- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Medi 2002 a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “anifail” (“animal”) yw gwartheg (ac eithrio buail a iacod), ceirw, geifr, defaid ac anifeiliaid o deulu'r mochyn;
ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros foch hyd yn oed dros dro, ond nid yw'n cynnwys unrhyw berson sy'n geidwad ond am ei fod yn cludo'r anifeiliaid;
ystyr “canolfan gasglu” (“collecting centre”) yw safle sy'n cael ei ddefnyddio fel canolfan hanner-ffordd ar gyfer derbyn anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall ac mae'n cynnwys unrhyw le a ddefnyddir, boed fel marchnad neu fel arall, ar gyfer gwerthu neu fasnachu anifeiliaid ond dim ond os bwriedir i'r anifeiliaid sy'n cael eu gwerthu neu eu masnachu gael eu cigydda ar unwaith wedi hynny;
ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw le y mae anifeiliaid yn cael eu dal, eu cadw neu eu trin;
ystyr “fferm” (“farm”) yw unrhyw ddaliad y mae moch yn cael eu cadw arno er mwyn eu bridio neu eu pesgi;
bydd i “grŵ p meddiannaeth unigol” (“sole occupancy group”) yr ystyr a roddir iddo yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(1);
mae i “lladd-dy” yr ystyr a roddir i “slaughterhouse” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995(2);
ystyr “marc adnabod” (“identification mark”) yw marc sy'n cydymffurfio ag erthygl 5;
ystyr “marchnad” (“market”) yw marchnadle neu iard gwerthu neu unrhyw safle neu le arall y deuir ag anifeiliaid iddo o leoedd eraill a'u cynnig i'w gwerthu; ac mae'n cynnwys unrhyw le sy'n cyffinio â'r safle hwnnw ac sy'n cael ei ddefnyddio gan ymwelwyr â'r farchnad ar gyfer parcio cerbydau ac unrhyw loc sy'n cyffinio â marchnad ac sy'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â hi;
ystyr “rhif adnabod y daliad” (“identification number of the holding”) yw'r cod rhifiadol a neilltuir i'r daliad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “rhif daliad” (“CPH number”) yw'r rhif daliad a neilltuir o dro i dro i unrhyw safle neu ran o unrhyw safle gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2) Bydd yn ffordd ddigonol o gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i wneud cais, dyroddi trwydded, hysbysiad, awdurdod neu awdurdodiad, adneuo dogfen neu anfon neu roi dogfen, neu sy'n caniatáu gwneud hynny, os cyflawnir hyn drwy gyfrwng gwasanaeth trosglwyddo ffacsimili.
O.S. 1995/539, y mae diwygiadau iddynt, nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: