- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
26.—(1) Oni ddarperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, y person penodedig sydd i benderfynu'r weithdrefn mewn ymchwiliad.
(2) Ar ddechrau'r ymchwiliad rhaid i'r person penodedig nodi'r pynciau sydd, ym marn y person penodedig, yn brif bynciau i'w hystyried yn yr ymchwiliad ac unrhyw faterion y mae'r person penodedig yn gofyn am esboniad pellach yn eu cylch oddi wrth y personau sydd â hawl neu a ganiateir i gymryd rhan.
(3) Nid oes dim ym mharagraff (2) i atal unrhyw berson sydd â hawl neu a ganiateir i gymryd rhan rhag cyfeirio at bynciau y maent hwy yn eu hystyried sy'n berthnasol ar gyfer ystyried y cais neu'r apêl ond nad oeddent yn bynciau a nodwyd gan y person penodedig yn unol â'r paragraff hwnnw.
(4) Oni fydd y person penodedig mewn achos penodedig yn penderfynu fel arall, yr atebydd sydd i ddechrau a'r apelydd sydd i gael hawl i ateb yn derfynol; ac mae'r personau eraill sydd â hawl neu a ganiateir i gymryd rhan i'w clywed yn y drefn honno y bydd y person penodedig yn penderfynu arni.
(5) Bydd gan berson sydd â hawl i gymryd rhan mewn ymchwiliad yr hawl i alw tystiolaeth a bydd gan yr apelydd, yr atebydd, ac unrhyw berson â diddordeb yr hawl i groesholi personau sy'n rhoi tystiolaeth, ond, yn ddarostyngedig i'r uchod a pharagraffau (6) a (7), bydd galw tystiolaeth a chroesholi personau sy'n rhoi tystiolaeth fel arall yn ôl disgresiwn y person penodedig.
(6) Caiff y person penodedig wrthod caniatáu:
(a)rhoi neu ddangos tystiolaeth;
(b)croesholi personau sy'n rhoi tystiolaeth; neu
(c)cyflwyno unrhyw fater arall,
y mae'r person penodedig o'r farn eu bod yn amherthnasol neu'n ailadroddus; ond os yw'r person penodedig yn gwrthod caniatáu i dystiolaeth lafar gael ei rhoi, caiff y person sy'n dymuno rhoi tystiolaeth gyflwyno i'r person penodedig unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig cyn i'r ymchwiliad gau.
(7) Os bydd person yn rhoi tystiolaeth mewn ymchwiliad drwy ddarllen proflen dystiolaeth yn unol â rheoliad 24(5):
(a)rhaid trin y broflen dystiolaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 24(1) fel un wedi'i chyflwyno mewn tystiolaeth, onid yw'r person y gofynwyd iddo ddarparu'r crynodeb yn dymuno dibynnu ar gynnwys y crynodeb hwnnw'n unig a'i fod yn hysbysu'r person penodedig o'r ffaith honno; neu
(b)y mae'r person y cynhwysir ei dystiolaeth yn y broflen dystiolaeth wedyn yn agored i gael ei groesholi arni i'r un graddau â phe bai'n dystiolaeth yr oedd y person hwnnw wedi'i rhoi ar lafar.
(8) Caiff y person penodedig gyfarwyddo bod cyfleusterau'n cael eu rhoi i unrhyw berson sy'n cymryd rhan yn yr ymchwiliad i gymryd neu gael copïau o dystiolaeth ddogfennol sy'n agored i archwiliad gan y cyhoedd.
(9) Caiff y person penodedig:
(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cymryd rhan mewn ymchwiliad neu sy'n bresennol ynddo, sydd ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar i ymadael; a
(b)gwrthod caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd; neu
(c)caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd o dan yr amodau hynny'n unig y caiff y person penodedig eu pennu,
ond caiff y cyfryw berson gyflwyno i'r person penodedig unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig cyn i'r ymchwiliad gau.
(10) Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson newid neu ychwanegu at ddatganiad o achos a gafwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan y person penodedig o dan reoliad 19 i'r graddau y bo angen at ddibenion yr ymchwiliad, ond rhaid i'r person penodedig (drwy ohirio'r ymchwiliad os oes angen) roi i bob person arall sydd â hawl i gymryd rhan ac sydd mewn gwirionedd yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad gyfle digonol i ystyried unrhyw fater neu ddogfen o'r newydd.
(11) Caiff y person penodedig fwrw ymlaen ag ymchwiliad yn absenoldeb unrhyw berson sydd â hawl i gymryd rhan ynddo.
(12) Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw neu dystiolaeth ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a gafwyd oddi wrth unrhyw berson cyn i'r ymchwiliad agor neu yn ystod yr ymchwiliad ar yr amod bod y person penodedig yn ei ddangos yn yr ymchwiliad.
(13) Caiff y person penodedig o dro i dro ohirio ymchwiliad ac, os cyhoeddir y dyddiad, amser a lle'r ymchwiliad gohiriedig yn yr ymchwiliad cyn y gohiriad, ni fydd angen hysbysiad pellach.
(14) O ran unrhyw ymchwiliad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn disgwyl y bydd yn para am 8 diwrnod neu fwy, rhaid i unrhyw berson sy'n cymryd rhan yn yr ymchwiliad ac sy'n cyflwyno dadleuon terfynol, ddarparu, cyn i'r ymchwiliad gau, gopi o'r dadleuon hynny yn ysgrifenedig i'r person penodedig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: