
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Camau i'w cymryd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl cael hysbysiad apêl
6.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n rhesymol ymarferol ar ôl derbyn hysbysiad apêl, anfon copi ohono i'r Cyngor, ynghyd â chopi o unrhyw ddogfen arall a amgaewyd gydag ef.
(2) Nid yw paragraff (1) uchod yn gymwys i'r canlynol—
(a)i hysbysiad apêl y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gael:
(i)yn achos unrhyw apêl heblaw apêl gwrthodiad tybiedig, ar ôl i gyfnod o ddau fis ddod i ben (neu unrhyw gyfnod hwy y cytunwyd arno'n ysgrifenedig gan yr apelydd a'r Cyngor) gan ddechrau ar ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniad; neu
(ii)yn achos apêl gwrthodiad tybiedig, ar ôl i gyfnod o chwe mis ddod i ben (neu'r cyfnod hwy hwnnw y cytunwyd arno'n ysgrifenedig gan yr apelydd a'r Cyngor) gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonodd yr apelydd hysbysiad i'r Cyngor o gynnig i gyflawni'r gweithrediad yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'r cydsyniad ar ei gyfer wedi cael ei wrthod;
(b)i hysbysiad apêl y mae'r apelydd, mewn manylyn perthnasol, wedi methu cydymffurfio â gofynion rheoliad 3 mewn perthynas ag ef, ond mewn achos o'r fath caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad i'r apelydd o natur y methiant hwnnw a'r camau sy'n angenrheidiol i'w gywiro ac os bydd yr apelydd, cyn pen 14 diwrnod ar ôl cael hysbysiad o'r fath yn cymryd y camau gofynnol, ni fydd yr is-baragraff bellach yn gymwys i'r hysbysiad apêl o dan sylw.
Back to top