Search Legislation

Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1806 (Cy176)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2002

Wedi'u gwneud

9 Gorffennaf 2002

Yn dod i rym

10 Gorffennaf 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2), a grybwyllir uchod drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:

Enw a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2002.

Diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001

2.  Diwygir Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001(3) yn unol â rheoliadau 3 i 18 o'r Rheoliadau hyn.

3.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (Diffiniadau)—

(a)mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o “amaethyddiaeth”—

  • mae i “arwynebedd porthiant” (“forage area”) yr un ystyr ag yn Erthygl 12(2)(b) o Reoliad Cyngor 1254/1999;

  • ystyr “arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano” (“claimed forage area”) mewn perthynas â chais am lwfans iawndal, yw tir a nodwyd fel tir porthiant mewn cais am gymorth ardal ar gyfer y flwyddyn gynllun berthnasol;

  • ystyr “awdurdod cymwys arall” (“other competent authority”) yw'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Gweinidogion yr Alban neu, yng Ngogledd Iwerddon, yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig;;

(b)yn y diffiniad o “ceisydd” (“claimant”) dilëwch y geiriau “a enwir yn daliad Tir Mynydd”;

(c)mewnosodwch y diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o “ceisydd” (“claimant”)

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;;

(ch)mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o “IACS”

  • ystyr “lwfans iawndal” (“compensatory allowance”) yw lwfans iawndal sy'n daladwy yn unol â Phennod V o Deitl II o Reoliad y Cyngor 1257/1999;

  • ystyr “lwfans tir llai ffafriol sy'n perthyn” (“related less favoured area allowance”) yw—

    • mewn perthynas â Lloegr, Lwfans Fferm Tir Uchel;

    • mewn perthynas â'r Alban, Cynllun Cymorth Tir Llai Ffafriol; a

    • mewn perthynas â Gogoledd Iwerddon, Lwfans Iawndal Tir Llai Ffafriol;;

(d)mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o “person awdurdodedig”

  • ystyr “premiwm blynyddol defaid” (“sheep annual premium”) yw'r premiwm sy'n daladwy o dan Reoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992(4).

  • ystyr “premiwm buchod sugno” (“Suckler Cow Premium”) yw'r premiwm sy'n daladwy o dan Reoliadau Premiwm Buchnod Sugno 2001(5);;

(dd)mewnosodwch y diffiniadau canlynol cyn y diffinad o “Rheoliad y Comisiwn 1750/1999”

  • ystyr “Rheoliadau 1994” (“the 1994 Regulations”) yw Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1994(6);

  • ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1996(7);

  • ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1999(8);;

(e)yn y diffiniad o “Reoliad y Cyngor 3508/92” (“Council Regulation 3508/92”) mewnosodwch ar ôl y geiriau “ar gyfer” “cynlluniau penodol o blith”;

(f)mewnosodwch y diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor 3508/92”

  • ystyr “Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal)” (“Hill Livestock (Compensatory Allowances) Regulations”) yw Rheoliadau 1994, 1996 neu Reoliadau 1999 fel y bo'r achos;;

(ff)mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o “coetir”

  • ystyr “taliad iawndal cyntaf” (“first compensatory payment”) yw'r taliad Tir Mynydd cyntaf sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn neu pan fo lwfans iawndal wedi cael ei dalu o dan y Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal), y taliad cyntaf o'r lwfans hwnnw;

  • ystyr “Taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw'r taliad iawndal sy'n daladwy yn unol â'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “tir cymhwysol” (“qualifying land”) yw'r tir perthnasol, neu mewn perthynas â cheisydd y mae rheoliad 3A yn gymwys iddo, y rhan honno o'r tir perthnasol sy'n weddill o'r didyniadau sy'n cael eu gwneud i'r tir perthnasol yn unol â'r rheoliad hwnnw;;

(g)rhowch y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniad o “tir cymwys”—

  • ystyr “tir cymwys” (“eligible land”) yw'r rhan honno o'r tir cymhwysol, sy'n gorwedd o fewn tir llai ffafriol;;

(ng)mewnosodwch y diffiniadau canlynol cyn y diffiniad o “tir tan anfantais”—

  • ystyr “tir llai ffafriol sy'n perthyn” (“related less favoured area”) yw, mewn perthynas â cheisydd, yr holl arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano, ac eithrio tir llai ffafriol, y cynghorodd awdurdod cymwys arall y Cynulliad Cenedlaethol fod y ceisydd yn gymwys i gael lwfans tir llai ffafriol sy'n perthyn amdano;

  • ystyr “tir perthnasol” (“relevant land”) yw unrhyw arwynebedd porthiant y gwenir cais amdano sydd wedi'i leoli yng Nghymru;;

(h)yn y diffiniad o “uned da byw” (“livestock unit) yn lle paragraffau (a), (b) ac (c) rhowch y paragraffau canlynol—

(a)un fuwch sugno neu heffer sy'n 24 mis oed neu'n hŷn;

(b)1.67 heffer o dan 24 mis oed;

(c)6.67 mamog;;

4.  Mewnosodwch y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 2—

Pŵer i wneud taliadau

2A.  Bydd y Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas â blwyddyn gynllun, yn gwneud taliad Tir Mynydd sydd wedi'i gyfrifo yn unol â'r Atodlen â'r i geiswyr cymwys ynglyn â'u tir cymwys..

5.  Rhowch y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 3 (Ceiswyr cymwys)—

Ceiswyr cymwys

3.(1) Bydd ceiswyr yn gymwys i gael taliad Tir Mynydd mewn perthynas â blwyddyn gynllun ar yr amod bod—

(a)cais am daliad wedi'i wneud mewn perthynas â'r flwyddyn gynllun honno drwy gais am gymorth arwynebedd dilys a bod yr arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano, os o gwbl, yn cydymffurfio ag un o'r amodau a bennir ym mharagraff (2); a

(b)y ceisydd wedi cyflwyno cais am gymorth da byw mewn perthynas â defaid neu fuchod sugno neu'r ddau ohonynt mewn perthynas â'r flwyddyn y cyflwynwyd cais yn ei chylch am daliad Tir Mynydd; ac

(c)y ceisydd wedi defnyddio arferion ffermio da arferol sy'n cyd-fynd â'r angen i ddiogelu'r amgylchedd a chynnal cefn gwlad, yn benodol drwy ffermio cynaliadwy; a

(ch)y ceisydd wedi rhoi ymrwymiad ysgrifenedig y bydd yn ffermio o leiaf 3 hectar o dir sydd naill ai'n dir cymwys neu'n dir llai ffafriol sy'n perthyn a pharhau i wneud hynny am gyfnod o 5 mlynedd o ddyddiad y taliad iawndal cyntaf ac nad yw'r ceisydd hwnnw'n torri'r ymrwymiad hwnnw ar ddyddiad y taliad.

(2) Y canlynol yw'r amodau—

(a)bod nid llai na 6 hectar o'r arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano o fewn y tir llai ffafriol; neu

(b)os nad yw'r arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano sy'n gorwedd o fewn y tir llai ffafriol yn llai na 1 hectar ond yn llai na 6 hectar, mae cyfanswm yr arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano yn cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn tir llai ffafriol sy'n perthyn ac sy'n gymwys i gael lwfans tir llai ffafriol sy'n perthyn..

6.  Mewnosodwch y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 3—

Gostyngiad yn y Tir Perthnasol”

3A.(1) Pan fo gan geisydd swmp cyfeiriol unigol o laeth ar gael, bydd gostyngiad sy'n cael ei gyfrifo yn unol â darpariaethau paragraff (2) yn cael ei gymhwyso i dir perthnasol y ceisydd.

(2) Bydd y gostyngiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cael ei gyfrifo yn unol ag is-baragraffau (i) i (iii)—

(i)yn gyntaf, cyfrifir nifer yr unedau da byw yn y fuches laeth dybiannol drwy rannu'r swmp cyfeiriol unigol o laeth sydd ar gael i'r ceisydd gan 5730, sef nifer y litrau o laeth y tybir ei fod yn gyfwerth â chynnyrch blynyddol un fuwch odro;

(ii)am bob hectar o ddaliad y ceisydd nad yw o fewn tir llai ffafriol, gostyngir nifer yr unedau da byw a gyfrifir yn unol â pharagraff (i) o 2 uned;

(iii)defnyddir nifer yr unedau da byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso is-baragraff (ii) er mwyn cyfrifo'r gostyngiad yn y tir perthnasol drwy ostwng arwynebedd y tir hwnnw o 1 hectar ar gyfer pob 2 uned da byw sy'n weddill, ac mae'r gostyngiad i'w gymhwyso'n llawn mewn perthynas â thir dan anfantais cyn ei gymhwyso i dir dan anfantais difrifol.

(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y fuches laeth dybiannol” (“notional dairy herd”) yw cyfanswm yr anifeiliad y bernir eu bod yn fuches laeth ar dir sy'n cael ei ffermio gan y ceisydd yng Nghymru fel y'i cyfrifwyd uchod ac mae i “swmp cyfeiriol unigol o laeth” yr un ystyr ag i “individual reference quantity of milk” yn Erthygl 31 o Reoliad y Comisiwn (EC) 2342/1999(9)..

7.  Mewnosodwch y paragraffau canlynol yn rheoliad 4 (Y dwysedd stocio isaf), ar ôl paragraff (2)—

(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu bod dwysedd stocio o lai na 0.1 yn ddigonol at ddibenion paragraff (1) os yw wedi'i fodloni'n rhesymol ei bod yn addas gwneud hynny o ystyried holl amgylchiadau'r achos, ac o ddwyn i ystyriaeth, yn benodol, nifer y mamogiaid a/neu fuchod sugno nad ydynt yn destun cais am bremiwm o dan Gynllun Premiwm Blynyddol Defaid a/neu Gynllun Premiwm Buchod Sugno, ac unrhyw rwymedigaeth ar ran y ceisydd yngylch y nifer o famogiaid a/neu fuchod sugno y ceir eu cadw ar y tir sy'n cynnwys y tir cymwys, mewn perthynas â'r flwyddyn y mae'r cais am daliad Tir Mynydd yn cael ei gyflwyno ynddi.

(4) Er mwyn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ystyried a ddylai arfer ei ddisgresiwn o dan baragraff (3), rhaid i'r ceisydd ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol y fath wybodaeth y gall yn rhesymol ei fynnu..

8.  Mewnosodwch y paragraff canlynol yn rheoliad 6 (Cyfrifo taliadau arwynebedd — elfen 1), ar ôl paragraff (3)—

(4) Wedi ymgymryd â'r cyfrifiad sylfaenol yn unol â Rhan A o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gall y Cynulliad Cenedlaethol, os gwêl yn dda, gynyddu'r swm a gyfrifwyd o ganran y gall benderfynu arni ar yr amod bod yr un cynnydd yn y ganran yn cael ei gymhwyso i bob ceisydd..

9.  Yn rheoliad 7 (Taliad chwyddo amgylcheddol o dan elfen 2 o'r cynllun)—

(a)ym mharagraff (2) cyn y geiriau “10 y cant”, mewnosodwch y geiriau “hyd at”;

(b)ym mharagraff (3) cyn y geiriau “20 y cant”, mewnosodwch y geiriau “hyd at”.

10.  Mewnosodwch ym mharagraff (b) o reoliad 8 (Categorïau sy'n gymwys ar gyfer y taliad chwyddo amgylcheddol) ar ôl y gair “thir” y geiriau “sydd wedi cwblhau'i drosi ac”.

11.  Yn rheoliad 9 (Taliadau), dilewch baragraffau (2) a (3).

12.  Yn rheoliad 10 (Ceisiadau), rhowch y paragraff canlynol yn lle paragraff (3)—

(3) Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am daliad Tir Mynydd mewn perthynas â blwyddyn gynllun yw 15 Mai. Gall cyflwyno cais yn hwyr arwain at gosbau a fydd yn cael eu cyfrifo yn unol â darpariaethau Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2419/2001 dyddiedig 11 Rhagfyr 2001 sy'n cyflwyno rheolau manwl er mwyn cymhwyso'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer rhai cynlluniau o blith Cynlluniau cymorth y Gymuned a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 3508/1992(10)..

13.  Dilëwch Reoliad 11 (Ceisiadau hwyr).

14.  Yn rheoliad 12 (Rhyddhau o ymrwymiadau)

(a)yn lle'r geiriau “rheoliad 9(2)” rhowch y geiriau “rheoliad 3(1)(ch)”, a

(b)ym mharagraff (c) yn lle'r gair “chwe” rhowch y gair “dri” ac ar ôl y gair “cymwys” rhowch y geiriau “neu unrhyw dir llai ffafriol sy'n perthyn”.

15.  Yn rheoliad 13 (Cadw'n ôl neu adennill taliadau) ym mharagraff (a), yn lle'r geiriau “reoliad 9(2)” rhowch y geiriau “reoliad 3(1)(ch)”.

16.  Yn rheoliad 14 (Cyfradd Llog)—

  • yn lle'r geiriau “adeg talu i'r ceisydd” rhowch y geiriau “ddyddiad yr hysbysiad i'r ceisydd o fwriad y Cynulliad Cenedlaethol i adennill yn y fath fodd”.

17.  Dilëwch reoliad 15 (Daliadau Trawsffiniol).

18.  Yn yr Atodlen—

(a)rhowch y canlynol yn lle Rhan A—

Rhan A

1.  Cyfrifir y taliad sylfaenol o dan elfen un y cynllun Tir Mynydd drwy luosi tir cymwys ceisydd wrth y gyfradd neu'r cyfraddau priodol a nodir ym mharagraff 2.

2.  Y cyfraddau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 yw—

(a)£23.00 yr hectar ar gyfer tir tan anfantais; a

(b)£35.00 yr hectar ar gyfer tir tan anfantais ddifrifol..

(b)yn lle paragraff 4 o Ran C, rhowch y paragraff canlynol—

4.  Ym mlwyddyn 2003, bydd gan y ceisydd yr hawl i swm ychwanegol a fyddai, pan fydd wedi'i ychwanegu at y taliad Tir Mynydd yn creu cyfanswm o 50% o'r swm a dalwyd i'r ceisydd ar gyfer HLCA ym mlwyddyn 2000..

Diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001

19.  Diwygir Rheoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001 (11) yn unol â rheoliadau 20 a 21 o'r rheoliadau hyn.

20.  Yn rheoliad 2 (Diffiniadau), dilewch baragraff (2).

21.  Yn rheoliad 4 (Diffiniad o awdurdod cymwys) ym mharagraff 2(c) yn lle'r geiriau “y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd” rhowch y geiriau “yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(12)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn dod i rym ar 10 Gorffennaf 2002, yn diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 (“y prif Reoliadau”) drwy:

(a)ailddatgan a diwygio'r meini prawf i geiswyr fod yn gymwys i dderbyn taliad o dan y cynllun er mwyn i geisiwyr fod yn gymwys i dderbyn taliadau os oes ganddynt dir porthiant yn naill ai Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (“tiriogaeth trawsffiniol”) sef tir sy'n caniatáu i'r ceisydd hwnnw yr hawl i lwfans ar gyfer ardal llai ffafriol yn y diriogaeth drawsffiniol honno, er bod gan y ceiswyr hynny lai na'r lleiafswm gofynnol o 6 hectar o dir porthiant cymwys yng Nghymru (rheoliad 5).

(b)ailfformiwleiddio ac ailddatgan y darpariaethau sy'n ymwneud â gostyngiad yn y tir porthiant pan fydd gan geiswyr swmp cyfeiriol unigol o laeth ar gael (rheoliad 6).

(c)rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i amrywio'r lleiafswm o ofynion dwysedd stocio o dan y cynllun o dan amgylchiadau penodol (Rheoliad 7).

(ch)darparu ar gyfer cynyddu taliadau sylfaenol o dan y cynllun ac sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 8).

(d)darparu bod y taliadau chwyddo amgylcheddol y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3) o Reoliad 7 o'r prif Reoliadau yn daladwy yn y drefn honno mewn symiau sy'n gyfystyr â hyd at 10% a i 20% o daliadau elfen 1 (rheoliad 9).

(dd)darparu bod y cosbau IACS mewn perthynas â chyflwyno yn hwyr yn cael eu gweithredu mewn perthynas â cheisiadau am daliadau sy'n cael eu gwneud yn hwyr o dan y cynllun (rheoliad 12).

(e)darparu bod llog ar daliadau nad ydynt yn daladwy ac y gellir eu hadennill gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w gyfrifo o'r dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn hysbysu'r ceisydd nad oedd y swm a dalwyd yn daladwy (rheoliad 16).

(f)darparu fformwla “rhwyd achub” newydd mewn perthynas â chyfrifio taliadau Tir Mynydd ym mlwyddyn 2003 (rheoliad 18(b)).

(ff)darparu ar gyfer gwneud mân newidiadau a newidiadau i'r diffiniadau sy'n dilyn yn sgil y diwygiadau uchod.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001 yn rhinwedd, yn gyntaf, cynnwys diffiniad o “arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano” yn y prif reoliadau ac, yn ail, trosglwyddo swyddogaethau o'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

(1)

Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S. 1999/2788) (“y Gorchymyn”). Mae pŵer y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir o fewn y Deyrnas Gyfunol ond y tu allan i Gymru, wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.

(6)

O.S. 1994/2740, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/100, 1481, 2778 ac O.S. 1996/27 ac a ddiddymwyd gan O.S. 1996/1500.

(7)

O.S.1996/1500, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/33, 1998/206, 1999/375; yn rhinwedd O.S. 1999/3316, nid yw O.S. 1996/1500 bellach yn gymwys.

(9)

O.J. Rhif L281, 04.11.99, t.30.

(10)

O.J. Rhif L327, 12.12.2001, t.11.

(12)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources