- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CEFN GWLAD, CYMRU
Wedi'i wneud
15 Hydref 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) a (4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2. 1 Tachwedd 2002 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dod ag adrannau 60 a 61 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (cynlluniau gwella hawliau tramwy) i rym mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Hydref 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai darpariaethau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) i rym, mewn perthynas â Chymru, ar 1 Tachwedd 2002, sef:
(1) adran 60, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob awdurdod priffyrdd lleol i baratoi ac i gyhoeddi cynllun (a adwaenir fel “cynllun gwella hawliau tramwy”) o fewn 5 mlynedd ar ôl i'r adran honno ddod i rym ac i adolygu'r cynllun o leiaf unwaith pob 10 mlynedd ac sy'n rhoi pŵ er i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cyfarwyddyd i'r awdurdod ynglŷn â chynnwys cynllun a'r materion y mae'n rhaid i'r awdurdod eu hasesu wrth baratoi cynllun.
(2) adran 61, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod ymgynghori â chyrff penodedig (a chyda'r personau eraill y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pennu trwy reoliadau) ac sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod ystyried sylwadau a wneir ar gynllun drafft a rhoi sylw i ganllawiau a gyflwynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd â darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Adran neu Atodlen | Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
46(1)(b) | 1 Mai 2001 | O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
46(3) (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
57 (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
68 | 1 Mai 2001 | O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
70 (2) a (4) | 1 Mai 2001 | O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
72 | 1 Mai 2001 | O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Rhan IV (h.y. adrannau 82-93) (ac felly Atodlenni 13, 14 ac 15) | 1 Mai 2001 | O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
96 | 1 Mai 2001 | O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
99 | 30 Ionawr 2001 (Cy.9) (C.10) | O.S. 2001/203 |
102 (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 4, paragraffau 1, 4, 5 a 6. | 1 Mai 2001 | O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 6, paragraff 18(a) ac 19 (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhannau I a II (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhannau III, IV, V a VI. | 1 Mai 2001 | O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: