- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol resymol ar ôl iddo gael ffurflen apêl wedi'i chwblhau, anfon copi ohoni at yr atebydd.
4.—(1) Rhaid i'r atebydd, o fewn 14 diwrnod ar ôl iddo gael ffurflen apêl oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd:
(a)datganiad sy'n cynnwys rhywbeth i ddangos a fydd yn gwrthwynebu'r apêl ac, os felly, ei seiliau dros wneud hynny;
(b)copïau o unrhyw ohebiaeth berthnasol rhwng yr apelydd a'r atebydd;
(c)mewn achos o apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf, copi o ddarn o fap sy'n dangos y rhan honno o'r map dros dro y mae'n berthnasol iddi;
(ch)copïau o unrhyw sylwadau a wnaed i'r atebydd gan unrhyw berson heblaw'r apelydd mewn perthynas â phenderfyniad ar ran yr atebydd y mae'r apêl yn berthnasol iddi; a
(d)unrhyw wybodaeth bellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ei darparu.
(2) Pan fydd yr atebydd wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (1), rhaid i'r atebydd, cyn i'r cyfnod perthnasol a bennir yn rheoliad 5(2) ddirwyn i ben, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd:
(a)datganiad yn cadarnhau a fydd yn gwrthwynebu'r apêl;
(b)datganiad a ydyw'n dymuno cael gwrandawiad gan berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r apêl (yn hytrach na bod yr apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig) ac, os felly, a yw'n dymuno cael gwrandawiad mewn ymchwiliad lleol neu, ar y llaw arall, mewn gwrandawiad, ac
(c)unrhyw wybodaeth bellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ei darparu.
5.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn gynt na diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (2), roi hysbysiad i'r apelydd ac i'r atebydd o'r ffurf y mae'r apêl i'w chymryd.
(2) Rhaid peidio â rhoi hysbysiad o dan baragraff (1):
(a)cyn bod 21 diwrnod yn dirwyn i ben o'r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu'r hysbysiadau a roddwyd neu a gyhoeddwyd o dan reoliad 6(1) neu (b) fel y dyddiad erbyn pryd y gellid gwneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol; neu
(b)yn achos apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf, ar ôl i dri mis ddirwyn i ben o ddyddiad dyroddir map dros dro y mae'r apêl yn berthnasol iddo,
p'un bynnag yw'r diweddaraf.
(3) Rhaid bod yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) wedi'i ddyddio a rhaid iddo ddatgan a yw'r apêl i gymryd ffurf;
(a)ymchwiliad lleol;
(b)gwrandawiad; neu
(c)nid (a) na (b), a chan hynny caiff ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(4) Y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan baragraff (1) yw'r “dyddiad cychwyn” at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r apêl y mae'n cyfeirio ati a rhaid i'r hysbysiad gynnwys datganiad i'r perwyl hwnnw.
(5) Os yw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol, ac mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu cynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad, rhaid i'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) hefyd gydymffurfio â gofynion rheoliad 18(2)(a).
6.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar yr un adeg y mae'n rhoi hysbysiad i'r apelydd ac i'r atebydd o dan reoliad 5(1), neu cyn gynted ag y mae'n ymarferol wedyn:
(a)cyhoeddi hysbysiad o'r apêl mewn o leiaf un papur newydd dyddiol sy'n cylchredeg drwy'r rhan gyfan honno o Gymru sy'n cynnwys yr ardal mae'r apêl yn ymwneud â hi ac mewn unrhyw bapurau newydd neu gyhoeddiadau eraill sy'n cylchredeg yn y rhan honno o Gymru y gwêl y Cynulliad yn dda; a
(b)os yw'n ymarferol, cyhoeddi hysbysiad o'r apêl ar wefan a gynhelir gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol; ac
(c)mewn achos o apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf, anfon hysbysiad o'r apêl at y cyrff a restrir yn Atodlen 1 i Reoliadau'r Mapiau Dros Dro.
(2) Rhaid i hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (1)(a) neu (b) neu a anfonir o dan baragraff (1)(c) gael ei dyddio a rhaid datgan:
(a)enw'r apelydd;
(b)digon o wybodaeth i adnabod y tir y dygwyd yr apêl mewn perthynas ag ef;
(c)os yw'r apel yn cael ei dwyn o dan adran 6 o'r Ddeddf, ar ba rai o'r seiliau a bennir yn adran 6(3) o'r Ddeddf y mae'n cael ei dwyn;
(ch)y cyfeirnod a ddyrannwyd i'r apêl;
(d)y dyddiad cychwyn;
(dd)y dulliau y mae aelodau o'r cyhoedd yn gallu archwilio, a gael copïau o'r dogfennau sy'n ymwneud â'r apêl;
(e)y gellir gwneud sylwadau sy'n ymwneud â'r apêl, a gaiff fod naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn ysgrifenedig neu mewn ffurf electronig i'r Cynulliad Cenedlaethol erbyn y dyddiad hwnnw a bennir yn yr hysbysiad, a rhaid i'r dyddiad hwnnw beidio â bod yn gynharach na 6 wythnos ar ôl y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad yn unol â pharagraff (1)(a) neu (b), ac y bydd copïau o'r sylwadau hynny yn cael eu darparu i'r apelydd ac i'r atebydd;
(f)y cyfeiriad y mae unrhyw gyfathrebiad ysgrifenedig at y Cynulliad Cenedlaethol i gael ei anfon iddo;
(ff)p'un a ydyw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol neu wrandawiad neu os yw i gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig;
(g)os yw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol, y bydd person sy'n gwneud sylwadau yn unol â pharagraff (2)(g) yn cael ei hysbysu o ddyddiad a lle'r ymchwiliad a chaiff fod yn bresennol yn yr ymchwiliad, ond y caniateir iddo gymryd rhan yn yr ymchwiliad yn unig gyda chaniatâd y person a benodwyd i'w gynnal; ac
(ng)os yw'r apêl i gymryd ffurf gwrandawiad, y bydd y person sy'n gwneud sylwadau yn unol â pharagraff 2(g) yn cael ei hysbysu o ddyddiad a lle'r gwrandawiad ond y caniateir iddo fod yn bresennol a chymryd rhan yn y gwrandawiad yn unig gyda chaniatâd y person a benodwyd i'w gynnal.
(3) Os yw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol, a bod y Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu cynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad, rhaid i'r hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff 1(a) neu (b) neu a anfonir o dan baragraff 1(c) hefyd gydymffurfio â gofynion rheoliad 18(2)(b).
(4) Caiff unrhyw hysbysiad a gyhoeddir neu a anfonir yn unol â pharagraff (1)(a), (b) neu (c), yn ychwanegol at yr wybodaeth sy'n ofynnol ei chynnwys yn yr hysbysiad hwnnw gan y rheoliad hwn, gynnwys gwybodaeth bellach o'r fath y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: