- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Wedi'u gwneud
16 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym
1 Awst 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 23A(3) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1) a pharagraff 19B(3) o Atodlen 2 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Mae Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001(2) yn cael eu diwygio fel a ganlyn—
(a)yn Rheoliad 3 (Plant cymwys), hepgorwch baragraff (2)(b),
(b)yn Rheoliad 4 (Plant perthnasol)—
(i)yn lle paragraff (4) rhowch—
“(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), nid yw unrhyw blentyn sydd wedi byw gyda pherson sy'n dod o fewn adran 23(4) o'r Ddeddf (“lleoliad teuluol”) am gyfnod parhaus o chwe mis neu fwy i fod yn blentyn perthnasol er ei fod yn dod o fewn adran 23A(2).”;
(ii)ar ôl paragraff (5) mewnosodwch—
“(6) Os
(a)yw lleoliad teuluol o fewn ystyr paragraff (4) wedi torri lawr ac mae'r plentyn yn peidio â byw gyda'r person o dan sylw, a
(b)yw cyfnod o chwe mis wedi mynd heibio ers dechrau'r lleoliad teuluol,
mae'r plentyn i'w drin fel plentyn perthnasol.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”). Mae Rheoliadau 2001 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymorth i blant a phobl ifanc 16 oed a throsodd, sy'n derbyn gofal, neu sydd wedi derbyn gofal, gan awdurdod lleol.
Mae Rheoliad 3 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn i blant sydd wedi'u lleoli gyda rhiant, gyda pherson y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu gyda rhywun sy'n meddu ar orchymyn preswylio o'i blaid o dan adran 23(4) o Ddeddf Plant 1989 ac sydd yn destun gorchymyn gofal, fod yn gymwys i dderbyn cymorth gan yr awdurdod lleol.
Mae Rheoliad 4 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn i blant sydd wedi treulio 6 mis neu fwy yn byw gyda rhiant, gyda pherson y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu gyda rhywun sy'n meddu ar orchymyn preswylio o'i blaid, i ddal i fod yn gymwys i dderbyn cymorth gan yr awdurdod lleol os yw'r lleoliad yn torri lawr wedyn.
1989 p.41. Mewnosodwyd adran 23A(3) gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 8(7) o Ddeddf 2000. Diffinnir ystyr “prescribed” yn adran 105(1) o Ddeddf Plant 1989.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: