Search Legislation

Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Diwygio) (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 2800 (Cy.268)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

12 Tachwedd 2002

Yn dod i rym

13 Tachwedd 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 132(3) a (4), a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1) fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 13 Tachwedd 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid ydynt yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau grant sy'n cael eu gwneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Diwygiadau

2.—(1Mae'r ffurflen (Saesneg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997(3) yn cael ei diwygio yn unol â thestun Saesneg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

(2Mae'r ffurflen (Gymraeg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999(4)) yn cael ei diwygio yn unol â thestun Cymraeg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Tachwedd 2002

Rheoliad 2

YR ATODLEN

1.  Ar ddiwedd cwestiwn 4.1, ychwanegwch—

  • neu a ydy'r ddau ohonoch yn cael (ac a oes gennych hawl i gael) lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd?.

2.  Yng nghwestiwn 4.29 mewnosodwch y canlynol yn y lle priodol—

(a)“Lwfans Profedigaeth: £ ... ... ... ... ... ... ... ... £ ... ... ... ... ... ... ... ...Nodyn 44C”;

(b)“Lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd: £ ... ... ... ... ... ... ... ... £ ... ... ... ... ... ... ... ... Nodyn 8”;

(c)“Lwfans mam weddw: £ ... ... ... ... ... ... ... ... £ ... ... ... ... ... ... ... ... Nodyn 44D”;

(d)“Lwfans rhiant gweddw: £ ... ... ... ... ... ... ... ... £ ... ... ... ... ... ... ... ... Nodyn 44D”.

3.  Ar ôl cwestiwn 4.34B, mewnosodwch—

4.34C  Rhowch fanylion unrhyw daliad a wnaed i chi neu i'ch partner i dalu iawn am ddigwyddiadau a ddigwyddodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nodyn 50F

4.  Ym mharagraffau (a) a (b) o'r Awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 4 o'r ffurflen, ar ôl “lwfans ceisio gwaith ar sail incwm” mewnosodwch “neu lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd”.

5.  Yn nodyn 8—

(a)ar ôl “a chymerodd LCG ar sail incwm le Cymhorthdal Incwm” ychwanegwch “Os yw'r ddau bartner yn gymwys i gael lwfans ceisio gwaith o 19 Mawrth 2001 ymlaen dylent wneud “cais ar y cyd” am lwfans ceisio gwaith.”;

(b)ar ôl “Rhan 4”, yn yr ail le y mae'n digwydd, mewnosodwch “os yw'r cwpl yn cael lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd, caiff dau aelod y cwpl lenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 4.”.

6.  Yn y rhestr ym mharagraff cyntaf nodyn 43 yn lle “neu yn Newis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd lle yr ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;” rhowch “,Dewis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd lle yr ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd, rhaglen y Cyfnod Gweithgaredd Dwys neu'r Cyfnod Gweithgaredd Dwys ar gyfer y rhai dros 50 a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu fel cymhorthdal i gefnogi eich hunangyflogaeth”.

7.  Ar ôl nodyn 44B mewnosodwch—

44C.  Byddwch cystal â rhoi manylion unrhyw lwfans profedigaeth a gawsoch yn y 12 mis diwethaf. Telir lwfans profedigaeth i berson dros 55 oed ac o dan 60 oed a ddaeth yn weddw ar neu ar ôl 9 Ebrill 2001. Telir y lwfans o dan adran 39B o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.”.

44D.  Telir lwfans mam weddw o dan adran 37 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 a thelir lwfans rhiant gweddw o dan adran 39A o'r Ddeddf honNo. .

8.  Ar ôl nodyn 50E, mewnosodwch—

50F.  Y taliadau a anwybyddir wrth gyfrifo cyfalaf yw'r rheiny sy'n daladwy i chi neu eich partner i dalu iawn i chi, eich partner, eich priod marw neu briod marw eich partner am fod, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn gaethlafuriwr neu'n lafuriwr o dan orfodaeth neu'n riant i blentyn a fu farw neu am ddioddef anaf personol neu golli eiddo yn ystod y Rhyfel hwnnw..

9.  Ar ddiwedd nodyn 53, ychwanegwch:

  • Dylech ateb “Nac ydw” i'r cwestiwn hwn os ydych ar seibiant mamolaeth, gyda hawl i gael tâl mamolaeth statudol o dan adran 164 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu lwfans mamolaeth o dan adran 35 o'r Ddeddf honno, a dim ond ar gyfer y plentyn y mae'r seibiant mamolaeth yn berthnasol iddo y telir y taliadau gofal plant.”.

10.  Yn nodyn 55A yn lle “Rhan 3” rhowch “Rhan 4. Os yw cwpl yn cael lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd, caiff dau aelod y cwpl lenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 4.”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflenni (dwyieithog), sydd i'w defnyddio i wneud cais am grant adleoli sy'n daladwy o dan adrannau 131 i 140 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

Mae'r ffurflen Gymraeg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999 (O.S. 1999/2315 fel y'i diwygiwyd).

Mae'r ffurflen Saesneg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997 (O.S. 1997/2847 fel y'i diwygiwyd).

Mae'r diwygiadau yn dilyn y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S.2798) (Cy.266) i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890).

(1)

1996 p.53. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. I gael y diffiniad o “prescribed” gweler adran 140(1).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources