Search Legislation

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rhan ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, bydd i eiriau neu ymadroddion yr ystyr a roddir iddynt yn y Ddeddf ac:

  • ystyr “apelydd” (“appellant”) yw person sy'n dwyn apêl ac, os bydd dau berson neu fwy yn ymuno i ddwyn apêl, mae'n cyfeirio at y personau ar y cyd;

  • ystyr “apêl” (“appeal”) yw apêl a wneir i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adrannau 6(1), 30(3) neu 38(3) o'r Ddeddf;

  • ystyr “asesydd” (“assessor”) yw person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff 4(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf;

  • ystyr “yr atebydd” (“the respondent”) yw'r person y mae ei benderfyniad yn destun yr apêl;

  • ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;

  • ystyr “cyfarfod cyn-ymchwiliad” (“pre-inquiry meeting”) yw cyfarfod a gynhelir cyn ymchwiliad i ystyried yr hyn a ellir ei wneud er mwyn sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn effeithiol ac yn gyflym ac, os cynhelir dau neu fwy o'r cyfarfodydd hynny, mae cyfeiriad at gyfarfod cyn-ymchwiliad yn dod i ben yn gyfeiriad at y cyfarfod terfynol yn dod i ben;

  • ystyr “datganiad amlinellol” (“outline statement”) yw datganiad yn amlinellu'r achos y mae person yn dymuno ei gyflwyno mewn perthynas ag apêl;

  • ystyr “datganiad o achos” (“statement of case”) yw datganiad ysgrifenedig sy'n cynnwys manylion llawn o'r achos y mae person yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas ag apêl, rhestr o ddogfennau y mae'r parti hwnnw yn bwriadu dibynnu arno ac o unrhyw ddogfennau a/neu fapiau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu bod angen gofyn i'r person hwnnw eu darparu;

  • mae i “dyddiad cychwyn” (“starting date”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 5(4);

  • mae cyfeiriadau at “fuddiant” (“interest”) mewn tir i'w dehongli yn unol ag adran 45(1) o'r Ddeddf;

  • ystyr “ffurf ddarllenadwy” (“legible form”), mewn perthynas â dogfen a anfonir drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, yw ffurf sy'n ei gwneud hi'n bosibl i ddarllen dogfen ar sgrin cyfrifiadur ynddi;

  • ystyr “ffurf electronig” (“electronic form”) yw ffurf y gellir ei storio ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur neu oddi wrtho, a'i darllen drwy ddefnyddio cyfrifiadur;

  • ystyr “ffurflen apêl” (“appeal form”) yw dogfen y dygir apêl drwyddi;

  • ystyr “map dros dro” (“provisional map”) yw map a ddyroddir gan y Cyngor mewn ffurf dros dro o dan adran 5(d) neu 5(e) o'r Ddeddf;

  • ystyr “map terfynol” (“conclusive map”) yw map a ddyroddir gan y Cyngor mewn ffurf derfynol o dan adran 9 o'r Ddeddf;

  • mae “person” (“person”) a “phersonau” (“persons”) yn cynnwys unigolion, corfforaethau a chyrff nad ydynt wedi'u hymgorffori;

  • ystyr “person â diddordeb” (“interested person”) yw person (heblaw'r apelydd neu'r atebydd) sydd wedi gwneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag apêl, onid yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol bod y sylw penodol wedi'i wneud yn wacsaw neu'n flinderus;

  • ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 8 o'r Ddeddf;

  • ystyr “personau â hawl i gymryd rhan” (“persons entitled to take part”) yw'r personau hynny a bennir felly yn rheoliadau 13 a 23, fel y bo'n briodol;

  • ystyr “Rheoliadau Mapiau Dros Dro” (“the Provisional Maps Regulations”) yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Dros Dro a Mapiau Terfynol) (Cymru) 2002(1);

  • ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw'r terfynau amser a bennir gan y Rheoliadau hyn neu, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi arfer ei bŵ er o dan reoliad 31 i estyn yr amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn, y terfynau hynny fel y'u hestynnwyd;

  • ystyr “tir adran 4(2)” (“section 4(2) land”) yw'r tir comin cofrestredig a'r tir agored y mae'n ofynnol i'r Cyngor baratoi mapiau yn unol ag adran 4(2) o'r Ddeddf mewn perthynas ag ef;

  • mae i “tir agored” yr ystyr a roddir i “open country” gan adran 1(2) o'r Ddeddf;

  • mae i “tir comin cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered common land” yn adran 1(3) o'r Ddeddf;

  • ystyr “ymchwiliad” (“inquiry”) yw ymchwiliad lleol cyhoeddus.

(2Yn y Rheoliadau hyn, oni phennir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.

(3Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod sy'n cael ei ddatgan yn y Rheoliadau hyn yn gyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad penodol, nid yw'r dyddiad hwnnw i'w gynnwys ac os yw'r diwrnod neu'r diwrnod olaf y mae'n ofynnol gwneud rhywbeth arno o dan y Rheoliadau hyn, neu'n unol â hwy, yn ddydd Sul, yn ddydd Nadolig, yn ddydd Gwener y Groglith, yn ŵ yl banc neu'n ddiwrnod sydd wedi'i bennu ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus, bernir bod y gofyniad yn ymwneud â thrannoeth nad yw'n un o'r dyddiau uchod.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources