- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
15. Yr achosion a'r amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 111(1)(a) o'r Ddeddf mewn perthynas â marchnata organeddau a addaswyd yn enetig yw'r holl achosion ac amgylchiadau mewn perthynas â marchnata organeddau a addaswyd yn enetig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 15 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
16.—(1) Yr achosion a'r amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adrannau 108(7) a 111(7) o'r Ddeddf lle mae personau yn esempt rhag gofynion adran 108(1)(a) o'r Ddeddf (i gynnal asesiad risg) ac adran 111(1)(a) o'r Ddeddf (i sicrhau caniatâd), yn ôl eu trefn, i'r graddau y maent yn ymwneud â marchnata organeddau a addaswyd yn enetig yw'r holl achosion ac amgylchiadau—
(a)lle mae cynnyrch a gymeradwywyd yn cael ei farchnata at ddefnydd y mae wedi'i gymeradwyo ar ei gyfer [F1ac yn unol â'r cyfyngiadau a'r amodau y mae defnydd y cynnyrch hwnnw yn ddarostyngedig iddynt] ;
(b)lle mae micro-organeddau a addaswyd yn enetig wedi'u rhoi ar gael ar gyfer gweithgareddau a reoleiddir o dan y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig;
(c)lle mae organeddau a addaswyd yn enetig ac eithrio micro-organeddau sy'n dod o dan baragraff (b) wedi'u rhoi ar gael i'w defnyddio'n unig ar gyfer gweithgareddau lle mae mesurau amgáu llym priodol yn seiliedig ar yr un egwyddorion o amgáu â'r rhai a bennir yn y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig er mwyn cyfyngu ar y cysylltiad rhyngddynt â'r boblogaeth yn gyffredinol a'r amgylchedd a sicrhau lefel uchel o ddiogelwch iddynt;
(ch)lle mae organeddau a addaswyd yn enetig wedi'u rhoi ar gael i'w defnyddio'n unig ar gyfer gollyngiadau bwriadol sy'n cydymffurfio â'r gofynion a nodwyd yn Rhan II;
(d)lle mae organedd a addaswyd yn enetig ac a awdurdodwyd o dan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2309/93(1), fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn EC Rhif 649/98 [F2neu Reoliad (EC) Rhif 726/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod gweithdrefnau'r Gymuned ar gyfer awdurdodi a goruchwylio cynhyrchion meddyginiaethol at ddefnydd pobl ac anifeiliaid a sefydlu Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop] (2), yn cael ei farchnata; neu
F3[F4(dd)]. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F5(e)lle mae bwyd neu fwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig neu a awdurdodwyd o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn cael ei farchnata.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 16(a) wedi eu mewnosod (15.7.2005) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) (Diwygio) 2005 (O.S. 2005/1913), rhlau. 1, 2(3)(a)
F2Geiriau yn rhl. 16(d) wedi eu mewnosod (20.11.2005) gan The Medicines (Marketing Authorisations Etc.) Amendment Regulations 2005 (O.S. 2005/2759), rhl. 1(b), Atod. para. 12
F3Rhl. 16(dd) wedi ei hepgor (20.3.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/379), rhlau. 1(2), 2(2)
F4Rhl. 16(dd) wedi ei amnewid (15.7.2005) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) (Diwygio) 2005 (O.S. 2005/1913), rhlau. 1, 2(3)(b)
F5Rhl. 16(e) wedi ei fewnosod (15.7.2005) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) (Diwygio) 2005 (O.S. 2005/1913), rhlau. 1, 2(3)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 16 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
17.—(1) Rhaid gwneud cais am ganiatâd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2) Rhaid i gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig nad yw'n gais am adnewyddu caniatâd gynnwys yr wybodaeth ganlynol—
(a)[F6yn ddarostyngedig i baragraff (2A),] yr wybodaeth a ragnodir yn—
(i)[F7Atodlen 1A] pan fo'r cais yn gais am ganiatâd i farchnata unrhyw uwchblanhigyn a addaswyd yn enetig, neu
(ii)Atodlen 2 mewn unrhyw achos arall,
F8...
(b)gwybodaeth am ddata neu ganlyniadau o unrhyw ollyngiad blaenorol o'r organeddau, neu o'r un cyfuniad o organeddau a gyflawnwyd gan y ceisydd naill ai y tu mewn neu'r tu allan i'r [F9Undeb Ewropeaidd], a gwybodaeth o unrhyw gais blaenorol am ganiatâd i ollwng yr organeddau, neu'r un cyfuniad o organeddau y mae'r ceisydd wedi'i wneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn neu i awdurdod cymwys arall yn unol ag adran 6 o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol;
(c)asesiad risg amgylcheddol a baratowyd yn unol â rheoliad 7;
(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 3;
(d)yr amodau arfaethedig ar gyfer marchnata'r cynnyrch, gan gynnwys amodau penodol ar gyfer ei ddefnyddio a'i drin;
(dd)cyfnod arfaethedig ar gyfer y caniatâd na fydd yn hwy na deng mlynedd;
(e)cynllun monitro wedi'i baratoi yn unol ag Atodlen VII o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol y mae'n rhaid iddo gynnwys cynnig ar gyfer cyfnod amser y cynllun a all fod yn wahanol i'r cyfnod arfaethedig ar gyfer y caniatâd;
(f)cynnig ar gyfer labelu sy'n cydymffurfio â'r gofynion a bennwyd yn Atodlen 3;
(ff)cynnig ar gyfer y pacediad;
(g)crynodeb o'r cais ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 13(2)(h) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol;
[F10(ng)mewn cysylltiad â phob is-set o wybodaeth sy’n ofynnol yn y paragraff hwn—
(i)crynodebau o’r astudiaethau y cyfeirir atynt yn y cais a’u canlyniadau, gan gynnwys esboniad o’u perthnasedd i’r asesiad risg amgylcheddol, fel y bo’n briodol,
(ii)manylion yr astudiaethau y cyfeirir atynt yn y cais, gan gynnwys y deunyddiau a’r dulliau a ddefnyddiwyd neu gyfeiriad at ddulliau safonedig neu ddulliau a gydnabyddir yn rhyngwladol ac enw’r corff neu’r cyrff sy’n gyfrifol am gynnal yr astudiaethau hynny.]
[F11(2A) Dim ond os oes ei hangen er mwyn cwblhau asesiad risg amgylcheddol yng nghyd-destun cais penodol y mae’n ofynnol darparu’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2)(a), a gall lefel y manylder y mae rhaid ei ddarparu amrywio yn ôl natur a graddfa’r gollyngiad arfaethedig o ganlyniad i farchnata uwchblanhigyn a addaswyd yn enetig.]
(3) Caiff y cais gynnwys hefyd—
(a)data neu ganlyniadau o gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig a wnaed yn flaenorol gan rywun arall, ar yr amod bod copi ysgrifenedig o gytundeb y person hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cais,
(b)mynegiad o'r wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno yn y cais, y gallai ei datgelu niweidio safle cystadleuol y ceisydd ac y dylid felly ei thrin yn gyfrinachol, ac
(c)unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol ym marn y ceisydd.
(4) Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir yn unol ag is-baragraffau (2)(a) ac (ch) gymryd i ystyriaeth amrywiaeth y safleoedd sy'n defnyddio organeddau a addaswyd yn enetig a rhaid iddi gynnwys gwybodaeth am unrhyw ganlyniadau sy'n deillio o ymchwil a gollyngiadau datblygiadol ar effaith y gollyngiadau ar iechyd dynol a'r amgylchedd;
(5) Rhaid i gyfiawnhad y gellir ei ddilysu gyd-fynd ag unrhyw fynegiad yn unol â pharagraff (3)(b).
(6) Pan fydd y ceisydd yn gallu dangos yn ei gais er bodlonrwydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar sail canlyniadau unrhyw ollyngiad gan ddilyn ac yn unol â chaniatâd a roddwyd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf o dan Ran B o naill ai'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Gyfarwyddeb 1990, neu am resymau gwyddonol rhesymegol sylweddol eraill, nad yw marchnata a defnyddio'r cynnyrch yn peri risg o niweidio'r amgylchedd, gall gynnig peidio â chyflenwi rhan neu'r cyfan o'r wybodaeth ragnodedig yn Rhan II o Atodlen 3.
Diwygiadau Testunol
F6Geiriau yn rhl. 17(2)(a) wedi eu mewnosod (30.10.2019) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1316), rhlau. 1(2), 5(a)(i)
F7Geiriau yn rhl. 17(2)(a)(i) wedi eu hamnewid (30.10.2019) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1316), rhlau. 1(2), 5(a)(ii)
F8Geiriau yn rhl. 17(2)(a) wedi eu hepgor (30.10.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1316), rhlau. 1(2), 5(a)(iii)
F9Amnewidiwyd geiriau yn y Rheoliadau (22.4.2011) gan The Treaty of Lisbon (Changes in Terminology) Order 2011 (O.S. 2011/1043), erglau. 2, 3-6, 8-10
F10Rhl. 17(2)(ng) wedi ei fewnosod (30.10.2019) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1316), rhlau. 1(2), 5(b)
F11Rhl. 17(2A) wedi ei fewnosod (30.10.2019) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1316), rhlau. 1(2), 5(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 17 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
F1218. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F12Rhl. 18 wedi ei hepgor (20.3.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/379), rhlau. 1(2), 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 18 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
F1318A. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
19.—(1) Pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig, o dan adran 111(1) o'r Ddeddf, rhaid i unrhyw gais am adnewyddu'r caniatâd hwnnw gael ei wneud yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—
(a)cyn 17 Hydref 2006 pan roddwyd y caniatâd cyn 17 Hydref 2002, a
(b)cyn pen naw mis cyn i'r caniatâd ddirwyn i ben ym mhob achos arall.
(2) Rhaid i'r cais gynnwys—
(a)copi o'r caniatâd i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig,
(b)pan fo hynny'n gymwys, adroddiad ar ganlyniadau'r monitro a gynhaliwyd yn unol â gofynion rheoliad 29(dd),
(c)unrhyw wybodaeth newydd arall sydd wedi dod ar gael mewn perthynas â'r risgiau y bydd y cynnyrch yn peri niwed i'r amgylchedd,
(ch)fel y bo'n briodol, cynnig ar gyfer diwygio amodau'r caniatâd gwreiddiol neu ychwanegu atynt, gan gynnwys yr amodau sy'n ymwneud â monitro yn y dyfodol a therfynau amser y caniatâd newydd.
(3) Rhaid i unrhyw ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig a gafodd ei roi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 111(1) o'r Ddeddf cyn 17 Hydref 2002 nad oes cais i'w adnewyddu o dan baragraff (1) uchod wedi dod i law cyn 17 Hydref 2006 gael ei drin fel pe bai wedi dirwyn i ben ar y dyddiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 19 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
OJ Rhif L214, 24.8.1993, t.1.
OJ Rhif L88, 24.3.1998, t.7.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: