Search Legislation

Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

Newidiadau dros amser i: RHAN I

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/04/2004

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 07/04/2003.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

RHAN ILL+CCYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chartrefi gofal yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arweiniad defnyddiwr gwasanaeth” (“service user’s guide”) yw'r arweiniad ysgrifenedig a gynhyrchir yn unol â rheoliad 5(1);

ystyr “awdurdod iechyd amgylchedd” (“environmental health authority”) yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am iechyd yr amgylchedd yn yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi;

ystyr “awdurdod tân” (“fire authority”), mewn perthynas â chartref gofal, yw'r awdurdod sy'n cyflawni swyddogaeth awdurdod tân o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(1) yn yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi;

ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforedig;

ystyr “cynllun defnyddiwr gwasanaeth” (“service user’s plan”) yw'r cynllun ysgrifenedig a baratoir yn unol â rheoliad 15(1);

ystyr “cynrychiolydd” (“representative”), mewn perthynas â defnyddiwr gwasanaeth, yw person, heblaw'r person cofrestredig neu berson sy'n cael ei gyflogi yn y cartref gofal, sydd, gyda chydsyniad pendant neu gydsyniad awgrymedig y defnyddiwr gwasanaeth, yn cymryd diddordeb yn iechyd a lles y defnyddiwr gwasanaeth;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), mewn perthynas â chartref gofal, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel person sy'n rhedeg y cartref gofal;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r daganiad a lunir yn unol â rheoliad 4(1);

ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yw unrhyw berson sy'n cael ei letya yn y cartref gofal y mae arno angen gofal nyrsio neu ofal personol oherwydd anabledd, llesgedd, salwch yn y gorffennol neu ar hyn o bryd, anhwylder meddwl yn y gorffennol neu ar hyn o bryd neu ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn y gorffennol neu ar hyn o bryd;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;

ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas ag unrhyw berson, yw—

(a)

priod y person;

(b)

unrhyw riant, tad-cu neu fam-gu (taid neu nain), plentyn, ŵ yr neu wyres, brawd, chwaer, ewyrth, modryb, nai neu nith i'r person neu i briod y person;

(c)

priod unrhyw berthynas o fewn is-baragraff (b) o'r diffiniad hwn;

(ch)

[F1unrhyw unigolyn a gafodd ei letya am gyfnod hwy na 28 diwrnod rhwng un ar bymtheg a deunaw mlwydd oed o dan drefniadau maethu a wnaed gyda'r person hwnnw, neu briod yr unigolyn hwnnw],

ac er mwyn penderfynu ar unrhyw berthynas o'r fath, trinnir llys-blentyn person fel plentyn iddo, ac mae cyfeiriadau at “priod” yn cynnwys cyn-briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel pe baent yn ŵ r a gwraig;

ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas â chartref gofal, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cartref gofal;

ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999(2) yn gymwys iddo neu sy'n seicolegydd clinigol, yn seicotherapydd plant neu'n therapydd lleferydd;

ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), mewn perthynas â chartref gofal, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf yn rheolwr y cartref gofal;

ystyr “staff” (“staff”) yw personau sy'n cael eu cyflogi gan y person cofrestredig i weithio yn y cartref gofal ond nid yw'n cynnwys gwirfoddolwr na pherson sy'n cael ei gyflogi o dan gontract ar gyfer gwasanaethau;

ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”), mewn perthynas â chartref gofal, yw—

(a)

os oes swyddfa wedi'i phennu o dan reoliad 48 ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi, y swyddfa honno;

(b)

mewn unrhyw achos arall, unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;

mae i “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7;

ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig sydd—

(a)

yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(3),

(b)

yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997(4); neu

(c)

yn darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, ond nad ydynt yn unol â'r Ddeddf honno.

(2Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad—

(a)at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.

(3Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—

(a)cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio;

(b)cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; ac

(c)caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;

a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu gyflogi person yn unol â hynny.

(4Yn y Rheoliadau hyn, bernir bod cyfeiriad at berson sy'n gweithio mewn cartref gofal yn cynnwys cyfeiriad at berson sy'n gweithio at ddibenion cartref gofal.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Sefydliadau sydd wedi'u heithrioLL+C

3.—(1At ddibenion y Ddeddf, mae sefydliad wedi'i eithrio o fod yn gartref gofal—

(a)os yw'n darparu llety, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, ar gyfer perthynas i'r person sy'n ei redeg yn unig;

(b)os yw'n darparu llety, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, am lai na 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;

(c)os yw'n ysbyty gwasanaeth iechyd lle darperir gwasanaeth nyrsio;

(ch)os yw'n darparu llety, ynghyd â nyrsio, a'i fod wedi'i freinio—

(i)yn y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion ei swyddogaethau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(5), neu

(ii)mewn ymddiriedolaeth NHS(6);

(d)os yw'n brifysgol;

(dd)os yw'n sefydliad o fewn y sector addysg bellach fel y'i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(7); neu

(e)os yw'n ysgol.

(2At ddibenion paragraff (1), mae “prifysgol” yn cynnwys—

(a)unrhyw goleg prifysgol;

(b)unrhyw goleg, neu sefydliad sydd o ran ei natur yn goleg, i brifysgol.

(3Nid yw'r eithriad ym mharagraff (1)(ch) yn gymwys—

(a)os yw'r sefydliad yn darparu llety ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol i unrhyw berson; a

(b)os yw nifer personau o'r fath yn fwy na degfed ran nifer y myfyrwyr y mae'n darparu addysg a llety iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Datganiad o ddibenLL+C

4.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio datganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben” (“the statement of purpose”)) mewn perthynas â'r cartref gofal a fydd yn cynnwys—

(a)datganiad o nodau ac amcanion y cartref gofal;

(b)datganiad ynghylch y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu gan y person cofrestredig ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth; ac

(c)datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.

(2Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a threfnu ei fod ar gael i'w archwilio pan wneir cais amdano ar unrhyw adeg resymol gan unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ac unrhyw gynrychiolydd i ddefnyddiwr gwasanaeth.

(3Ni fydd dim yn rheoliad 16(1) neu 24(1) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i dorri'r canlynol, neu i beidio â chydymffurfio â hwy—

(a)unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu

(b)yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o'r Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Arweiniad defnyddiwr gwasanaethLL+C

5.—(1Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r cartref gofal (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth” (“the service user’s guide”)) a fydd yn cynnwys—

(a)crynodeb o'r datganiad o ddiben;

(b)y telerau a'r amodau mewn perthynas â'r llety sydd i'w ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys y telerau a'r amodau ynghylch swm y ffioedd a'r dull o'u talu;

(c)ffurflen contract safonol ar gyfer darparu gwasanaethau a chyfleusterau ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth gan y darparydd cofrestredig;

(ch)naill ai crynodeb o'r adroddiad arolygu diweddaraf neu gopi o'r adroddiad hwnnw;

(d)crynodeb o'r weithrdrefn gwyno a sefydlir o dan reoliad 23;

(dd)cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)darparu copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth cyntaf i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;

(b) darparu copi o fersiwn gyfredol yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i bob defnyddiwr gwasanaeth pan letyir hwy gyntaf yn y cartref; F2...

(c)yn dilyn y ddarpariaeth a ddisgrifir yn is-baragraff (b), darparu copïau pellach ar gais y defnyddiwr gwasanaeth[F3;]

[F4(ch)os yw person ac eithrio defnyddiwr gwasanaeth neu'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am gopi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth —

(i)trefnu bod copi o'r fersiwn gyfredol o'r arweiniad ar gael i'w archwilio gan y person hwnnw yn y cartref gofal; neu

(ii)darparu copi o'r fath i'r person hwnnw.]

(3Os oes awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer darparu llety nyrsio neu ofal personol i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal, rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r cytundeb sy'n pennu'r trefniadau a wneir i'r defnyddiwr gwasanaeth.

(4Yn y rheoliad hwn mae “adroddiad arolygu diweddaraf” yn cynnwys adroddiad a gynhyrchir cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym.

Diwygiadau Testunol

F3Rhl. 5(2)(c): hanner colon wedi ei amnewid ar gyfer atalnod llawn (7.4.2003) gan Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/1004), rhlau. 1(1), 2(2)(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

[F5Gwybodaeth am ffioeddLL+C

5A.(1) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i bob defnyddiwr gwasanaeth ddatganiad ynghylch—

(a)y ffioedd sy'n daladwy gan y defnyddiwr gwasanaeth neu mewn perthynas ag ef am ddarparu i'r defnyddiwr gwasanaeth unrhyw un o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau canlynol —

(i)llety, gan gynnwys darparu bwyd;

(ii)nyrsio;

(iii)gofal personol;

(b)y cyfleusterau a'r gwasanaethau y mae'r ffioedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn daladwy ar eu cyfer; ac

(c)y dull ar gyfer talu'r ffioedd a'r person y mae'r ffioedd yn daladwy ganddo.

(2) Yn achos defnyddiwr gwasanaeth y mae ei lety yn dechrau ar ôl 7 Ebrill 2003, rhaid darparu'r datganiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) ar neu cyn y dydd y daw'r person hwnnw yn ddefnyddiwr gwasanaeth.

(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o leiaf fis ymlaen llaw am—

(a)unrhyw gynnydd yn y ffioedd y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(a);

(b)unrhyw amrywiad yn y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(b) ac (c).

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) —

(a)os yw Awdurdod Iechyd neu Fwrdd Iechyd Lleol wedi hysbysu'r person cofrestredig ei fod wedi penderfynu gwneud taliad i'r person cofrestredig ar gyfer nyrsio a ddarparwyd (neu sydd i'w ddarparu) i ddefnyddiwr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o'r penderfyniad hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;

(b)os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud taliad o'r fath, rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r defnyddiwr gwasanaeth ddatganiad ynghylch dyddiad a swm y taliad.

(5) Nid yw'r cyfeiriadau ym mharagraff (4) at daliad yn cynnwys taliad —

(a)os yw'r Awdurdod Iechyd neu'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau gyda'r cartref gofal ar gyfer darparu llety i'r defnyddiwr gwasanaeth; ac

(b)os yw'r taliad yn ymwneud ag unrhyw gyfnod pan fo llety yn cael ei ddarparu o dan y trefniadau hynny i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal.]

Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaethLL+C

6.—(1Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)cadw'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw, ac yn ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2), eu diwygio os yw'n briodol; a

(b)os diwygir yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth, darparu copi diwygiedig i bob defnyddiwr gwasanaeth.

(2Rhaid i'r person cofrestredig, pryd bynnag y mae'n ymarferol, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 diwrnod cyn y mae i fod i ddod yn weithredol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

(1)

10 & 11 Geo. 6 p.41.

(6)

Gweler adran 5 o Ddeddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) fel y'i diwygiwyd gan baragraff 69 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ac adran 13(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources