peas, white lupin, narrow-leaved lupin (blue lupin), yellow lupin, Hungarian vetch, common vetch, hairy vetch and lucerne)”; a
(b)ar ôl y geiriau “field beans and field peas”, yn y lle olaf y maent yn digwydd, rhoddir y geiriau—
“or certified seed of the first generation of white lupin, narrow-leaved lupin (blue lupin), yellow lupin, Hungarian vetch, common vetch, hairy vetch and lucerne”.
(5) Ym mharagraff C (Ffi lot hadau) o Atodlen 2—
(a)yn is-baragraff (iii) yn lle'r geiriau “(except field beans and field peas)” rhoddir y geiriau “(except field beans, field peas, white lupin, narrow-leaved lupin (blue lupin), yellow lupin, Hungarian vetch, common vetch, hairy vetch and lucerne)”; a
(b)ar ôl is-baragraff (iv) rhoddir y geiriad canlynol—
“(ivA)certified seed of the first generation of white lupin, narrow-leaved lupin (blue lupin), yellow lupin, Hungarian vetch, common vetch, hairy vetch and lucerne. | 66.00 (—)”. |
(6) Ym mharagraff D (Ffi ailgyflwyno lot hadau) o Atodlen 2—
(a)yn is-baragraff (ii) yn lle'r geiriau “(except field beans and field peas)” rhoddir y geiriau “(except field beans, field peas, white lupin, narrow-leaved lupin (blue lupin), yellow lupin, Hungarian vetch, common vetch, hairy vetch and lucerne)”; a
(b)ar ôl is-baragraff (iii) rhoddir y geiriad canlynol—
“(iiiA)certified seed of the first generation of white lupin, narrow-leaved lupin (blue lupin), yellow lupin, Hungarian vetch, common vetch, hairy vetch and lucerne. | 46.20 (—)”. |
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
John Marek
Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
11 Mehefin 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Hadau (Ffioedd) 1985 (fel y'u diwygiwyd). Mae angen y diwygiadau o ganlyniad i Reoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3665 (Cy.297)) a dynnodd bysedd y blaidd gwynion, bysedd y blaidd dail cul (bysedd y blaidd glas), bysedd y blaidd melyn, ffacbys Hwngaraidd, ffacbys maethol, ffacbys blewog a maglys o'r diffiniad o “Hadau Ardystiedig” yn Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant 1993 a'u cynnwys yn hytrach o fewn y diffiniad o “Hadau Ardystiedig Cenhedlaeth Gyntaf”. Mae angen y diwygiadau er mwyn sicrhau bod y disgrifiadau o gategorïau o hadau y mae ffioedd yn cael eu rhagnodi ar eu cyfer yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau yn adlewyrchu'r newidiadau hyn.
1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraffau 5(1), (2) a (3); gweler adran 38(1) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1978/272) am ddiffiniad o “the Minister”; trosglwyddwyd swyddogaethau y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywiaethau Planhigion a Hadau 1964, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272); ac o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, fe drosglwyddwyd y swyddogaethau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
O.S. 1985/981; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1990/610, 1999/1553, 1999/1865 a 2001/2533 (Cy.210).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: