- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, CYMRU
Wedi'i wneud
10 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym
1 Ionawr 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan erthygl 20(1) a (2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999(1), ac ar ôl gwneud unrhyw ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol—
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002 a daw i rym ar 1 Ionawr 2003.
2. Yn y Gorchymyn hwn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
dylid dehongli “etholaeth Cynulliad” (“Assembly constituency”) a “rhanbarth etholiadol Cynulliad” (“Assembly electoral region”) yn unol ag adran 2(2) o, ac Atodlen 1 i, Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2),
ystyr “etholiad cyffredin” (“ordinary election”) yw cynnal etholiadau etholaeth ac etholiadau rhanbarthol ar gyfer dychwelyd pob aelod Cynulliad,
ystyr “etholiad Cynulliad” (“Assembly election”) yw etholiad etholaeth neu etholiad rhanbarthol,
ystyr “etholiad etholaeth” (“constituency election”) yw etholiad i ddychwelyd aelod Cynulliad ar gyfer etholaeth Cynulliad,
ystyr “etholiad rhanbarthol” (“regional election”) yw etholiad i ddychwelyd aelodau Cynulliad ar gyfer rhanbarth etholaethol Cynulliad,
ystyr “Gorchymyn 1999” (“the 1999 Order”) yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999, ac
ystyr “swyddog canlyniadau etholaeth” (“constituency returning officer”) yw person sy'n swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad etholaeth,
ystyr “swyddog canlyniadau rhanbarthol” (“regional returning officer”) yw person sy'n swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad rhanbarthol, ac
mae unrhyw gyfeiriad at gofrestr etholwyr yn gyfeiriad at y gofrestr (neu gofrestrau) etholwyr a ddefnyddir mewn etholiad Cynulliad ac at y gofrestr (neu gofrestrau) fel y cawsant eu cyhoeddi am y tro cyntaf.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), at ddibenion erthygl 20(1)(a) o Orchymyn 1999, nodir trwy hyn y gwasanaethau neu dreuliau canlynol ar gyfer, neu mewn perthynas, ag etholiad Cynulliad—
(a)gwasanaethau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 1(1) a 2(1) o'r Atodlen,
(b)treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1), a 6(1) o'r Atodlen, ac
(c)treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 8 i 19 o'r Atodlen.
(2) Pan gynhelir mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad etholiad rhanbarthol nas ymleddir (p'un ai mewn etholiad cyffredin ai peidio) ni chaiff y fanyleb o dan baragraff (1) effaith mewn perthynas â—
(a)gwasanaethau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 1(1) o'r Atodlen, a
(b)treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1) a 7(1) o'r Atodlen,
mewn perthynas â'r etholaeth Cynulliad honno yn yr etholiad rhanbarthol.
(3) Mae paragraffau (4) i (6) o'r erthygl hon yn pennu'r uchafsymiau y gellir eu hadennill at ddibenion erthygl 20(2) o Orchymyn 1999 mewn perthynas â'r gwasanaethau a'r treuliau a bennwyd yn Rhannau I a II o'r Atodlen.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn etholiad Cynulliad a ymleddir pennir drwy hyn yr uchafsymiau y gellir eu hadennill a nodwyd yn yr Atodlen mewn perthynas â'r gwasanaethau a'r treuliau a bennwyd yn Rhannau I a II o'r Atodlen fel yr uchafsymiau y gellir eu hadennill mewn perthynas â'r gwasanaethau a'r treuliau hynny.
(5) Ond pan geir mewn etholiad cyffredin mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad bleidleisio ar gyfer etholiad etholaeth ac ar gyfer etholiad rhanbarthol bydd unrhyw uchafswm y gellir ei adennill a bennwyd yn y Gorchymyn hwn yn cael effaith mewn perthynas â'r ddau etholiad mewn perthynas â'r etholaeth Cynulliad honno pan (ar wahân i'r paragraff hwn) y byddai fel arall yn cael effaith mewn perthynas â phob etholiad o'r fath.
(6) Pennir drwy hyn yr uchafsymiau y gellir eu hadennill mewn etholiad Cynulliad nas ymleddir, sef—
(a)£424.00 ar gyfer swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad etholaeth mewn perthynas â'r gwasanaethau a bennwyd yn Rhan I o'r Atodlen,
(b)£85.00 ar gyfer swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol mewn perthynas â'r gwasanaethau a bennwyd yn Rhan I o'r Atodlen,
(c)£1,047.00 ar gyfer swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad etholaeth mewn perthynas â'r treuliau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen, ac
(ch)£210.00 ar gyfer swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol mewn perthynas â'r treuliau a bennwyd yn Rhan II o'r Atodlen.
5. Diddymir drwy hyn Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Costau Swyddogion Canlyniadau) 1999(3).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Rhagfyr 2002
Erthygl 3
1.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau swyddog canlyniadau etholaeth wrth gynnal etholiad Cynulliad a chyflawni dyletswyddau'r person hwnnw mewn cysylltiad â hynny (gan gynnwys dyroddi a derbyn papurau pleidleisio i bersonau sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y gwasanaethau a bennwyd yn is-baragraff (1) yw £2,077.00.
(3) Mewn etholiad cyffredin mae'r swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn cael ei gynyddu ag £1,082.00 pan geir etholiad mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad ar gyfer etholiad etholaeth ac etholiad rhanbarthol.
(4) Mae'r swm sydd wedi'i grybwyll yn is-baragraff (2) yn cael ei gynyddu â £312.00 pan gaiff y pleidleisio mewn etholiad Cynulliad ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 14(1) neu (2) o Orchymyn 1999.
(5) Pan mewn etholiad cyffredin bod person yn swyddog canlyniadau mewn mwy na thri etholiad etholaeth caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei ostwng â £260.00 ar gyfer bob etholiad o'r fath sy'n fwy na thri.
2.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau swyddog canlyniadau rhanbarthol wrth gynnal etholiad rhanbarthol a chyflawni dyletswyddau'r person hwnnw mewn perthynas â hynny.
(2) Yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad rhanbarthol ar gyfer y gwasanaethau a bennwyd yn is-baragraff (1) yw £1,082.00.
3.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad mewn perthynas â thalu swyddogion llywyddu mewn gorsafoedd pleidleisio.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (6), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a bennwyd yn is-baragraff (1) (gan gynnwys treuliau a dynnwyd mewn perthynas â pherson sy'n ysgwyddo dyletswyddau swyddog llywyddu ar y diwrnod pleidleisio o ganlyniad i analluogrwydd y swyddog llywyddu a benodwyd eisoes) mewn perthynas â'r swyddog llywyddu ym mhob gorsaf bleidleisio yw £141.00.
(3) Mewn unrhyw etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllwyd yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £37.00 pan geir mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad bleidlais mewn etholiad etholaeth ac etholiad rhanbarthol.
(4) Pan geir mewn lle pleidleisio mwy nag un orsaf bleidleisio caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £8.00 mewn perthynas ag un swyddog llywyddu yn unig yn y gorsafoedd pleidleisio yn y lle pleidleisio hwnnw.
(5) Mewn perthynas â swyddog llywyddu y mae is-baragraff (4) yn gymwys caiff y swm sydd wedi'i grybwyll yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £8.00 pan fo is-baragraff (3) hefyd yn gymwys.
(6) Caiff y swm a grybwyllwyd yn is-baragraff (2) ei gynyddu â £37.00 pan gaiff pleidleisio mewn etholiad Cynulliad ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 14(1) neu (2) o Orchymyn 1999.
4.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad mewn perthynas â thalu clerciaid pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a bennwyd yn is-baragraff (1) mewn perthynas â phob clerc pleidleisio yw £84.00.
(3) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £21.00 pan geir mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad bleidleisio mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol.
(4) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £21.00 pan fo'r pleidleisio mewn etholiad Cynulliad yn cael ei gyfuno â phleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 14(1) neu (2) o Orchymyn 1999.
5.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau mewn etholiad Cynulliad mewn perthynas â thalu personau sydd wedi'u cyflogi mewn cysylltiad â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post a'r cyfrif ac unrhyw gymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion yr etholiad.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (7), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a nodwyd yn is-baragraff (1) yw £10,000.00.
(3) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu â £9,000.00 pan mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad y ceir pleidleisio mewn etholiad cynulliad ac mewn etholiad rhanbarthol.
(4) Caiff y swm a grybwyllwyd yn is-baragraff (2) ei gynyddu am bob 100 pleidleisiwr, neu ffracsiwn o hynny, sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post â £46.00 mewn perthynas ag etholiad etholaeth neu etholiad rhanbarthol heblaw am etholiad y mae is-baragraff (5) yn gymwys.
(5) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllwyd yn is-baragraff (2) ei gynyddu am bob 75 pleidleisiwr, neu ffracsiwn o hynny, sydd â'r hawl i bleidleisio drwy'r post â £46.00 pan geir mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad bleidleisio mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol.
(6) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu â £468.00 ar gyfer pob ailgyfrif pleidleisiau o dan baragraff 51 neu 52 o Atodlen 5 i Orchymyn 1999.
(7) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu â £1,350.00 pan gaiff pleidleisio mewn etholiad etholaeth ei gyfuno gyda'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 14(1) neu (2) o Orchymyn 1999.
6.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol mewn perthynas â thalu personau sydd wedi'u cyflogi mewn cysylltiad â chymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion yr etholiad.
(2) Yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad rhanbarthol ar gyfer y treuliau a nodwyd yn is-baragraff (1) yw £1,082.00.
7. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol y cyfeirir atynt ym mharagraffau 8 i 19 yw'r treuliau na phennir unrhyw uchafsymiau i'w hadennill.
8. Treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos mewn etholiad Cynulliad—
(a)swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol,
(b)unrhyw berson pan fo gwasanaethau'r person hwnnw wedi cael eu rhoi at ddefnydd swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol o dan erthygl 17 o Orchymyn 1999,
(c)unrhyw swyddog llywyddu neu glerc pleidleisio, ac
(ch)unrhyw gynorthwy-ydd clerigol neu gynorthwy-ydd arall a gyflogir gan y swyddog canlyniadau.
9. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad am argraffu neu fel arall gynhyrchu'r papurau pleidleisio.
10. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad o ganlyniad i argraffu neu fel arall gynhyrchu'r cardiau pleidleisio swyddogol ac unrhyw ddogfennau ategol sy'n berthnasol i'r broses etholiadol ac mewn cysylltiad â hi (nad oes angen eu hargraffu neu fel arall eu cynhyrchu drwy neu o dan Orchymyn 1999) a dosbarthu'r cyfryw gardiau neu ddogfennau i'r pleidleiswyr.
11. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad Cynulliad wrth argraffu neu fel arall gynhyrchu a, pan fo hynny'n briodol, gyhoeddi dogfennau a hysbysiadau eraill y mae'n ofynnol eu hargraffu, a gynhyrchir neu a gyhoeddir gan neu o dan Orchymyn 1999.
12. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad o ganlyniad i rentu, gwresogi, goleuo a glanhau unrhyw adeilad neu ystafell.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 14, treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad wrth addasu dros dro unrhyw adeilad neu ystafell ac wrth eu hadfer i gyflwr addas at ddefnydd arferol.
(2) Mae treuliau at ddibenion is-baragraff (1) yn cynnwys treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad wrth ddarparu bythau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio (y gall pleidleiswyr fwrw eu pleidlais wedi eu sgrinio o'r golwg) ac unrhyw ddodrefn arall y gall fod angen amdanynt mewn gorsafoedd o'r fath.
14. Hanner cant y cant o dreuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad wrth brynu rampiau dros dro i'w gosod mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn darparu mynediad i'r gorsafoedd pleidleisio hynny i bleidleiswyr â nam symudedd (er hynny gall fod gan y swyddog canlyniadau etholaeth hawl i unrhyw nawdd neu daliad mewn perthynas â phrynu rampiau o'r fath, ac nid yw'r cyfryw nawdd neu daliad i fod yn fwy na hanner cant y cant o gost pob ramp).
15. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad wrth ddarparu blychau pleidleisio ac offerynnau i stampio'r marc swyddogol ar y papurau pleidleisio.
16. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad wrth gludo i ac o orsaf bleidleisio—
(a)y blychau pleidleisio a phapurau pleidleisio, a
(b)y bythau pleidleisio, unrhyw ddodrefn arall sy'n angenrheidiol ar gyfer gorsafoedd pleidleisio ac offerynnau i stampio'r marc swyddogol ar y papurau pleidleisio.
17. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad Cynulliad wrth ddarparu offer ysgrifennu a thaliadau postio, ffonio a bancio ac amrywiol eitemau eraill.
18. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad wrth ddarparu fersiynau mawr o bapur pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr sy'n gweld yn rhannol a dyfeisiadau sy'n galluogi pleidleiswyr sydd yn ddall neu'n gweld yn rhannol i bleidleisio heb fod angen cymorth oddi wrth y swyddog llywyddu neu oddi wrth unrhyw gydymaith.
19. Treuliau swyddog canlyniadau mewn etholiad Cynulliad mewn cysylltiad â darparu mesurau diogelwch.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan erthygl 20(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999 (O.S. 1999/450) (“Gorchymyn 1999”) mae hawl swyddog canlyniadau mewn etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adennill costau mewn perthynas â gwasanaethau neu dreuliau'r person hwnnw ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag etholiad o'r fath yn ddibynnol ar y canlynol, sef—
(a)bod y gwasanaethau neu'r treuliau o'r math a nodir mewn Gorchymyn o dan y ddarpariaeth honno,
(b)bod y gwasanaethau yn cael eu darparu'n briodol a bod y treuliau wedi'u tynnu'n briodol, ac
(c)bod y taliadau mewn perthynas â hwy yn rhesymol.
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan erthygl 20 o Orchymyn 1999 ac mae'n diddymu Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 1999. Mae'n nodi gwasanaethau a threuliau o'r math y cyfeirir atynt uchod.
Mae Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn disgrifio'r mathau o wasanaethau a ddarperir gan swyddog canlyniadau ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y mae hawl gan y person hwnnw i adennill taliadau mewn cysylltiad â hwy ac mae'n nodi'r uchafsymiau y gellir eu hadennill mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny.
Mae Rhannau II a III o'r Atodlen yn disgrifio'r mathau o dreuliau a dynnir gan swyddog canlyniadau ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y mae hawl gan swyddog canlyniadau i adennill taliadau mewn perthynas â hwy ac mae'n nodi (yn achos Rhan II) yr uchafsymiau y gellir eu hadennill mewn perthynas â'r treuliau hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: