- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
18.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad:
(a)os yw'n disgwyl y bydd ymchwiliad yn para am 8 diwrnod neu fwy, onid yw o'r farn bod cyfarfod o'r fath yn ddiangen;
(b)o ran ymchwiliadau byrrach, os yw'n ymddangos eu bod yn angenrheidiol.
(2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu cynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad:
(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon gyda'r hysbysiad y mae'n ei roi yn unol â rheoliad 5(1) neu gynnwys ynddo:
(i)hysbysiad o'i fwriad i gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad; a
(ii)datganiad o'r materion y mae'n benodol yn dymuno cael gwybodaeth amdanynt at ddibenion ei ystyriaethau ar yr apêl o dan sylw;
(b)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnwys yn yr hysbysiad y mae'n ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 6(1)(a) neu (b) neu y mae'n ei anfon yn unol â rheoliad 6(1)(c), hysbysiad o'i fwriad i gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad a datganiad o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a)(ii); ac
(c)rhaid i'r apelydd â'r atebydd ill dau anfon dau gopi o'u datganiad amlinellol at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 8 wythnos o'r dyddiad cychwyn.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o ddatganiad amlinellol yr atebydd at yr apelydd a datganiad amlinellol yr apelydd at yr atebydd.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw bersonau â diddordeb sydd wedi ei hysbysu o fwriad neu ddymuniad i gymryd rhan yn yr ymchwiliad anfon datganiad amlinellol ato, at yr apelydd ac at yr atebydd, a rhaid i'r personau hynny â diddordeb sicrhau bod datganiad o'r fath yn dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol, yr apelydd a'r atebydd o fewn 4 wythnos i ddyddiad gofyniad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol.
(5) Rhaid cynnal y cyfarfod cyn-ymchwiliad (neu, os oes mwy nag un, y cyfarfod cyn-ymchwiliad cyntaf) o fewn 16 wythnos o'r dyddiad cychwyn.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad heb fod yn llai na 3 wythnos o'r cyfarfod cyn-ymchwiliad i'r apelydd, yr atebydd, i unrhyw berson â diddordeb y gwyddys ar ddyddiad yr hysbysiad ei fod yn dymuno cymryd rhan yn yr ymchwiliad ac i unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y byddai ei bresenoldeb yn ddymunol, a rhaid iddo, mewn perthynas â hysbysiad o'r cyfarfod cyn-ymchwiliad, gymryd un neu fwy o'r camau a bennir, mewn perthynas â'r ymchwiliad, yn rheoliad 22(6).
(7) O ran y person penodedig:
(a)mae i lywyddu yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad;
(b)mae i benderfynu'r materion sydd i'w trafod a'r weithdrefn sydd i'w dilyn;
(c)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n bresennol yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad, sydd ym marn y person penodedig yn ymddwyn mewn dull aflonyddgar i ymadael; ac
(ch)caiff wrthod caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd neu bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod cyn-ymchwiliad pellach, neu ganiatáu i'r person hwnnw ddychwelyd neu fod yn bresennol yn unig o dan yr amodau y caiff y person penodedig eu pennu.
(8) Os cafodd cyfarfod cyn-ymchwiliad ei gynnal yn unol â pharagraff (1), caiff y person penodedig gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach a rhaid iddo drefnu rhoi hysbysiad o'r cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach y mae'n ymddangos ei fod yn angenrheidiol i'r person penodedig; ac mae paragraff (7) i fod yn gymwys i gyfarfod cyn-ymchwiliad pellach o'r fath.
(9) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am wybodaeth bellach oddi wrth yr apelydd neu'r atebydd mewn cyfarfod cyn-ymchwiliad, rhaid i'r person y gofynnir am yr wybodaeth oddi wrtho sicrhau bod dau gopi o'r wybodaeth honno yn dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol a bod copi wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y gall y person penodedig ei gwneud yn ofynnol bod copi yn cael ei roi iddo, o fewn 4 wythnos ar ôl i'r cyfarfod cyn-ymchwiliad ddod i ben a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr apelydd at yr atebydd a chopi o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr atebydd at yr apelydd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: