- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'i wneud
4 Rhagfyr 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 181 o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002(1) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn Gorchymyn Deddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 1, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1967” (“the 1967 Act”) yw Deddf Diwygio Lesddaliad 1967(2);
ystyr “Deddf 1993” (“the 1993 Act”) yw Deddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993(3);
ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 1 Ionawr 2003; ac
mae cyfeiriadau at adrannau ac atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 ac at Atodlenni iddi.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Bydd y darpariaethau canlynol yn Neddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 dod i rym ar y dyddiad cychwyn—
(a)adrannau 114, 129, 132, 133, 137 a 142;
(b)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol ac arbedion yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn—
(i)adrannau 115 i 120, 125, 127, 128, 130, 131, 134 i 136, 138 i 141, 143 i 147, 160 i 162; a
(ii)adran 180 i'r graddau y mae'n berthnasol i'r diddymiadau hynny yn Atodlen 14 a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn;
(c)adrannau 74, 78, 80, 84, 92, 110, 122, 151 to 153, 156, 164, 166, 167, 171, 174 ac Atodlen 12, i'r graddau y maent yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Rhagfyr 2002
Erthygl 2(b)(ii)
Pennod | Teitl Byr | Cwmpas y Diddymiad |
---|---|---|
1993 p.28 | Deddf Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 | Yn adran 5—
Adran 6. Yn adran 7(3), y geiriau “at a low rent”. Adran 8. Adran 8A. Yn adran 10—
Yn adran 13—
|
1996 p.52 | Deddf Tai 1996 | Adran 105(3). Adran 111. Yn Atodlen 9, paragraff 3 ac is-baragraffau 5(2) a (3). Yn Atodlen 10, paragraff 4. |
Pennod | Teitl Byr | Cwmpas y Diddymiad |
---|---|---|
1993 p.28 | Deddf Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 | Yn adran 39—
Adran 42(3)(b)(iii) a (iv) a (4). Yn adran 45(5), y geiriau “and (b)”. Adran 62(4). yn adran 94—
Yn Atodlen 13, ym mharagraff 1, y diffiniad o “the valuation date”. |
1996 p.52 | Deddf Tai 1996 | Adran 112. Yn Atodlen 9, paragraff 4. |
Pennod | Teitl Byr | Cwmpas y Diddymiad |
---|---|---|
1967 p.88 | Deddf Diwygio Lesddaliad 1967 | Yn adran 1—
yn adran 1AA—
Yn adran 2—
Yn adran 3(3) y geiriau “, except section 1AA,”. Yn adran 6—
Yn adran 7—
Yn adran 9—
Yn adran 16—
Yn adran 37—
Yn Atodlen 3, ym mharagraff 6, is-baragraff (1)(d) ac, yn is-baragraff (2) y geiriau “and (d)”. Yn Atodlen 4A, ym mharagraff 3(2)(d), y gair “assign”. |
1980 p.51 | Deddf Tai 1980 | Yn Atodlen 21, paragraff 1. |
1989 p.42. | Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 | Atodlen 11, paragraff 10. |
Erthygl 2(b)
1. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1993 gan adrannau 115 i 120, 125 a 127 i 128 a'r diddymiadau yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn cael effaith mewn perthynas â chais am ryddfreiniad torfol—
(a)y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 13 o Ddeddf 1993 mewn perthynas ag ef; neu
(b)y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf honno cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.
2. Hyd nes y daw adrannau 121 i 124 i rym, mewn achos lle nad oes ond dau denant cymwys o fflatiau a gynhwysir yn yr adeiladau, ni chaiff adran 13(2)(b) o Ddeddf 1993 fel y'i diwygiwyd gan adran 119 ei bodloni oni bydd y ddau denant yn denantiaid sy'n cyfranogi yn ôl y diffiniad o “participating tenants” yn adran 14 o'r Ddeddf honNo.
3. Bydd is-baragraff (2A) o baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf 1993 a fewnosodwyd gan adran 128, hyd nes y dygir adrannau 121 i 124 i rym, yn cael effaith fel pe bai'r cyfeiriad at aelodau sy'n cyfranogi yn gyfeiriad at denantiaid sy'n cyfranogi yn ôl y diffiniad o “participating tenants” yn adran 14 o'r Ddeddf honNo.
4. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1993 gan adrannau 130, 131 a 134 i 136, y diddymiadau o adrannau 5, 7, 8 ac 8A o'r Ddeddf honno yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn a'r diddymiadau yn Rhan 2 o'r Atodlen honno yn cael effaith mewn perthynas â chais am brydles newydd o fflat—
(a)y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 42 o Ddeddf 1993 mewn perthynas ag ef; neu
(b)y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 50 o'r Ddeddf honno
cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.
5. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1967 gan adrannau 138 i 141 ac adrannau 143 i 147 a'r diddymiadau yn Rhan 3 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn, yn cael effaith mewn perthynas â chais am ryddfreiniad neu brydles estynedig o dŷ—
(a)y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 8 neu 14 o Ddeddf 1997 mewn perthynas ag ef; neu
(b)y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 27 o'r Ddeddf honno
cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.
6. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf Landlord a Thenant 1987(5) gan adrannau 160 a 161 yn cael effaith mewn perthynas â chais a wnaed o dan Ran II o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 cyn y dyddiad cychwyn.
7. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf Landlord a Thenant 1987 gan adran 162 yn cael effaith mewn perthynas â chais a wnaed o dan adran 35 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 cyn y dyddiad cychwyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn ar 1 Ionawr 2003 yn dwyn i rym ddarpariaethau amrywiol o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 mewn perthynas â Chymru, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol ac arbedion yn Atodlen 2.
Mae'r darpariaethau yn darparu ar gyfer newidiadau i'r canlynol:
(a)rhyddfreiniad torfol gan denantiaid fflatiau: adrannau 114 i 120, 125, 127 i 128;
(b)caffael prydlesi newydd i denantiaid fflatiau: adrannau 129 i 136;
(c)rhyddfreiniad ac estyn prydles gan denantiaid tai: adrannau 137 i 147;
(ch)ceisiadau i dribiwnlys prisio lesddaliad i benodi rheolwr ar floc o fflatiau: adrannau 160 a 161; a
(d)y seiliau dros wneud cais i amrywio prydles: adran 162.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau mewn Deddfau eraill.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: