Search Legislation

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 2480 (Cy.243)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2002

Wedi'i wneud

28 Medi 2002

Yn dod i rym

30 Medi 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, sy'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt o dan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2002; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 30 Medi 2002.

Diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

2.—(1Diwygir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(2) yn unol â darpariaethau canlynol yr erthygl hon.

(2Yn erthygl 2, dilëir y diffiniad o “hela” (“hunting”).

(3Yn lle erthygl 3(3)(dd), rhoddir y canlynol—

(dd)hwrdd neu afr o'r naill ryw neu'r llall, sef anifail sy'n cael ei ddychwelyd i'r safle hwnnw o le yr oedd wedi'i symud iddo at ddibenion bridio ar yr amod ei fod yn cael ei ynysu oddi wrth bob anifail arall sydd yno am 20 diwrnod ar ôl dyddiad ei ddychweliad oni bai, yn achos gafr, ei bod yn cael ei hanfon yn ôl i'r lle hwnnw ar gyfer ymgais pellach i fridio, a'r afr honno wedi cael ei hynysu felly ers dyddiad ei dychwelyd;.

(4Yn erthygl 3 (10), yn lle'r geiriau “arolygydd milfeddygol” rhoddir “arolygydd”.

(5Yn lle erthygl 3(11), rhoddir y canlynol—

(11) Caiff hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (10) gael ei amrywio neu ei ddirymu ar unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a ddyroddir gan—

(a)arolygydd milfeddygol, os cafodd yr hysbysiad sydd i'w amrywio neu ei ddirymu ei ddyroddi gan arolygydd milfeddygol; neu

(b)arolygydd milfeddygol neu unrhyw arolygydd arall, os cafodd yr hysbysiad sydd i'w amrywio neu i'w ddirymu ei ddyroddi gan arolygydd ac eithrio arolygydd milfeddygol.

(11A) Rhaid cyflwyno hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (11) i'r personau y cyflwynwyd yr hysbysiad y mae'n ei amrywio neu'n ei ddirymu iddynt..

(6Yn lle erthygl 4(b), rhoddir y canlynol—

(b)dderbyn o ladd-dy

(i)unrhyw fochyn, neu

(ii)unrhyw anifail arall ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol..

(7Dilëir erthygl 5.

(8Yn erthygl 6(3) dilëir y geiriau “neu 5(2)(b)”.

(9Yn lle'r geiriau “er mwyn gwneud dau neu ragor o safleoedd yn” yn erthygl 6(4), rhoddir “mewn perthynas â”.

(10Yn erthygl 9(1), yn lle “bydd y swyddog neu'r arolygydd yn peri” rhoddir “caiff y swyddog neu'r arolygydd beri”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar:

J.E. Randerson

Y Gweinidog Dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg

27 Medi 2002

Llofnodwyd ar:

Whitty

Is-ysgrifennydd Gwladol,

Adran yr Amgylchedd,

Bwyd a Materion Gwledig

28 Medi 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2304 (Cy. 229)) (y “prif Orchymyn”).

Y prif ddiwygiadau yw—

(a)dileu erthygl 5 o'r prif Orchymyn sy'n darparu y bydd yn anghyfreithlon yn gyffredinol i hela rhywogaethau penodol â chwn ac eithrio o dan awdurdod caniatâd a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol; a

(b)amnewid erthygl 3(3)(dd) er mwyn darparu na fydd symudiadau hyrddod i unrhyw safle yn arwain at ofyniad segura yno (fel y cyfeirir ato yn erthygl 3(1)(b) o'r prif Orchymyn) ar yr amod bod yr hwrdd yn cael ei ddychwelyd i'r safle hwnnw o le y cafodd ei symud iddo at ddibenion bridio a'i fod yn cael ei ynysu oddi wrth anifeiliaid eraill am 20 diwrnod ar ôl dyddiad ei ddychweliad.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.

(1)

1981 p.22. Gweler adran 86(1) i gael y diffiniadau o “the Ministers” a “the Minister”. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru, i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd ymhellach swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd wedi hynny i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources