Search Legislation

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rhan VAPELAU A BENDERFYNIR AR ÔL YMCHWILIAD CYHOEDDUS LLEOL

Cymhwysiad

17.  Mae rheoliadau 18 i 28 yn gymwys i apelau sydd i'w penderfynu yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus lleol.

Y weithdrefn pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn peri bod cyfarfod cyn-ymchwiliad yn cael ei gynnal

18.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad:

(a)os yw'n disgwyl y bydd ymchwiliad yn para am 8 diwrnod neu fwy, onid yw o'r farn bod cyfarfod o'r fath yn ddiangen;

(b)o ran ymchwiliadau byrrach, os yw'n ymddangos eu bod yn angenrheidiol.

(2Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu cynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad:

(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon gyda'r hysbysiad y mae'n ei roi yn unol â rheoliad 5(1) neu gynnwys ynddo:

(i)hysbysiad o'i fwriad i gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad; a

(ii)datganiad o'r materion y mae'n benodol yn dymuno cael gwybodaeth amdanynt at ddibenion ei ystyriaethau ar yr apêl o dan sylw;

(b)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnwys yn yr hysbysiad y mae'n ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 6(1)(a) neu (b) neu y mae'n ei anfon yn unol â rheoliad 6(1)(c), hysbysiad o'i fwriad i gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad a datganiad o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a)(ii); ac

(c)rhaid i'r apelydd â'r atebydd ill dau anfon dau gopi o'u datganiad amlinellol at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 8 wythnos o'r dyddiad cychwyn.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o ddatganiad amlinellol yr atebydd at yr apelydd a datganiad amlinellol yr apelydd at yr atebydd.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw bersonau â diddordeb sydd wedi ei hysbysu o fwriad neu ddymuniad i gymryd rhan yn yr ymchwiliad anfon datganiad amlinellol ato, at yr apelydd ac at yr atebydd, a rhaid i'r personau hynny â diddordeb sicrhau bod datganiad o'r fath yn dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol, yr apelydd a'r atebydd o fewn 4 wythnos i ddyddiad gofyniad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol.

(5Rhaid cynnal y cyfarfod cyn-ymchwiliad (neu, os oes mwy nag un, y cyfarfod cyn-ymchwiliad cyntaf) o fewn 16 wythnos o'r dyddiad cychwyn.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad heb fod yn llai na 3 wythnos o'r cyfarfod cyn-ymchwiliad i'r apelydd, yr atebydd, i unrhyw berson â diddordeb y gwyddys ar ddyddiad yr hysbysiad ei fod yn dymuno cymryd rhan yn yr ymchwiliad ac i unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y byddai ei bresenoldeb yn ddymunol, a rhaid iddo, mewn perthynas â hysbysiad o'r cyfarfod cyn-ymchwiliad, gymryd un neu fwy o'r camau a bennir, mewn perthynas â'r ymchwiliad, yn rheoliad 22(6).

(7O ran y person penodedig:

(a)mae i lywyddu yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad;

(b)mae i benderfynu'r materion sydd i'w trafod a'r weithdrefn sydd i'w dilyn;

(c)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n bresennol yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad, sydd ym marn y person penodedig yn ymddwyn mewn dull aflonyddgar i ymadael; ac

(ch)caiff wrthod caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd neu bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod cyn-ymchwiliad pellach, neu ganiatáu i'r person hwnnw ddychwelyd neu fod yn bresennol yn unig o dan yr amodau y caiff y person penodedig eu pennu.

(8Os cafodd cyfarfod cyn-ymchwiliad ei gynnal yn unol â pharagraff (1), caiff y person penodedig gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach a rhaid iddo drefnu rhoi hysbysiad o'r cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach y mae'n ymddangos ei fod yn angenrheidiol i'r person penodedig; ac mae paragraff (7) i fod yn gymwys i gyfarfod cyn-ymchwiliad pellach o'r fath.

(9Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am wybodaeth bellach oddi wrth yr apelydd neu'r atebydd mewn cyfarfod cyn-ymchwiliad, rhaid i'r person y gofynnir am yr wybodaeth oddi wrtho sicrhau bod dau gopi o'r wybodaeth honno yn dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol a bod copi wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y gall y person penodedig ei gwneud yn ofynnol bod copi yn cael ei roi iddo, o fewn 4 wythnos ar ôl i'r cyfarfod cyn-ymchwiliad ddod i ben a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr apelydd at yr atebydd a chopi o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr atebydd at yr apelydd.

Cael datganiadau o achos a.y.y.b.

19.—(1Rhaid i'r atebydd sicrhau:

(a)o fewn 6 wythnos o'r dyddiad cychwyn; neu

(b)os cynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 18, o fewn 4 wythnos i'r cyfarfod cyn-ymchwiliad hwnnw ddod i ben,

bod dau gopi o ddatganiad o achos yr atebydd wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol a bod copi o'r datganiad o achos hwnnw wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud hi'n ofynnol bod copi o'r datganiad o achos hwnnw'n cael ei roi iddo.

(2Rhaid i'r atebydd, yn ei ddatganiad o achos, gynnwys manylion o'r lle a'r amserau y rhoddir cyfle i archwilio a chymryd copïau o'r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (12) isod.

(3Rhaid i'r apelydd sicrhau:

(a)o fewn 6 wythnos o'r dyddiad cychwyn; neu

(b)os cynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 18, o fewn 4 wythnos i'r cyfarfod cyn-ymchwiliad hwnnw ddod i ben,

bod dau gopi o ddatganiad o achos yr apelydd wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol a bod copi o'r datganiad o achos hwnnw wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud hi'n ofynnol bod copi o'r datganiad o achos hwnnw'n cael ei roi iddo.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o ddatganiad o achos yr atebydd at yr apelydd a chopi o ddatganiad yr apelydd at yr atebydd.

(5Caiff yr apelydd a'r atebydd, yn ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i'r llall anfon copi ato o unrhyw ddogfen, neu ran berthnasol o unrhyw ddogfen, y cyfeirir ati yn y rhestr o ddogfennau a gynhwysir yn natganiad o achos y llall; a rhaid anfon unrhyw ddogfen felly, neu ran berthnasol ohoni, cyn gynted ag y mae'n ymarferol, at y parti a ofynnodd amdani.

(6Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson arall, sydd wedi ei hysbysu o ddymuniad i geisio caniatâd y person penodedig i gymryd rhan yn yr ymchwiliad, anfon:

(a)tri chopi o'i ddatganiad o achos ato o fewn 4 wythnos ar ôl gofyn amdano; a

(b)copi o'i ddatganiad o achos i unrhyw berson â diddordeb a bennwyd,

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o bob datganiad o achos o'r fath at yr apelydd ac at yr atebydd.

(7Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol;

(a)anfon at berson y gofynnodd am ddatganiad o achos oddi wrtho yn unol â pharagraff (6) gopi o ddatganiad o achos yr apelydd a'r atebydd; a

(b)hysbysu'r person hwnnw o enw a chyfeiriad pob person y mae'n ofynnol anfon datganiad o achos y person hwnnw ato.

(8Caiff y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson, sydd wedi anfon datganiad o achos ato yn unol â'r rheoliad hwn, roi unrhyw wybodaeth bellach ynghylch y materion a gynhwysir yn y datganiad o achos y caiff eu pennu a chaiff bennu'r amser erbyn pryd mae'n rhaid i'r wybodaeth ddod i law.

(9Os gofynnir i'r atebydd neu'r apelydd roi gwybodaeth bellach, rhaid iddynt sicrhau:

(a)bod dau gopi o'r wybodaeth honno'n ysgrifenedig wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol, o fewn yr amser a bennwyd; a

(b)bod copi wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud hi'n ofynnol ei roi iddo o fewn yr amser a bennwyd,

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl iddo ddod i law, anfon copi at yr apelydd o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr atebydd ac anfon copi at yr atebydd o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr apelydd.

(10Rhaid i unrhyw berson arall y mae'n ofynnol iddo roi gwybodaeth bellach sicrhau:

(a)bod tri chopi o'r wybodaeth honno yn ysgrifenedig wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn yr amser penodedig; a

(b)bod copi wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y gall fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei wneud yn ofynnol i'w rhoi o fewn yr amser penodedig,

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r wybodaeth bellach at yr atebydd ac at yr apelydd.

(11Rhaid i unrhyw berson heblaw'r apelydd sy'n anfon datganiad o achos at y Cynulliad Cenedlaethol anfon gydag ef gopi:

(a)o unrhyw ddogfen; neu

(b)o ran berthnasol o unrhyw ddogfen,

y cyfeirir ati yn y rhestr a gynhwysir yn y datganiad hwnnw, onid oes copi o'r ddogfen neu ran o'r ddogfen o dan sylw eisoes ar gael i'w harchwilio yn unol â pharagraff (12).

(12Rhaid i'r atebydd roi cyfle rhesymol i unrhyw berson sy'n gofyn amdano i archwilio a, lle bo'n ymarferol, wneud copïau:

(a)o unrhyw ddatganiad o achos, sylwadau ysgrifenedig, gwybodaeth neu ddogfen arall yr anfonwyd copi ohonynt at yr atebydd yn unol â'r rheoliad hwn; a

(b)o ddatganiad o achos yr atebydd ynghyd â chopi o unrhyw ddogfen, neu ran berthnasol o unrhyw ddogfen, y cyfeirir ati yn y rhestr a gynhwysir yn y datganiad hwnnw, ac unrhyw sylwadau ysgrifenedig, gwybodaeth neu ddogfennau eraill a anfonwyd gan yr atebydd yn unol â'r rheoliad hwn.

(13Os bydd yr atebydd neu'r apelydd yn dymuno gwneud sylw ar ddatganiad o achos y llall rhaid iddynt sicrhau o fewn 9 wythnos i'r dyddiad cychwyn:

(a)bod dau gopi o'i sylwadau ysgrifenedig wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)bod copi o'i sylwadau ysgrifenedig wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gwneud hi'n ofynnol ei fod yn ei gael,

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r sylwadau ysgrifenedig a gafwyd oddi wrth yr apelydd at yr atebydd a chopi o sylwadau ysgrifenedig a gafwyd oddi wrth yr atebydd at yr apelydd.

(14Rhaid i unrhyw berson sy'n anfon datganiad o achos at y Cynulliad Cenedlaethol o dan y rheoliad hwn ac sy'n dymuno gwneud sylw ar ddatganiad o achos unrhyw berson arall, sicrhau heb fod yn llai na 4 wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal yr ymchwiliad:

(a)bod tri chopi o sylwadau ysgrifenedig y person hwnnw wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)bod copi o'r sylwadau ysgrifenedig hynny wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gwneud hi'n ofynnol iddo ei gael,

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r sylwadau ysgrifenedig at yr apelydd ac at yr atebydd.

(15Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl eu cael, anfon at y person penodedig unrhyw ddatganiad o achos, dogfen neu wybodaeth bellach neu sylwadau ysgrifenedig a anfonwyd ato yn unol â'r rheoliad hwn ac a ddaeth i'w law o fewn y cyfnod perthnasol, os o gwbl, a bennir yn y rheoliad hwn.

Pŵer pellach y person penodedig i gynnal cyfarfodydd cyn-ymchwiliad

20.—(1Os na chynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 18, caiff y person penodedig gynnal un os yw'r person penodedig yn meddwl ei fod yn angenrheidiol.

(2Rhaid i berson penodedig roi hysbysiad ysgrifenedig heb fod yn llai na 2 wythnos o gyfarfod cyn-ymchwiliad sydd i'w gynnal o dan baragraff (1):

(a)i'r apelydd;

(b)i'r atebydd;

(c)i unrhyw berson y gwyddys ar ddyddiad yr hysbysiad fod ganddo hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad; ac

(ch)i unrhyw berson arall y mae'n ymddangos iddo fod ei bresenoldeb yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad yn ddymunol.

(3Mae rheoliad 18(7) yn gymwys i gyfarfod cyn-ymchwiliad a gynhelir o dan y rheoliad hwn.

Amserlen yr ymchwiliad

21.—(1Rhaid i berson penodedig drefnu amserlen ar gyfer y gweithdrefnau mewn ymchwiliad, neu ran o ymchwiliad:

(a)os cynhelir y cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 18; neu

(b)os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei bod yn debygol y bydd yr ymchwiliad yn para am wyth diwrnod neu fwy.

(2Caiff y person penodedig drefnu amserlen ar gyfer y gweithdrefnau mewn unrhyw ymchwiliad arall, neu ran o ymchwiliad arall, a chaiff ar unrhyw adeg, amrywio'r amserlen a drefnwyd o dan y paragraff hwn, neu'r paragraff blaenorol.

(3Caiff y person penodedig bennu mewn amserlen a drefnir yn unol â'r rheoliad hwn ddyddiad y mae'n rhaid i unrhyw broflen dystiolaeth a chrynodeb a anfonnir yn unol â rheoliad 24(1) ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dyddiad a hysbysiad yr ymchwiliad

22.—(1Rhaid i'r dyddiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer cynnal ymchwiliad, onid yw'n ystyried bod y dyddiad hwnnw'n anymarferol, beidio â bod yn hwyrach na:

(a)22 wythnos ar ôl y dyddiad cychwyn; neu

(b)mewn achos lle cynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 18, 8 wythnos ar ôl i'r cyfarfod hwnnw ddod i ben.

(2Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried ei bod yn anymarferol i bennu dyddiad yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r dyddiad a bennir fod y dyddiad cynharaf ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol a grybwyllir yn y paragraff hwnnw y mae'n ystyried ei fod yn ymarferol.

(3Oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar gyfnod o hysbysiad llai gyda'r apelydd a'r atebydd, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig heb fod yn llai na 4 wythnos, o'r dyddiad, amser a'r lle a bennir ganddo i gynnal ymchwiliad i bob person y mae ganddo hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r dyddiad a bennir i gynnal ymchwiliad, p'un a ydyw'r dyddiad fel y'i hamrywiwyd o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (1) neu beidio; a bydd paragraff (3) yn gymwys i'r dyddiad a amrywiwyd fel y mae'n gymwys i'r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r amser neu'r lle ar gyfer cynnal ymchwiliad a rhaid iddo roi hysbysiad o unrhyw amrywiad y mae'n ymddangos iddo ei fod yn rhesymol.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd un neu fwy o'r camau canlynol:

(a)heb fod yn llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal yr ymchwiliad, gyhoeddi hysbysiad o'r ymchwiliad yn un neu fwy o'r papurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal y lleolir y tir ynddi;

(b)anfon hysbysiad o'r ymchwiliad at y personau hynny neu'r dosbarthiadau o bersonau y gall eu pennu, o fewn y cyfnod a all bennu.

(7Rhaid i bob hysbysiad o ymchwiliad a gyhoeddir neu a anfonir yn unol â pharagraph (6),

(a)cynnwys datganiad clir o'r dyddiad, amser a lle'r ymchwiliad ac o'r pwerau sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu'r cais neu'r apêl o dan sylw;

(b)cynnwys disgrifiad ysgrifenedig o'r tir sy'n ddigonol i alluogi adnabod lleoliad a hyd a lled y tir yn fras;

(c)disgrifio'n gryno destun yr apêl; ac

(ch)rhoi manylion o lle a phryd y gellir archwilio copïau o ddatganiad o achos yr atebydd ac unrhyw ddogfennau a anfonwyd gan yr atebydd ac a gopïwyd i'r atebydd yn unol â rheoliad 19.

Hawl i fod yn bresennol ac i gymryd rhan mewn ymchwiliad

23.—(1Dyma'r personau sydd â hawl i gymryd rhan mewn ymchwiliad:

(a)yr apelydd;

(b)yr atebydd; ac

(c)unrhyw swyddog o unrhyw awdurdod lleol neu awdurdod parc cenedlaethol y mae eu hardal yn cynnwys tir y mae'r apêl yn berthnasol iddo.

(2Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall gymryd rhan mewn ymchwiliad.

(3Caiff unrhyw berson sydd â hawl i gymryd rhan mewn ymchwiliad neu y caniateir iddo wneud hynny ar ei ran ei hun neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.

Proflenni tystiolaeth

24.—(1Rhaid i unrhyw berson sydd â hawl i gymryd rhan mewn ymchwiliad sy'n bwriadu rhoi, neu'n bwriadu galw ar berson arall i roi, tystiolaeth yn yr ymchwiliad drwy ddarllen proflen dystiolaeth:

(a)anfon dau gopi, yn achos yr atebydd neu'r apelydd, neu dri chopi yn achos unrhyw berson arall, o'r broflen dystiolaeth ynghyd ag unrhyw grynodeb ysgrifenedig, at y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)ar yr un pryd anfon copïau o'r rhain at unrhyw berson â diddordeb y gall fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gwneud yn ofynnol iddynt eu cael,

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl eu cael, anfon copi o bob proflen dystiolaeth ynghyd â chrynodeb at yr atebydd a'r apelydd.

(2Nid oes angen crynodeb ysgrifenedig os yw'r broflen dystiolaeth y bwriedir ei darllen yn cynnwys dim mwy na 1,500 o eiriau.

(3Rhaid i'r broflen dystiolaeth ac unrhyw grynodeb ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na:

(a)4 wythnos cyn y dyddiad a bennir i gynnal yr ymchwiliad; neu

(b)os cafodd yr amserlen ei threfnu'n unol â rheoliad 21 sy'n pennu dyddiad erbyn pryd mae'n rhaid i broflen dystiolaeth ac unrhyw grynodeb ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol, y dyddiad hwnnw.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon at y person penodedig, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, unrhyw broflen dystiolaeth ynghyd â chrynodeb a anfonwyd ato yn unol â'r rheoliad hwn ac a gafodd o fewn y cyfnod perthnasol a bennir yn y rheoliad hwn.

(5Os rhoddir crynodeb ysgrifenedig yn unol â pharagraff (1), dim ond y crynodeb hwnnw gaiff ei ddarllen yn yr ymchwiliad, oni fydd y person penodedig yn caniatáu neu'n mynnu fel arall.

(6Rhaid i unrhyw berson y mae'r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i anfon copïau o broflen dystiolaeth at y Cynulliad Cenedlaethol anfon gyda hwy yr un nifer o gopïau o'r cyfan, neu o'r rhan berthnasol, o unrhyw ddogfen y cyfeirir ati yn y broflen dystiolaeth, onid oes copi o'r ddogfen neu ran o'r ddogfen o dan sylw eisoes ar gael i'w harchwilio yn unol â rheoliad 19(12).

(7Rhaid i'r atebydd roi cyfle rhesymol i unrhyw berson sy'n gofyn amdano i archwilio ac, os yw'n ymarferol, gymryd copïau o unrhyw ddogfen a anfonwyd at yr atebydd neu oddi wrtho yn unol â'r rheoliad hwn.

Datganiad o dir cyffredin

25.—(1Rhaid i'r atebydd a'r apelydd:

(a)baratoi gyda'i gilydd ddatganiad cytûn o dir cyffredin; a

(b)sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol ac unrhyw berson arall â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud hi'n ofynnol bod copi yn cael ei anfon ato yn cael copi ohono heb fod yn llai na 4 wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal yr ymchwiliad.

(2Rhaid i'r atebydd roi i unrhyw berson sy'n gofyn am hynny gyfle rhesymol i archwilio, a lle bo'n ymarferol, gymryd copïau o'r datganiad o dir cyffredin a anfonwyd at y Cynulliad Cenedlaethol.

Y weithdrefn mewn ymchwiliad

26.—(1Oni ddarperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, y person penodedig sydd i benderfynu'r weithdrefn mewn ymchwiliad.

(2Ar ddechrau'r ymchwiliad rhaid i'r person penodedig nodi'r pynciau sydd, ym marn y person penodedig, yn brif bynciau i'w hystyried yn yr ymchwiliad ac unrhyw faterion y mae'r person penodedig yn gofyn am esboniad pellach yn eu cylch oddi wrth y personau sydd â hawl neu a ganiateir i gymryd rhan.

(3Nid oes dim ym mharagraff (2) i atal unrhyw berson sydd â hawl neu a ganiateir i gymryd rhan rhag cyfeirio at bynciau y maent hwy yn eu hystyried sy'n berthnasol ar gyfer ystyried y cais neu'r apêl ond nad oeddent yn bynciau a nodwyd gan y person penodedig yn unol â'r paragraff hwnnw.

(4Oni fydd y person penodedig mewn achos penodedig yn penderfynu fel arall, yr atebydd sydd i ddechrau a'r apelydd sydd i gael hawl i ateb yn derfynol; ac mae'r personau eraill sydd â hawl neu a ganiateir i gymryd rhan i'w clywed yn y drefn honno y bydd y person penodedig yn penderfynu arni.

(5Bydd gan berson sydd â hawl i gymryd rhan mewn ymchwiliad yr hawl i alw tystiolaeth a bydd gan yr apelydd, yr atebydd, ac unrhyw berson â diddordeb yr hawl i groesholi personau sy'n rhoi tystiolaeth, ond, yn ddarostyngedig i'r uchod a pharagraffau (6) a (7), bydd galw tystiolaeth a chroesholi personau sy'n rhoi tystiolaeth fel arall yn ôl disgresiwn y person penodedig.

(6Caiff y person penodedig wrthod caniatáu:

(a)rhoi neu ddangos tystiolaeth;

(b)croesholi personau sy'n rhoi tystiolaeth; neu

(c)cyflwyno unrhyw fater arall,

y mae'r person penodedig o'r farn eu bod yn amherthnasol neu'n ailadroddus; ond os yw'r person penodedig yn gwrthod caniatáu i dystiolaeth lafar gael ei rhoi, caiff y person sy'n dymuno rhoi tystiolaeth gyflwyno i'r person penodedig unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig cyn i'r ymchwiliad gau.

(7Os bydd person yn rhoi tystiolaeth mewn ymchwiliad drwy ddarllen proflen dystiolaeth yn unol â rheoliad 24(5):

(a)rhaid trin y broflen dystiolaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 24(1) fel un wedi'i chyflwyno mewn tystiolaeth, onid yw'r person y gofynwyd iddo ddarparu'r crynodeb yn dymuno dibynnu ar gynnwys y crynodeb hwnnw'n unig a'i fod yn hysbysu'r person penodedig o'r ffaith honno; neu

(b)y mae'r person y cynhwysir ei dystiolaeth yn y broflen dystiolaeth wedyn yn agored i gael ei groesholi arni i'r un graddau â phe bai'n dystiolaeth yr oedd y person hwnnw wedi'i rhoi ar lafar.

(8Caiff y person penodedig gyfarwyddo bod cyfleusterau'n cael eu rhoi i unrhyw berson sy'n cymryd rhan yn yr ymchwiliad i gymryd neu gael copïau o dystiolaeth ddogfennol sy'n agored i archwiliad gan y cyhoedd.

(9Caiff y person penodedig:

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cymryd rhan mewn ymchwiliad neu sy'n bresennol ynddo, sydd ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar i ymadael; a

(b)gwrthod caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd; neu

(c)caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd o dan yr amodau hynny'n unig y caiff y person penodedig eu pennu,

ond caiff y cyfryw berson gyflwyno i'r person penodedig unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig cyn i'r ymchwiliad gau.

(10Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson newid neu ychwanegu at ddatganiad o achos a gafwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan y person penodedig o dan reoliad 19 i'r graddau y bo angen at ddibenion yr ymchwiliad, ond rhaid i'r person penodedig (drwy ohirio'r ymchwiliad os oes angen) roi i bob person arall sydd â hawl i gymryd rhan ac sydd mewn gwirionedd yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad gyfle digonol i ystyried unrhyw fater neu ddogfen o'r newydd.

(11Caiff y person penodedig fwrw ymlaen ag ymchwiliad yn absenoldeb unrhyw berson sydd â hawl i gymryd rhan ynddo.

(12Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw neu dystiolaeth ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a gafwyd oddi wrth unrhyw berson cyn i'r ymchwiliad agor neu yn ystod yr ymchwiliad ar yr amod bod y person penodedig yn ei ddangos yn yr ymchwiliad.

(13Caiff y person penodedig o dro i dro ohirio ymchwiliad ac, os cyhoeddir y dyddiad, amser a lle'r ymchwiliad gohiriedig yn yr ymchwiliad cyn y gohiriad, ni fydd angen hysbysiad pellach.

(14O ran unrhyw ymchwiliad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn disgwyl y bydd yn para am 8 diwrnod neu fwy, rhaid i unrhyw berson sy'n cymryd rhan yn yr ymchwiliad ac sy'n cyflwyno dadleuon terfynol, ddarparu, cyn i'r ymchwiliad gau, gopi o'r dadleuon hynny yn ysgrifenedig i'r person penodedig.

Penderfyniad ar ôl ymchwiliad

27.—(1Os cafodd asesydd ei benodi, caiff yr asesydd wneud adroddiad yn ysgrifenedig i'r person penodedig mewn perthynas â'r materion y penodwyd yr asesydd i gynghori arnynt.

(2Wrth wneud penderfyniad mewn perthynas â'r apêl, caiff y person penodedig anwybyddu unrhyw sylwadau ysgrifenedig, neu dystiolaeth neu unrhyw ddogfen a ddaeth i law ar ôl i'r ymchwiliad gau.

(3Os bydd y person penodedig, ar ôl i'r ymchwiliad gau, yn bwriadu cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater o ffaith newydd (nad yw'n fater o bolisi'r llywodraeth) na chafodd ei godi yn yr ymchwiliad ac y mae'r person penodedig o'r farn ei fod o bwys i'r penderfyniad, rhaid i'r person penodedig beidio â dod i benderfyniad heb yn gyntaf:

(a)hysbysu'r personau sydd â hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad ac a gymerodd rhan ynddo o'r mater o dan sylw; a

(b)rhoi cyfle iddynt wneud sylwadau ysgrifenedig i'r person penodedig neu iddynt ofyn am ailagor yr ymchwiliad,

a byddant yn sicrhau bod sylwadau ysgrifenedig o'r fath neu gais i ailagor yr ymchwiliad yn dod i law'r person penodedig o fewn 3 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad.

(4Caiff person penodedig beri bod ymchwiliad yn cael ei ailagor a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan yr apelydd neu'r atebydd yn yr amgylchiadau ac o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (3); ac os ailagorir ymchwiliad:

(a)rhaid i'r person penodedig anfon at y personau sydd â hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad ac a gymerodd rhan ynddo mewn gwirionedd ddatganiad ysgrifenedig o'r materion y gwahoddir tystiolaeth bellach yn eu cylch; a

(b)mae rheoliad 22(3) i (7) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at ymchwiliad yn gyfeiriadau at ymchwiliad a ailagorwyd.

Hysbysu'r penderfyniad

28.—(1Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad y person penodedig a'r rhesymau amdano:

(a)i'r apelydd;

(b)i'r atebydd;

(c)i unrhyw berson arall sydd â hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad ac a gymerodd ran ynddo; ac

(ch)i unrhyw berson arall a gymerodd ran yn yr ymchwiliad ac a ofynnodd am gael ei hysbysu o'r penderfyniad.

(2Caiff unrhyw berson sydd â hawl i gael ei hysbysu o'r penderfyniad o dan baragraff (1) wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, i gael cyfle i archwilio unrhyw ddogfennau a restrir yn yr hysbysiad a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi'r cyfle hwnnw i'r person hwnnw.

(3Rhaid i unrhyw berson sy'n gwneud cais o dan baragraff (2) sicrhau ei fod yn dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 wythnos o ddyddiad y penderfyniad.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources