Search Legislation

Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN IICOFNODION AC ADNABOD MOCH

COFNODION MOCH

Cofnodion a hysbysiadau daliadau

3.—(1Rhaid i berchennog unrhyw fochyn ar ddaliad neu berson sydd â gofal drosto i hysbysu'n ysgrifenedig y Swyddog Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer yr ardal lle mae'r daliad o'r canlynol—

(a)cyfeiriad y daliad;

(b)enw a chyfeiriad perchennog neu feddiannydd y daliad;

(c)rhif adnabod y daliad (os yw'n hysbys i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad); ac

(ch)rhywogaeth unrhyw anifail sy'n cael ei gadw ar y daliad.

(2Yn achos daliad a sefydlwyd ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, rhaid cydymffurfio â'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1) o fewn un mis o sefydlu'r daliad.

(3O fewn un mis o wneud unrhyw newid i'r manylion a hysbyswyd neu unrhyw ychwanegiad at yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1), rhaid i berchennog neu geidwad unrhyw fochyn ar ddaliad hysbysu'r Swyddog Milfeddygol Rhanbarthol yn ysgrifenedig o'r newid neu'r ychwanegiad.

(4Rhaid i berchennog neu geidwad mochyn ar ddaliad roi'r manylion a hysbyswyd i arolygydd os gofynnir iddo wneud hynny.

(5Yn yr erthygl hon ystyr “Swyddog Milfeddygol Rhanbarthol” yw'r arolygydd milfeddygol a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i'r swydd honno ar gyfer yr ardal lle mae'r daliad.

Cofnodion moch

4.—(1Rhaid i berchennog neu geidwad mochyn ar ddaliad wneud cofnod a'i gadw—

(a)ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1 mewn perthynas â phob symudiad moch i'r daliad neu ohono; a

(b)o uchafswm y moch sy'n bresennol fel arfer ar y daliad (a hynny'n cael ei ddiwygio o leiaf bob blwyddyn).

(2Yn achos unrhyw berson sy'n gwerthu unrhyw fochyn (p'un ai drwy arwerthiant neu drwy gytundeb preifat) ar safle sy'n cael ei ddefnyddio fel marchnad ar gyfer moch drwy arwerthiant, rhaid iddo wneud cofnod ysgrifenedig (yn ychwanegol at y cofnodion sy'n ofynnol o dan baragraff (1) uchod) o enw a chyfeiriad gwerthwr a phrynwr pob lot foch, a rhif y gorlan neu'r corlannau lle'r oedd pob lot yn cael ei chadw, a chadw'r cofnod hwnnw yn ei feddiant.

(3Rhaid i bob cofnod o dan yr erthygl hon—

(a)cael ei wneud o fewn 36 awr ar ôl i'r symudiad neu'r gwerthiant gael ei gofnodi; a

(b)cael ei gadw yn ei feddiant gan berchennog neu geidwad y mochyn neu berchennog y daliad neu'r person sydd â'r gofal drosto am gyfnod o dair blynedd o ddiwedd y flwyddyn y gwnaed y cofnod diwethaf ynddi.

(4Os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd ar unrhyw adeg resymol, rhaid i unrhyw berson sydd â gofal am y tro dros unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan yr erthygl hon ddangos y cofnod hwnnw a chaniatáu i gopi gael ei wneud ohoNo.

(5Os yw cofnod y mae'n ofynnol ei gwneud o dan yr erthygl hon yn cael ei gwneud ar ffurf electronig neu fagnetig, mae cyfeiriadau ym mharagraff (4)—

(a)at ddangos y cofnod yn gyfeiriadau at ei ddangos ar ffurf ysgrifenedig, os dyna beth y mae ar yr arolygydd yn ei fynnu; a

(b)at gymryd darnau neu gopïau o'r cofnod yn gyfeiriadau at eu cymryd ar ffurf ysgrifenedig.

ADNABOD MOCH

Marciau adnabod

5.—(1Ni chaiff neb symud mochyn gyda golwg ar ei symud i le y tu allan i Brydain Fawr oni bai ei fod yn cael ei farcio, cyn i'r symudiad ddechrau, â marc adnabod (y mae'n rhaid iddo fod yn ddarllenadwy drwy gydol oes y mochyn y mae'n cael ei ddodi arno) ar ffurf tag clust neu datŵ .

(2Rhaid i'r marc adnabod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)—

(a)gynnwys y cod gwlad 'UK' a marc cenfaint y daliad lle mae'r marc yn cael ei ddodi; a

(b)rhaid iddo gynnwys rhif gwahaniaethol a neilltuwyd i'r mochyn gan ei berchennog neu geidwad, ac yn achos tag clust, rhaid dodi'r llythyren “P” o flaen y rhif hwnnw.

(3Ni fydd yn gyfreithlon symud mochyn o ddaliad (ac eithrio gyda golwg ar ei symud i le y tu allan i Brydain Fawr) oni bai ei fod yn cael ei farcio, cyn i'r symudiad ddechrau—

(a)yn achos mochyn sy'n cael ei symud i arddangosfa neu sioe neu at ddibenion bridio ac y bwriedir ei ddychwelyd i'r safle y mae'n cael ei symud ohono, â marc adnabod sy'n cynnwys marc cenfaint y daliad lle dodir y marc a rhif adnabod unigol unigryw a neilltuwyd i'r mochyn gan ei berchennog neu geidwad; neu

(b) ym mhob achos arall—

(i)â marc adnabod sy'n cydymffurfio â pharagraff (2) neu (3)(a); neu

(ii)â marc adnabod a fydd yn para o leiaf tan yr amser y bydd y mochyn yn cyrraedd ei gyrchfan ac sy'n caniatáu, naill ar ei ben ei hun neu drwy gyfeiriad at ddogfen sy'n cyd-fynd â'r mochyn yn ystod y symudiad, i'r daliad y symudwyd y mochyn ohono ddiwethaf gael ei adnabod.

(4Ac eithrio yn unol ag awdurdod a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol, ni fydd yn gyfreithlon i unrhyw berson—

(a)tynnu oddi ar fochyn farc adnabod sydd wedi'i ddodi arno neu wedi'i roi ynghlwm wrtho yn unol â darpariaethau blaenorol yr erthygl hon; na

(b)amnewid marc adnabod a ddodwyd ar fochyn neu a roddwyd ynghlwm wrtho yn unol â'r darpariaethau hynny ac eithrio er mwyn amnewid un sydd wedi mynd yn anarllenadwy neu sydd wedi mynd ar goll.

Tagiau clust

6.—(1Ni chaiff neb roi marc adnabod ar ffurf tag clust ynghlwm wrth fochyn oni bai bod y tag clust yn bodloni darpariaethau paragraff (2); ac yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriadau at dag clust yn gyfeiriadau at dag clust sy'n bodloni'r darpariaethau hynny.

(2Rhaid i dag clust fod wedi'i lunio yn y fath fodd—

(a)ag i beidio ag effeithio'n andwyol ar lesiant y mochyn y mae ynghlwm wrtho;

(b)ag i fod yn amhosibl ei newid mewn ffordd nad yw'n caniatáu sylwi'n rhwydd fod newid wedi digwydd; a

(c)ag i fod yn amhosibl ei ailddefnyddio.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources