- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
29.—(1) Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol o'i ddymuniad i wneud hynny.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n rhesymol ar ôl cael hysbysiad o dynnu apêl yn ôl, roi hysbysiad o'r ffaith honno i bob un o'r personau y rhoddwyd hysbysiad iddynt o dan reoliad 5(1).
30. Os yw'n ymddangos ar unrhyw adeg i'r Cynulliad Cenedlaethol ei bod yn fwy priodol fod apêl yn cael ei phenderfynu mewn dull sy'n wahanol i'r ffurf a hysbyswyd o dan reoliad 5, caiff benderfynu bod apêl i barhau mewn ffurf heblaw'r un a hysbyswyd a chaiff roi unrhyw ganllawiau canlyniadol o ran y weithdrefn sydd i'w chymhwyso mewn perthynas â'r apêl, gan gynnwys nodi unrhyw gamau y mae gofyn eu cymryd gan y partïon o dan y Rheoliadau hyn ac y bernir eu bod eisoes wedi eu cymryd ac amrywio yn ôl yr angen yr amser o fewn pryd y caiff unrhyw gam o'r fath na chymerwyd ef eisoes ei gymryd.
31. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os yw'r amgylchiadau sy'n berthnasol i'r apêl benodol yn ei gwneud yn angenrheidiol, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gamau penodedig gael eu cymryd, naill ai yn ychwanegol at y rhai a ragnodwyd gan y rheoliadau hyn neu yn eu lle, a gall estyn yr amser a ragnodwyd gan y Rheoliadau hyn, neu sy'n ofynnol fel arall o dan y Rheoliadau hyn, ar gyfer cymryd unrhyw gamau ond rhaid iddo, cyn gwneud hynny, oni chyfyngir yr effaith i estyniad amser, ymgynghori â'r apelydd a'r atebydd a chaiff ymgynghori ag unrhyw berson â diddordeb a rhaid iddo ystyried y sylwadau a wneir gan unrhyw berson yr ymgynghorir ag ef ynghylch pa mor ddymunol yw'r gofyniad hwnnw.
32. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn arfer ei hawl o dan baragraff 4(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf i benodi asesydd i gynorthwyo person penodedig i benderfynu apêl, rhaid iddo hysbysu'r apelydd, yr atebydd ac unrhyw berson â diddordeb o enw'r asesydd a'r materion y penodwyd yr asesydd i gynghori'r person penodedig arnynt.
33.—(1) Caiff y person penodedig ar unrhyw adeg wneud archwiliad o'r tir heb fod yng nghwmni neb a heb roi hysbysiad o fwriad i wneud hynny i'r apelydd nac i'r atebydd.
(2) Yn ystod ymchwiliad neu wrandawiad neu ar ôl i'r ymchwiliad neu'r gwrandawiad gau, o ran y person penodedig:
(a)caiff, ar ôl cyhoeddi yn ystod yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad ddyddiad ac amser y bwriedir gwneud yr archwiliad, archwilio'r tir yng nghwmni'r apelydd, yr atebydd ac unrhyw berson â diddordeb; a
(b)rhaid iddo wneud archwiliad o'r fath os gofynnir iddo wneud hynny gan yr apelydd neu'r atebydd cyn neu yn ystod yr ymchwiliad neu wrandawiad.
(3) Os penderfynir apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig, o ran y person penodedig:
(a)caiff, ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol ysgrifenedig i'r apelydd ac i'r atebydd o fwriad i wneud hynny, archwilio'r tir yng nghwmni'r apelydd, yr atebydd ac unrhyw berson â diddordeb; a
(b)rhaid iddo wneud archwiliad o'r fath os gofynnir iddo gan yr apelydd neu'r atebydd cyn bod y person penodedig yn gwneud ei benderfyniad.
(4) Rhaid i'r apelydd gymryd y camau hynny sy'n rhesymol o fewn gallu'r apelydd i alluogi'r person penodedig i gael mynediad i'r tir sydd i'w archwilio.
(5) Nid yw'r person penodedig yn cael ei rwymo i ohirio archwiliad o'r math y cyfeirir ato ym mharagraffau (2) neu (3) os na fydd unrhyw berson y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny yn bresennol ar yr amser penodedig.
34. Os bydd dwy apêl neu fwy yn codi pwnc neu bynciau cyffredin neu, yn achos apelau o dan adran 6 o'r Ddeddf, yn ymwneud â'r un map dros dro, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gynnal gwrandawiad neu ymchwiliad ar y cyd mewn perthynas â'r apelau hynny os yw o'r farn ei bod yn ddymunol i wneud hynny ac, mewn achos o'r fath, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol arfer ei bwerau o dan reoliad 31 gyda'r bwriad o addasu darpariaethau'r Rheoliadau hyn i'r graddau hynny sy'n angenrheidiol o ganlyniad i'r penderfyniad i gynnal gwrandawiad neu ymchwiliad ar y cyd.
35.—(1) Caiff unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir iddi gael ei hanfon gan un person at un arall o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, fel dull amgen i unrhyw ddull arall, gael ei hanfon trwy gyfrwng cyfathrebu electronig, ar yr amod bod gan y person sy'n anfon y ddogfen seiliau rhesymol dros gredu y bydd y ddogfen yn dod i sylw'r person yr anfonir hi iddo, mewn ffurf ddarllenadwy, o fewn amser rhesymol.
(2) Os oes gofyniad, o dan y Rheoliadau hyn, bod copi o ddatganiad, sylw, hysbysiad neu ddogfen arall yn cael ei anfon at y Cynulliad Cenedlaethol yna, os anfonir y copi hwnnw mewn ffurf electronig, dylid anwybyddu unrhyw ofyniad pellach bod mwy nag un copi i gael ei anfon.
36. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, onid yw'n rhesymol anymarferol i wneud hynny, gyhoeddi ar wefan y rhyngrwyd y mae'n ei chynnal hysbysiad o bob penderfyniad a wneir o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas ag apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf a pharhau i wneud hynny hyd nes y dyroddir y map terfynol y mae'r apêl yn berthnasol iddo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: